Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008
Crynodeb Gweithredol
Cyflwyniad
Ni fu dim erioed yn fwy arwyddocaol na Deddf Llywodraeth Cymru 2006 o ran trosglwyddo pwerau i Gymru.
Mae i’r canlynol oblygiadau pwysig yn y Ddeddf:
statws deddfwriaethol y Cynulliad;
craffu ar waith y Llywodraeth;
perchnogaeth agenda gwleidyddol Cymru;
barn y cyhoedd am y Cynulliad;
barn y gymuned ryngwladol am y Cynulliad;
perthynas etholwyr Cymru â datganoli yn y dyfodol.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi adroddiad ar ymchwil a gynhaliwyd gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a chwmni GfKNOP ar ran Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad), a hynny rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2008. Nod yr ymchwil oedd cael gwell dealltwriaeth ynghylch barn y cyhoedd am ddatganoli yng Nghymru.
Yn benodol, byddai’r ymchwil yn gwneud y canlynol:
canfod faint o ddiddordeb sydd gan y cyhoedd ym mhwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a faint y maent yn ei wybod am y pwerau hynny;
cael gwell dealltwriaeth o’r statws cyfansoddiadol y byddai pobl yn ei ffafrio ar gyfer y Cynulliad;
cael gwell dealltwriaeth o’r prif ffynonellau y mae dinasyddion Cymru’n eu defnyddio i gael gwybodaeth gyhoeddus am wleidyddiaeth.
Bydd y patrymau a ddaw i’r amlwg yn agweddau pobl yn sail i gyfeiriad, blaenoriaethau, trefniadaeth a pherfformiad Comisiwn y Cynulliad wrth gyfathrebu yn ystod trydydd tymor y Cynulliad.
Canfyddiadau 1: barn y cyhoedd am bwerau’r Cynulliad
O ran barn y cyhoedd am bwerau’r Cynulliad
, roedd yr ymchwil yn cadarnhau casgliadau gwaith ymchwil arall diweddar sy’n dangos bod gwrthwynebiad y cyhoedd i ddatganoli yn dal i leihau. Canfu’r ymchwil hefyd fod mwy o gysondeb ym marn y cyhoedd rhwng gwahanol ranbarthau, yn groes i’r rhagfarnau daearyddol bod y gefnogaeth i’r Cynulliad wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y gorllewin ac o bosibl ar hyd coridor gorllewinol yr M4, a bod ymdeimlad mwy o elyniaeth yn y dwyrain.
Canfyddiadau 2: diddordeb y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth a’u gwybodaeth am y Cynulliad
Canfu’r ymchwil fod gan y cyhoedd lefel gymedrol o ddiddordeb
mewn gwleidyddiaeth ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. O ran eu gwybodaeth
, canfu’r ymchwil fod y mwyafrif clir o bobl Cymru yn deall paramedrau bras llywodraethu datganoledig, a’u bod yn deall manylion penodol mewn meysydd fel addysg sy’n debygol o gael ryw effaith uniongyrchol ar eu bywydau. Serch hynny, mewn ffyrdd eraill, mae’n amlwg bod gwybodaeth y cyhoedd yn ddiffygiol. Yn benodol, mae’n ymddangos nad yw’r cyhoedd yn deall y gwahaniaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Canfyddiadau 3: ffynonellau i gael gwybodaeth am wleidyddiaeth yng Nghymru
Canfu’r ymchwil mai’r brif ffynhonnell i gael gwybodaeth gyhoeddus
am wleidyddiaeth yng Nghymru yw’r newyddion ar y teledu. Fodd bynnag, mae sawl ffynhonnell wahanol yn bwysig ac yn gallu cael effaith. Yn benodol, mae’n werth nodi pwysigrwydd ffynonellau newyddion lleol wrth i bobl gael gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru yn y gwahanol ranbarthau.
Drwyddo draw, mae’r arolwg yn rhoi gwell syniad i Gomisiwn y Cynulliad o farn etholwyr Cymru am ei bwerau presennol a’i bwerau yn y dyfodol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am y cyfryngau sy’n dylanwadu ar y farn honno.
Mae gweddill yr adroddiad hwn yn cyflwyno ac yn dadansoddi canlyniadau ar y canlynol:
Barn y cyhoedd am ddatganoli;
Diddordeb y cyhoedd yng ngwleidyddiaeth Cymru a’u gwybodaeth am y maes;
Y ffynonellau y mae dinasyddion Cymru’n eu defnyddio i gael gwybodaeth gyhoeddus am newyddion a gwleidyddiaeth.
Adrannau eraill:
3. Barn y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli
4. Diddordeb y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano
