Cliciwch ar y botwm iaith i fynd i wefan yr Academi.
Yr Academi Gymreig yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.
Mae’r Academi yn cynnal cystadlaethau, cynadleddau, stompiau, gornestau beirdd v rapwyr, teithiau gan awduron, digwyddiadau Maes C, darlleniadau, gwyliau a nifer fawr eraill. Yr Academi sydd hefyd yn gyfrifol am brosiectau Bardd Cenedlaethol a Gwyddoniadur Cymru, ac yn ymwneud â chynllun Bardd Plant Cymru.
Noddir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Academi’n falch iawn o dderbyn Dyfarniad Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru 2008 - 2010.

