This is a Flash Object


6. Mynediad i’n Hadeiladau, ein Gwybodaeth a’n Trafodion

Mynediad i’n Hadeiladau

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi’i leoli yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd ac mae ganddo hefyd swyddfa ym Mae Colwyn.  Mae adeilad y Pierhead hefyd yn darparu swyddfeydd a lle i gynnal arddangosfeydd a chynadleddau i Gomisiwn y Cynulliad. Ceir ystafelloedd addysg hefyd yn Nhŷ Hywel, sy’n adnodd ar gyfer ysgolion sy’n ymweld.

Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe’i hagorwyd ar 1 Mawrth 2006. Mae yno siambr drafod, tair ystafell bwyllgor ac ardaloedd cyhoeddus eraill.

Comisiynwyd archwiliad mynediad annibynnol ar ddechrau 2006, a gwnaeth rai argymhellion a fyddai’n gwella ac yn cynyddu mynediad cyffredinol i’r adeilad ar gyfer pobl anabl.  Rhoddwyd llawer o’r argymhellion hynny ar waith eisoes ac mae eraill yn cael eu hystyried neu ar y gweill fel rhan o waith cynnal a chadw parhaus ar yr adeilad.

Yn ogystal, mae addasiadau i Dŷ Hywel yn cynnwys gwella mynediad ar gyfer staff anabl, Aelodau’r Cynulliad ac ymwelwyr â’r adeilad. Bydd addasiadau o’r fath hefyd yn gwella mynediad i bobl sydd ag anghenion o ran synhwyrau a/neu symudedd a rhieni â phlant ifanc. Bydd y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Rheoli Cyfleusterau, Ochr yr Undebau Llafur, y Swyddog Iechyd a Diogelwch, y Rhwydwaith Staff Anabl a’r Fforwm Defnyddwyr Anabl i gynyddu a gwella mynediad i'r holl adeiladau yn ystâd y Cynulliad Cenedlaethol.

Mynediad at Wybodaeth

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i sicrhau y darperir yr holl wybodaeth mewn modd sy’n hygyrch i holl Aelodau’r Cynulliad a’u staff, staff Comisiwn y Cynulliad a’r cyhoedd.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei wefan ei hun: h

ttp://www.cynulliadcymru.org/index.htm

Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ei fusnes a sut gall y cyhoedd chwarae rhan. Rydym yn croesawu adborth am ein gwefan ac yn gwneud addasiadau i’w gwneud yn fwy hygyrch lle bo angen.

Mae’r Cynulliad yn cynhyrchu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd mewn nifer mawr o fformatau gwahanol, gan gynnwys cyhoeddiadau, taflenni gwybodaeth i’r cyhoedd, llythyrau, dogfennau ymgynghori, y Rhyngrwyd ac adroddiadau ar fusnes y Cynulliad. Gellir sicrhau bod gwybodaeth ar gael, heb godi ffi, mewn ieithoedd eraill yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), Darllen Hawdd a fformatau hygyrch eraill, ar gais rhesymol. Cyhoeddir yr wybodaeth hon mewn copi caled ar ffurf dogfennau, mewn fformat electronig ac ar safle Rhyngrwyd y Cynulliad.  

Cyfathrebu a Chyhoeddiadau

Mae’r Tîm Cyfathrebu Allanol yng Nghomisiwn y Cynulliad yn datblygu dull o fynd ati i wneud cyfathrebu a chyhoeddiadau’n hygyrch.  Cyhoeddir hyn yn 2009 a bydd yn cynnwys protocol ar wybodaeth hygyrch.  

Fforwm Defnyddwyr Anabl

Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu ystafelloedd i Fforwm Defnyddwyr Anabl allanol. Mae’r Fforwm yn darparu gwybodaeth a chyngor hanfodol ar bolisïau newydd, polisïau sydd eisoes yn bodoli, darpariaeth gwasanaethau a gweithdrefnau, er mwyn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth a sicrhau bod ein gwasanaethau a’n hadeiladau’n hygyrch.  Pobl anabl o bob cwr o Gymru yw aelodau’r Fforwm, ac mae’n cynnwys trawsgynrychiolaeth o sefydliadau Anabledd ac unigolion.

Trafodion Hygyrch

Mae Datganiad Hygyrchedd ar gael ar wefan Comisiwn y Cynulliad.  Mae hwn hefyd ar gael ar ffurf copi caled oddi wrth y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad ac ar ddesgiau’r dderbynfa yn y Senedd a Thŷ Hywel.  

Lluniwyd y Datganiad Hygyrchedd i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth, tystion, a siaradwyr mewn pwyllgorau, Cyfarfodydd Llawn a holl gyfarfodydd Busnes y Cynulliad, a bydd yn galluogi unigolion i gyrchu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau y mae ein sefydliad yn eu darparu. Os oes unrhyw ofynion penodol y tu hwnt i ddarpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Datganiad Hygyrchedd, gwahoddir unigolion i drafod eu hanghenion â Llinell Archebu’r Cynulliad neu’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad a bodlonir pob cais rhesymol pa bryd bynnag y bo’n bosibl ac yn ymarferol.

Ymweliadau a Theithiau Tywysedig

Croesewir grwpiau o ymwelwyr sydd wedi archebu ymlaen llaw yn y Senedd a bydd Tywyswyr Teithiau’n eu tywys o amgylch yr adeilad. Gellir archebu’r teithiau ac ymweliadau ymlaen llaw a gellir darparu Lladmerydd BSL - gofynnir am 28 diwrnod o rybudd.  Mae rhai aelodau o’n staff ar y rheng flaen hefyd yn gallu defnyddio BSL i gyfarfod ag ymwelwyr a’u croesawu. Cynigir y cyfle i ddysgu BSL hefyd i holl staff Comisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad. Gosodwyd dolenni sain ar gyfer defnyddwyr cymhorthion clyw yn orielau cyhoeddus y Senedd.  Gosodwyd dolenni sain hefyd yn nesgiau’r derbynfeydd yn y Senedd, Tŷ Hywel, adeilad y Pierhead a swyddfa Bae Colwyn.   Adborth Mae Comisiwn y Cynulliad yn gwerthfawrogi adborth ac yn ei groesawu oddi wrth ein holl ddefnyddwyr gwasanaeth.  Mae’r Tîm Gwasanaethau Ymwelwyr yn ymateb i ymholiadau, sylwadau ac awgrymiadau y mae’n eu derbyn oddi wrth y cyhoedd, ymwelwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Senedd TV

Gellir hefyd gwylio trafodion yn y Senedd yn fyw ar y Rhyngrwyd yn http://www.senedd.tv

S4C2

Dangosir rhai o’r trafodion yn fyw ar y teledu ar S4C2.  Yna bydd y trafodion yn cael eu hailddarlledu wythnos yn ddiweddarach ar fore Mawrth, a rhoddir is-deitlau ar y fersiwn wedi’i recordio, ynghyd â lladmerydd BSL.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help