This is a Flash Object


9. Llwyddiant wrth Hybu Cydraddoldeb

Er mwyn bod yn sefydliad sy’n esiampl dda, bydd ein Cynllun Cydraddoldeb yn parhau i ddatblygu wrth i heriau ddod i’r amlwg. Fodd bynnag, mae gan Gomisiwn y Cynulliad nifer o lwyddiannau diweddar wrth hybu cydraddoldeb ac arddangos arfer da, ac mae’r adran hon yn dwyn sylw at rai o’r rhain.

Cynlluniau Cydraddoldeb

Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb Hiliol ei gymeradwyo yn 2005. Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb Anabledd a’r Cynllun Gweithredu eu cymeradwyo fis Rhagfyr 2006, a chafodd Cynllun drafft Cydraddoldeb Rhywiol ei baratoi yn ystod haf 2007. Mae’r Cynlluniau hyn wedi’u hadolygu ac mae camau sy’n weddill wedi’u cynnwys yn y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Sefydlu Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Sefydlwyd y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad fis Mai 2007, ac mae’n gweithio gyda chydweithwyr ledled y sefydliad i sicrhau bod materion cydraddoldeb a hawliau dynol yn dod yn rhan o brif ffrwd gwaith Comisiwn y Cynulliad.

Rhwydweithiau Staff

Mewn ymdrech i gynyddu’r cymorth sydd ar gael i staff anabl ac aelodau staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, rydym wedi sefydlu rhwydweithiau mewnol. Diben y grwpiau hunanreoledig yw cefnogi staff, codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth ar gyfer datblygu polisïau a gweithdrefnau corfforaethol. Rydym hefyd yn gobeithio sefydlu rhwydwaith ar gyfer staff o dras ethnig leiafrifol.

Codi ymwybyddiaeth o faterion a digwyddiadau sy’n ymwneud â chydraddoldeb

Mae nifer o erthyglau’n ymwneud â chydraddoldeb wedi ymddangos ar dudalen newyddion y fewnrwyd ac yng nghylchlythyr y staff, 'Y Llechen’.

Dosbarthiadau a digwyddiadau Iaith Arwyddion

Eicon Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Prydain (BSL)

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi sicrhau addysg BSL,codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i’n
staff. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o BSL amaterion sy’n effeithio ar bobl sydd â nam ar eu clyw.

Monitro

Fis Medi 2008, gwnaethom gynnal arolwg cydraddoldeb staff i broffilio ein gweithlu o bersbectif cydraddoldeb, a gwnaethom gasglu data ystadegol ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb. Rhoddodd yr arolwg gyfle hefyd i nodi unrhyw faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a allai effeithio ar staff.

Gwesteio digwyddiadau

Mae’r Senedd a Thŷ Hywel wedi gwesteio nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud â chydraddoldeb, gan gynnwys lansio adroddiadau, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a digwyddiadau dathlu i grwpiau cynrychioladol ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb. Yn anad dim, fe westeiodd Comisiwn y Cynulliad seminar Rhwydwaith Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru fis Awst 2008, ar thema 'Sicrhau Amrywiaeth Cyflenwyr’. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant gan mai dyma oedd y seminar Rhwydwaith â’r nifer mwyaf yn bresennol yng Nghymru hyd yma ac, yn bwysig, rhoddodd gyfle i rwydweithio a rhannu arfer gorau rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Recriwtio ac Allgymorth sy’n Targedu Pobl o Dras Ethnig Leiafrifol Rydym wedi datblygu mentrau i wneud mwy o waith recriwtio ac allgymorth sy’n targedu pobl o dras ethnig leiafrifol, gan gynnwys secondio gweithiwr o sefydliad sector preifat sy’n cynghori ar sut i wella ein cysylltiadau â phobl o dras ethnig leiafrifol; lleoliadau gwaith o ysgolion sydd â niferoedd mawr o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol; a hysbysebu swyddi allanol yng Nghanolfan Fenter De Caerdydd, sydd â sail cwsmeriaid sy’n dod yn bennaf o blith pobl o dras ethnig leiafrifol. Rydym hefyd wedi trefnu teithiau a sesiynau briffio i gyd-fynd ag unrhyw gynlluniau recriwtio mawr i annog ceisiadau.

Adolygiad Allanol o’n Harferion Recriwtio ac Effaith y rhain ar Gynyddu Cynrychiolaeth Pobl o Dras Ethnig Leiafrifol yn ein Gweithlu

Roedd yr adolygiad yn cynnwys dadansoddi polisïau ac arferion presennol yng Nghomisiwn y Cynulliad, a gwneud argymhellion a fyddai’n arwain at ganlyniadau ystyrlon y gellir eu mesur a chynyddu cynrychiolaeth pobl o dras ethnig leiafrifol yn ein gweithlu. Mae’r argymhellion hyn yn cael eu hystyried yn barhaus.

Cynllun Cysgodi Aelodau’r Cynulliad Ymgyrch y Bleidlais Ddu

Rhai a gymerodd ran yng nghynllun ‘Operation Black Vote’ i gysgodi Aelod Cynulliad

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweinyddu cynllun cysgodi Aelodau’r Cynulliad lle bu pobl Dduon, pobl Asiaidd a phobl o dras ethnig leiafrifol yn cysgodi Aelodau’r Cynulliad. Bu’r Cynllun yn llwyddiant ysgubol, gyda chyfranogion yn parhau i ddatblygu’u gyrfaoedd gwleidyddol, boed ar lefel gymunedol, awdurdod lleol, y Cynulliad Cenedlaethol neu San Steffan. Enillodd y Cynllun hefyd Wobr Democratiaeth Cymdeithas Hansard yn Seremoni Gwobrau Gwleidyddol Sianel 4.  Rydym wrthi ar hyn o bryd yn pennu cwmpas Cynllun Mentora aml-faes y Cynulliad a Llywodraeth Leol.

Prosiect Rhyngrwyd Cydymffurfioâ Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, a’i Hygyrchedd

Eicon cydymffurfiaeth AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) Eicon cymeradwy XHTML 1.0

Mae’r contract newydd a ddyfarnwyd ar gyfer ein safle Rhyngrwyd yn sicrhau
bod cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac ystyriaethau hygyrchedd yn hollbwysig.
Bydd archwiliad allanol o hygyrchedd ein gwefan yn cael ei gynnal i sicrhau ei bod yn parhau i ddiwallu
anghenion ein defnyddwyr.

Addasiadau’n ymwneud â Mynediad yn y Senedd

Ailarchwiliwyd yr Adroddiad gwreiddiol ar Fynediad i’r Senedd ac rydym wedi ystyried adborth oddi wrth aelodau anabl o’r cyhoedd sydd wedi ymweld â’r Senedd.  Rydym yn cydweithio â phenseiri’r adeilad ac ymgynghorwyr mynediad er mwyn symud ymlaen â chamau i wella mynediad i’r adeilad.

Safonau Meincnodi

Nod Comisiwn y Cynulliad yw cael gweithlu mwy amrywiol. Gan ddefnyddio symbolau safonau meincnodi ar hysbysebion swyddi a ffurflenni cais, gallwn ddangos ein bod yn croesawu ceisiadau oddi wrth bawb yng Nghymru. Rydym wedi ennill y safonau a ganlyn:

Eicon ‘Tic Dwbl’ AnableddEicon Hyrwyddwr Cyflogwr Cadarnhaol o ran Oedran (Age Positive)Eicon Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall

Rydym yn ceisio ennill safonau ar gyfer y meysydd cydraddoldeb eraill i ddangos ymhellach ein hymrwymiad i gydraddoldeb.

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle a Chanllaw Recriwtio 'Starting Out’ Stonewall

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi’i gynnwys yn 'Starting Out - Lesbian and Gay Recruitment Guide’ Stonewall. Nod y Canllaw yw cynghori myfyrwyr a’r rheiny sy’n dymuno newid eu gyrfa a rhoi gwybod iddynt am gyflogwyr hoyw-gyfeillgar.

Gwnaethom dderbyn sgôr galonogol ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2008, ac rydym eisoes wedi rhoi camau ar waith i wella ein safle yn y blynyddoedd i ddod.

Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyngseneddol

Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn sefydlu rhwydwaith cydraddoldeb rhyngseneddol ac yn gweithio gyda chymheiriaid mewn gweinyddiaethau eraill y DU i drafod arfer gorau a’i rannu.

Fforwm Defnyddwyr Anabl

Rydym wedi sefydlu cysylltiad â grŵp o ddefnyddwyr gwasanaeth anabl ledled Cymru sy’n ein helpu i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n hybu cyfle cyfartal i bobl anabl.

Diwrnod y Gymanwlad

Bob blwyddyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwesteio digwyddiad i nodi Diwrnod y Gymanwlad. Mae disgyblion a myfyrwyr rhyngwladol o bob cwr o Gymru’n mynychu i gymryd rhan mewn dadleuon, perfformiadau ac arddangosfeydd sy’n dathlu cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help