Datganiad Polisi Cydraddoldeb Strategol

Ein Gweledigaeth

Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu adnoddau, eiddo a staff i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu fel sefydliad democrataidd.

Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad blaenllaw yn ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol yn ein rôl fel cyflogwr, ac fel sefydliad sy’n rhoi cymorth i Aelodau’r Cynulliad ac sy’n rhyngweithio â’r cyhoedd.

Credwn fod cyfle cyfartal i bawb yn hawl dynol sylfaenol ac awn ati i wrthwynebu pob ffurf ar gamwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg. Rydym yn ymdrechu i greu corff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ymgysylltu â holl bobl Cymru ac yn eu parchu. Mae’r polisi hwn yn gysylltiedig â’n Diben a’n Nodau Strategol, ein Cynllun Cydraddoldeb a’n polisïau cyflogaeth.

Ein Gwerthoedd

Mae Comisiwn y Cynulliad:

  • Yn hybu, yn parchu ac yn gwerthfawrogi cyfle cyfartal ac amrywiaeth

  • Yn herio ac yn dileu aflonyddu a chamwahaniaethu

  • Yn cydnabod ac yn chwalu rhwystrau i gydraddoldeb

  • Yn ymddwyn fel sefydliad sy’n esiampl o gyflogwr da ac sy’n ddarparwr gwasanaeth hygyrch

  • Yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff ac yn cefnogi pob unigolyn i gyflawni ei botensial llawn

  • Yn anelu at sicrhau bod ein gweithlu’n gynrychioliadol o’n cymdeithas amrywiol

  • Yn ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad ledled Cymru

  • Yn hybu agweddau positif a pherthnasoedd da rhwng pob grwp o bobl

  • Yn derbyn model cymdeithasol anabledd, gan gydnabod mai’r rhwystrau a grëir gan gymdeithas sy’n creu anabledd, nid amhariad

Sut rydym yn bwriadu cyflawni ein gweledigaeth a hybu ein gwerthoedd:

  • Trwy roi ein Cynllun Cydraddoldeb a’n Cynllun Gweithredu a pholisïau ategol eraill ar waith a mynd ati i'w monitro

  • Trwy hyfforddi a chefnogi staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw â gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb perthnasol

  • Trwy gynnwys ein staff ac aelodau’r cyhoedd yn ein prosesau penderfynu ac asesiadau effaith

  • Trwy weithredu ar adborth ac awgrymiadau, lle bo’n briodol

Sut byddwn yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni hyn:

Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei adolygu pob tair blynedd, a byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a fydd yn manylu ar ein cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Bydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar yr Adroddiad hwn bob blwyddyn.

Partneriaid a Help