Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008
4. Diddordeb y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano
Roedd yr arolwg yn cynnwys nifer o gwestiynau a geisiai ganfod faint o ddiddordeb sydd gan y cyhoedd yng ngwleidyddiaeth Cymru a’u gwybodaeth am y maes, gan gynnwys faint o bwerau deddfwriaethol sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd.
Gofynnwyd cwestiwn i ddechrau i ganfod faint o ddiddordeb oedd gan y cyhoedd yn gyffredinol yng ngwleidyddiaeth Cymru, fel y gwelir yn Nhabl 7. Cymedrol yw’r diddordeb cyffredinol, gyda rhywfaint yn llai yn dweud bod ganddynt lawer iawn o ddiddordeb neu ddim diddordeb o gwbl. Nid yw gwleidyddiaeth ar feddyliau’r rhan fwyaf o bobl y rhan fwyaf o’r amser, ond ar yr un pryd, ychydig yn unig sy’n dweud nad oes ganddynt ddim diddordeb o gwbl yn y pwnc. Mae’r diddordeb drwy Gymru yn weddol debyg; yn y gogledd ac yng Nghanol De Cymru (lle mae adeilad y Senedd) y gwelwyd y diddordeb lleiaf, ac yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru y gwelwyd y mwyaf. Ond gwahaniaethau pur fychain yw’r rhain, ac nid yw’r ystadegau’n arwyddocaol. Unwaith eto, mae’r gwahaniaethau yn ôl grwpiau oedran yn amlycach. Gwelwn fod mwy o ddiddordeb yn y grwpiau hŷn a mwy o ddifaterwch gwleidyddol ymysg pobl ifanc, ac mae hynny’n cyd-fynd â chanlyniadau ymchwil mewn nifer o wledydd democrataidd eraill.
Tabl 7a: Diddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru (%)
YMATEB |
GOGLEDD CYMRU |
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU |
GORLLEWIN DE CYMRU |
CANOL DE CYMRU |
DWYRAIN DE CYMRU |
CYMRU GYFAN |
Llawer iawn |
12 |
11 |
11 |
10 |
11 |
11 |
Eithaf tipyn |
35 |
43 |
35 |
36 |
39 |
38 |
Ychydig |
36 |
34 |
38 |
36 |
35 |
36 |
Dim o gwbl |
17 |
11 |
16 |
18 |
14 |
15 |
Tabl 7b: Diddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru yn ôl grwpiau oedran (%)
YMATEB |
18-24 |
25-34 |
35-44 |
45-54 |
55-64 |
65-74 |
75+ |
Llawer iawn |
8 |
7 |
7 |
12 |
13 |
16 |
17 |
Eithaf tipyn |
23 |
32 |
36 |
39 |
44 |
45 |
48 |
Ychydig |
39 |
42 |
40 |
35 |
33 |
29 |
26 |
Dim o gwbl |
29 |
20 |
17 |
14 |
10 |
10 |
7 |
Y cwestiwn: 'Faint o ddiddordeb fyddech chi'n dweud sydd gennych mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol?’
Er mwyn canfod faint o ddiddordeb penodol sydd gan y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol, gofynnwyd dau gwestiwn am y sefydliad. Yn gyntaf, gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent erioed 'wedi bod i mewn i adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd?’ Yn ôl y disgwyl, efallai, dim ond lleiafrif o’r rhai a ymatebodd oedd wedi bod. Nid yw’n syndod bod y gwahaniaeth rhwng prif ranbarthau Cymru yn gysylltiedig â pha mor agos yw’r ardaloedd hynny at Gaerdydd.
Tabl 8: Ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd (%)
YMATEB |
GOGLEDD CYMRU |
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU |
GORLLEWIN DE CYMRU |
CANOL DE CYMRU |
DWYRAIN DE CYMRU |
CYMRU GYFAN |
Mwy nag unwaith |
3 |
7 |
10 |
18 |
13 |
10 |
Unwaith |
4 |
12 |
14 |
17 |
14 |
12 |
Erioed |
93 |
82 |
75 |
64 |
74 |
78 |
Y cwestiwn: 'Ydych chi erioed wedi bod i mewn i adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd?’
Dywedodd y mwyafrif o’r rhai a ymatebodd (1,926 o sampl o 2,538) nad oeddent wedi ymweld ag adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, a gofynnwyd iddynt wedyn a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn gwneud hynny. Mae canlyniadau’r cwestiwn hwn i’w gweld yn Nhabl 9. Yn gyffredinol, mae gan y cyhoedd ddiddordeb sylweddol yn hyn. Dywedodd y mwyafrif o’r rhai a ymatebodd yn holl ranbarthau’r Cynulliad - a’r rheini heb ymweld â’r Cynulliad o’r blaen - y byddai ganddynt o leiaf ddiddordeb mewn gwneud hynny. Unwaith eto, mae cryn wahaniaethau i’w gweld rhwng y rhanbarthau, ac mae hynny’n cyd-fynd yn fras â’r diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Yn y gogledd y mae’r gyfran isaf o bobl sydd â diddordeb pendant mewn ymweld â’r Cynulliad.
Tabl 9: Diddordeb mewn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol? (%)
YMATEB |
GOGLEDD CYMRU |
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU |
GORLLEWIN DE CYMRU |
CANOL DE CYMRU |
DWYRAIN DE CYMRU |
CYMRU GYFAN |
Yn bendant |
19 |
28 |
23 |
24 |
30 |
25 |
Efallai |
33 |
30 |
28 |
28 |
27 |
29 |
Mwy na thebyg heb |
16 |
15 |
16 |
14 |
18 |
16 |
Yn bendant heb |
31 |
26 |
32 |
31 |
24 |
29 |
Y cwestiwn: 'Pe caech y cyfle, a fyddai gennych ddiddordeb mewn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd?’
Gofynnwyd nifer o gwestiynau hefyd ynghylch faint oedd y rhai a ymatebodd yn ei wybod am y Cynulliad Cenedlaethol a’i waith. Fel y gellir gweld yn Nhabl 10, roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr drwy Gymru, gan gynnwys o leiaf eu hanner yn y pum rhanbarth etholiadol, yn credu mai 'ychydig’ a wyddent. Yn gyffredinol, cymharol fychan yw’r gwahaniaethau, ond fod pobl y canolbarth a’r gorllewin wedi honni eu bod yn gwybod mwy. Nid yw’r canlyniadau’n awgrymu bod y pellter daearyddol o’r Cynulliad nac unrhyw broblemau o achos hynny yn dylanwadu ar faint o wybodaeth y mae pobl yn credu
ei fod ganddynt. Mae’r gwahaniaethau yn ôl grwpiau oedran unwaith eto’n amlycach. Fel y dystiolaeth a gyflwynwyd uchod am ddiddordeb y cyhoedd, y bobl hŷn sy’n dweud bod ganddynt fwyaf o wybodaeth. Mae’r bobl ieuengaf o blith y rheini sydd â hawl i bleidleisio yn llawer mwy tebygol o gyfaddef nad oes ganddynt lawer o wybodaeth, neu ddim gwybodaeth o gwbl.
Tabl 10: Faint mae pobl yn credu y maent yn ei wybod am y Cynulliad Cenedlaethol yn ôl rhanbarth etholiadol *
YMATEB |
GOGLEDD CYMRU |
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU |
GORLLEWIN DE CYMRU |
CANOL DE CYMRU |
DWYRAIN DE CYMRU |
CYMRU GYFAN |
Llawer iawn |
4 |
3 |
3 |
4 |
2 |
3 |
Eithaf tipyn |
17 |
30 |
22 |
24 |
25 |
24 |
Ychydig |
56 |
50 |
50 |
50 |
50 |
52 |
Dim o gwbl |
22 |
16 |
24 |
22 |
22 |
21 |
Tabl 10a: Faint mae pobl yn credu y maent yn ei wybod am y Cynulliad Cenedlaethol yn ôl grŵp oedran *
YMATEB |
18-24 |
25-34 |
35-44 |
45-54 |
55-64 |
65-74 |
75+ |
Llawer iawn |
2 |
2 |
3 |
3 |
5 |
5 |
5 |
Eithaf tipyn |
10 |
14 |
20 |
23 |
30 |
35 |
36 |
Ychydig |
46 |
57 |
51 |
59 |
50 |
48 |
43 |
Dim o gwbl |
41 |
27 |
26 |
14 |
15 |
12 |
14 |
* 'Faint fyddech chi'n dweud eich bod yn gwybod am Gynulliad Cenedlaethol Cymru? Wrth hyn, rwy'n golygu'r Cynulliad etholedig ei hun, yn hytrach nag adrannau'r llywodraeth’
Ar ôl gofyn faint oedd pobl yn credu eu bod yn ei wybod, gofynnwyd nifer o gwestiynau er mwyn canfod faint oeddent yn ei wybod mewn gwirionedd. Yn gyntaf, rhoddwyd sawl dewis o ran sefyllfa ddatganoledig Cymru, a gofynnwyd i bobl ddweud pa un oedd yn gywir. Fel y gwelir yn Nhabl 11, dewisodd dros dri chwarter y bobl yr ateb cywir.
Tabl 11: Dealltwriaeth pobl o’r sefyllfa ddatganoledig (%) 2008
'YDYCH CHI'N GWYBOD PA UN O'R GOSODIADAU CANLYNOL SY'N WIR O RAN CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU…’ |
% |
'Gall basio cyfreithiau ar unrhyw bynciau a ddymuna’ |
3 |
'Nid oes ganddo unrhyw bwerau i wneud cyfreithiau’ |
9 |
'Mae ganddo bwerau i wneud cyfreithiau mewn nifer o feysydd, a gall y rhain gael eu hehangu gyda chytundeb Senedd y DU’ |
77 |
Ddim yn gwybod |
11 |
Roedd rhywfaint o wahaniaethau rhanbarthol yn yr atebion i’r cwestiwn hwn, a’r rheini’n cyd-fynd yn fras â’r gwahaniaethau mewn diddordeb gwleidyddol a welsom eisoes. Roedd y ganran isaf a roddodd yr ateb cywir yn y gogledd (72%), a’r uchaf yn y de-ddwyrain 83%. Mae’r gwahaniaethau yn ôl oedran yn llai nag y byddai rhywun wedi’i ddisgwyl ac ystyried y gwahaniaethau o ran faint oedd pobl yn credu eu bod yn ei wybod a faint o ddiddordeb oedd ganddynt. Mymryn yn unig yn llai tebygol oedd y rheini rhwng 18 a 24 oed (73%) o ateb y cwestiwn hwn yn gywir o gymharu â’r rhan fwyaf o’r grwpiau oedran eraill. Er eu bod yn credu eu bod yn gwybod llawer ac er bod ganddynt fwy o ddiddordeb yn y maes, roedd pobl 75 oed a hŷn mewn gwirionedd yn llai tebygol o ateb y cwestiwn hwn yn gywir (69% ohonynt a roddodd yr ateb iawn). Drwyddi draw, mae’r canlyniadau hyn yn awgrymu bod gan y mwyafrif helaeth o bobl Cymru ddealltwriaeth weddol dda o sefyllfa ddatganoledig y wlad.
Er mwyn canfod mwy am wybodaeth y cyhoedd am ddatganoli, gan gynnwys faint y maent yn ei wybod am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhoddwyd 'cwis gwybodaeth’ iddynt a hwnnw’n cynnwys pum datganiad. Mae’r datganiadau hynny ynghyd ag atebion y cyhoedd i’w gweld yn Nhabl 12.
Tabl 12: Cwis gwybodaeth am wleidyddiaeth, (%) 2008
EITEM |
% YR ATEBION CYWIR |
% YR ATEBION ANGHYWIR |
% SYDD DDIM YN GWYBOD |
'Ni all Cynulliad Cenedlaethol Cymru newid cyfradd sylfaenol treth incwm yng Nghymru’ |
57 |
32 |
11 |
'Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â pholisi amddiffyn’ |
71 |
13 |
15 |
'Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu faint o'i gyllideb a gaiff ei wario ar ysgolion yng Nghymru’ |
89 |
4 |
7 |
'Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru tua 100 o aelodau etholedig’ |
16 |
49 |
35 |
'Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Rhodri Morgan’ |
14 |
70 |
15 |
Mae’r tabl hwn yn cadarnhau bod gan y mwyafrif o bobl syniad cymharol glir o sefyllfa ddatganoledig fras y wlad. Er enghraifft, mae bron tri o bob pedwar yn gywir i ddweud mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch polisi amddiffyn. Mae’n nodedig hefyd bod bron 90% yn datgan yn gywir bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu penderfynu faint o’i gyllideb sy’n cael ei wario ar ysgolion. Mae hyn yn awgrymu bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddatganoli yn sylweddol o ran y meysydd polisi sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl (neu eu teuluoedd). Fodd bynnag, dim ond cyfran fechan o bobl sy’n ymwybodol o faint y Cynulliad Cenedlaethol. Ac mae’r canlyniadau o’r datganiad olaf yn dangos nad yw llawer o bobl yn deall nac yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru a rhwng gwaith a chyfrifoldebau'r Llywydd a Phrif Weinidog Cymru (er bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi gwahanu’n glir y swyddogaethau gweithredol a deddfwriaethol).
Yn olaf, mae Tabl 13 yn dangos y canran a atebodd y cwis gwybodaeth yn gywir yn ôl y rhanbarthau etholiadol a’r grwpiau oedran. Fel y gwelwyd eisoes, mân wahaniaethau’n unig sydd rhwng y rhanbarthau, ac nid oes patrwm cyson i’r rhain. Gwelwn hefyd fod y rhai iau yn ateb llai o gwestiynau’n gywir yn y cwis gwybodaeth, a bod hyn yn cyd-fynd â’r canlyniadau o ran faint oedd pobl yn credu eu bod yn ei wybod.
Tabl 13a: % o atebion cywir yn y cwis gwybodaeth yn ôl rhanbarthau
EITEM |
GOGLEDD CYMRU |
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU |
GORLLEWIN DE CYMRU |
CANOL DE CYMRU |
DWYRAIN DE CYMRU |
Treth incwm |
57 |
59 |
59 |
52 |
60 |
Amddiffyn |
72 |
73 |
72 |
70 |
70 |
Ysgolion |
88 |
90 |
90 |
87 |
89 |
100 o Aelodau |
11 |
21 |
19 |
17 |
13 |
Y Llywydd |
9 |
16 |
16 |
17 |
13 |
Tabl 13b: % o atebion cywir yn y cwis gwybodaeth yn ôl grwpiau oedran
EITEM |
18-24 |
25-34 |
35-44 |
45-54 |
55-64 |
65-74 |
75+ |
Treth incwm |
36 |
57 |
58 |
63 |
63 |
60 |
58 |
Amddiffyn |
44 |
63 |
74 |
79 |
81 |
79 |
73 |
Ysgolion |
82 |
91 |
92 |
90 |
92 |
91 |
89 |
100 o Aelodau |
11 |
9 |
12 |
13 |
21 |
24 |
27 |
Y Llywydd |
7 |
8 |
12 |
14 |
23 |
18 |
17 |
Drwyddi draw, mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod gan y mwyafrif o bobl Cymru ddealltwriaeth gyffredinol o ddatganoli, a bod ganddynt fwy o ddealltwriaeth o faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Ond nid yw pobl yn deall cystal y gwahaniaeth rhwng swyddogaethau gweithredol a deddfwriaethol llywodraethu yng Nghymru.
Adrannau Eraill
3. Barn y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli
