Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008

6. Casgliadau

Beth mae’r ymchwil hwn yn ei ddangos am farn pobl Cymru am ddatganoli, eu diddordeb yn y Cynulliad Cenedlaethol, eu gwybodaeth amdano, a’u ffynonellau gwybodaeth?

Drwyddi draw, byddai’r data’n awgrymu y gellid disgrifio’r Mr/Mrs/Ms Cyffredin fel a ganlyn:

  • Ar y cyfan, mae ef neu hi yn debygol o fod o blaid datganoli.

  • Mae’n debygol ei fod ef neu ei bod hi’n gwybod rhywfaint am baramedrau sylfaenol y sefyllfa ddatganoledig yng Nghymru. Serch hynny, ac eithrio mewn maes fel addysg sy’n effeithio’n uniongyrchol arno ef neu arni hi, mae’n gwybod llai am fanylion datganoli. Yn benodol, mae’n debygol nad yw’n deall llawer am y gwahaniaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef y gwahaniaeth rhwng yr ochr weithredol a’r ochr ddeddfwriaethol sy’n gymharol sylfaenol er mwyn deall unrhyw system wleidyddol.

  • Mae’n debygol bod ganddo ef neu ganddi hi rywfaint o ddiddordeb mewn dysgu mwy am y Cynulliad Cenedlaethol, ond nid digon o ddiddordeb i fynd ati’n egnïol iawn i wneud hynny.

  • Yn olaf, mae’n fwyaf tebygol y bydd ef neu hi’n cael gwybodaeth am wleidyddiaeth yn gyffredinol, ac am y Cynulliad Cenedlaethol yn benodol, drwy’r newyddion ar y teledu. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd y person dan sylw’n defnyddio nifer o ffynonellau eraill wrth gael gwybodaeth am wleidyddiaeth, gan gynnwys papurau newydd lleol ac amryw o orsafoedd radio.

Nid yw’r Mr/Mrs/Ms Cyffredin, o ran y nodweddion a nodir yma, yn wahanol iawn yn holl ranbarthau Cymru. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau amlycach o edrych ar y gwahanol grwpiau oedran. Mae’n debygol y byddai fersiwn iau o’r person hwn yn fwy brwdfrydig dros hunanlywodraeth i Gymru, ond yn gwybod llai am wleidyddiaeth ac â llai o ddiddordeb yn y maes. Mae’n fwy tebygol hefyd y byddai’r person iau hwn yn defnyddio cyfryngau fel y rhyngrwyd a radio masnachol i gael gwybodaeth am wleidyddiaeth. Byddai person hyn yn fwy petrus ynghylch datganoli, ond ar y cyfan yn gwybod mwy ac â mwy o ddiddordeb yn y maes. Mae’r Mr/Mrs/Ms Cyffredin yn dueddol o gael mwy o wybodaeth drwy’r newyddion ar y teledu a radio’r BBC.

Mae’r canlyniadau yma yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol a gwerthfawr i Gomisiwn y Cynulliad ynghylch barn a gwybodaeth y cyhoedd am y Cynulliad, a hynny yn ôl gwahanol grwpiau oedran a gwahanol ardaloedd daearyddol Cymru. Mae’n awgrymu y gellid creu mwy o ddiddordeb a dealltwriaeth ymhlith etholwyr Cymru o berthnasedd y Cynulliad a datganoli a’i effaith ar eu bywydau, a hynny drwy gyfathrebu’n briodol. Gwyddom fod y dasg hon yn gwbl ganolog i strategaeth Comisiwn y Cynulliad dros y blynyddoedd nesaf.   

Adrannau Eraill:

Crynodeb Gweithredol

1. Cwmpas yr Ymchwil

2. Cynnal yr Arolwg

3. Barn y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli

4. Diddordeb y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano

5. Ffynonellau gwybodaeth y cyhoedd

Partneriaid a Help