This is a Flash Object


2. Cyd-destun Deddfwriaethol

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu’n unol â deddfwriaeth Cydraddoldeb, sy’n cynnwys dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus o ran anabledd, rhywedd a hil. Nod y Cynllun Cydraddoldeb hwn yw bodloni’r gofynion y manylir arnynt dan y dyletswyddau. Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymestyn y gweithredu hwn i gynnwys oedran, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol, ac mae wedi cynnwys y meysydd hyn yn y Cynllun.

Fodd bynnag, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y corff deddfwriaethol) wedi’i eithrio rhag y dyletswyddau hyn, ond er hynny mae’n ymdrechu i sicrhau ei fod yn gweithredu â dull o drin cydraddoldeb a hawliau dynol sy’n dilyn arfer gorau. Mae’r Cynllun hwn yn rhagflaenu cyflwyno Mesur Cydraddoldeb Sengl a Deddf ddilynol gan Lywodraeth y DU.

Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae’r gofynion ar gyfer pob un o’r dyletswyddau cydraddoldeb o ran anabledd, rhywedd a hil wedi’u rhestru isod.

Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl

Mae’n rhaid i’n sefydliad ystyried yn briodol gofynion canlynol y ddyletswydd cydraddoldeb i bobl anabl:

  • Dileu camwahaniaethu anghyfreithlon

  • Dileu aflonyddu ar bobl anabl sy’n ymwneud â’u hanableddau

  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl anabl ac eraill

  • Cymryd camau i ystyried anableddau pobl anabl, hyd yn oed pan fo hynny’n golygu eu trin yn fwy ffafriol nag eraill

  • Hybu agweddau positif tuag at bobl anabl

  • Annog pobl anabl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus

Dyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol

Mae’n rhaid i’n sefydliad ystyried yn briodol gofynion canlynol y ddyletswydd cydraddoldeb rhywiol:

  • Dileu camwahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw (hefyd ar sail ailbennu rhywedd)

  • Dileu aflonyddu anghyfreithlon (hefyd ar sail ailbennu rhywedd)

  • Hybu cyfle cyfartal rhwng dynion a merched

Dyletswydd Cydraddoldeb Hiliol

Mae’n rhaid i’n sefydliad ystyried yn briodol gofynion canlynol y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol:

  • Dileu camwahaniaethu anghyfreithlon

  • Hybu cyfle cyfartal

  • Hybu perthynas dda rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol

Deddf Hawliau Dynol 1998

Mae Adran 6(1) y Ddeddf Hawliau Dynol yn ei gwneud yn anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy'n mynd yn groes i’r hawliau y mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn eu diogelu. Mae’n ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus sicrhau eu bod yn gweithredu, neu’n peidio â gweithredu, mewn modd sy’n amddiffyn unigolion neu gyrff preifat rhag ymyriad ar eu hawliau. Mae parch tuag at egwyddorion hawliau dynol wedi’i ymgorffori yn y Cynllun Cydraddoldeb hwn drwyddo draw. Mae Comisiwn y Cynulliad yn sicrhau bod egwyddorion hawliau dynol wrth wraidd ein gwaith a’n hethos trwy, er enghraifft, eu cadw mewn ystyriaeth yn ein proses asesu effaith ar gydraddoldeb a’n rhaglen codi ymwybyddiaeth/hyfforddiant staff.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 bod Comisiwn y Cynulliad yn gwneud trefniadau priodol i sicrhau bod ei swyddogaethau’n cael eu gweithredu gydag ystyriaeth briodol i’r egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Mae hefyd yn ofynnol o dan y Ddeddf bod trafodion y Cynulliad yn cael eu cynnal gydag ystyriaeth briodol i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu fel sefydliad dwyieithog, ac mae ganddo Gynllun Gweithredu a Chynllun Iaith Gymraeg ar wahân sy’n cwmpasu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac a wnaed yn unol ag adran 21 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. O ystyried y trefniadau hyn, nid oes cysylltiad rhwng y Cynllun Cydraddoldeb a’i Gynllun Gweithredu a’r Cynllun Iaith Gymraeg, sydd â threfniadau monitro ac adrodd penodol sy’n wahanol i’n Cynllun Cydraddoldeb.  Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn nodi y dylid sicrhau cyfle cyfartal rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn y Cynulliad. Sicrheir hyn trwy ein huchelgeisiau a’n hamcanion fel y manylir arnynt yn ein Cynllun Iaith Gymraeg a’n Cynllun Gweithredu.

Mae’r Uned Gorfforaethol hefyd yn goruchwylio trefniadau rhoi’r Cynllun Gweithredu a’r Cynllun Iaith Gymraeg ar waith a’u monitro, sydd hefyd yn cael eu cadw mewn ystyriaeth mewn trefniadau cynllunio corfforaethol.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help