Nodiadau i gyd fynd â'r Cyfrifion Adnoddau

Cynnwys

1.  Datganiad am y polisïau cyfrifyddu

2.  Dadansoddiad o’r alldro adnoddau net 2007-08

3.  Cysoni’r alldro adnoddau â’r costau gweithredu net

4.  Cysoni’r gofyniad adnoddau net â’r gofyniad arian parod

5.  Dadansoddiad o’r incwm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru

6a.  Nifer yr Aelodau a’r staff a chostau cysylltiedig

6b.  Costau eraill yr Aelodau

7.  Costau gweinyddol eraill

8.  Asedau sefydlog diriaethol

9.  Asedau sefydlog anniriaethol

10.  Stoc

11.  Dyledwyr

12.  Arian parod yn y banc ac mewn llaw

13.  Credydwyr

14.  Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliada

15.  Y Gronfa Gyffredinol

16.  Cronfeydd wrth gefn

17.  Nodiadau sy’n cyd-fynd â’r Datganiad Llif Arian

18.  Ymrwymiadau cyfalaf

19.  Ymrwymiadau o dan brydlesi

20.  Ymrwymiadau ariannol eraill

21.  Offerynnau ariannol

22.  Rhwymedigaethau amodol

23.  Colledion a thaliadau arbennig

24.  Trafodion â phartïon cysylltiedig

1.Datganiad am y polisïau cyfrifyddu

Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol 2006/07 a gyhoeddir gan Drysorlys EM a addaswyd ar gyfer cyfansoddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiwn y Cynulliad fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae’r polisïau cyfrifyddu a gynhwysir yn y Llawlyfr Adroddiadau Adnoddau yn dilyn arfer cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol yn y DU ar gyfer cwmnïau i’r graddau y mae’n ystyrlon ac yn briodol i’r Sector Cyhoeddus.                Lle bo’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol yn caniatáu dewis polisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu mwyaf priodol o ran amgylchiadau penodol y Comisiwn er mwyn rhoi darlun cywir a theg. Cafodd polisïau cyfrifyddu’r Comisiwn eu cymhwyso’n gyson wrth ddelio ag eitemau yr ystyriwyd eu bod yn berthnasol i’r cyfrifon.                                                                            

Y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2008 oedd blwyddyn gyfrifyddu gyntaf y Comisiwn. Yn unol â chyfarwyddyd y Trysorlys, mae cyfrifon 2007-08 yn cynnwys trafodion Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad o 1 Ebrill 2007 ymlaen, cyn sefydlu Comisiwn y Cynulliad ym mis Mai 2007. Nid oes ffigurau cymharol ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, ac eithrio cofnodion mantolen.

1.1Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol a addaswyd i ystyried asedau sefydlog a ail-brisiwyd.

1.2Asedau sefydlog diriaethol

Y lefel sylfaenol ar gyfer cyfalafu ased sefydlog diriaethol yw £5,000 gan gynnwys TAW na ellir ei adennill. Y trothwy TG yw pan mae gwerth cyfunol asedau cysylltiedig a brynwyd yn fwy na £5,000.  Comisiwn y Cynulliad sy’n dal teitl pob eiddo. Caiff tir ac adeiladau eu hailddatgan yn ôl eu cost gyfredol ar sail prisiadau a wnaed gan briswyr proffesiynol bob pum mlynedd o leiaf.  Ni chaiff asedau diriaethol eraill eu hailbrisio gan na fyddai’r symiau dan sylw, ym marn y Comisiwn, yn arwyddocaol.

1.3 Asedau sefydlog anniriaethol

Caiff trwyddedau meddalwedd eu cyfalafu fel asedau sefydlog anniriaethol a’u hamorteiddio ar sail llinell syth dros oes ddisgwyliedig yr ased (3-5 mlynedd).

1.4 Asedau a gafwyd yn rhodd

Caiff asedau a gafwyd yn rhodd eu cyfalafu ar sail eu gwerth cyfredol ac fel arfer cânt eu hailbrisio yn yr un modd fel asedau a brynwyd. Mae gwerth asedau a gafwyd yn rhodd yn cael ei adlewyrchu yn y gronfa asedau a gafwyd yn rhodd, a gredydir â gwerth y rhodd wreiddiol a’r ailbrisiadau dilynol.

1.5 Dibrisiant

Nid yw tir rhydd-ddaliadol, dogfennau neu gofnodion hanesyddol na gwaith celf yn cael eu dibrisio.  Cyfrifir dibrisiad ar gyfradd a fydd yn dileu prisiad adeiladau ac asedau sefydlog diriaethol drwy randaliadau cyfartal dros gyfnod eu hoes ddefnyddiol ddisgwyliedig. Isod, rhestrir oes arferol asedau:

Annual Report | National Assembly for Wales

Adeiladau:                            

50 mlynedd neu gyfnod arall a bennir gan brisiwr cymwysedig.                                     

Annual Report | National Assembly for Wales

Offer sefydlog:                     

10 mlynedd, neu gyfnod arall a bennir gan y cyflenwr pan gaiff ei brynu neu ei brisio.

Annual Report | National Assembly for Wales

Cyfarpar yn
ymwneud â TGCh:             

3 blynedd                                                                                                                                      

Annual Report | National Assembly for Wales

Darnau gosod,
gosodiadau a
chyfarpar swyddfa:              

5 mlynedd                                                                                                                                    

Annual Report | National Assembly for Wales

Asedau anniriaethol         
(meddalwedd):

3 - 5 mlynedd                                                                                                                              

Annual Report | National Assembly for Wales

Cerbydau

4 blynedd                                                                                                                                   

Asedau a gafwyd yn rhodd:

I’w hasesu ar ôl eu derbyn

1.6 Yr elfen a wireddwyd o’r gronfa ailbrisio

Mae cost dibrisiant yn cael ei gynnwys yn swm yr asedau a ail-brisiwyd. Gall elfen o’r dibrisiant godi felly oherwydd cynnydd yn y prisiad a byddai’n fwy na’r dibrisiant a fyddai’n cael ei gynnwys yng nghost hanesyddol yr asedau. Byddai’r swm dan sylw’n elw heb ei wireddu ar y prisiant, a chaiff ei drosglwyddo o’r Gronfa Ailbrisio i’r Gronfa Gyffredinol, os yw’n berthnasol.

1.7 Datganiad Costau Gweithredu

Mae incwm a chostau gweithredu’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau gweithredu Comisiwn y Cynulliad. Mae incwm yn cynnwys costau nwyddau a gwasanaethau yn seiliedig ar y gost lawn i gwsmeriaid allanol. Dangosir incwm a chostau heb gynnwys TAW os gellir ei adennill.  

1.8 Tâl cyfalaf

Mae tâl, yn adlewyrchu cost cyfalaf a ddefnyddir gan y Comisiwn, wedi’i gynnwys yn y costau gweithredu. Cyfrifir y tâl yn ôl cyfradd safonol y Llywodraeth, sef 3.5% ar yr asedau net perthnasol cyfartalog. Caiff asedau net perthnasol eu diffinio fel yr holl asedau llai rhwymedigaethau ac eithrio asedau a gafwyd fel rhodd a balansau arian parod gyda Swyddfa’r Tâl-feistr Cyffredinol. Cyfrifir y cyfartaledd drwy adio’r balans ar ddiwedd y flwyddyn hon a’r balans ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol a rhannu â dau.  

1.9 Stoc

Nodir y stoc, gan gynnwys nwyddau i’w hailwerthu, ar lefel isaf y gost a’r pris gwerthadwy net.

1.10  Cyfnewid Tramor

Trosir trafodion mewn arian cyfred tramor yn sterling ar y cyfraddau cyfnewid sydd mewn grym ar ddyddiad y trafodion dan sylw.  Trosir imprestau cyfred tramor yn sterling ar y cyfraddau cyfnewid sydd mewn grym ar y pryd.

1.11 Pensiynau

Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPCP) - Mae staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y Comisiwn a staff ar secondiad i weithio i’r Comisiwn yn gymwys i fod yn aelod o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir yw hwn ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk) sy’n cydymffurfio â Safon Adrodd Ariannol 17.

Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad (AMPS) - Sefydlwyd cynllun pensiwn i Aelodau’r Cynulliad yn wreiddiol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac mae’n parhau mewn grym o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Cynllun buddion diffiniedig ydyw, ac mae’n gymwys i gyflogau aelodau a chyflog deiliaid swyddi.   Telir cost pensiynau Aelodau’r Cynulliad drwy gyfrwng taliadau a gyfrifir ar sail gronnus gydag atebolrwydd i dalu buddion yn y dyfodol o gyfrifon yr AMPS.  Bydd unrhyw ddyledion yn y gronfa sy’n codi oherwydd ddiffyg o ran asedau, yn cael eu talu drwy gynyddu’r swm y mae’r Comisiwn yn ei dalu. Wrth gyflwyno adroddiad am asedau a rhwymedigaethau’r Cynllun, mae’r Comisiwn wedi dilyn cyngor y Bwrdd Safonau Cyfrifyddu gan ddatgelu y mabwysiadwyd Safon Adrodd Ariannol Diwygiedig 17 yn gynnar.  Mae’r AMPS yn paratoi ei Gyfrifon Blynyddol ei hun, ar wahân i Gyfrifon y Comisiwn, ac mae’r rhain i’w gweld ar wefan y Cynulliad  www.cynulliadcymru.org.

1.12Cost Prydles Gweithredu

Caiff rhent sy’n daladwy o dan brydlesi gweithredu eu cynnwys yn y datganiad costau gweithredu dros gyfnod y prydlesi.

1.13 Treth ar Werth

Caiff y Comisiwn ei drin fel Corff y Goron at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994 a, chan hynny, at ddibenion Adran 41 o’r Ddeddf honno (cymhwyso i’r Goron) caiff ei drin fel un o adrannau’r llywodraeth, ac mae wedi’i eithrio rhag TAW yng nghyswllt nwyddau a gwasanaethau’r Cynulliad. Codir TAW ar y Comisiwn ar y gyfradd safonol yng nghyswllt ei weithgareddau masnachol, fel siop y Cynulliad.

2. Dadansoddiad o’r alldro adnoddau net 2007-08

Annual Report | National Assembly for Wales

Alldro

£000

Cyllideb gymeradwy

£000

Alldro o’i gymharu â’r Gyllideb

£000

Gwariant refeniw

     

Cyflogau a lwfansau’r Aelodau a chostau cysylltiedig

12,015

12,722

707

Cyflogau staff a chostau cysylltiedig

10,512

10,570

58

Costau recriwtio/costau eraill yn ymwneud ag Adnoddau Dynol

172

175

3

Costau hyfforddi a datblygu

217

238

21

Costau teithio a chynhaliaeth staff

140

141

1

Costau TGCh

3,568

3,362

(206)

Costau adeiladau a chyfleusterau

7,721

6,741

(980)

Costau marchnata a chyhoeddusrwydd

447

521

74

Costau gweinyddol eraill

2,464

1,567

(897)

Dibrisiant a thaliadau llog tybiannol

3,836

4,775

939

Gwariant Refeniw Gros

41,092

40,812

(280)

Incwm Refeniw

     

Gwerthiant – Siop y Cynulliad

(36)

(30)

6

Rhentu Eiddo  

(114)

(107)

7

Amrywiol

(1)

(14)

(13)

Incwm Refeniw Gros

(151)

(151)

-

Gwariant Refeniw Net

40,941

40,661

(280)

       

Gwariant Cyfalaf – Creu Asedau Sefydlog

156

1,100

944

       

Alldro Adnoddau Net

41,097

41,761

664

Roedd yr alldro adnoddau net ar gyfer 2007-08 o fewn 1.6% i’r gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer y flwyddyn.  

Eglurhad o’r gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y gyllideb a’r alldro:

a  Cyflogau, lwfansau a chostau cysylltiedig: y prif resymau dros y gwarged yw bod cyflogau Aelodau wedi cynyddu llai na’r disgwyl, bod costau teithio a chynhaliaeth yn llai na’r disgwyl a bod costau’n gysylltiedig â swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad yn llai na’r disgwyl. Mae’r rhain i gyd yn gyllidebau sy’n dibynnu ar y galw.

b  Costau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu: y rheswm dros y diffyg yw’r datblygiadau TGCh ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn.

c  Costau adeiladau a chyfleusterau: y rheswm dros y diffyg yw’r newid yn y modd y caiff prosiectau eu categoreiddio, a’r newid  o wariant cyfalaf i refeniw. Caiff ei wrthbwyso gan warged yn erbyn y llinell gwariant cyfalaf.  

d  Costau gweinyddol eraill: y rheswm dros y diffyg yw addasiad gwerth teg ar gyfer asedau sefydlog is eu gwerth. Ceir eglurhad pellach yn y nodiadau sy’n cyd-fynd â’r Fantolen.

e  Dibrisiant a thaliadau llog tybiannol: y rheswm dros y gwarged yw’r ffaith bod  gwir gost dibrisiant ar gyfer y flwyddyn yn is na’r hyn a nodwyd yn y gyllideb, oherwydd gostyngiad mewn gwerth asedau ar ôl eu hailbrisio a’r addasiad gwerth teg y cyfeiriwyd ato uchod.

f  Gwariant cyfalaf: fel y nodwyd uchod, y rheswm dros y gwarged yw’r newid yn y modd y caiff prosiectau eu categoreiddio, a’r newid o wariant cyfalaf i refeniw. Caiff ei wrthbwyso gan ddiffyg yn erbyn costau adeiladau a chyfleusterau .

3.  Cysoni’r alldro adnoddau â’r costau gweithredu net

Annual Report | National Assembly for Wales
 

Nodyn

2007-08

£000

Alldro adnoddau net

2

41,097

Llai gwariant cyfalaf

 

(156)

Derbyniadau taladwy i Gronfa Gyfunol Cymru

8 a 9

(35)

Taliadau uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru

5

594

Annual Report | National Assembly for Wales

Costau gweithredu net                                           

           

4 1,500  

Mae’r taliadau uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru (£0.594miliwn) ar gyfer costau cyflog y Llywydd, y Diprwy Lywydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Comisiwn y Cynulliad sy’n talu’r cyflogau hyn, ond gan eu bod yn cael eu talu’n uniongyrchol o’r gronfa, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr alldro adnoddau net.

4.  Cysoni’r gofyniad adnoddau net â’r gofyniad arian parod

Annual Report | National Assembly for Wales

Nodyn

Amcangyfrif

£000

Alldro

£000

Cyfanswm alldro net o’i gymharu â’r amcangyfrif: arbedion/(diffyg)

£000

Alldro adnoddau

2

41,761

41,097

664

Addasiadau i groniadau

       

Eitemau heb fod yn arian parod

gweler isod

    (5,339)   

(5,424)

85

Newidiadau mewn cyfalaf gweithio ar wahân i arian parod

 

(5)

(2,171)

2,166

Gofyniad arian parod net

 

     36,417

33,502

2,915

Annual Report | National Assembly for Wales

Eitemau heb fod yn arian parod

Amcangyfrif

£000

Alldro

£000

Alldro o’i gymharu â’r amcangyfrif

£000

   Dibrisiant ac amorteiddiad

(2,348)

(1,577)

771

 Addasiadau gwerth teg mewn asedau   sefydlog  

-

(944)

(944)

   Cost Taliadau Cyfalaf

(2,427)

(2,465)

(38)

   Cost Cyllid Pensiwn Safon Adrodd Ariannol 17

(564)

(438)

126

 

(5,339)

(5,424)

(85)

5.     Dadansoddiad o’r incwm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru

Annual Report | National Assembly for Wales

Rhagolwg

2007-08

£000

Alldro

2007-08

£000

     

Incwm gweithredu y gellir ei gadw

 151

153

Incwm gweithredu na ellir ei gadw (llog banc)

                 -

33

 

151

186

Swm yr awdurdodwyd i’w gadw

(151)

(151)

Swm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru

-

35

6a.Nifer yr Aelodau a’r staff a chostau cysylltiedig

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

   

Staff

Aelodau a Deiliaid swyddi

Cyfanswm

Cyflogau

       
 

Staff parhaol, Aelodau a Deiliaid Swyddi

8,257

4,279

12,536

 

Staff ar secondiad

132

-

132

Costau nawdd cymdeithasol

       
 

Staff parhaol, Aelodau a Deiliaid Swyddi  

616

400

1,016

Costau pensiwn eraill

       
 

Staff parhaol, Aelodau a Deiliaid Swyddi

1,507

1,330

2,837

Cyfanswm costau cyflogau Aelodau, Deiliaid Swyddi a staff

 

10,512

6,009

16,521

Mae’r Comisiwn yn talu cyflogau a chostau cysylltiedig Gweinidogion Cymru, fel y nodir yr Adroddiad Taliadau yn y cyfrifon hyn. Caiff y symiau a delir i Weinidogion Cymru eu datgelu yng Nghyfrifon Adnoddau Cyfunol Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

Dyma nifer cyfartalog y cyflogeion sy’n cyfateb i amser llawn a gyflogir gan y Comisiwn yn ystod y flwyddyn (gan gynnwys uwch reolwyr):

Annual Report | National Assembly for Wales

Staff parhaol

272.9

Staff ar secondiad

6.3

Staff dros dro/achlysurol

13.7

Penodiadau tymor penodol

1.2

Cyfanswm

294.1

Mae 60 Aelod Cynulliad. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd 10 deiliad swydd (ar wahân i Weinidogion), 1 Prif Weinidog, 9 o Weinidogion Cymru, 2 Ddirprwy Weinidog,  ac 1 Cwnsler Cyffredinol.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar aelod etholedig (gweler y Sylwadaeth Rheoli i gael rhagor o fanylion). Nid oedd tâl am swydd Comisiynydd yn ystod 2007-08. Mae holl uwch reolwyr a’r holl staff yn cael eu cyflogi gan y Comisiwn.  

Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk).

Yn ystod 2007-08 roedd cyfraniadau’r cyflogwyr, sef £1.540m yn daladwy i’r PCSPS yn ôl un o bedair cyfradd yn yr ystod 17.1% i 25.5% o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog (nad ydynt wedi newid ers cyfraddau 2006-07). Bydd Actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob pedair blynedd yn dilyn proses brisio lawn. Adolygwyd y bandiau cyflog a chyfraddau’r cyfraniadau yn 2005-06 ac ni fyddant yn newid tan 2008-09. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i dalu cost y buddion a gronnwyd, yn hytrach na’r buddion a dalwyd, ac maent yn adlewyrchu profiadau’r cynllun yn y gorffennol.   

Gall cyflogeion agor cyfrif pensiwn partneriaeth, pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfaniad gan y cyflogwr. Cyfrannodd y cyflogwyr £19,000 i ddarparwyr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniad y cyflogwr yn dibynnu ar oedran yr aelod ac mae’n amrywio o 7% i 15% o dâl pensiynadwy.  Mae cyflogwyr hefyd yn talu swm sy’n cyfateb i gyfraniadau’r cyflogai hyd at 3% o dâl pensiynadwy. Yn ogystal â hyn, roedd cyfraniadau’r cyflogai o £1,000 (0.8%) o dâl pensiynadwy, yn daladwy i’r PCSPC i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw mewn gwasanaeth neu’n ymddeol oherwydd salwch. Pan baratowyd y fantolen, roedd cyfraniadau o £2,000 yn ddyledus i ddarparwyr y pensiwn partneriaeth. Nid oedd unrhyw gyfraniadau wedi’u rhagdalu bryd hynny.

Nid ymddeolodd neb ar sail iechyd yn ystod y flwyddyn, a doedd dim rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn.

Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad

Mae cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad yn darparu buddion yn seiliedig ar dâl pensiynadwy terfynol. Mae asedau’r cynllun yn cael eu cadw ar wahân i asedau Comisiwn y Cynulliad a phenodir Rheolwr Buddsoddiadau i’w rheoli. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2005 ac fe’i diweddarwyd ar 13 Mawrth 2008 gan actiwari annibynnol cymwysedig.  Caiff y cynllun ei ariannu.

Y symiau a gydnabuwyd yn y fantolen:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

31 Mawrth 2008

£000

31 Mawrth 2007

£000

     

Gwerth cyfredol rhwymedigaethau’r cynllun

12,661

12,859

Gwerth teg asedau’r cynllun

11,351

10,273

Rhwymedigaeth net  (gwarged)

1,310

2,586

     

Swm yn y fantolen

   

  Rhwymedigaethau

1,310

2,586

  Asedau

-

-

Rhwymedigaeth net

1,310

2,586

Y symiau a gydnabuwyd yn y costau gweithredu:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

2006-07

£000

     

Cost gyfredol y gwasanaeth

1,345

1,263

Cost y llog

738

622

Enillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun

(811)

(571)

Cyfanswm y gost

1,272

1,314

     

Dyrannwyd yn y cyfrifon fel a ganlyn:

   

  Costau pensiwn eraill (cyfraniadau’r Comisiwn)

834

750

  Cost cyllido’r pensiwn

438

564

Cyfanswm y gost

1,272

1,314

Y symiau a gydnabuwyd yn y Datganiad  Enillion a’r Colledion Cydnabyddedig:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

2006-07

£000

     

Gwir enillion llai enillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun

(840)

(171)

Addasiadau profiad ar rwymedigaethau’r cynllun

-

(22)

Newidiadau mewn tybiaethau sy’n sail i werth presennol rhwymedigaethau’r cynllun

2,554

(1,862)

Cyfanswm enillion (colledion) actiwaraidd cydnabyddedig

1,714

(2,055)

Newidiadau yng ngwerth cyfredol rhwymedigaethau’r cynllun:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

31 Mawrth 2008

£000

31 Mawrth 2007

£000

     

Rhwymedigaethau agoriadol

12,859

8,951

Cost gyfredol y gwasanaeth

1,345

1,263

Cost y llog

738

622

Cyfraniadau gan Aelodau’r Cynulliad (gan gynnwys trosglwyddiadau i mewn)

440

327

Colledion actiwaraidd (enillion)

(2,554)

1,884

Buddion a dalwyd a threuliau

(167)

(188)

Rhwymedigaethau wrth gau’r cyfrifon

12,661

12,859

Newidiadau yng ngwerth teg asedau’r cynllun:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

31 Mawrth 2008

£000

31 Mawrth 2007

£000

     

Gwerth teg asedau’r cynllun

10,273

8,984

Adenillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun

811

571

Enillion a (cholledion) actiwaraidd

(840)

(171)

Cyfraniadau gan Gomisiwn y Cynulliad

834

750

Cyfraniadau gan Aelodau’r Cynulliad (gan gynnwys trosglwyddiadau i mewn)

440

327

Buddion a dalwyd a threuliau

(167)

(188)

Gwerth teg asedau’r cynllun wrth gau’r cyfrifon

11,351

10,273

Mae’r Comisiwn yn disgwyl cyfrannu £900,000 at Gynllun Pensiwn yr Aelodau yn ystod 2008-09.

Dyma brif gategorïau asedau’r cynllun gan ddangos pa ganran o holl asedau’r cynllun y maent yn ei chynrychioli:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

2006-07

                                                        

   

Ecwitïau

72%

89%

Bondiau

14%

4%

Arian parod

14%

7%

Nid yw asedau’r cynllun yn cynnwys unrhyw eiddo’n uniongyrchol na’n anuniongyrchol. Mae asedau’r cynllun yn cynnwys, yn anuniongyrchol drwy fuddsoddi mewn cronfeydd cyfunol, giltiau a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU a chanddynt werth teg o £804,000.

Yr adenillion disgwyliedig ar ecwitïau yw 3% y flwyddyn yn uwch na’r elw ar giltiau ar ddyddiad cyflwyno’r adroddiad hwn. Yr adenillion disgwyliedig ar fondiau yw’r elw adbrynu ar y bondiau y mae’r cynllun yn eu dal (yn uniongyrchol) ar ddyddiad cyflwyno’r adroddiad hwn. Yr adenillion disgwyliedig ar arian parod yw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar ddyddiad cyflwyno’r adroddiad hwn.

Y gwir adenillion ar asedau’r cynllun yn 2007-08 oedd colled o £68,000 (2006-07: elw o £400,000).

Y prif dybiaethau actiwaraidd ar ddyddiad paratoi’r fantolen:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

31 Mawrth 2008

31 Mawrth 2007

     

Cyfradd gostyngiad

6.9%

5.4%

Cynnydd mewn cyflogau yn y dyfodol

5.2%

5.0%

Cynnydd mewn pensiynau yn y dyfodol

3.7%

3.4%

Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar ecwitïau

7.5%

7.8%

Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar fondiau

5.5%

4.9%

Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar arian parod

5.3%

5.3%

Hyd oes ddisgwyliedig ar ôl 65 oed (blynyddoedd)

   

     Dynion

24.6

23.2

    Merched

27.6

26.1

Dyma’r symiau ar gyfer y cyfnod cyfredol a’r pedwar cyfnod blaenorol:

Annual Report | National Assembly for Wales

31 Mawrth 2008

£000

31 Mawrth 2007

£000

31 Mawrth 2006

£000

31 Mawrth 2005

£000

Rhwymedigaeth buddion diffiniedig

12,661

12,859

8,951

6,537

Asedau’r cynllun

11,351

10,273

8,984

5,966

Gwarged/(diffyg)

(1,310)

(2,586)

33

(571)

Addasiadau profiad ar rwymedigaethau’r cynllun

Nil

(22)

Nil

Nil

Addasiadau profiad ar asedau’r cynllun

(840)

(171)

1,657

423

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad ar gael yn adroddiad blynyddol a chyfrifon y cynllun ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2008.

6b.   Costau eraill yr Aelodau

Mae costau eraill yr Aelodau, sef £6.6 miliwn, yn y datganiad costau gweithredu yn cynnwys:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

Lwfans Costau Swyddfa

768

Lwfans Costau Ychwanegol

440

Lwfans Costau Staff yr Aelodau

5,122

Costau teithio

270

Cyfanswm costau eraill yr Aelodau

6,600

7.Costau gweinyddol eraill

Mae costau gweinyddol eraill, gwerth £18.565 miliwn, yn y datganiad costau gweithredu’n cynnwys:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

Adeiladau a chyfleusterau

5,423

Rhenti o dan brydlesi gweithredu

2,299

Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu

3,568

Marchnata a chyhoeddusrwydd

447

Hyfforddi a datblygu staff

217

Costau Adnoddau Dynol/recriwtio eraill

172

Costau teithio a chynhaliaeth staff

140

Costau gweinyddol eraill

1,313

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

Eitemau heb fod yn arian parod

 

   Dibrisiant ac amorteiddiad

1,577

       Addasiadau gwerth teg mewn asedau sefydlog

944

   Cost taliadau cyfalaf

2,465

Cyfanswm y costau gweinyddol eraill

18,565

The agreed external audit cost for the audit of these statements is £49,250.

8.Asedau sefydlog diriaethol

Annual Report | National Assembly for Wales
   

2007-08
£000

 

Tir ac Adeiladau

Technoleg Gwybodaeth

Dodrefn a Gosodiadau*

Cerbydau

Cyfanswm

Cost neu brisiad

Trosglwyddwyd ar 1 Ebrill 2007

66,990

7,350

2,033

41

76,414

Addasiad gwerth teg

-

-

(1,150)

-

(1,150)

Ar 1 Ebrill 2007 (wedi’i ailddatgan)

66,990

7,350

883

41

75,264

    Ychwanegiadau

-

142

-

-

142

    Gwerthu

-

-

-

-

-

         Ailbrisio

(1,259)

-

-

-

(1,259)

Ar 31 Mawrth 2008

65,731

7,492

883

41

74,147

Annual Report | National Assembly for Wales

Dibrisiant

                                

                         

                               

               

                       

Ar 1 Ebrill 2007

718

393

391

21

1,523

Addasiad gwerth teg

-

-

(206)

-

(206)

Ar 1 Ebrill 2007 (wedi’i ailddatgan)

718

393

185

21

1,317

  Costau yn ystod y fl.

667

756

110

10

1,543

   Gwerthu

-

-

-

-

-

       Ailbrisio

1,321

-

-

-

1,321

Ar 31 Mawrth 2008

2,706

1,149

295

31

4,181

Annual Report | National Assembly for Wales

Gwerth net ar bapur ar         31 Mawrth 2008

            63,025       

       6,343         

            588          

    10        

     69,966    

Gwerth net ar bapur ar 1 Ebrill 2007

66,272

6,957

1,641

20

74,891

* Mae dodrefn a gosodiadau yn cynnwys ‘asedau a gafwyd yn rhodd’, gan gynnwys y Byrllysg a gyflwynwyd gan Senedd De Cymru Newydd pan agorwyd y Senedd.

Eiddo Comisiwn y Cynulliad yw’r holl asedau sefydlog diriaethol, nid oes unrhyw eiddo’n cael ei brydlesu. Mae asedau tir ac adeiladau’n cynnwys y Senedd ac Adeilad y Pierhead.   .

Mae addasiad gwerth teg yn adlewyrchu newid mewn polisi cyfrifyddu yng nghyswllt asedau dodrefn a gosodiadau a ddygwyd ymlaen o’r flwyddyn flaenorol, gan ddileu’r rheol grwpio a olygai bod asedau a gostiodd £5,000 neu ragor gyda’i gilydd, yn cael eu cyfalafu, i drothwy cyfalaf syml o £5,000 am bob ased. Mae gwerth y dodrefn a’r gosodiadau nad ydynt yn cyd-fynd â’r polisi newydd wedi’i ddileu yn y cyfrifon drwy addasiad gwerth teg..

DS Gibbon FRICS o GVA Grimley International Property Advisers ailbrisiodd y tir a’r adeiladau, ar 31 Mawrth 2008. Ailbrisiwyd y Senedd yn ôl cost dibrisiant, ac ailbrisiwyd Adeilad y Pierhead yn ôl y gwerth defnydd presennol.

9.Asedau sefydlog anniriaethol

Mae asedau sefydlog anniriaethol yn cynnwys trwyddedau meddalwedd ar gyfer rhai o’r prif systemau a ddefnyddir gan y Comisiwn.

Annual Report | National Assembly for Wales
 

                           

Cyfanswm

£000

Cost neu brisiad

   

Ar 1 Ebrill 2007

 

158

Ychwanegiadau

 

14

Gwerthu

 

-

Ailbrisio

 

-

Ar 31 Mawrth 2008

 

172

     

Amorteiddiad

   

Ar 1 Ebrill 2007

 

-

Costau yn ystod y flwyddyn

 

34

Gwerthu

 

-

Ailbrisio

 

-

Ar 31 Mawrth 2008

 

34

Gwerth net ar bapur ar 31 Mawrth 2008

 

138

Gwerth net ar bapur ar 1 Ebrill 2007

 

158

10.Stoc

Annual Report | National Assembly for Wales

31 Mawrth

2008

1 Ebrill

2007

 

£000

£000

Stoc ar gyfer Siop y Cynulliad

34

29

11.  Dyledwyr

Annual Report | National Assembly for Wales

31 Mawrth

2008

1 Ebrill

2007

£000

£000

Symiau sy’n ddyledus cyn pen blwyddyn:

Dyledwyr masnachol

28

-

Adneuon a blaendaliadau

-

1

Dyledwyr eraill

4

4

Rhagdaliadau ac incwm cronedig

563

626

TAW y gellir ei adennill

356

-

Symiau sy’n ddyledus o Gronfa Gyfunol Cymru yng nghyswllt taliadau uniongyrchol

5

-

956

631

Nid oedd unrhyw symiau’n ddyledus gan ddyledwyr ar ôl mwy na blwyddyn. Mae £2,000 wedi’i gynnwys ar gyfer dyledwyr masnachol a fydd yn daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru ar ôl ei dderbyn.. Mae hyn yn gysylltiedig ag incwm dros ben sy’n ychwanegol at y gyllideb adnoddau cronedig a gymeradwywyd ar gyfer y flwyddyn.

12.  Arian parod yn y banc ac mewn llaw

Annual Report | National Assembly for Wales

2007-08

£000

   

Balans ar 1 Ebrill

-

Newid net mewn balansau arian parod

2,915

Balans ar 31 Mawrth

2,915

Balansau ar 31 Mawrth sy’n cael eu dal gan:

 

Swyddog Tâl-feistr Cyffredinol EM

2,461

Banciau masnachol ac arian parod mewn llaw

454

Balans ar 31 Mawrth

2,915

13.  Credydwyr

Annual Report | National Assembly for Wales

31 Mawrth

2008

1 Ebrill

2007

£000

£000

Symiau sy’n ddyledus cyn pen blwyddyn

TAW

2

-

Trethi eraill a nawdd cymdeithasol

588

-

Credydwyr masnachol

1,401

-

Credydwyr eraill

-

-

Croniadau ac incwm gohiriedig

508

-

Symiau’n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru

2,917

-

5,416

-

Nid oedd symiau’n ddyledus gan ddyledwyr ar ôl mwy na blwyddyn.  

14.      Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau

O dan Safon Adrodd Ariannol 17, caiff rhwymedigaeth o £1.3miliwn ei chydnabod ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn nodyn 7. Nid oedd angen darpariaethau eraill ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau yn ystod y flwyddyn.

Annual Report | National Assembly for Wales
 

Cynllun Pensiwn AC

£000

2007-08

Cyfanswm

£000

Balans ar 1 Ebrill

2,586

2,586

Symudiadau yn ystod y flwyddyn

(1,276)

(1,276)

Balans ar 31 Mawrth

1,310

1,310

15.      Y Gronfa Gyffredinol

Mae’r Gronfa Gyffredinol yn cynrychioli cyfanswm yr asedau llai rhwymedigaethau

Comisiwn y Cynulliad i’r graddau nad yw’r cyfanswm yn cael ei gynrychioli gan

gronfeydd wrth gefn ac eitemau cyllido eraill.

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08
£000

Balans ar 1  Ebrill

69,222

Cyllid gan Gronfa Gyfunol Cymru

36,417

Taliadau uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru

594

Derbyniadau sy’n daladwy i’r Gronfa Gyfunol

(35)

Symiau sy’n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru ar ddiwedd y flwyddyn - Cyflenwad

(2,915)

Costau Gweithredu Net

(41,500)

Costau heb fod yn arian parod

2,465

Trosglwyddwyd o’r Gronfa Bensiwn wrth gefn

438

Balans ar 31 Mawrth

64,686

16.Cronfeydd wrth gefn

(a)Y gronfa ailbrisio

Mae’r gronfa ailbrisio yn adlewyrchu’r elfen heb ei gwireddu ym malans cronnol addasiadau mynegeio ac ailbrisio (ac eithrio asedau a gafwyd yn rhodd).

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08
£000

Balans ar 1 Ebrill 6,476
Yn codi ar ôl ailbrisio yn ystod y flwyddyn (net) (2,580)
Balans ar 31 March 3,896
(b)Y gronfa asedau a gafwyd yn rhodd

Mae’r gronfa asedau a gafwyd yn rhodd yn adlewyrchu gwerth ar bapur yr asedau a roddwyd i Gomisiwn y Cynulliad.

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08
£000

Balans ar 1 Ebrill

11

Ychwanegiadau yn ystod y flwyddyn  

-

Ailbrisio

-

Balans ar 31 Mawrth

11


17.Nodiadau sy’n cyd-fynd â’r Datganiad Llif Arian

(a)Cysoni’r costau gweithredu â’r llifau arian gweithredu

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

Costau gweithredu net (41,500)
Addasiadau ar gyfer trafodion heb fod yn arian parod:  
(Cynnydd)/Gostyngiad mewn Stoc (5)
(Cynnydd)/Gostyngiad mewn Dyledwyr (325)
Llai symudiadau mewn dyledwyr mewn perthynas ag eitemau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Datganiad  Costau Gweithredu 5
(Cynnydd)/Gostyngiad mewn Credydwyr 5,416
Llai symudiadau mewn credydwyr mewn perthynas ag eitemau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Datganiad Costau Gweithredu (2,917)
Eitemau heb fod yn arian parod 5,424
All-lif arian parod net o weithgareddau gweithredu 33,902

(b)Dadansoddiad o wariant cyfalaf a buddsoddiadau ariannol
Annual Report | National Assembly for Wales
  Nodyn

2007-08

£000

     
Ychwanegiadau asedau sefydlog diriaethol 9 (142)
Ychwanegiadau asedau sefydlog anniriaethol 10 (14)
All-lif arian parod net o fuddsoddiadau   (156)

(c)Dadansoddi cyllido

Annual Report | National Assembly for Wales
Nodyn

2007-08

£000

     
Gan Gronfa Gyfunol Cymru (Cyflenwad) 16 36,417
Gan Gronfa Gyfunol Cymru (taliadau uniongyrchol) 16 589
Cyllido net   37,006

(d)     Cysoni’r gofyniad arian parod net â chynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod    

Annual Report | National Assembly for Wales
Nodyn

2007-08

£000

     
Gofyniad arian parod net 4 (33,502)
Gan Gronfa Gyfunol Cymru (Cyflenwad) 17c 36,417
Cynnydd mewn arian parod   2,915

18.Ymrwymiadau cyfalaf

Ar 31 Mawrth 2008, nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf y contractiwyd ar eu cyfer.

19.Ymrwymiadau o dan brydlesi

(a)Prydlesi gweithredu

Yn y tabl isod, nodir yr ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredu i dalu rhenti yn ystod y flwyddyn ar ôl y cyfnod ariannol hwn, wedi’u dadansoddi yn ôl cyfnod yr ymrwymiadau

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

Mae’r rhwymedigaethau o dan brydlesi gweithredu’n cynnwys:  
Tir ac adeiladau:  
Yn dod i ben cyn pen blwyddyn -
Yn dod i ben ar ôl blwyddyn ond cyn pen 5 mlynedd

66

Yn dod i ben wedi hynny

2,086

 

2,152

   
Eraill – argraffwyr a chopïwyr  
Yn dod i ben cyn pen blwyddyn

-

Yn dod i ben ar ôl blwyddyn ond cyn pen 5 mlynedd

95

Yn dod i ben wedi hynny

-

 

95

(b)Prydlesi cyllidol

Nid oes unrhyw ymrwymiadau o dan brydlesi cyllidol.

20.Ymrwymiadau ariannol eraill

Mae tri o gytundebau’r Comisiwn (nad ydynt yn brydlesi) yn gytundebau na ellir eu diddymu, oherwydd natur y trefniadau cytundebol. Mae’r cytundebau’n ymwneud â darparu cymorth a gwasanaeth TGCh i’r Cynulliad, a rheoli gweinyddwyr ar gyfer y systemau Adnoddau Dynol a Chyllid a ddefnyddir gan y Comisiwn. Dangosir isod y taliadau y mae’r Comisiwn wedi ymrwymo iddynt ar ddiwedd y cyfnod ariannol, wedi’u dadansoddi yn ôl cyfnod yr ymrwymiadau.

Annual Report | National Assembly for Wales
 

2007-08

£000

Mae’r rhwymediaethau o dan gytundebau na ellir eu ddiddymu’n cynnwys:  
Yn dod i ben cyn pen blwyddyn

-

Yn dod i ben ar ôl blwyddyn ond cyn pen 5 mlynedd

79

Yn dod i ben wedi hynny

4,000

4,079


Mae cytundebau eraill y Comisiwn yn cyfeirio at derfynu cytundeb yn gynnar ond nid oes taliadau wedi’u pennu ar gyfer hyn. Byddai’r Comisiwn yn torri cytundeb pe bai’n terfynu’r cytundeb yn gynnar a gallai’r contractiwr hawlio iawndal am yr elw y byddai wedi’i ennill pe bai’r cytundeb wedi parhau am y cyfnod llawn.  Gan fod y ffigur hwn yn amrywio ar gyfer pob cytundeb, nid yw’r cytundebau hyn wedi’u cynnwys yn y nodyn hwn.

21.Offerynnau ariannol

Nid yw’r Comisiwn yn cyhoeddi nac yn masnachu mewn offerynnau ariannol fel rhoi benthyciadau ac nid yw wedi benthyca arian. Mae’n dibynnu’n bennaf ar gyllid gan Gronfa Gyfunol Cymru am ei ofynion arian parod ac, felly, nid yw’n agored i risgiau hylifedd. Hefyd, nid oes ganddo adneuon arwyddocaol ac mae’r holl asedau a’r rhwymedigaethau perthnasol mewn sterling, felly nid yw’n agored i risg cyfradd llog na risg arian cyfred.

22.Rhwymedigaethau amodol  

Roedd gan Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad hawliau cytundebol i swm sy’n cyfateb i 10% o’u cyflog blynyddol gros gael ei gyfrannu tuag at bensiwn, ond nid ydynt i gyd wedi arfer yr hawl hwn. Mae’r rhwymedigaeth yn parhau am chwe blynedd wedi i’w cyflogaeth ddod i ben, ac fe’u hamcangyfrifir fel a ganlyn:

Annual Report | National Assembly for Wales
 

Swm a oedd yn  ddyledus
ar 31 Mawrth 2008

£000

Swm a oedd yn  ddyledus
ar 31 Mawrth 2007

£000

Swm a dalwyd yn 2007-08

£000






Sylwadau
Cyfraniadau pensiwn gan staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad sydd:        
â chytundebau cyflogaeth ers cyn 1 Mai 2003

29

12

-

Posibl

wedi gadael swydd heb ymuno â chynllun pensiwn erioed ac wedi dechrau gweithio ar ôl 1 Mai  2003

43

47

-

Annhebygol iawn

Nid yw Comisiwn y Cynulliad wedi ymgymryd ag unrhyw rwymedigaethau amodol mesuradwy nac anfesuradwy drwy roi gwarant, indemniad neu lythyr cysur.

23.Colledion a thaliadau arbennig

Dyma nifer a gwerth y colledion a’r taliadau arbennig a wnaed yn ystod          2007-08:  

(a)Datganiad Colledion

Annual Report | National Assembly for Wales
2007-08  

Nifer yr achosion

Gwerth

£000

Cyfanswm  

7

6

       
Taliadau ofer  

4

1

Taliadau Cydnabyddiaeth  

1

4

Iawndal  

2

1

Colledion stordy  

41

-

Yn ystod 2007-08 doedd dim colledion arian parod, dim hawliadau ofer a dim dileadau gweinyddol.

(b)Taliadau arbennig

Annual Report | National Assembly for Wales
                  

Nifer yr

achosion

Gwerth

£000

Cyfanswm

1

42

24.Trafodion â phartïon cysylltiedig

Mae’r Comisiwn yn cynnal nifer o drafodion â Llywodraeth Cynulliad Cymru ac adrannau eraill y llywodraeth a chyrff cyhoeddus, gan gynnwys Trysorlys Ei Mawrhydi. Yn ogystal â hyn, mae’n cynnal trafodion rheolaidd â Chynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, gweler nodyn 7. Yn ôl Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae’n ofynnol i’r Cynulliad, ar sail cynnig gan y Comisiwn, ethol Ymddiriedolwyr i Gynllun Pensiwn yr Aelodau.

Gall y Cynulliad roi cyfarwyddyd arbennig neu gyffredinol i’r Comisiwn at ddibenion, neu yng nghyswllt, arfer swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad.

Nid oes unrhyw Gomisiynydd, uwch reolwr na pharti cysylltiedig arall wedi cynnal trafodion perthnasol â’r Comisiwn yn ystod y flwyddyn.  I sicrhau tryloywder, cofnodir y ddau daliad a ganlyn:

  • Talwyd 260.00 i Brifysgol Cymru, Bangor, i ad-dalu costau teithio. Yr Arglwydd Ellis Thomas AC yw Llywydd y Prifysgol.

  • Talwyd £48.00 i Gymdeithas Gymuned Murchfield am logi neuadd. Mae Christopher Franks AC yn aelod o’r Gymdeithas hon.

Y Comisiwn sy’n pennu cyflogau a lwfansau holl Aelodau’r Cynulliad a’r holl ddeiliaid swyddi, ynghyd â chyflogau a pholisïau amodau staff y Comisiwn. Caiff y Comisiynwyr, fel Aelodau’r Cynulliad, gyflogi aelodau o’u teuluoedd i weithio fel staff cymorth; does dim cyfyngiadau o ran cyflogi aelodau o deuluoedd y Comisiynwyr neu’r uwch reolwyr i weithio i’r Comisiwn.

Mae Cofrestr o Fuddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill Aelodau’r Cynulliad ar gael ar  www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org.

Brig

Partneriaid a Help