Cynnig Trefniadol i Drafod Adeilad Newydd y Cynulliad

Y Llywydd: Bydd y Trefnydd yn cynnig cynnig trefniadol dan Reolau Sefydlog Rhifau 6.15 a 6.16. Dan y Rheolau Sefydlog, gallaf ganiatáu i un person siarad o blaid ac un i siarad yn erbyn y cynnig cyn cynnal pleidlais. Os cytuna’r Cynulliad, ceir dadl ar y cynnig gwreiddiol.

Andrew Davies: Yr wyf yn cynnig

y caiff y cynnig i drafod adeilad newydd y Cynulliad, cyfeirnod M71V, ei gynnig heddiw dan Reol Sefydlog Rhif 6.16.

Hoffwn egluro pam y mae angen y cynnig trefniadol hwn arnom. Cafodd y cynnig gwreiddiol ei gyflwyno heb enwi dydd, felly bu’n rhaid inni gyflwyno’r cynnig trefniadol hwn i ddelio â’r mater heddiw.

Nick Bourne: Fy mhrif gwyn yw bod y pethau hyn bob amser yn cael eu taflu atom ar y funud olaf. I Aelodau unigol y Cynulliad, mae’n ymddangos fel pe bai’r Adran Weithredol yn llesteirio’u hawliau, yn gwthio pethau drwodd ar y funud olaf heb rybudd priodol. Nid ydym yn cael hysbysiadau am fusnes ar y rhyngrwyd na’r fewnrwyd. Ceir y farn yma y tu allan hefyd. Yr wyf yn derbyn nad oes cynllwyn yma, ond dim ond ar y funud olaf y mae Aelodau’n darganfod pethau. Mae’n rhaid inni wneud ymchwil iawn i allu siarad yn y dadleuon hyn. Ni wyddom pa fusnes a ddygir ymlaen o ddydd i ddydd, ac nid ydym wedi clywed y manylion am agenda yfory. Mae yma chwithdod cyffredinol. Nid yw hyn yn gweithio fel y dylai. Byddwn yn croesawu datganiad gan y Trefnydd ynghylch sut y gallwn gael hyn yn iawn gan fod pob Aelod yn dioddef oherwydd y modd y cynhelir busnes.

Y Llywydd: Nid wyf yn annog y Trefnydd i wneud datganiad o’r fath yn awr. Fe gymerwn bleidlais ar y cynnig trefniadol.

Cynhaliwyd pleidlais drwy ddangos dwylo.
Derbyniwyd y cynnig.

Adeilad Newydd y Cynulliad


Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf yn cynnig bod

y Cynulliad yn cytuno y dylid cyfarwyddo Partneriaeth Richard Rogers, y dewiswyd ei gynllun gan Banel Asesu’r Gystadleuaeth Gynllunio, i barhau â datblygiad Prosiect Adeilad Newydd y Cynulliad o fewn y paramedrau cost a sefydlwyd a bod y Prif Ysgrifennydd fel Cadeirydd y Grwp Llywio Polisi, a fydd yn cynnwys y Llywydd, yr Ysgrifennydd Parhaol ac Arweinwyr y Pleidiau, yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn rheolaidd ar gynnydd y prosiect.

Yr oeddwn yn falch fod cynifer o Aelodau’r Cynulliad wedi cymryd y cyfle i wrando ar gyflwyniad Partneriaeth Richard Rogers yr wythnos diwethaf ynglyn ag adeilad newydd y Cynulliad. Clywodd arweinwyr y pleidiau y cyflwyniad yn gynharach y diwrnod hwnnw. Mae’r Arglwydd Rogers yn bensaer byd-enwog ac mae wedi cymryd diddordeb personol yn y cynllun hwn. Yr oeddwn yn falch y gallodd ddod yma ddydd Mawrth, er y cafodd ei sgwrs â’r Aelodau ei dal yn ôl gan seremoni graddau’r brifysgol yn y prynhawn, rhywbeth yr wyf yn siwr y byddwn oll am ei longyfarch arno.

Mae’n bryd i’r Cynulliad benderfynu a yw am fynd ymlaen â’r cynllun i godi adeilad newydd, modern ar gyfer y Cynulliad, un a fydd yn edrych i’r dyfodol, a hynny nesaf at yr adeilad hwn. Er mwyn y rhai na allodd ddod i’r cyflwyniad ac aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â’r Cynulliad, mae model o’r cynllun arfaethedig yn y Neuadd.

Rhaid inni ystyried tri adeilad gyda’i gilydd i’r Cynulliad weithio’n effeithiol. Mae’r adeilad hwn yn un ohonynt, a bydd yn dal i fod yn rhan bwysig o’r Cynulliad, er y bydd man cyfarfod y Sesiynau Llawn yn symud i’r adeilad newydd. Y lleill yw adeilad newydd y Cynulliad, gyda’r cyfleusterau a drafodwyd yr wythnos diwethaf, ac adeilad Pierhead. Nid wyf yn deall pam y mae amheuaeth ynglyn â’r bwriad blaenorol--a groesawyd yn gyffredinol o bob ochr--y dylid defnyddio adeilad Pierhead ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau bychain ac arddangosfeydd i ymwelwyr â’r Cynulliad, yn enwedig grwpiau ysgol.

Bydd y rheini ohonom sydd wedi gwasanaethu yn San Steffan yn gwybod fod bwlch mawr yn y ddarpariaeth ar gyfer ymweliadau grwpiau ysgol. Os ydynt yn ddigon ffodus, gallant fynd i mewn i ystafell Bwyllgor neu i’r Siambr pan fydd dadl yn digwydd, ond nid oes unlle iddynt ddysgu mwy am y Senedd na theimlo’u bod wedi’u cynnwys yn llawn. Mae hyn yn mynd yn ôl at y ddadl gynharach am bwysigrwydd cynnwys pobl ifainc a rhoi cyfle iddynt. Bwriadwyd o’r cychwyn cyntaf i adeilad Pierhead gyflawni’r swyddogaeth honno, gan y penderfynais na ddylai’r Adran Weithredol ddefnyddio adeilad Pierhead. Dylai’r Adran Weithredol fod yn yr adeilad hwn fel ein bod ni a’n swyddfeydd, fel rhan o deulu’r Cynulliad, yn yr un adeilad.

Derbynnir yn gyffredinol ein bod wedi cael lle o ansawdd da o’r diwrnod cyntaf yma yn Nhy Crucywel. Mae hyn wedi’n galluogi i fynd ati’n syth i ddelio â’n busnes. Ni fwriadwyd erioed i’r cyfleusterau yn y Siambr hon fod yn ddim mwy na rhai dros-dro. Ni fydd yn ateb anghenion tymor-hir y Cynulliad. Ar ôl ychydig o wythnosau, sylweddolodd Aelodau’r Cynulliad werth yr adeilad hwn a’r Siambr hon fel cam dros-dro. Mae yma anfanteision, er enghraifft mae’r pileri’n rhwystr, nid oes lle i ehangu ac mae cyfyngiad ar y nifer o aelodau’r cyhoedd a all ddod i mewn i Sesiynau Llawn.

Dafydd Wigley: Yr ydym i gyd yn ymwybodol iawn o’r amgylchiadau gwaith anodd y mae ein staff wedi bod yn gweithio ynddynt. Yr wyf yn gwybod fod cynlluniau i’w gwella, ac i osod rhyw system dymheru dderbyniol. A all Alun roi sicrwydd y bydd hynny wedi’i wneud cyn yr haf nesaf fel nad oes rhaid i ni, ac yn arbennig ein staff, ddioddef fel yr ydym wedi gwneud hyd yn hyn?

Y Prif Ysgrifennydd: Mae hynny’n bwynt hollol deg. Yr wyf wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol ystyried y sefyllfa a’r gwaith ar gyfer rhoi gwell cyfleusterau yn yr adeilad. Yr wyf hefyd wedi gofyn am yr amserlen er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed y gofynna Dafydd amdano. Ysgrifennaf at Dafydd i gadarnhau’r wybodaeth hon ac fe roddaf gopi yn y Llyfrgell. Gobeithiwn allu cyrraedd y targed hwnnw.

2:59 p.m.

David Davies: Soniodd y Prif Ysgrifennydd fod yna broblem gyda’r nifer o bobl a allai eistedd yn yr oriel gyhoeddus. A ydyw’n dweud os aiff yr adeilad newydd yn ei flaen, y bydd yr oriel gyhoeddus yn hwnnw’n fwy na’r un sydd gennym ar hyn o bryd? Nid dyna’r argraff a gefais i.

Y Prif Ysgrifennydd: Bydd, fe fydd yn fwy. Tua 50 o bobl sy’n gallu eistedd yn yr oriel gyhoeddus ar hyn o bryd, a’r bwriad gwreiddiol, o edrych ar y dyluniad, oedd tua 100, sef dwbl y nifer. Yr oedd hwn yn un o’r pynciau a drafodwyd yn y sesiwn ddefnyddiol yr wythnos diwethaf, lle mynegwyd teimlad gan Aelodau ar draws y pleidiau yn gyffredinol na fyddai hynny’n ddigonol. Mae’r penseiri’n ystyried hyn. Mae digon o hyblygrwydd iddynt allu anelu at nifer uwch, sef yr hyn, gredaf i, y mae pawb am ei weld.

Fel y dywedais, y mae anfanteision yn y Siambr dros-dro bresennol. Yn awr mae gennym y cyfle i ddatblygu a chyflwyno Siambr urddasol gyda chyfleusterau cyhoeddus sy’n gweddu i’r unfed ganrif ar hugain, sy’n cwrdd â dyheadau pobl Cymru. Bydd yn Siambr y gallwn fod yn falch ohoni ac yn un a adnabyddir dros y byd. Yr wyf yn credu fod pawb yn cydnabod fod hunaniaeth, i brifddinas ac i wlad, yn bwysig. Dyma gyfle i ni wneud yn siwr ein bod yn datblygu’r hunaniaeth honno. Yn arbennig, mae arnom angen Siambr sydd â’i chynllun yn hyrwyddo dadl ddemocrataidd go iawn, sydd â mwy o le agored a gweledfannau di-rwystr ac sy’n meddu ar hyblygrwydd ar gyfer y dyfodol. Yr wyf yn awyddus i sicrhau ein bod yn darparu gwell cyfleusterau i’r cyhoedd, sy’n ddyhead cyffredinol gan Aelodau. Yr wyf hefyd wedi ymrwymo i’r adeilad gael ei gyflwyno am gost o oddeutu £12.5 miliwn sydd, mi gredaf, yn rhesymol ac yn cynrychioli gwerth am arian. Os penderfynwn heddiw fynd ymlaen i godi’r adeilad pwysig hwn, a gobeithio y gwnawn, fy mwriad i yw sefydlu a chadeirio grwp llywio newydd i drafod adeilad newydd y Cynulliad gydag arweinwyr y tair plaid arall, y Llywydd a’r Ysgrifennydd Parhaol yn aelodau.

Helen Mary Jones: Yr wyf yn meddwl bod eich anallu i’m gweld i tra’r oeddwn yn ceisio torri i mewn yn atgyfnerthu’r pwyntiau a wnaethoch am natur y Siambr. Oherwydd amseriad y cyflwyniad ar gyfleusterau i’r cyhoedd, yr oeddwn i, fel rhai Aelodau eraill, yn methu bod yn bresennol. A allwch chi ddweud wrthym pa gynigion sydd yna i’w gwneud yn bosib i aelodau’r cyhoedd ddod â’u plant gyda nhw a’u gadael yn rhywle yn y Cynulliad? Pa gynigion sydd yna ar gyfer cyfleusterau posib i blant Aelodau ac, yn bwysicach, a fydd cyfleusterau ar gyfer plant aelodau staff?

Y Prif Ysgrifennydd: Mae’n fater lle bydd un peth yn effeithio ar y llall. Yn yr adeilad hwn mae gennym gyfleusterau sydd wedi’u defnyddio’n llawn. Bydd yr adeilad newydd yn un bach ac effeithlon. Mae angen inni edrych ar y cyfleusterau ar draws y tri adeilad. Yn y rhain, neu mewn cyfleusterau a rennir gyda defnyddwyr eraill yn yr ardal hon, mae angen inni ddarparu’r math o gyfleusterau y mae Helen Mary’n sôn amdanynt ac sydd y tu allan i’n gallu ar hyn o bryd. Heddiw yr wyf yn canolbwyntio ar y ddarpariaeth yn adeilad newydd y Cynulliad. Mae hynny’n cael effaith yn ei dro drwy ryddhau cyfleusterau yma. Gallai cyfleusterau fel meithrinfa, y mae Aelodau eisiau eu gweld, gael eu darparu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn y cyfuniad yma o lefydd.

Helen Mary Jones: A gaf i ofyn am ryw syniad o ba bryd y gallai’r rhain gael eu trafod? Mae cyrff menywod gwirfoddol yng Nghymru ay’n bryderus am y sefyllfa bresennol yn pwyso’n drwm arnaf i ac Aelodau eraill. Yr wyf yn siwr nad nhw yw’r unig rai. Byddai’n ddefnyddiol imi allu dweud wrth bobl pa bryd y bydd gennym ryw syniad o beth yw’r cynlluniau a sut y bwriedir ymgynghori â nhw.

Y Prif Ysgrifennydd: Mae’n rhaid inni drafod a datblygu’r cynlluniau ar gyfer yr adeilad newydd ei hun ac wedyn edrych ar y mannau a ryddhawyd o ganlyniad a thrafod y defnydd o’r mannau hynny. Dyna’r broses ddatblygu dyluniad sydd angen digwydd yn ystod gweddill y flwyddyn yma. Yr ydym yn sôn yn fras am gyfnod o ryw ddwy flynedd ar gyfer darparu’r adeiladau. Felly mae’r ddarpariaeth ei hun gymaint â hynny ymhellach i lawr y lein. Fel y byddwch yn gwybod, cynlluniau a etifeddais yw’r rhai sydd gennym yma. Yr wyf yn deall pam y maent fel y maent oherwydd mae swyddogion wedi gwneud eu gorau i wneud y defnydd gorau, mwyaf di-oed o’r cyfleusterau sydd ar gael yn yr adeilad hwn.

Yr ydych wedi nodi na allwch wneud popeth yn y cyfleusterau sydd gennym ar hyn o bryd. Wrth edrych ar gynllun yr adeilad newydd, dylem drefnu cyfarfodydd briffio rheolaidd fel bod holl Aelodau’r Cynulliad yn cael gwybodaeth lawn ac yn gallu cyfrannu a rhoi sylwadau. Gall cwestiynau ac awgrymiadau fel eich rhai chi ddod yn rhan o broses ailadroddol o ddatblygu’r adeilad newydd a mireinio defnydd yr adeilad hwn a’r cyfleoedd sy’n codi yn sgîl y datblygiad hwnnw. Profodd y drafodaeth yn ddefnyddiol iawn. Codwyd y pwynt gan un neu ddau o Aelodau ynglyn â darparu cyfleusterau llawn i’r Cynulliad, ei Aelodau a’r cyhoedd yn gyffredinol. Yn sicr mae hyn yn fater y mae pawb ohonom yn derbyn sydd angen sylw wrth inni ddatblygu cynlluniau ar gyfer yr adeilad newydd integredig hwn ynghyd â dau adeilad hyn.

Rod Richards: Pa opsiynau sy’n cael eu hystyried gan y Llywodraeth ar gyfer gwerthu Ty Crucywel? Petai’r Llywodraeth wedi dewis cymryd Neuadd y Ddinas a pheidio ag adeiladu adeilad newydd o gwbl, sut y bwriedid gwerthu Ty Crucywel?

Y Prif Ysgrifennydd: I edrych yn ôl at y pwynt lle daeth Ty Crucywel yn weddill i ofynion o’r blaen, gallwn ddisgwyl i Rod chwilio drwy ei hen ffeiliau gweinidogaethol am yr ateb i hynny. Yr oedd y penderfyniad i ddod i Dy Crucywel wedi’i wneud cyn i mi ddod yn Ysgrifennydd Gwladol, felly nid wyf yn gwybod yr ateb, ac nid wyf yn siwr a yw’n berthnasol iawn i’n trafodaeth heddiw.

Y pwynt canolog yr oeddwn yn ei wneud oedd, os penderfynwn y dylid mynd ati i godi’r adeilad pwysig hwn, a gobeithio y gwnawn ni, y bwriad yw cael grwp llywio adeilad newydd y Cynulliad gydag arweinwyr y tair plaid arall, y Llywydd a’r Ysgrifennydd Parhaol yn aelodau. Hefyd byddai gennym Adeilad Cynulliad newydd--[Torri ar draws.]

Owen John Thomas: A wnewch chi gadarnhau, pan aseswyd eich costau am Neuadd y Ddinas, y cynhwyswyd ffigwr o dros £13 miliwn ar gyfer rheiddiaduron, pibelli, generaduron a phympiau newydd? Sut ar y ddaear y cyfrifwyd y ffigwr hwn, ac a wnaiff gytuno pe byddai ffigwr o ddim ond £10 miliwn yn fwy addas ar gyfer hyn, y byddai’n llawer rhatach nag opsiwn y Bae?

Y Prif Ysgrifennydd: Camargraff yw hynny gan fod y ffigwr hwnnw’n cynnwys costau’r to a’r ffenestri. Mae’n fater a godwyd gyda mi gan Aelod arall. Yr wyf yn hapus i egluro unrhyw un o’r darnau gwybodaeth hanesyddol hynny, sy’n dyddio’n ôl i gyfnod cyn imi lenwi swydd Ysgrifennydd Gwladol na Phrif Ysgrifennydd. Mae cymhariaeth o’r costau, a thurio’n ôl i hanes yw hyn mewn gwirionedd, yn dangos nad yw opsiwn Bae Caerdydd cyn ddruted ag opsiwn Neuadd y Ddinas. Yr wyf yn deall fod rhai Aelodau eisiau pori dros y ffigyrau hynny, ac mae’n iawn iddynt allu gwneud hynny. Byddwn yn hapus i ateb cwestiynau penodol ond nid wyf yn hapus i gymryd arnaf fy mod yn bensaer neu faintfesurwr cymwysedig a rhoi atebion yn syth i’r manylion am linellau penodol. Fe nodais y trefniadau y byddem yn eu sefydlu i roi gwybodaeth lawn i’r grwp llywio am gynigion ar gyfer manylion datblygiad yr adeilad. Fe danlinellais ychydig funudau yn ôl pa drefniadau a wneid i roi gwybodaeth fanwl i’r holl Aelodau. Fel oedd yn amlwg yr wythnos diwethaf, mae’n werthfawr rhoi llais i’r Aelodau i gyd oherwydd bydd pob un ohonynt yn defnyddio’r cyfleusterau hynny ac mae’n beth call cael proses ailadroddus o drafodaethau ar y dyluniad.

Peter Black: Yr wyf yn croesawu’r ymrwymiad i gynnwys cynifer o Aelodau ag sy’n bosib yn nyluniad yr adeilad. Yn yr ysbryd o fod yn gynhwysol, a gaf i weld anerchiadau pan ddeuwn i edrych ar y dyluniad a’r mynediad i’r adeilad i bobl ag anableddau? Yr wyf yn siwr y deuwch at hynny maes o law. Fel y saif y cynigion presennol, y mae, mewn gwirionedd, ramp 70-troedfedd at y fynedfa ar lawr cyntaf yr adeilad. Byddai’n fwy derbyniol petai’r fynedfa ar y llawr gwaelod oherwydd er y gall cadair olwyn fynd i fyny ac i lawr y ramp, byddai rhywun sy’n defnyddio ffon neu gymorth arall i gerdded yn ei chael hi’n anodd dros ben.

Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf yn amau’n gryf fod gan Peter ddrych dros fy ysgwydd fel ei fod yn gwybod beth yw fy mrawddeg nesaf. Petawn i wedi mynd ymlaen yn lle gadael iddo ymyrryd, byddwn wedi ateb ei gwestiwn cyn iddo ei ofyn.

Mae angen trafod materion ynglyn â’r adeilad gyda nifer o grwpiau sydd â diddordeb. Yr wyf wedi ei gwneud yn glir--fel y gwneuthum gydag amryw o brosiectau adeiladu yn y gorffennol--fod yn rhaid ystyried buddiannau pobl anabl o’r cychwyn ac nid fel ôl-ystyriaeth. Mae hynny’n wir am fuddiannau pobl â nam ar eu golwg ac anableddau eraill. Yr wyf yn derbyn pwynt Peter am wahanol fuddiannau pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu sy’n fusgrell ac yn gorfod dibynnu ar ffyn a chymhorthion eraill. Rhaid ystyried hynny yn gynnar yn y prosiect.

Pan eir drwy broses adeiladu fel arfer, ceir dyluniad terfynol, a bydd y cyhoedd yn ei weld yn ei ffurf orffenedig. Canlyniad cystadleuaeth o’r math yma yw proses ddylunio adeilad sy’n digwydd yn yr agored. Mae’n debyg i fowlen pysgodyn aur. Ar ôl ychydig wythnosau, yr ydym i gyd yn gwybod sut deimlad yw hwnnw.

Hoffwn sicrhau’r Aelodau fod y penseiri wedi treulio amser yn edrych ar sut y gellir sicrhau mynediad i’r adeilad, er mwyn trafod materion gyda grwp Anabledd Cymru a grwpiau eraill cyn setlo ar y cynllun terfynol. Cafodd y penseiri neges glir o’n cyfarfod yr wythnos diwethaf nad fy mlaenoriaeth i yn unig yw hyn, ond un a rennir gan y Cynulliad cyfan.

Jenny Randerson: Cwestiwn o anabledd a chynllun yw hwn. Fel y gwyr yr Aelodau efallai, yr wyf yn drwm fy nghlyw ac yn cael cryn drafferth gyda chynllun y Siambr hon am fod Aelodau’n eistedd ar draws yr ystafell i’w gilydd. Mae’n debyg nad fi yw’r unig un yn hyn o beth. Yr wyf yn llwyddo i ddeall y Prif Ysgrifennydd am ei fod ef bob amser yn siarad o’r blaen a gallaf ddarllen ei wefusau; mae’r un peth yn wir am y Llywydd. Fodd bynnag, am ei bod hi’r tu ôl i biler, yr wyf yn cael trafferth gyda Helen Mary.

Dafydd Wigley: Nid chi yw’r unig un.

Jenny Randerson: Mae’n wleidyddol ddymunol cael Siambr sy’n gylch neu bron yn gylch. Yr oedd yn ymddangos i mi mai dyna oedd y cynllun yn y cyflwyniad yr wythnos diwethaf. Ni hoffwn inni golli golwg ar y trefniant sy’n gwneud bywyd yn haws i bobl ag anableddau clywed.

Y Prif Ysgrifennydd: Nid yw’n briodol imi gofnodi sylw Dafydd Wigley oherwydd fe fyddwn ni’n dau mewn helynt gyda Helen Mary.

Ar ôl cyfnod byr, yr wyf yn falch inni droi’r 'sêt fawr’ o amgylch o fod yn wynebu tuag i mewn, gan y byddai wedi creu teimlad o wrthdaro. Nid yw hon yn Siambr gyfforddus i fod ynddi. Mae’n cyflawni’r diben ond nid yw’n berffaith. Mae awyrgylch dadl yn bwysig, nid yn unig i rywun sy’n drwm ei glyw ond o safbwynt cyswllt llygaid. Pobl ydym sy’n dadlau â phobl eraill. Mae’r cyswllt llygaid yn Nhy’r Cyffredin yn wrthdrawiadol, gwaetha’r modd, ond mae modd dylunio Siambr sydd â nodweddion gwahanol.

I mi mae dyluniad mynegol yr adeilad newydd yn gadarnhaol. Dywedodd un o’r penseiri wrthyf yr hoffai greu model maint llawn o’r cynllun manwl fel y gall Aelodau’r Cynulliad eistedd ynddo a thrafod ai dyna sydd arnynt ei eisiau yn nhermau lle a phellter. Byddai’n gwneud gwahaniaeth. Mae’r rheini ohonom a welodd Siambrau dadlau ledled y byd wedi gweld copïau o Siambr Ty’r Cyffredin wedi’u hymestyn dros arwynebedd sydd chwe gwaith yn fwy, gan golli manteision ac ennill anfanteision.

Mae’n iawn cael Siambr ar ffurf cylch fel man cychwyn, ond bydd angen gofal. Dyna rywbeth y bydd Aelodau am roi sylw iddo. Fe godwyd materion eraill yr wythnos diwethaf fel yr oriel gyhoeddus, effeithlonrwydd ynni ac effeithlonrwydd yr adeilad yn ei gyfanrwydd. Bydd y cyfnod o ymwneud â dyluniad yr adeilad newydd yn ddiddorol dim ond inni beidio â threulio’n holl amser arno.

Val Feld: Hoffwn ofyn cwestiwn ynglyn â’r ffordd yr adeiledir yr adeilad newydd. A wnewch chi roi sicrwydd y bydd y penseiri’n defnyddio defnyddiau a ddatblygwyd yng Nghymru? Byddai’n sicrhau y byddai’r adeilad yn esiampl, nid yn unig o bensaernïaeth draddodiadol Cymru a’r defnydd o lechi a charreg, ond o ddylunwyr creadigol cyfoes Cymru. Mae Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn awdurdod drwy’r byd ar wydr lliw a datblygiad gwydr newydd. Gallem ofyn iddynt hwy edrych ar ffyrdd o ddefnyddio adnoddau. Byddai hyn yn arddangos beth ellid ei gynhyrchu i’n pobl ni’n hunain ac i’r ymwelwyr a ddaw yma yn y dyfodol.

Y Prif Ysgrifennydd: Nid yw’r athrofa y cyfeiriwyd ati yn digwydd bod yn eich etholaeth chi drwy ryw ddigwyddiad? Mae’r penseiri wedi ceisio edrych ar ddefnyddiau sy’n gynhenid ac yn cyflwyno delwedd o Gymru. Cododd sawl Aelod y pwynt y dylai crefftwyr ac artistiaid Cymru allu gwneud cyfraniad. Dyna ffordd gadarnhaol o fynd ati. Mewn rhai achosion, nid yw’n ychwanegu at y gost os caiff ei ystyried yn ddigon pell ymlaen llaw. Mae’r penseiri wedi ymgymryd â hyn.

Os cytuna’r Cynulliad â’r cynnig, fe drefnwn i’r dyluniad gael ei egluro mewn cyfarfodydd cyhoeddus o gwmpas Cymru. Mae arnaf eisiau i’r model presennol ddal i gael ei arddangos ac i’r penseiri egluro’u cynlluniau mewn canolfannau y cytunir arnynt fel y gellir eu deall yn llawn. Gofynnaf am gefnogaeth lawn y Cynulliad i’r cynnig a’r cytundeb y dylai Partneriaeth Richard Rogers barhau i weithio ar ddatblygu cynllun yr adeilad newydd. Bydd arweinwyr busnes a’r rheini sy’n ceisio hybu economi a delwedd Cymru wedi’u syfrdanu os methwn wneud hyn heddiw.

O ran y gwelliant, efallai ei bod yn ymddangos yn glyfar cynnig ysbyty plant yn lle rhywbeth yr ydych eisiau ei drechu, ond nid ydyw. Mae gwaith ar y gweill ar gynigion ar gyfer ysbyty plant. Trafododd Jane Hutt a mi y mater gydag Ysbyty Prifysgol Cymru ac ymddiriedolaethau NHS Llandochau yr wythnos diwethaf. Mae cyfarwyddiaeth yr NHS yn asesu eu cynigion. Mesur o’u difrifoldeb yw’r ffaith fod y cais cynllunio ar gyfer cam un dan ystyriaeth. Byddai dweud na i adeilad cyfoes, safonol, cost-effeithiol, arloesol i’r Cynulliad yma ym Mae Caerdydd yn golygu torri ffydd â’r rheini sydd eisiau gweld y Cynulliad a Chymru yn llwyddo.

Y Llywydd: Yr wyf wedi gwneud ymholiadau ynghylch presenoldeb y Datganiad Busnes ar We’r Siambr. Yr oedd ar y fewnrwyd am 1 p.m. Dioddefodd Gwe’r Siambr broblem fach ac yna cywirodd ei hun. Fe wnawn ymholiadau pellach i sicrhau fod ein system yn gweithio mor effeithiol ag sy’n bosib.

Yr wyf wedi dewis y gwelliant sy’n sefyll yn enw David Davies.

Nick Bourne: Yr wyf yn cynnig y gwelliant canlynol:

Ar ôl y gair 'i’ ychwaneger y geiriau 'beidio â’ a chyfnewid y gair 'barhau’ am 'pharhau’.

ar ôl y geiriau 'Adeilad Newydd y Cynulliad’ dilëer gweddill y paragraff ac ychwaneger:

'ac yn lle hynny, dylai Llywodraeth Cymru ailgyfeirio’r arian a glustnodwyd ar gyfer adeiladu Siambr newydd i’r Cynulliad i adeiladu ysbyty plant newydd’.

Dadl am iaith blaenoriaethau yw hon. Os nad yw’r Prif Ysgrifennydd yn barod i roi gwarant sicr dros ei addewid y bydd cynlluniau ar gyfer yr ysbyty plant yn cychwyn yn syth, bydd y gwelliant yn sefyll. Mae hyn yn wirioneddol bwysig. Nid gwrthwynebiad ar egwyddor i adeilad newydd i’r Cynulliad ydyw, ond y mae yna bethau amgenach y dylem fod yn eu gwneud pan fo cyllid yn brin. Ar gost a lwfansau y gwnaethom ein penderfyniad cyntaf o sylwedd a byddai’n drist petai’n hail benderfyniad ar adeilad newydd i’r Cynulliad. Byddai hynny eto’n adlewyrchu’n hunan-les a’n symbyliad personol.

Mae geiriad y cynnig yn sôn am baramedrau cost. Bob tro y trafodir hyn fe sonnir am ffigyrau gwahanol--crybwyllwyd £12.5 miliwn heddiw. Os mai dyna’r ffigwr, pam na roddwyd ef yn y cynnig? Mae’r Prif Ysgrifennydd a’r Ysgrifennydd Cyllid wedi cael eu holi droeon am ffigwr â chap arno, a hoffwn godi’r cwestiwn hwnnw eto. Petai’r cynnig hwn yn cael ei basio, hoffem wybod pa bryd y byddid yn arwyddo contract oherwydd wedyn fe wnawn gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth ynglyn ag adeilad newydd i’r Cynulliad.

Fodd bynnag, hoffem drafod sut y byddai’n well i bobl Cymru pe câi’r arian hwn ei wario ar ysbyty plant. Oni fyddai hynny’n gofgolofn fwy priodol i’r mileniwm?

Janet Davies: Sawl ysbyty plant a godwyd yng Nghymru rhwng 1979 ac 1997?

Nick Bourne: Yr wyf yn dod ymlaen at gyfrifiad stoc yr NHS, sef yr hyn sydd gennych dan sylw o bosib. Byddai unrhyw un a ddarllenodd hwnnw’n gweld ei fod yn canmol yr NHS dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac yn datgan ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol--diffyg rheolaidd o £25 miliwn--ysbyty plant ai peidio. Wynebwn y posibilrwydd o orfod cau ysbytai oni fugeiliwn ein hadnoddau’n ddoeth. Yr wyf yn croesawu’ch ymyriad gan ei fod yn tanlinellu fy mhwynt ynghylch iaith blaenoriaethau, ac mae hynny’n wir pa bynnag Lywodraeth sydd mewn grym.

Alun Pugh: Pam y consyrn sydyn gan y Ceidwadwyr am ysbytai plant? Yr oedd eich plaid chi mewn grym am bron i ddau ddegawd ac anfonodd bron i £100 miliwn o arian Cymru yn ôl i’r Trysorlys fel gorchest. Petai gennych chi gonsyrn gwirioneddol dros godi ysbytai plant yn hytrach na thynnu ystumiau gwleidyddol, byddai gennym Ysbytai Coffa John Redwood ar hyd a lled Cymru

Nick Bourne: Yr wyf yn croesawu’r ymyriad, ond mae adwaith Edwina Hart gynnau fach yn dangos na chafodd yr arian hwnnw ei anfon yn ôl i’r Trysorlys. Nid wyf yn sicr a yw Alun Pugh yn siarad o blaid neu yn erbyn ysbyty plant. Os ydyw o’i blaid, yr wyf yn croesawu ei gefnogaeth; os nad ydyw, yn amlwg fe wnaiff bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Mater iddo ef yw hynny.

David Melding: A ydyw fy nghyfaill yn ymwybodol fod y cyfartaledd gwariant yn y 1980au ar ysbytai newydd dan y Llywodraeth Geidwadol yn £100 miliwn yng Nghymru? Yn awr bod y blaid Lafur wedi cwtogi’n ddybryd ar wariant cyfalaf ar ysbytai yng Nghymru, mae’r gwariant ar fin cwympo o £18 miliwn i £5 miliwn--£5 miliwn, o gymharu â’r £100 miliwn a wariodd y Llywodraeth Geidwadol.

Nick Bourne: Diolch am fy atgoffa. Yr oeddem ein dau yn bresennol yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lle gwnaethoch y pwynt hwnnw. Cafodd Jane Hutt ei synnu braidd, ac nid oedd y gweision sifil yn gallu esbonio pam y cwtogwyd ar wariant ar y rhaglen gyfalaf yn y gyllideb. Mae hyn eto’n tanlinellu’r pwynt, os yw pobl yn gallu gweld ein diffyg adnoddau, nad yw’n gwneud synnwyr eu gwario ar adeilad newydd i’r Cynulliad.

Jenny Randerson: Ydych chi’n ymwybodol y cafodd cynlluniau pendant ar gyfer ysbyty plant yng Nghaerdydd eu dileu oddi ar y rhaglen dan eich Llywodraeth chi oddeutu deng mlynedd yn ôl?

Nick Bourne: Os ydych chi’n siarad o blaid ysbyty plant ac yn ceisio fy nal i’n gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd o dan y Llywodraeth ddiwethaf, fe dderbyniaf fy nghyfran o’r cyfrifoldeb er nad oeddwn i’n AS. Os ydych chi’n dweud ei bod yn bwysig yn awr inni gefnogi ysbyty plant, croesawaf eich cefnogaeth. Mater yw hwn nid yn unig ynghylch a ddylid bod wedi adeiladu ysbyty plant o’r blaen ond a ddylid ei adeiladu yn awr. Dylem ganolbwyntio’n sylw ar y cwestiwn. Mae’r Prif Ysgrifennydd i’w weld yn awyddus i dorri i mewn, ond os caf i ddatblygu’r pwyntiau hyn fe gaiff ddigon o gyfle.

Y Prif Ysgrifennydd: Yr ydych yn gwneud yn dda iawn ar eich pen eich hun.

Nick Bourne: Diolch. Yr wyf yn cymryd, felly, nad oes arnoch eisiau torri i mewn. Y mae rhai materion gwirioneddol ynglyn ag adeilad newydd y Cynulliad. Ynghyd â llawer o bobl yma, euthum i’r cyfarfod amdano ac yr wyf yn cadw meddwl hollol agored ynglyn â’i rinweddau. Fodd bynnag, y mae ambell gwestiwn sy’n peri imi oedi.

Dywedodd y Prif Ysgrifennydd y byddai lle yn yr awditoriwm i 100 o bobl. Dywedwyd wrthym i gyd fod ein hadeilad presennol yn arbennig o ddiffygiol yn hynny o beth. Yr wyf yn deall y pwynt hwnnw i raddau, gan fod yr awditoriwm hwn, sy’n dal 60 o bobl, bob amser yn orlawn. Bwriedir i awditoriwm yr adeilad newydd ddal 50 aelod o’r cyhoedd a 50 aelod o’r wasg--llai o bobl na’r Siambr bresennol. Codwyd y cwestiwn hwn gan y pleidiau i gyd yn y cyfarfod a gall y rhai oedd yn bresennol gadarnhau’r ffigyrau hynny.

Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf yn siwr mai dim ond eisiau darparu gwybodaeth yr ydych yn hytrach na chamarwain y Cynulliad. Mae’r ffigyrau’n cynnwys y niferoedd ar gyfer orielau’r wasg a’r cyhoedd ond gan fod y nifer ar gyfer yr oriel gyhoeddus yn amlwg yn is na’r hyn yr hoffai’r Aelodau ei weld fe siaradais â’r pensaer i sicrhau rhyw radd o hyblygrwydd i gael mwy o le yn yr oriel honno petai’r Cynulliad yn dymuno hynny. Rhoddais y sicrwydd hwnnw yn fy nghyfraniad y prynhawn yma.

Nick Bourne: Nid oeddwn yn gwybod am y trafodaethau preifat hynny ond yr wyf yn meddwl y byddai’r Prif Ysgrifennydd yn derbyn y rhoddais y ffigyrau a oedd yn y datganiad. Yr oedd sôn hefyd am gael mwy o bobl ar lefel uwch heb seddi ac mae hwn yn fater y gellir ei drafod.

Y Prif Ysgrifennydd: Y lefel uwch yw’r fan lle bydd modd i bobl weld i mewn i’r Siambr. Er y byddent ar y tu allan, byddai modd iddynt wisgo clustffonau i gael clywed rhyw fymryn ar drafodaethau’r Siambr. Fodd bynnag, yr ydym ni’n sôn am yr oriel gyhoeddus yn y Siambr ei hun. Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, dywedodd y pensaer yn glir mai syniad cyntaf am y niferoedd oedd hyn ac y gallai dyhead yr Aelodau am fwy o seddi i’r cyhoedd gael ei ateb o fewn paramedrau’r cynllun.

Nick Bourne: Bydd y Prif Ysgrifennydd yn deall y pryder am y ffigwr gwreiddiol o 50 ar gyfer yr awditoriwm. Yr oedd llawer o sôn am do democrataidd ond nid am le yn awditoriwm y Cynulliad i bobl wrando ar y drafodaeth.

Ymhlith agweddau eraill sydd angen sylw mae’r ramp a’r grisiau sydd yn anhwylus o ran mynediad i’r anabl, a’r ffaith hysbys fod adeiladau gan Richard Rogers yn y gorffennol wedi gollwng dwr (yn hytrach na gollwng gwybodaeth gyfrinachol). Nid yw’r gwrthwynebiadau hyn i’r dyluniad yn dechrau mynd i’r afael â phroblem y blaenoriaethau. Ni wn i ddim beth yw eu lliwiau gwleidyddol ond mae Stephen Day a Geoff Hole wedi hel llofnodion dros 16,000 o bobl yng Nghaerdydd sy’n credu y byddai’n well gwario’r arian ar ysbyty plant yn hytrach nag ar adeilad newydd i’r Cynulliad. Yr wyf yn amau eu bod yn siarad ar ran cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru ac y byddem yn cyfrannu at y sinigiaeth yn ein gwlad petasai’n dau benderfyniad cyntaf o sylwedd yn ymwneud â’n lwfansau a’n cyflogau ni’n hunain ac adeilad newydd i’r Cynulliad yn hytrach nag â iaith briodol blaenoriaethau.

Huw Lewis: Fe sonioch am sinigiaeth, ond onid yw’n wir fod Stephen Day a Geoff Hole wedi cyfuno’r ymgyrch hon â hysbysebu eu busnes eu hunain?

Nick Bourne: Nid wyf yn credu mai dyma’r achos. Cafodd un ohonynt ei symbylu gan y ffaith na allai ei blentyn gael triniaeth yng Nghymru, ond y bu’n rhaid mynd i Fryste am driniaeth ar afiechyd a allasai fod yn farwol. Nid oedd yr ymgyrch wedi’i symbylu mewn unrhyw fodd gan fusnes na gwleidyddiaeth plaid, ond gan awydd wirioneddol i wneud rhywbeth dros Gymru, ac yr wyf yn ei derbyn ar y sail honno.

Mae ein hamheuon ynglyn â’r adeilad newydd hwn yn ymwneud â sut y gellid gwario’r arian er gwell. Os pasiwn y cynnig hwn heb ei wella heddiw, byddwn yn anfon neges allan am y math o Gymru yr ydym ni ei heisiau--Cymru gydag adeilad newydd i’w Chynulliad, nid ysbyty newydd i blant.

Ieuan Wyn Jones: Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig ac yn gwrthwynebu gwelliant y Blaid Geidwadol. Hefyd, gwrthwynebwn y ffordd sinigaidd y mae’r Blaid Geidwadol wedi defnyddio’r ddadl hon.

Hoffwn ateb cwestiwn a ofynnwyd i Nick Bourne ddwywaith, sef a adeiladodd y Blaid Dorïaidd ysbyty i blant yn ystod 18 mlynedd o lywodraeth? Yr ateb yw, 'Naddo’. Nid oedd ganddynt unrhyw gynllun i wneud hynny. Mae’r Blaid Dorïaidd wedi bod mewn grym am 35 mlynedd yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf ac ni chafwyd unrhyw gynllun i adeiladu ysbyty i blant yng Nghymru. Ymgyrch gwbl sinigaidd gan y Blaid Dorïaidd yw hon.

Rod Richards: Hoffwn dynnu sylw Ieuan Wyn Jones at y ffaith fod y Blaid Geidwadol wedi adeiladu nifer helaeth o unedau i blant dros Gymru, gan gynnwys uned yng Nghaerdydd.

Ieuan Wyn Jones: Hoffwn dynnu sylw Rod at y gwelliant sydd gerbron y Cynulliad, sef adeiladu ysbyty i blant, nid uned. Pe bai’r Torïaid o ddifrif, dylai’r cynllun fod wedi ymddangos yn eu rhaglen yn ystod un o’r 35 mlynedd y maent wedi bod mewn grym ers 1945.

Clywsom y math hwn o ddadl yn ystod y refferendwm a’r ymgyrch etholiadol. Yng Nghymru, dylem fod yn falch o’r anturiaeth yr ydym yn rhan ohoni. Pa fath o genedl fyddai Cymru pe na byddai’n manteisio ar y cyfle i gael adeilad o urddas i gynnal ei Chynulliad Cenedlaethol? Pa fath o genedl fyddem ni pe baem yn derbyn y dadleuon ymylol yr ydym yn eu clywed drwy’r amser gan y Blaid Dorïaidd?

Ystyriwch ein traddodiad o safbwynt adeiladau o urddas. Pwy fyddai’n dadlau heddiw yn erbyn y math o adeilad a geir yn Aberystwyth sydd yn cynnal ein Llyfrgell Genedlaethol? Gallwn, fel cenedl, ymfalchïo yn yr adeilad hwnnw. Mae ein Hamgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn adeilad y gallai unrhyw genedl yn y byd ymfalchïo ynddo.

Yr ydym yn symud i gyfnod lle mae’r genedl hon yn ymfalchïo yn ei democratiaeth newydd. Gwelwn batrwm newydd o wneud pethau. Mae penderfyniad fel hwn yn ddatganiad o falchder cenedlaethol--datganiad ein bod, fel cenedl, yn ddigon hyderus i gael adeilad y gallwn fod yn falch ohono.

Ar wahân i’r dadleuon ynglyn â balchder cenedlaethol, mae rhesymau ymarferol dros gael adeilad newydd. Mae Dafydd Wigley wedi rhoi enghreifftiau o’r sefyllfa anffodus yr haf hwn lle mae rhaid i aelodau o’n staff weithio o dan amgylchiadau anodd. Yn ogystal, mae’n anodd i nifer fawr o bobl ddod i mewn i’r adeilad hwn--nid oes digon o le i’r cyhoedd ac mae’r Siambr yn anaddas ar gyfer sefydliad cendlaethol.

Dywedaf wrth bobl Cymru: gwrandewch ar bobl sydd yn credu bod cenedl y Cymry yn haeddu adeilad o urddas yng Nghaerdydd. Peidiwch â gwrando ar blaid sydd wedi gwthio ei blaenoriaethau gwariant am 18 mlynedd ac sydd yn meiddio dweud wrthym ni beth y dylem wneud â’n harian.

Michael German: Ni fyddai’r Cynulliad hwn yn ddim heb bencadlys i sefyll fel testament balch i’r ffordd y mae’n siarad dros Gymru. Os ydym am siarad dros Gymru, rhaid inni wneud hynny mewn ffordd wahanol. Mae’r dyluniad yn ddychmygus i rai, yn wahanol i eraill ac efallai nad yw at ddant pawb. Ond ni fyddai’n cael unrhyw effaith heb ymrwymiad gan y Cynulliad. Bydd ein hadeilad newydd yn gwneud datganiad ein bod yn ceisio edrych tuag allan a chodi hyder ein pobl.

Os arhoswn mewn adeilad sy’n edrych fel swyddfa, efallai y byddem yn gyfforddus ond ni fyddem yn gosod y safon ar gyfer y dyfodol. Mae’r ffaith fod y Torïaid yn gwrthwynebu prosiect blaengar i Gymru mor hawdd ei rhagweld â phlu eira’n dadmer yn eich llaw neu, yn fwy perthnasol, llyffantod yn crawcian yn y cyfnos. Maent bob amser yn gwrthwynebu, byth yn cynnig. Clywsom ragrith y Torïaid yn galw am ysbyty plant ym Mae Caerdydd a hwythau eisoes wedi canslo cynllun o’r fath. Diolch i’r drefn, mae caniatâd cynllunio ar droed ar gyfer ysbyty plant yng Nghaerdydd ar dir Ysbyty Prifysgol Cymru.

Alun Cairns: Onid rhagrith yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn barod i gynyddu trethi er mwyn addysg ond bod yn well ganddynt godi palas newydd ym Mae Caerdydd na defnyddio adnoddau tebyg ar gyfer addysg neu ysbyty plant?

Michael German: Mae’n bwysig ein bod yn gwneud datganiad dros bobl Cymru, a fydd yn cynyddu ffyniant Cymru. Rhoddaf Barcelona fel enghraifft. Barcelona yw prifddinas Catalonia, sydd wedi’i hefeillio â Chymru. Mae Catalonia wedi gwneud datganiadau drwy brosiectau balch. Mae hynny wedi troi economi’r wlad honno o gwmpas. Erbyn hyn mae ganddi’r economi ranbarthol sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Digwyddodd hynny drwy godi hyder y bobl a gwneud iddynt edrych tuag allan.

Yr ydym yn gwneud datganiad o hyder. Petaem yn dilyn llwybr y Ceidwadwyr ac yn peidio â gwneud datganiad, byddai Aelodau Ceidwadol yn codi rhywbeth arall yn lle ysbyty plant--gorsaf reilffordd, efallai, neu rywbeth arall y mae mawr angen amdano neu bod ei angen yn eu barn nhw. Nid oes ots beth, byddai’r rhestr yn mynd ymlaen yn ddiddiwedd. Byddai’r Aelodau Ceidwadol yn parhau i wrthwynebu yn hytrach na chynnig.

Yr anhawster a wynebant yw y byddai bron bopeth y gallent ei gynnig yn rhywbeth y bu ganddynt ran yn ei dorri pan oeddent mewn grym. Pan oedd ganddynt gyfle i’w wneud, ni wnaethant ddim. Rhagrith o’r math gwaethaf yw dweud, 'Wnaethom ni ddim gwneud hyn pan oeddem ni mewn grym, ond yn awr bod rhywun arall mewn grym, yr ydym am iddynt gofio y dylid bod wedi ei wneud.’ Yr wyf yn siwr ein bod i gyd yn cofio beth a wnaethant i iechyd ac addysg, llyfrau i ysgolion, meintiau dosbarthiadau, cyllid llywodraeth leol, glanhau strydoedd, treth y pen. Mae’n hawdd gwrthwynebu er mwyn gwrthwynebu. Gofynnaf iddynt ystyried, ac yr wyf yn siwr y byddai Rod yn cytuno gyda mi, batrwm ymddygiad Mrs Thatcher.

David Davies: A ydyw’r Aelod yn derbyn y ffaith y cafwyd, dan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, lai o bobl digartref, meintiau dosbarthiadau llai, rhestri aros byrrach i ysbytai a mwy o heddweision ar y stryd?

Michael German: Fe gymeraf yr etholiad cyffredinol fel fy enghraifft ac, o ystyried ble y cychwynnoch chi a ble y gorffenoch chi yn yr etholiad cyffredinol, yr ateb i’ch cwestiwn yw 'na’. Os ydych chi’n gofyn imi a yw’r Blaid Lafur wedi llwyddo i ddelio â rhestri aros ac amserau aros, nac ydyw wrth reswm. Ond yn yr etholiad cyffredinol, bu i bobl Prydain a phobl Cymru fesur y Blaid Geidwadol yn ôl yr hyn a gyflawnwyd ganddynt, a dweud nad oeddent yn fodlon ar y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperid.

Fe af ymlaen gyda’m stori fach. Buaswn i wedi credu fod Mrs Thatcher yn batrwm ymddygiad i rai yn y Grwp Ceidwadol, ond nid i bawb ohonynt. Mae Mrs Thatcher yn gefnogol i adeilad newydd y Senedd Ewropeaidd sydd i’w agor yn fuan oherwydd ei bod hi’n teimlo ei fod yn gynrychiolaeth falch o’r Gymuned Ewropeaidd, y cefnwyd arni i raddau helaeth gan ei phlaid hi.

Yr ydym yn wynebu’r broblem o godi’n safle fel cenedl. Rhaid inni gydnabod fod hyder wrth edrych allan a sefyll ar ein traed fel cenedl yn rhywbeth a gyflawnwn drwy’r ffordd yr ydym yn ymddwyn. I bobl sydd eisiau bod yn hyderus yn eu gwlad, mae gwahaniaeth rhwng adeilad swyddfeydd a adnewyddwyd, nad yw’n ddatganiad balch dros ein gwlad, a’r dewis arall, sy’n brosiect blaengar sy’n dweud rhywbeth am y bobl a gynrychiolwn. Y gwahaniaeth hwnnw yw holl ystyr yr adeilad.

Fodd bynnag, yr wyf yn rhannu llawer o’r pryderon. Mae mynediad i’r anabl yn bryder a rennir gan bawb yn y Siambr hon, ac yn un y byddem y disgwyl i’r penseiri ddelio ag ef yn gyflym ynghyd â maint a natur yr oriel gyhoeddus a’r defnydd o’r mannau cyhoeddus a phreifat. Dylem fod yn falch y bydd y prosiect hwn yn caniatáu mwy o fynediad i’r cyhoedd nag unrhyw ddeddfwrfa y gwn i amdani yng ngorllewin Ewrop. Mae pryderon hefyd ynghylch peidio â gorboethi mewn siambr a allai gael waliau o wydr, ac ynghylch cysylltiadau ag adeiladau presennol. Dyma faterion y gallwn ni fel Cynulliad gael gafael ynddynt a’u datblygu.

Os ydym am fod yn wlad falch, bydd gwneud hyn yn arwydd ein bod yn cynrychioli pobl Cymru a bod arnom eisiau cymeradwyo rhywbeth sy’n codi safonau a hyder ein gwlad. Bydd incwm a chwistrelliad o gyfalaf yn dilyn yr arwydd hwnnw, wrth i eraill deimlo ein bod yn deilwng. Bydd pobl sydd yn ei chael hi’n anodd yn awr i dderbyn adeilad o’r fath yn newid eu hagwedd unwaith y bydd wedi’i adeiladu. Cymerwch, er enghraifft, stadiwm rygbi newydd y mileniwm. Cyn i Gymru guro De Affrica codwyd lleisiau ledled y wlad ynghylch gwerth y fath brosiect. Yn awr, a Chymru wedi curo pencampwyr y byd, mae’n sefyll fel y mae Cymru’n sefyll--yn bencampwr yn barod i herio’r byd.

Carwyn Jones: Mae’r ddadl y prynhawn yma yn peri i mi feddwl tybed a dalwyd sylw i eiriau John Major yn 1997. Dywedodd y byddai’r Blaid Geidwadol yn dysgu gwersi’r grasfa yn etholiad 1997. Mae Aelodau Ceidwadol wedi gwneud dynwarediad gwych o amnesia torfol brynhawn heddiw. Faint o weithiau ydych chi wedi eu clywed yn amddiffyn yr hyn a ddigwyddodd rhwng 1979 ac 1997?

Dadl am adeilad yw hon. Mae’r adeilad yn cynrychioli dyfodol Cymru a phopeth a fydd yn dda. Yn amlwg, fe fydd yna bobl sydd yn erbyn adeilad fel hwn. Yr oedd pobl a wrthwynebai Dy Opera Sydney ac mae Mike eisoes wedi gwneud y pwynt fod yna bobl oedd yn erbyn stadiwm y mileniwm. Bydd yr adeilad newydd yn darparu lle eang a chyfforddus i’r bobl hynny yng nghefn y Siambr, sydd wedi dod i wrando arnom ni am awr neu ddwy, ac sydd heddiw’n dioddef cramp ar seddi caled.

David Melding: Nid yw’n deg iawn cyfeirio at y bobl yn y cefn yn y fath fodd oherwydd maent yn ymddangos yn gyfforddus. Y pwynt yw, a oes digon ohonynt? Yr ydym eisoes wedi clywed na fwriadwyd ar y dechrau i’r adeilad newydd gael mwy o seddi na’r fan hon. Mae un fil ar bymtheg o bobl yng Nghaerdydd o’r farn na ddylid adeiladu’r adeilad hwn o gwbl. Pam na wrandawn ni arnyn nhw?

Carwyn Jones: Yr wyf yn amau fod yna ragor o bobl yn y cefn nag a fydd yng nghynhadledd nesaf y Ceidwadwyr yng Nghymru. Nid oes llais gan y bobl yn y cefn, ond maent wedi dod i’n clywed ni’n lleisio’u pryderon. Y pwynt, sydd wedi’i wneud sawl tro, yw y gellir newid y nifer o bobl y gall yr adeilad ddarparu lle iddynt. Nid oes problem gyda darparu lle i 100 aelod o’r cyhoedd. Yr ydym yn siarad am sicrhau fod yr adeilad yn cyrraedd y cam dylunio ac am ein mewnbwn ni. Yr oedd hyn yn ddieithr i Lywodraethau’r gorffennol, ond am y tro cyntaf fe geir mewnbwn gan bobl Cymru ynghylch faint o bobl ddylai fod yn adeilad y Cynulliad, faint o lefydd ddylai fod ar gael i aelodau’r cyhoedd a pha gyfleusterau ddylai fod ar gael iddynt. Mae’n anhygoel hefyd y cyflwynir y ddadl hon fel cystadleuaeth bur am adnoddau rhwng adeilad i’r Cynulliad ac ysbyty plant. Buaswn i wedi tybio y byddai unrhyw un sy’n rhoi cynnig gerbron i adeiladu ysbyty plant o leiaf wedi ymchwilio i gost ysbyty o’r fath. Nid oes neb wedi dweud hynny wrthym hyd yn oed. Gadewch inni weld a ddywedir wrthym yn awr.

David Davies: Gosodwyd y ffigwr ar ryw £21 miliwn. Yr oeddwn i’n gweithio ar ffigwr blaenorol o £17 miliwn am adeilad newydd y Cynulliad ond mae’n debyg fod hwn yn newid fwy neu lai bob tro yr edrychwn arno ac erbyn hyn mae o gwmpas £20 miliwn. Hoffwn egluro bod yna nifer o gefnogwyr preifat yn ardal Caerdydd sydd yn fwy na bodlon i dalu unrhyw wahaniaeth cyllid rhwng cost yr adeilad Cynulliad arfaethedig ac ysbyty plant newydd.

Carwyn Jones: Yr wyf yn synnu na roddwyd y ffigwr inni ar ddechrau’r ddadl. Mae’n rhywbeth sydd wedi ei dynnu allan o’r awyr a bydd yn rhaid inni aros i weld beth fydd yn digwydd iddo. Fodd bynnag, yr ydym eisoes wedi clywed y bydd yna ysbyty plant yng Nghaerdydd. Ni allaf ddeall pam nad yw’r gwelliant hwn ond yn cyfeirio at un ysbyty plant. Pam un, pam yng Nghaerdydd, ac ym mhle y caiff ei sefydlu? Nid oes problem nac anhawster i edrych ar gyfleusterau plant drwy Gymru gyfan yn y dyfodol. Gellir darparu’r cyfleusterau hynny o arian cyllideb floc y Cynulliad neu o gyllid a all fod ar gael yn rhywle arall. Nid dewis uniongyrchol rhwng adeilad y Cynulliad ac ysbyty plant yw hwn. Nid lle i mi yw codi’r hyn a ddigwyddodd rhwng 1979 a 1997, ond gwariwyd £280 miliwn ar swyddfeydd newydd ym Mhalas Westminster. Ni allaf gofio llawer o brotestio ynglyn â’r swm hwnnw sydd bron 20 gwaith yn fwy.

Cynog Dafis: Efallai ei bod hi’n werth nodi y gwariwyd cyfanswm o £6 miliwn ar ailwampio caffeteria Palas Westminster. Nid wyf yn cofio i’r Blaid Geidwadol gwyno am y gwariant hwnnw.

Carwyn Jones: Yr wyf yn ddiolchgar iawn am yr ymyriad hwnnw, yn dangos un gwastraff arian.

David Davies: Onid yw’n wir fod yr AS dros Ogwr, Ray Powell, mewn rhyw fodd yn gyfrifol am y Pwyllgor, yn wir yn Gadeirydd y Pwyllgor a gynigiodd y swyddfeydd newydd arfaethedig hynny?

Carwyn Jones: A oedd ef yn gyfrifol neu mewn rhyw fodd yn gyfrifol? Pa un yw hi--un ffordd neu’r llall? [AELODAU CEIDWADOL: 'Cyfrifol, cyfrifol.’] Yr wyf yn clywed rhywfaint o siantio ar y dde imi.

Nid oeddwn wedi sylweddoli mai Syr Ray Powell, AS dros Ogwr, oedd y person a reolai’r gwariant hwn ac a wnaeth y penderfyniad yn y Senedd. Y pwynt yw fod y penderfyniad wedi’i gefnogi gan yr Aelodau Ceidwadol yn y Senedd.

Ieuan Wyn Jones: I sicrhau cywirdeb y cofnod, y Ceidwadwr Syr Sydney Chapman yw cadeirydd y prosiect adeiladu hwnnw.

Carwyn Jones: Collwyd biliynau o bunnoedd am fod Railtrack wedi’i werthu am bris rhy isel. Petai cyngor lleol wedi gwneud hynny, byddent wedi gorfod talu tâl ychwanegol. Yr ydym yn sôn am ffigwr o £12.5 miliwn, a gaiff ei wario ar adeilad a fydd yn dod â phobl i mewn i’r Bae ac yn galluogi pobl i weld democratiaeth ar waith, sy’n amhosib yn San Steffan i raddau helaeth. Bydd yn dod ag arian i mewn i’r ardal. Bydd pobl yn dod i weld yr ardal a’r adeilad. Caiff arian ei wario ar adfywio’r gymuned leol. Gallwn ddefnyddio’r arian hwnnw i edrych ar brosiectau eraill yn y dyfodol. Nid £12.5 miliwn i lawr y draen yw’r adeilad hwn. Mae’n fuddsoddiad. Mae’n cynrychioli gweledigaeth Cymru ar gyfer y dyfodol. Mae gennyf ofn nad oes gweledigaeth gan y rhai sy’n ei wrthwynebu.

Alison Halford: Mae’n fy nhristáu fod y ddadl hon wedi’i hymarfer dro ar ôl tro. Yr wyf yn gwybod ei bod yn bwysig, ond dim ond hyn-a-hyn o amser sydd gennym ar gyfer Sesiynau Llawn. Mae’n gostus inni eistedd yma. Mae llawer ohonom yn teithio o’r gogledd ac mae hynny’n llyncu oriau. Cafodd y Torïaid ddigon o’r ddadl hon a daeth yn bryd symud ymlaen. Yr ydym wedi gwrando’n hir ac mae’n rhaid i’w hagwedd ci-yn-y-preseb at siarad am yr ysbyty plant gael ei roi i’w wely. Mae materion pwysig eraill i’w trafod.

Richard Edwards: Mae’n anffodus mai’r Siambr yw nodwedd waethaf yr adeilad hwn. Cafodd ei chyffelybu i faes parcio tanddaearol. Mae’n anodd gweld, mae’r lle’n gyfyng, ychydig o fynediad cyhoeddus sydd ac mae Helen Mary wedi ei chuddio gan bileri, ond nid oddi wrthyf fi Helen. Fe allaf i eich gweld yn dda iawn.

Y Siambr yw delwedd gyhoeddus y Cynulliad ac mae’n bwysig ei bod yn iawn. Wrth gwrs nid yw’r Torïaid yn malio am hynny. Dywedaf wrth y Torïaid, fe gollsoch yr etholiad cyffredinol a’r refferendwm, mae wyth o’r naw sedd sydd gennych wedi’u hennill drwy gynrychiolaeth gyfrannol, system nad ydych chi’n credu ynddi. Yr ydych yn tynnu cyflogau a threuliau nad ydych yn credu y dylech eu cael. Er mwyn Duw, tyfwch i fyny. Triniwch y bobl yr ydych yn eu cynrychioli â pharch, a dechreuwch ymroi yn adeiladol i’r broses ddatganoli.

Rod Richards: Mae’r cynnig yn gofyn am i ddatblygiad y prosiect adeiladu gadw o fewn y paramedrau cost a sefydlir. Gofynnaf i’r Prif Ysgrifennydd beth yw’r paramedrau cost hynny, ac os mai un o’r paramedrau cost yw cost wirioneddol yr adeilad newydd, a wnaiff ef warantu nad aiff dros y £12.5 miliwn a grybwyllodd yn gynharach? Hoffwn gyfeirio’i sylw at bapur o’i adran wasanaethau rheoli ei hun dyddiedig Mehefin 1999. Mae’n dweud:

'Whilst the competition submission designs can still be completed for the £12 million, the overall impact of the proposed changes, the external works and the areas overlooked would increase the costs to almost £16 million. This higher figure would take the overall capital cost of establishing the Assembly beyond £20 million.’

Yr wyf hefyd yn bryderus fod y cynnig yn awgrymu y dylid sefydlu grwp llywio polisi newydd i fynd â’r prosiect hwn ymlaen fel y gallwn sicrhau’r agwedd gynhwysol hon, y cytundeb cyd-bleidiol hwn, y gyd-berchnogaeth hon ar bolisi’r Llywodraeth, nad wyf i’n hidio rhyw lawer amdanynt. Yr wyf i’n bryderus fod hyn yn dirprwyo pwerau o’r Cynulliad i’r grwp llywio polisi hwn fel y gall fynd y tu hwnt i’r paramedr cost o £12.5 miliwn i £20 miliwn.

Hoffwn i’r Prif Ysgrifennydd roi ei sylwadau ar bapur y bu’r Ysgrifennydd Parhaol mor garedig â’i gael imi y bore yma. Mae’r papur yn gwneud cymhariaeth rhwng gwerth presennol net Neuadd y Ddinas a datblygiad y Bae. Wedi treulio cyfnod fel Gweinidog, mae dyn bob amser yn amheus o weision sifil a’u hamserlenni. Yr oedd yn hynod ddifyr i mi fod y cymariaethau a wnai’r Ysgrifennydd Parhaol yn ei bapur yn ymestyn dros gyfnod o 17 mlynedd. Mae hynny’n cynnwys dwy flynedd cyn cwblhau’r adeilad newydd arfaethedig. A fyddech chi’n esbonio pam y dewiswyd 17 mlynedd i wneud cymhariaeth gwerth presennol net ac nid efallai gyfnod hirach, a fuasai ym marn rhai pobl yn fwy priodol?

Yr wyf yn chwilfrydig ynghylch y ffaith y cafodd costau Adeilad Pierhead eu heitemeiddio dan ddatblygiad Neuadd y Ddinas yn y gymhariaeth a wnaeth yr Ysgrifennydd Parhaol, er imi glywed y Prif Ysgrifennydd yn dweud yn glir y defnyddir Adeilad Pierhead yn natblygiad y Bae. Mae’n ymddangos fod eitem wedi’i rhoi yn y lle anghywir o dan y costau am Neuadd y Ddinas.

Hefyd ar fater y costiadau, pam nad yw costau cyfredol a chostau gwaredu Parc Cathays 1 wedi’u cynnwys yn unlle yn y cyfrifiadau? Wedi’r cyfan, mae’r adeilad yn dal yno ac mae gan y Prif Ysgrifennydd swyddfa yno. Mae ei swyddfa oddeutu ddwbl maint y swyddfa oedd gan Michael Heseltine pan oedd hwnnw’n Ddirprwy Brif Weinidog. Yr wyf yn deall fod gan yr wyth Ysgrifennydd Cabinet arall swyddfeydd yno hefyd. A oes angen yr adeilad hwn ynteu a ellid ei werthu?

Bydd rhaglen ar HTV nos Iau o’r enw 'Wales This Week’, sy’n edrych yn fanwl ar rai o’r ffigyrau a gyhoeddodd y Llywodraeth hyd yn hyn. Mae’r rhaglen yn holi a yw’r Llywodraeth yn dweud y gwir, yr holl wir a’r gwir yn unig ynteu a ydyw mewn gwirionedd wedi cuddio llawer o’r manylion cost hyn nid yn unig oddi wrth y Cynulliad ond, yn bwysicach, oddi wrth y trethdalwr? Mae’n eglur fod y penderfyniad i fynd am adeilad newydd ym Mae Caerdydd yn gysylltiedig â’r broblem o werthu Ty Crucywel. Penderfyniad gwleidyddol ydoedd a gymerwyd am resymau gwleidyddol, nid am y rhesymau a roddwyd gan y Prif Ysgrifennydd.

Y Prif Ysgrifennydd: Mae wedi bod yn ddadl ddiddorol a dadlennol. Dechreuais drwy edmygu parodrwydd Nick Bourne i dderbyn her ddeallusol a cheisio egluro bron i ddau ddegawd o niweidio’r NHS yng Nghymru gan y Torïaid, yn ogystal â’r modd yr esgeuluswyd ein plant yn gyffredinol drwy gydol y cyfnod hwnnw gan ei blaid. Yn ystod y ddadl hon, ceisiodd y Ceidwadwyr gyflwyno elfen o ddryswch dros y ffigyrau. Mae wedi fy nharo i eto fod Rod Richards yn well am ofyn cwestiynau nag yr ydoedd am eu hateb pan oedd yn Weinidog.

Yr ateb syml i’w gwestiwn ynglyn â’r posibilrwydd o gostau cynyddol yw os ychwanegwch chi fwy o gyfleusterau a gofynion a threuliau, yna bydd yn costio mwy. Os na wnewch ac os ydym yn cadw’r gost o fewn terfynau, ac yr wyf yn credu fod yn rhaid inni arfer disgyblaeth dros gost y cynllun, yna byddwch yn cadw’r gost o fewn y terfyn. Mae’r ffigyrau’n syml: £19.7 miliwn oedd y ffigwr a grybwyllwyd adeg y ddeddfwriaeth. Mae hynny wedi’i rannu rhwng y £7.2 miliwn am Dy Crucywel a’r addasiadau i’r Siambr yr ydym ynddi ar hyn o bryd a’r £12.5 miliwn, sef y ffigwr a grybwyllais ac y byddaf yn dal i’w grybwyll fel y ffigwr ar gyfer yr adeilad newydd. Holodd Rod ynghylch nifer o faterion eraill yn ymwneud â’r cyllid, gan gynnwys cwestiwn tywyll braidd am Dy Crucywel. Adeiladwyd Ty Crucywel yn ystod y weinyddiaeth ddiwethaf a’i gymryd ymlaen gan y Swyddfa Gymreig. Mae’n rhan o’n gwaddol ac mae’n siwr fod hynny’n rhan o’r penderfyniad i’w ddefnyddio. Mae gwerthu neu ddefnyddio’r adeilad yn ffactorau cydbwyso mewn unrhyw ffigyrau.

Rod Richards: Mae arnaf i eisiau mynd yn ôl at y gymhariaeth gwerth presennol net a’r cyfnod o 17 mlynedd. A wnaiff ef roi sylw ar y gost o gadw Ty Crucywel gyda chost yr adeilad newydd ac ar y ffigyrau a roddodd yr Ysgrifennydd Parhaol imi, yr oedd a wnelont â chymariaethau dros 17 mlynedd?

Y Prif Ysgrifennydd: Byddai’n ddiddorol i Rod feddwl yn ôl at y gwingo a gafwyd pan holwyd Gweinidogion ynglyn â Thy Crucywel pan oedd ef yn y Llywodraeth.

Rod Richards: Fi sy’n eich holi chi yn awr.

Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf yn gwybod hynny. Dyna beth yr wyf yn ei ddweud: eich bod yn well am ofyn cwestiynau nag a fuoch chi erioed am eu hateb, oherwydd ni chawsom ni byth i waelod yr hyn oedd yn mynd ymlaen ar y pryd. Byddai llawer o bobl â diddordeb mewn clywed eich atebion ynglyn â’r cyfnod hwnnw.

O ran y gwerth presennol net, mae’r gwerthusiad economaidd gennych yn y papur a roddwyd ichi. Nid y gost y flwyddyn yw’r gost bresennol net. Yr hyn ydyw yw cost y cyfnod gwerthuso llawn, sef 17 mlynedd yn yr achos hwn, sy’n cynrychioli 15 mlynedd o weithrediad ar ôl i’r adeilad newydd gael ei gwblhau. Ar y sail honno y mae cymhariaeth tebyg-am-debyg yn cael ei gwneud. Mae’r ymgais hon i gyflwyno dryswch dros y ffigyrau yn rhan o fethiant y Ceidwadwyr i ateb y cwestiwn, 'Beth yw eu gêm nhw?’ Mae’r ateb i beth yw eu gêm nhw yn syml; nid oes arnynt eisiau i’r Cynulliad weithio a llwyddo. Byddaf yn aml yn anghytuno gyda Ieuan a Mike, ond heddiw yr ydym yn dewis pleidleisio dros obaith a gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol i Gymru.

Yr wyf yn falch o’n prifddinas. Yn 1973 fe ddeuthum yn aelod o gyngor dinas ac awdurdod a oedd yn gyfrifol am ddinas flinedig a dienaid, wedi’i thagu gan draffig, gyda chanolfan ddinesig Fictoraidd wych ond â chanol dinas wedi nychu ac ardal ddociau yn marw. Ar ôl blynyddoedd o waith caled a phartneriaeth, mae gennym ganol dinas ffyniannus, Neuadd Dewi Sant ac enw da drwy’r byd. Adfywiwyd ein hardal ddociau, nid yn lleiaf drwy adeiladu gan yr awdurdod lleol a ysgogodd hyder yn y sector preifat gan arbed arian i’r trethdalwyr. Bu’n gyfuniad o flaengarwch cyhoeddus a menter breifat, partneriaeth sydd wrth galon y Cynulliad. Mae wedi gyrru’r ddinas ymlaen i’r safle y mae hi ynddo heddiw.

Rod Richards: Mae’r Prif Ysgrifennydd yn amlwg wedi bod yn osgoi fy nghwestiynau, felly fe’i rhoddaf iddo’n syml iawn. A ydyw’r Llywodraeth Lafur hon wedi ymestyn y brydles ar Dy Crucywel, do neu naddo?

Y Prif Ysgrifennydd: Ddim hyd y gwn i. Mae Rod yn gofyn cwestiynau diddorol ac fe wnaf ymholiadau. Nid wyf yn ymwybodol o estyniad i’r brydles, ond mae Rod yn arbenigo mewn cwestiynau diddorol a fwriedir i’n cyfeirio i ffwrdd oddi wrth y gwir gwestiwn sef a ydym eisiau parhau i godi adeilad newydd sy’n deilwng o bobl Cymru. Daeth y ddinas yn llwyddiant ar sail y bartneriaeth rhwng blaengarwch cyhoeddus a menter breifat. Yn hogyn ifanc, arferwn ddod i lawr i Gaerdydd o’r gogledd--i gemau rygbi fel arfer--a’i chael yn siomiant. Mae arnaf i eisiau i bobl a ddaw i Gaerdydd weld democratiaeth yng Nghymru ar waith a bod yn falch o’n prifddinas a’n Cynulliad.

Mater ydyw o greu hyder ledled Cymru, a gwelwn hynny mewn trefi a dinasoedd fel Abertawe a Wrecsam. Yr ydym hefyd yn gwthio ailddatblygiad yr economi yn ardaloedd gwledig y canolbarth a’r gorllewin. Nid dewisiadau eraill posib yw’r rhain, ond amcanion y mae’n rhaid eu cyflawni gan Gynulliad hyderus, yn cydweithio’n ddemocrataidd i adeiladu Cymru newydd. Mae hynny’n golygu adeiladu Siambr newydd i’r Cynulliad lle gall ein trafodaethau fynd yn eu blaen gyda’r aeddfedrwydd a’r ansawdd y mae Cymru ei eisiau ac yn ei haeddu. Yr wyf yn cymeradwyo’r cynnig i’r Ty.

Y Llywydd: Yn awr fe wnawn ni bleidleisio ar y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais drwy ddangos dwylo.

Yr wyf yn meddwl fod y gwelliant wedi’i wrthod.

David Davies: A gaf fi bleidlais wedi’i chofnodi ar hyn?

Y Llywydd: Fel y dywedais gyda chryn amynedd ddydd Mercher diwethaf, nid oes y fath beth o dan y Rheolau Sefydlog â phleidlais wedi’i chofnodi. Y mae darpariaeth ar gyfer herio pan fo’r canlyniad yn amheus. Yr wyf yn deall fod y cyhoeddiad yn cael ei herio, er nad oedd yn ymddangos yn amheus i mi.

David Davies: Yr wyf yn gofyn felly am bleidlais gadarnhau.

Y Llywydd: Cafwyd cais am bleidlais gadarnhau

Ron Davies: Mater o drefn. Os byddwch yn caniatáu pleidlais ar y gwelliant, y mae posibilrwydd o bleidlais arall fydd yn gwastraffu mwy o amser ar y cynnig gwreiddiol.

Y Llywydd: Yr wyf yn ddiolchgar. Fe godoch bwynt tebyg ddydd Mercher diwethaf ac yr oeddwn yr un mor ddiolchgar bryd hynny. Mae gennyf sicrwydd na fydd her pellach.

Gareth Jones: Mater o drefn. A all David Davies ein goleuo ar sut yr oedd yn gweld y bleidlais honno yn amheus?

Y Llywydd: Gallwn drafod hynny rywbryd eto.

Pleidlais y Cynulliad oedd: O blaid 9, Ymatal 1, Yn erbyn 43

Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Senedd - Trafodion y Cynulliad-200799
Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid: Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
Bourne, Nick
Cairns, Alun
Davies, David
Davies, Glyn
Graham, William
Melding, David
Morgan, Jonathan
Richards, Rod
Rogers, PeterYmataliodd yr Aelod canlynol:
Jane Davidson
Barrett, Lorraine
Bates, Mick
Black, Peter
Butler, Rosemary
Chapman, Christine
Dafis, Cynog
Davies, Andrew
Davies, Geraint
Davies, Janet
Davies, Jocelyn
Edwards, Richard
Essex, Sue
German, Michael
Gibbons, Brian
Gregory, Janice
Griffiths, John
Halford, Alison
Hancock, Brian
Hart, Edwina
Humphreys, Christine
Jarman, Pauline
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Gareth
Jones, Helen Mary
Jones, Ieuan Wyn
Law, Peter
Lewis, Huw
Lloyd, David Rhys
Marek, John
Michael, Alun
Middlehurst, Tom
Morgan, Rhodri
Neagle, Lynne
Pugh, Alun
Randerson, Jenny
Ryder, Janet
Sinclair, Karen
Thomas, Gwenda
Thomas, Owen John
Wigley, Dafydd
Williams, Kirsty
Williams, Phil
Amendment rejected. Y Llywydd: Yn awr fe bleidleisiwn ar y cynnig. Cynhaliwyd pleidlais drwy ddangos dwylo.
Derbyniwyd y cynnig.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help