Atodiad 2
Geirfa
Anfantais / camwahaniaethu lluosog - Lle gall pobl fod dan anfantais neu lle gall fod camwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu bod yn perthyn i ddau neu fwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Er enghraifft, gallai merch anabl, ddu wynebu anfantais /camwahaniaethu lluosog.
Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb - Ffordd o adolygu gwaith (polisïau ac arferion) Comisiwn y Cynulliad i sicrhau nad oes unrhyw un dan anfantais.
Busnes y Cynulliad - Gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys pwyllgorau a chyfarfodydd llawn pob un o 60 Aelod y Cynulliad.
Canlyniadau - Canlyniadau dymunadwy camau a gynllunnir - yr hyn rydym am ei gyflawni.
Comisiwn y Cynulliad - Y sefydliad sy’n cefnogi rhedeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu’r eiddo, yr adnoddau a’r staff i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe’i harweinir gan y Llywydd a phedwar Aelod arall y Cynulliad.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Y gangen ddeddfwriaethol sy’n cynnwys pob un o 60 Aelod y Cynulliad. Ei rôl yw craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru (Y Weithrediaeth) a phasio deddfwriaethau.
Deddfwrfa - Y corff cynrychiadol â’r grym i greu a diwygio cyfreithiau ac i graffu ar y weithrediaeth.
Grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol - Y grwpiau hynny o bobl sydd, yn hanesyddol, wedi’u hymyleiddio o gyfranogiad democrataidd a/neu y gallent fod dan anfantais oherwydd eu bod yn perthyn i grŵp penodol. Maent yn cwmpasu’r chwe phrif faes cydraddoldeb: oedran; anabledd; rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd; hil; crefydd/credo; cyfeiriadedd rhywiol.
Gweithrediaeth - y gangen o'r llywodraeth sy’n gyfrifol am reoli polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ac sy’n cynnwys Prif Weinidog Cymru a’r Cabinet.
Lleiafrifoedd Ethnig/ o Dras Ethnig Leiafrifol - wrth ddefnyddio’r termau hyn rydym yn dilyn arweiniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Prif Weinidog Cymru a’r Cabinet, sy’n gyfrifol am ddatblygu polisi a chyflenwi gwasanaeth.
Llywydd - Y rôl sy’n cyfateb i rôl Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Prif swyddogaeth y Llywydd yw cadeirio sesiynau llawn y Cynulliad. Mae’r Llywydd hefyd yn gyfrifol am ddehongli’r rheolau sy’n llywodraethu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac am gadeirio Comisiwn y Cynulliad.