Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008
3. Barn y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli
Mae Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi y caiff Comisiwn y Cynulliad hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r canlynol:
(a) y system bresennol neu unrhyw system yn y dyfodol ar gyfer ethol Aelodau’r Cynulliad; a
(b) y system bresennol neu unrhyw system yn y dyfodol ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.
Ar y sail hon, roedd yr arolwg yn ceisio canfod barn y cyhoedd am y system lywodraethu yng Nghymru drwy ofyn sut y byddai pobl yn dewis i Gymru gael ei llywodraethu. Roedd geiriad y cwestiwn a ofynnwyd yn debyg iawn i’r cwestiwn a ddefnyddiwyd mewn nifer o arolygon barn eraill a gynhaliwyd yng Nghymru dros y degawd diwethaf, gan gynnwys sawl arolwg academaidd o bwys. Roedd y cwestiwn yn gofyn i bobl ddewis o blith pedair sefyllfa gyfansoddiadol fras:
Dylai Cymru ddod yn annibynnol, ar wahân i'r DU
Dylai Cymru barhau'n rhan o'r DU, gyda'i senedd etholedig ei hun sydd â phwerau gwneud cyfreithiau a phwerau trethu
Dylai Cymru barhau'n rhan o'r DU, gyda'i senedd etholedig ei hun ond dim ond gyda phwerau cyfyngedig i wneud cyfreithiau
Dylai Cymru barhau'n rhan o'r DU heb gynulliad etholedig
Mae’r tabl a ganlyn yn dangos canlyniadau arolwg Comisiwn y Cynulliad ynghyd â chanlyniadau nifer o arolygon eraill a gynhaliwyd dros y degawd diwethaf. Gwelwn yn glir fod y canlyniadau yn cyd-fynd â’r patrymau a’r tueddiadau a ddaeth i’r amlwg mewn gweithiau eraill diweddar. Mae’r nifer sy’n cefnogi annibyniaeth yn dal yn isel, tra bo’r nifer sydd am ddychwelyd i’r sefyllfa gyfansoddiadol cyn datganoli yn dal i ddirywio - o dros draean o’r bobl yn 1997 i lai nag un ym mhob chwech erbyn hyn. Ac o’r mwyafrif sylweddol sydd o blaid datganoli, mae cyfran fwy ohonynt am gael Senedd.
Tabl 1: Dewis pobl o ran statws cyfansoddiadol Cymru (%), 1997-2008
|
|
|
|
|
|
|
|
Annibyniaeth |
13.2 |
9.6 |
11.8 |
13.4 |
11.0 |
11.5 |
10.0 |
Senedd |
18.3 |
28.3 |
36.8 |
35.9 |
40.2 |
41.5 |
38.8 |
Cynulliad |
25.1 |
32.9 |
24.5 |
25.3 |
23.9 |
26.1 |
30.7 |
Dim datganoli |
36.9 |
24.3 |
23.1 |
20.3 |
20.4 |
15.7 |
15.0 |
Ddim yn gwybod/ heb ateb |
6.5 |
5.0 |
3.7 |
5.2 |
4.6 |
5.3 |
5.5 |
Nifer yr ymatebwyr |
|
|
|
|
|
|
|
Yn ogystal â’r tueddiadau cyffredinol hyn ym marn y cyhoedd ynghylch sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu, mae gwaith blaenorol wedi dangos bod mwy o gysondeb wedi datblygu yn nheimladau pobl dros y degawd diwethaf. Hynny yw, roedd gwahaniaethau clir drwy Gymru (yn ôl rhanbarth, er enghraifft) pan gynhaliwyd y refferendwm yn 1997, ond mae’r gwahaniaethau hynny wedi dechrau diflannu. Mae’r gwaith ymchwil diweddaraf yn sicr yn awgrymu hynny wrth i bobl ddewis statws cyfansoddiadol. Mae Tabl 2 yn dangos y canrannau a oedd o blaid pob dewis yn y pum rhanbarth etholiadol yng Nghymru ac ym mhob grŵp oedran. Fel y gellir gweld, mae’r gwahaniaethau rhwng y gwahanol ranbarthau’n fychan, ac ym mhob rhanbarth mae’r mwyafrif o blaid cael Senedd. Fodd bynnag, gwelwn fod gwahaniaethau amlycach yn ôl grwpiau oedran. Yn unol â chanfyddiadau arolygon blaenorol, mae’n ymddangos bod pobl iau yn ffafrio elfennau cryfach o hunanlywodraeth na phobl hŷn. Ymhlith y bobl hŷn, ceir cefnogaeth gryfach i statws heb ddatganoli o gwbl, ac ymhlith y tri grŵp oedran hynaf - sef pobl 55 oed a hŷn - mae tua’r un nifer yn ffafrio Cynulliad a Senedd fel ei gilydd.
Tabl 2a: Statws cyfansoddiadol yn ôl rhanbarthau etholiadol Cymru (%), 2008
|
GOGLEDD CYMRU |
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU |
GORLLEWIN DE CYMRU |
CANOL DE CYMRU |
DWYRAIN DE CYMRU |
Annibyniaeth |
9 |
12 |
11 |
10 |
8 |
Senedd |
40 |
40 |
40 |
37 |
38 |
Cynulliad |
30 |
30 |
31 |
29 |
33 |
Dim datganoli |
15 |
14 |
12 |
18 |
16 |
Ddim yn gwybod/ heb ateb |
7 |
4 |
6 |
6 |
5 |
Nifer yr ymatebwyr |
537 |
505 |
432 |
543 |
522 |
Tabl 2b: Statws cyfansoddiadol yn ôl grwpiau oedran yng Nghymru (%), 2008
|
18-24 |
25-34 |
35-44 |
45-54 |
55-64 |
65-74 |
75+ |
Annibyniaeth |
18 |
11 |
10 |
8 |
10 |
8 |
8 |
Senedd |
49 |
44 |
43 |
37 |
33 |
33 |
30 |
Cynulliad |
19 |
29 |
29 |
31 |
37 |
33 |
35 |
Dim datganoli |
6 |
11 |
12 |
18 |
17 |
23 |
18 |
Ddim yn gwybod/ heb ateb |
8 |
6 |
6 |
6 |
2 |
4 |
10 |
Nifer yr ymatebwyr |
271 |
412 |
462 |
446 |
372 |
298 |
271 |
Roedd arolwg Comisiwn y Cynulliad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ba bleidiau yr oedd yr ymatebwyr yn eu cefnogi. Mae Tabl 3 yn dangos Dewis Cyfansoddiadol yn ôl cefnogwyr y prif bleidiau gwleidyddol, yn ogystal â’r rheini nad oeddent yn cefnogi unrhyw blaid. Er bod gwahaniaethau i’w gweld, yn ôl y disgwyliadau, mae’n bosibl eu bod yn llai nag y byddai nifer o bobl wedi rhagweld. Mae’n arbennig o nodedig nad oedd mwyafrif o blaid annibyniaeth na 'dim datganoli’ yn unrhyw un
o’r pleidiau. O blith y rheini nad ydynt yn cefnogi unrhyw blaid, mae’n nodedig nad yw’n ymddangos eu bod yn grŵp unigryw sydd wedi’u dadrithio, nac yn grŵp sydd heb ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Maent yr un mor debygol â’r rheini sy’n cefnogi plaid i roi ateb pendant i’r cwestiwn hwn, ac nid yw patrwm eu hatebion yn wahanol iawn i atebion gweddill y boblogaeth.
Tabl 3: Statws cyfansoddiadol yn ôl plaid wleidyddol (%), 2008
|
LLAFUR |
CEID |
DEM RHYDD |
PLAID |
NEB |
Annibyniaeth |
6 |
3 |
7 |
27 |
9 |
Senedd |
44 |
30 |
50 |
50 |
40 |
Cynulliad |
37 |
34 |
32 |
18 |
33 |
Dim datganoli |
11 |
30 |
10 |
2 |
16 |
Ddim yn gwybod/ heb ateb |
3 |
3 |
1 |
3 |
3 |
Nifer yr ymatebwyr |
577 |
343 |
140 |
177 |
1439 |
Gofynnodd yr arolwg hefyd i’r ymatebwyr sut y byddent yn pleidleisio mewn refferendwm posibl yn y dyfodol ar roi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Dyma’r trydydd arolwg i ofyn cwestiwn ynghylch hyn: mae canlyniadau’r tri i’w gweld yn Nhabl 4.
Y gwahaniaeth amlycaf rhwng yr arolwg hwn gan Gomisiwn y Cynulliad a rhai blaenorol yw’r lefel is o gefnogwyr 'Na’ tebygol, a’r gyfran uwch o ymatebwyr a ddewisodd 'Ddim yn gwybod’ neu na wnaeth ateb. Mae’n bosibl bod y gwahaniaethau hyn yn arwydd o newid barn gwirioneddol yng Nghymru. Ond hefyd, efallai fod y ffaith bod y cwestiwn wedi’i eirio rhywfaint yn wahanol yn gyfrifol am y gyfran uwch o bobl a ddewisodd 'Ddim yn gwybod’ neu na wnaeth ateb. Y prif wahaniaeth rhwng y cwestiwn hwn a chwestiynau mewn arolygon blaenorol oedd y gymhariaeth uniongyrchol â’r Alban, er mwyn dangos yn gliriach y math o newid a oedd dan sylw. Ni wnaeth hynny achosi unrhyw ddryswch wrth gynnal yr arbrawf peilot, ond efallai ei fod wedi achosi problemau i gyfran fechan o’r rhai a ymatebodd.
Tabl 4: Pleidleisio mewn refferendwm (%) yng Nghymru 2007/08
|
% O BLAID |
% YN ERBYN |
% DDIM YN GWYBOD/ HEB ATEB |
BBC/ICM, Mehefin 2007a |
47 |
44 |
9 |
BBC/ICM, Chwefror 2008b |
49 |
42 |
9 |
Y Cynulliad Cenedlaethol/GfKNOP, Mehefin-Gorffennaf 2008c |
46 |
32 |
22 |
a Arolwg ffôn a gynhaliwyd gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ar gyfer BBC Cymru. Nifer yr ymatebwyr = 1001. Y cwestiwn a ofynnwyd: "Pe bai refferendwm yn cael ei gynnal ar droi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd i Gymru gyda phwerau codi trethi, sut y byddech chi’n pleidleisio?” [cyf] b Arolwg ffôn a gynhaliwyd gan ICM ar gyfer BBC Cymru. Nifer yr ymatebwyr = 1210. Y cwestiwn a ofynnwyd: "Pe bai refferendwm ar droi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd i Gymru gyda phwerau deddfu llawn, sut y byddech chi’n pleidleisio?” [cyf] c Arolwg ffôn a gynhaliwyd gan GfKNOP ar gyfer Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol. Nifer yr ymatebwyr = 2538. Y cwestiwn a ofynnwyd: "Pe bai refferendwm yfory ar roi pwerau gwneud cyfreithiau llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (yn debyg i'r hyn sydd gan Senedd yr Alban) sut fyddech chi'n pleidleisio?” |
Mae Tabl 5 yn cymharu bwriadau pobl o ran pleidleisio mewn refferendwm yn ôl rhanbarthau etholiadol. Er bod gwahaniaethau yn lefel y gefnogaeth rhwng y rhanbarthau - a hynny yn ôl y disgwyl, ac ystyried y patrymau pleidleisio yn refferendwm 1997 - mae’r gwahaniaethau yma’n gymharol fychan: ceid yr un 'canlyniad’ ym mhob rhanbarth mewn refferendwm.
Tabl 5: Pleidleisio mewn refferendwm yn ôl rhanbarthau etholiadol Cymru (%) 2008
|
GOGLEDD CYMRU |
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU |
GORLLEWIN DE CYMRU |
CANOL DE CYMRU |
DWYRAIN DE CYMRU |
O blaid |
46 |
52 |
45 |
41 |
44 |
Yn erbyn |
31 |
29 |
33 |
34 |
35 |
Ddim yn gwybod / heb ateb |
23 |
19 |
22 |
24 |
21 |
Nifer yr ymatebwyr |
537 |
505 |
432 |
543 |
522 |
Edrychwyd hefyd ar fwriadau pobl o ran pleidleisio mewn refferendwm yn ôl plaid wleidyddol: mae’r rhain i’w gweld yn Nhabl 6. Unwaith eto, mae gwahaniaethau rhwng y gwahanol bleidiau, a hynny yn ôl y disgwyl: cefnogwyr y Ceidwadwyr sy’n fwyaf tebygol o wrthwynebu rhoi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, a chefnogwyr Plaid Cymru sy’n fwyaf tebygol o gefnogi datblygiad o’r fath. Ond unwaith eto, gwelwn fod mwy o gysondeb yn agweddau pobl yng Nghymru. Dangosodd yr arolwg academaidd a gynhaliwyd ar ôl refferendwm 1997 fod cefnogwyr y Ceidwadwyr wedi pleidleisio yn erbyn datganoli o naw i un. Erbyn hyn, mymryn dros ddau i bob un sy’n gwrthwynebu rhagor o bwerau. Ond bu rhywfaint o newid i’r cyfeiriad arall ymhlith cefnogwyr Plaid Cymru: yn 1997 pleidleisiodd 12 i bob un o blaid datganoli. Erbyn hyn, ychydig dros saith i bob un sydd o blaid mwy o ddatganoli. Mae’n nodedig hefyd bod cyfran llawer uwch o’r bobl hynny sydd heb benderfynu sut y byddant yn pleidleisio yn bobl nad ydynt yn cefnogi unrhyw blaid wleidyddol arbennig.
Tabl 6: Pleidleisio mewn refferendwm yn ôl plaid wleidyddol (%) 2008
|
LLAFUR |
CEID |
DEM RHYDD |
PLAID |
NEB |
O blaid |
49 |
28 |
55 |
74 |
47 |
Yn erbyn |
33 |
62 |
32 |
10 |
38 |
Ddim yn gwybod / heb ateb |
18 |
9 |
13 |
16 |
15 |
Nifer yr ymatebwyr |
575 |
342 |
141 |
179 |
1436 |
Ar y cyfan, dengys y dystiolaeth o’r rhan hon o’r arolwg bod y mwyafrif eang yng Nghymru yn cefnogi datganoli, a bod hyn yn wir ar draws y gwahanol ranbarthau.
Adrannau Eraill
4. Diddordeb y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano
