This is a Flash Object


Atodiad 4

Crynodeb o Ymatebion i’r Ymarfer Ymgynghori a Chynnwys

Wrth ddatblygu ein Cynllun, gwnaethom gynnwys staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw, a phobl Cymru. Gwnaethom dderbyn tystiolaeth ansoddol a meintiol, a gwelir crynodeb o hyn isod.

1. Canlyniadau ystadegol

Mewn ymateb i’r cwestiynau yn ein harolwg, dadansoddir yr atebion a ddarparwyd fel a ganlyn:

  • Ydych chi’n gwybod sut i ganfod gwybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru?

Ydw: 74%  Nac Ydw: 26%

  • Ydych chi wedi defnyddio’n gwefan?

Ydw: 44%  Nac Ydw: 56%

  • A ddylem ni gynhyrchu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill?

Dylech: 64%  Na Ddylech: 36%

  • Ydych chi’n gwybod sut i gysylltu ag Aelod Cynulliad?

Ydw: 55%  Nac Ydw: 45%

  • Ydych chi’n gweld ein swyddi’n cael eu hysbysebu’n rheolaidd?

Ydw: 34%  Nac Ydw: 66%

  • Ydych chi’n gwybod ei bod yn bosibl gwylio cyfarfodydd y Cynulliad?

Ydw: 65%  Nac Ydw: 35%

  • Ydych chi wedi gwneud hyn?

Ydw: 35%  Nac Ydw: 65%

  • Ydych chi’n gwybod y gellir gwylio cyfarfodydd ar y rhyngrwyd?

Ydw: 34%  Nac Ydw: 66%

  • Ydych chi’n gwybod am system ddeisebu’r Cynulliad?

Ydw: 28%  Nac Ydw: 72%

2. Adborth ansoddol oddi wrth grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dargedwyd

Buom yn gweithio gyda grwpiau lleiafrifoedd ethnig, sefydliadau a chynrychiolwyr i gasglu adborth ar hygyrchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mynediad at wybodaeth

  • Er bod cenhadon cymunedol yn ymwybodol o sut i ddod o hyd i wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol a sut i gysylltu ag Aelodau’r Cynulliad, nid oedd mwyafrif y bobl o dras ethnig leiafrifol a holwyd yn ymwybodol o hyn.

  • Roedd yna lawer o ymatebwyr nad oeddent yn meddu ar y rhyngrwyd na’r sgiliau i’w ddefnyddio. Roedd y rheiny a oedd wedi defnyddio ein gwefan wedi ei chael yn rhy ffurfiol neu'n rhy anodd i’w defnyddio.

  • Roedd croeso i’r wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol a oedd ar gael mewn ieithoedd cymunedol, ond roedd angen defnyddio mwy ar Saesneg clir yn holl ddogfennau’r Cynulliad.

  • Roedd angen mwy o waith allgymorth â phobl o dras ethnig leiafrifol i gynyddu dealltwriaeth o waith y Cynulliad Cenedlaethol ac i annog pobl i ymgeisio am swyddi yn y sefydliad.

  • Er bod rhai o’r ymatebwyr yn ymwybodol o gymorthfeydd AC lleol, nid oedd y mwyafrif ohonynt yn gwybod sut i gysylltu â’u Haelod Cynulliad. Mae llawer ohonynt yn gweld eu AC yn ystod ymgyrchoedd etholiad yn unig. Fodd bynnag, dywedodd rhai ymatebwyr yn Ne Ddwyrain Cymru fod Mohammed Asghar, AC, yn Aelod Cynulliad o dras ethnig leiafrifol gweladwy.

Mynediad at gyfleoedd cyflogaeth

  • Nid oedd mwyafrif y bobl yn gweld ein swyddi’n cael eu hysbysebu’n rheolaidd, na’n gwybod lle i edrych am swydd gyda’r sefydliad.

  • Nododd llawer o ymatebwyr yr angen am ddull wedi’i leoleiddio o drin hysbysebion swyddi, gan eu harddangos mewn amrywiaeth o gyfryngau’n cynnwys canolfannau cymunedol, swyddfeydd post, canolfannau gwaith, y wasg leol, cyhoeddiadau lleiafrifoedd ethnig, sefydliadau crefyddol.

  • Nodwyd bod diwrnodau agored, cynlluniau cysgodi, profiad gwaith a seminarau swyddi’n ffyrdd o annog mwy o bobl o dras ethnig leiafrifol i ymgeisio am swyddi.

  • Roedd ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chydraddoldeb cyfle yn ffactorau pwysig i annog pobl o dras ethnig leiafrifol i ymgeisio am swyddi.

  • Nodwyd bod yr angen i siarad Cymraeg, diffyg staff o dras ethnig leiafrifol gweladwy, yr angen am gymwysterau penodol, ffurflenni cais maith a chamwahaniaethu ac aflonyddu yn rhwystrau rhag ymgeisio am swydd yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mynediad at drafodion

  • Roedd rhai o’r ymatebwyr wedi gwylio busnes y Cynulliad yn y Senedd, ond nid oedd llawer yn ymwybodol y gallent wneud hynny, neu roeddent yn meddwl ei fod rhy anhygyrch.

  • Prin iawn oedd yr wybodaeth am weddarlledu neu’r system ddeisebu.

Mynediad i’n hadeiladau

  • Roedd yna rai ymatebwyr nad oeddent yn ymwybodol y gallent ymweld â’r Senedd, neu ei fod yn rhad ac am ddim, neu ei fod ar agor i ymwelwyr dros y penwythnos.

  • Nodwyd bod diffyg cyfleusterau gofal plant ac ystafell weddïo, ac anawsterau wrth barcio, yn rhwystrau rhag ymweld â’r Senedd.

3. Ymatebion oddi wrth ymatebwyr Anabl a sefydliadau Pobl Anabl

Mynediad at wybodaeth

  • Mae’r rheiny sydd eisoes wedi ymgysylltu â datganoli a’r Cynulliad wedi defnyddio’r wefan ac yn gwybod sut i ddod o hyd i wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd y rheiny nad oeddent wedi ymgysylltu yn ei chael yn fwy anodd dod o hyd i wybodaeth a gwahaniaethu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

  • Dylid gwneud y wefan yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cyfrifiadur sydd â nam ar eu golwg. Mae angen i’r wefan gael ei harchwilio’n annibynnol trwy ddefnyddwyr yn ei rhoi ar brawf at y diben hwn.

  • Nid yw’r wefan yn gwbl hygyrch i unigolion sydd wedi colli dau o’u synhwyrau.

  • Nid oes botwm hygyrchedd yn y prif benawdau.

  • Dylai gwybodaeth mewn ieithoedd eraill fod ar gael ar gais. Dylid hefyd defnyddio fformatau amgen, fel fformat hawdd i’w ddarllen, Braille a thâp/CD, yn fwy eang, a hybu hyn i’r cyhoedd.

  • Gellid gwneud y wefan yn fwy hygyrch pe bai mewn Saesneg cliriach neu hawdd ei ddarllen.

  • Dylai ACau mewn cymorthfeydd lleol a lleoliadau allgymorth eraill fod yn hygyrch bob amser. Gallai ACau ymweld â chartrefi pe bai angen.

Mynediad at gyfleoedd cyflogaeth

  • Mae’n anodd cyrraedd sectorau o’r gymuned anabl trwy ddulliau recriwtio traddodiadol. Mae yna lawer nad ydynt yn gweld ein swyddi’n cael eu hysbysebu’n rheolaidd.

  • Mae’n anodd gwelywio trwy'r adran swyddi ar y wefan.

  • Gallai’r Cynulliad hysbysebu swyddi trwy sefydliadau cynrychiadol a allai ddosbarthu gwybodaeth am swyddi gwag trwy eu rhwydweithiau. Gellid hefyd hysbysebu swyddi trwy gyhoeddiadau sy’n benodol i bobl anabl.

  • Nodwyd bod ymrwymiad i arferion recriwtio hygyrch a theg, staff wedi’u hyfforddi’n effeithiol, rhoi cyhoeddusrwydd i bolisïau sy’n ymwneud ag addasiadau rhesymol ac arferion gweithio hyblyg yn ffactorau pwysig i annog ceisiadau.

  • Mae cynllun gwarantu cyfweliad i bobl anabl hefyd yn annog ceisiadau.

  • Roedd rhai ymatebwyr yn ofni y byddai eu hanabledd yn eu hatal rhag cael swydd yn y sefydliad.

  • Gallai Comisiwn y Cynulliad hefyd ddefnyddio’r cynllun Mynediad at Waith yn fwy eang, a rhoi cyhoeddusrwydd i hyn.

  • Byddai o fudd hybu lleoliadau gwirfoddol a phrofiad gwaith.

Mynediad at drafodion

  • Er bod rhywfaint o ymwybyddiaeth o’r gallu i arsylwi ar gyfarfodydd y Cynulliad, prin oedd y rhai a oedd wedi manteisio ar hyn.

  • Nid oedd llawer o bobl yn ymwybodol o weddarlledu neu’r system ddeisebu. Roedd y rheiny a oedd wedi defnyddio weddarlledu o’r farn y byddai arwyddo, isdeitlau a disgrifiadau sain o fudd.

Mynediad i’n hadeiladau

  • Mae nifer o ymatebwyr wedi canmol hygyrchedd y Senedd, er i lawer nodi problemau parhaus, yn enwedig ar y grisiau allanol.

  • Mae yna ddiffyg llwybrau botymog, sy’n ei gwneud yn anodd i bobl â nam ar eu golwg wneud eu ffordd trwy leoedd agored mawr. Fodd bynnag, mae staff y Cynulliad bob amser yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar.

  • Gallai cynllun neu fodel cyffyrddadwy o’r Senedd helpu pobl â nam ar eu golwg gael cysyniad o’r adeilad a gosodiad yr ardaloedd cyhoeddus.

  • Nid yw mynediad pobl anabl i’r adeilad wedi’u marcio’n glir.

  • Dylid bod â thoiledau hygyrch ar lefel y caffi.

4. Sylwadau Eraill a Godwyd trwy’r Ymarfer Cynnwys

Mynediad at wybodaeth

  • Er bod rhai pobl yn ei chael yn hawdd gwelywio trwy’r wefan i ddod o hyd i wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol, roedd eraill yn ei chael yn gymhleth i’w defnyddio neu i ddod o hyd i wybodaeth roeddent yn chwilio amdani, gan awgrymu categoreiddio gwybodaeth yn well (h.y. A i Y) a pheiriant chwilio gwell.

  • Mae’r wefan yn hynod brysur, gyda llawer o wybodaeth ar bob tudalen. Mae naws y wefan yn rhy "sych”.

  • Gwnaeth rhai ymatebwyr feirniadu’r ffont a ddefnyddir ar y wefan, gan ddweud ei fod yn ddryslyd ac nad oedd yn ddigon eglur neu fawr.

  • Weithiau nid yw chynnwys fideo a ffrydio fideo ar-lein yn gweithio.

  • Mae angen cael rhai cyhoeddiadau, fel arweiniad i’r Cynulliad, mewn ieithoedd yn hytrach na’r Gymraeg a’r Saesneg. Dylai cyhoeddiadau eraill fod ar gael mewn fformatau amgen ac mewn ieithoedd eraill ar gais. Codwyd materion yn ymwneud a rhesymoldeb a chost.

Mynediad at gyfleoedd cyflogaeth

  • Dylid hysbysebu swyddi mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol (Cymru a’r DU), dylent fod yn haws i ddod o hyd iddynt ar wefan y Cynulliad, a dylent fod mewn cyhoeddiadau mwy amrywiol ac mewn prifysgolion a cholegau.

  • Dylid hybu buddiannau a pholisïau cyflogaeth (fel gweithio hyblyg, gweithio rhan-amser a gweithio gartref) i annog ceisiadau.

  • Bydd Cynllun Cydraddoldeb aml-faes yn galluogi Comisiwn y Cynulliad i weithio i recriwtio gweithlu amrywiol.

  • Dylai Comisiwn y Cynulliad weithio gyda sefydliadau cynrychiadol i fynd i’r afael â chynrychiolaeth annigonol yn y gweithlu.

  • Byddai camwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb yn annog pobl i beidio ag ymgeisio am swyddi, ac felly hefyd yr angen canfyddedig i siarad Cymraeg.

  • Dywedodd nifer o ymatebwyr eu bod yn teimlo y byddai’r ffaith eu bod yn hŷn yn eu hatal rhag cael eu cyflogi yng Nghomisiwn y Cynulliad.

  • Ystyriwyd bod y ffurflen gais "hir a chymhleth” yn rhwystr i ymgeiswyr.

Mynediad at drafodion

  • Er mai bach yw’r ymwybyddiaeth o weddarlledu ar y cyfan, roedd llawer o’r rheiny a oedd wedi arsylwi ar gyfarfodydd, naill ai yn y Senedd ei hun, ar y teledu neu ar y rhyngrwyd, wedi eu cael yn hygyrch, yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol.

  • Weithiau ceir oedi cyn i Fusnes y Cynulliad ymddangos ar y rhyngrwyd.

  • Bydd ymgysylltu mwy â sefydliadau’r trydydd sector yn cynyddu ymgysylltiad â’r broses wleidyddol.

  • Mae’r iaith a ddefnyddir ym Musnes y Cynulliad yn rhy ffurfiol, ac nid yn Gymraeg/Saesneg clir.

Mynediad i’n hadeiladau

  • Mae angen mwy o waith allgymorth sy’n targedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol neu grwpiau nad ydynt wedi ymgysylltu’n ddigonol. Er enghraifft, er mwyn gwneud digwyddiadau’r Cynulliad yn fwy hygyrch, dylid eu cynnal ar amseroedd pan mae merched yn ei chael yn haws eu mynychu, felly mae digwyddiadau a gynhelir ar ôl 10am a chyn 3pm yn fwy tebygol o ddenu merched. Dylai digwyddiadau fod yn hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, a dylai cyfleusterau newid clytiau babanod a meithrinfeydd fod ar gael.

  • Mae angen ei gwneud yn fwy amlwg lle mae mynedfa’r Senedd. Mae’r fynedfa’n anodd i’w gweld o’r tu allan. Mae angen gwell arwyddion, efallai ar ffurf enw ar ochr yr adeilad.

  • Gallai defnyddio gwybodaeth/cyflwyniadau clyweledol fod o fudd i’r adeilad.

  • Dylid hybu gwasanaethau ymwelwyr i bobl Cymru.

5. Ymatebion a Gadwyd mewn Ystyriaeth wrth Lunio ein Cynllun Gweithredu

Mae llawer o’r materion a godwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi cael sylw yn ein Cynllun Gweithredu. Mae’r codau isod (A6, C4, G1 ac ati) yn cyfeirio at yr amcan cyfatebol a’r camau gofynnol yn y Cynllun.

  • Gwaith allgymorth ac ymwybyddiaeth gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau nad ydynt wedi ymgysylltu’n ddigonol

  • Gweler Camau A6, A9, C1, C3, C4, C6, C7, C8

  • Cynhyrchu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill lle bo angen

  • Gweler Cam C8

  • Gwneud y wefan yn hygyrch ac yn rhwydd i'w defnyddio, gan ystyried adborth defnyddwyr

  • Gweler Camau D1, D3

  • Hysbysebu swyddi gwag a hybu polisïau cyflogaeth i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, gan gynnwys yr angen i chwalu’r canfyddiad bod yn rhaid i bobl allu siarad Cymraeg i weithio yn ein sefydliad sy’n gweithredu ar sail ddwyieithog

  • Gweler Camau A9, B1, C1, C9, B6, B11

  • Gwella ymwybyddiaeth staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw o amrywiaeth ddiwydiannol ac anghenion gwahanol.

  • Gweler Camau A7, A8, B2, G1

  • Bod â pholisïau effeithiol i ddelio â bwlio, aflonyddu a chamwahaniaethu

  • Gweler Cam B3

  • Sicrhau bod ein hadeiladau’n hygyrch

Gweler Camau C4, C5, F1, F3

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help