Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2007-2008

This is a Flash Object


Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 bwerau arwyddocaol newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Creodd hefyd Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi’r Cynulliad. Hwn yw adroddiad blynyddol cyntaf Comisiwn y Cynulliad, sy’n egluro ein dyletswyddau rhhwng etholiadau’r Cynulliad ym Mai 2007 hyd at 31 Mawrth 2008. Mae’r adroddiad wedi ei rannu’n chwe adran:

Adran 1: Cyflwyniad

Rhagair gan y Llywydd a chyflwyniad gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.

Adran 2: Pwerau Newydd: Cynulliad Newydd

Mae’r adran yma’n crynhoi busnes y Cynulliad yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Deddfwriaeth y Cynulliad a gweithgareddau’r Pwyllgorau.  

Adran 3: Meithrin Cysylltiadau ag Eraill

Cynhaliodd y Cynulliad nifer o ddigwyddiadau amlwg yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys agoriad swyddogol y Trydydd Cynulliad, a parhaodd gyda’i raglen o ymweliadau addysgol a gweithgareddau Ewropeadd a Rhyngwladol.

Adran 4: Ein Ystâd

Mae ein ystâd yn cynnwys y Senedd, Ty Hywel ac Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd a Swyddfa Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Mae’r adran yma’n esbonio sut yr ydym yn ceisio gwneud ein ystâd yn gynaliadwy.  

Adran 5: Cydymffurfio â’n Dyletswyddau

Sefydlwyd cyfres o fyrddau yn ystod y flwyddyn i gynorthwyo Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad yn ei dyletswyddau o reoli a threfnu staff, gwasanaethau, adnoddau ac asedau’r Cynulliad. Nodir rôl y byrddau hyn a dyletswyddau’r Cynulliad o ran cyfle cyfartal a’r Gymraeg yn yr adran yma.

Adran 6: Datganiad o Gyfrifon

Gellir gweld Datganiad o Gyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2007-08 yn yr adran yma.

Mae’r Adroddiad Blynyddol hefyd ar gael fel fersiwn testun a sain drwy ddilyn y dolenni ar frig y dudalen. Os hoffech gopi o’r adroddiad mewn fersiwn arall, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Partneriaid a Help