This is a Flash Object


3. Datblygiad ein Cynllun

Pam Cynllun Cydraddoldeb Sengl?

Nod y Cynllun Cydraddoldeb sengl hwn yw sicrhau buddion a chanlyniadau positif a chyfartal i’n staff ac aelodau’r cyhoedd. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb hwn yn canolbwyntio ar y meysydd cydraddoldeb a ganlyn: oedran, anabledd, rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd/credo a thueddfryd rhywiol.

Adeg ysgrifennu hwn, nid oes unrhyw ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ar waith i roi sylw i oedran, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol, er bod deddfwriaeth cydraddoldeb arall yn rheoli’r meysydd hyn.  Felly rydym yn dymuno rhoi’r un flaenoriaeth i’r meysydd cydraddoldeb hyn, lleihau’r posibilrwydd o gamwahaniaethu lluosog a rhagflaenu’r darpariaethau yn y Mesur Cydraddoldeb Sengl.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal cynnwys grwpiau eraill sydd dan anfantais yn ein Cynllun a pholisïau eraill lle bo’n briodol.

Ymgynghori a Chynnwys i Gasglu Tystiolaeth

Mae ymgynghori a chynnwys yn bwysig inni. Rydym wedi cynnwys ac ymgynghori â chynifer o bobl â phosibl o gefndiroedd amrywiol â gwahanol ofynion wrth ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb, gan gynnwys staff, Aelodau’r Cynulliad ac aelodau’r cyhoedd. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio grwpiau ffocws, trwy negeseuon e-bost i godi ymwybyddiaeth, trwy ein tudalennau gwe a thrwy gysylltu’n uniongyrchol â staff. Ymhlith gwybodaeth arall a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu’r Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu oedd monitro data recriwtio a chyflogaeth a chanlyniadau ein harolwg monitro cydraddoldeb staff (gweler pennod pedwar).

Cynnwys Aelodau’r Cyhoedd

Fe wnaethom hyn trwy:

  • Redeg ymgynghoriad ar-lein er mwyn i staff ac aelodau’r cyhoedd roi sylwadau ar y blaenoriaethau cydraddoldeb (canlyniadau a chamau) roedd ein sefydliad wedi’u nodi. Rhannwyd yr wybodaeth yn eang ac roedd ar gael mewn fformatau amgen ac mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Darparodd canlyniadau hyn sail i ddatblygiad y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu

  • Anfon post torfol i lyfrgelloedd ledled Cymru ac at sefydliadau cymunedol sy’n cynrychioli pob un o’r meysydd cydraddoldeb, gan wahodd sylwadau i’w hystyried

  • Casglu adborth ac awgrymiadau oddi wrth ymwelwyr ag Adeilad y Senedd a’r Cynulliad

  • Gweithio â chysylltiadau mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i gasglu tystiolaeth a barn ynghylch sut gallwn wella ein gwasanaethau

  • Rhoi cyhoeddusrwydd i’r ymgynghoriad mewn sefydliadau cymunedol ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb; oedran, anabledd, rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd/credo, cyfeiriadedd rhywiol

  • Ymgysylltu â’r cyhoedd mewn digwyddiadau yn y gymuned

Cynnwys y Staff

Gofynnwyd i feysydd gwasanaeth yn ein sefydliad nodi eu canlyniadau cydraddoldeb blaenoriaethol a’r camau y byddai angen iddynt eu cymryd i gyflawni’r canlyniadau hyn. Cafodd canlyniadau’r ymarfer hwn eu cynnwys yn ein dogfen ymgynghori gyhoeddus.

Cynhaliwyd grwpiau ffocws staff i drafod materion penodol yn ymwneud â’r gweithlu a sut gallem o bosibl nodi meysydd lle rydym yn effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau, a lle gallem o bosibl wella hefyd. Roedd holiadur ar ffurf e-bost ar gael i’r holl staff roi eu sylwadau a’u barn. Mae canlyniadau o’r holiadur hwn wedi’u hymgorffori yn y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Rhoddodd ein Rhwydwaith Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a’n Rhwydwaith Staff Anabl adborth inni, a chyfrannu at ddatblygiad y Cynllun. Ceisiwyd barn staff o dras ethnig leiafrifol trwy ymgynghori mewnol, ac rydym yn rhagweld y bydd rhwydwaith staff yn cael ei sefydlu i’w cefnogi.

Darparodd ein Grŵp Llywio Cydraddoldeb ffynhonnell werthfawr o adborth ar faterion cydraddoldeb a datblygiad y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Gwnaeth y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad hefyd gofnodi awgrymiadau oddi wrth staff yn ystod y cyfnod ymgynghori, a chasglu adborth oddi wrth staff ar secondiad o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Cynnwys Ochr yr Undebau Llafur (TUS)

Bu Undebau Llafur y Cynulliad yn ymwneud â datblygu a chreu fersiwn derfynol y Cynllun. Mae TUS yn bendant yn cefnogi dull Comisiwn y Cynulliad o fynd ati i gyflawni’i amcanion cydraddoldeb, gan gydnabod bod angen ymgynghori ar unrhyw flaenoriaethau a nodir a allai effeithio ar staff a, lle bo'n briodol, cytuno ar newidiadau i delerau neu amodau staff.

Aelodau’r Cynulliad a’u Staff

Gwahoddwyd aelodau i ymateb i holiadur byr ar ffurf e-bost, rhoi adborth yng nghyd-destun y gwasanaeth a ddarperir iddynt a dweud sut gall Comisiwn y Cynulliad fod yn sefydliad sy’n esiampl dda wrth hybu hawliau dynol a chydraddoldeb. Ystyriwyd awgrymiadau wrth ddatblygu’r Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad hefyd yn cael adborth rheolaidd oddi wrth Gomisiwn y Cynulliad ar ei flaenoriaethau o ran cydraddoldeb. Mae Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad hefyd yn craffu ar gynnydd Comisiwn y Cynulliad wrth gyflawni’i amcanion cydraddoldeb, ac mae’n rhoi adborth yn ei gyfarfodydd.

Cynnwys Pobl Anabl wrth Ddatblygu’r Cynllun

Rydym wedi ystyried awgrymiadau oddi wrth staff anabl ac ymwelwyr anabl â’r Senedd ynghylch sut gallem wella mynediad corfforol a mynediad at wybodaeth a chyfranogiad. Mae’r rhain wedi’u hymgorffori yn ein Cynllun Gweithredu.

Mae ein Fforwm Defnyddwyr Anabl allanol sydd newydd ei sefydlu’n cynnwys pobl anabl o bob cwr o Gymru, ac mae’n gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer materion yn ymwneud â mynediad a hybu cydraddoldeb i bobl anabl.

Cynnwys Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig wrth Ddatblygu’r Cynllun

Adeg datblygu’r Cynllun, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cymryd rhan mewn cynllun cysgodi Aelodau’r Cynulliad gydag Ymgyrch y Bleidlais Ddu. Gwahoddwyd cyfranogwyr o grwpiau pobl Dduon, pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i roi sylwadau ar y Cynllun a’i ddatblygiad a gwnaethom ofyn sut gallem ymgysylltu â phobl o dras ethnig leiafrifol, ehangu cyfranogiad a denu cyflogeion posibl. Rydym yn ddiolchgar i’r cyfranogwyr am rannu ein gwybodaeth ymhlith eu grwpiau lleiafrifoedd ethnig lleol ac am ddod â gwybodaeth yn ôl atom. Aethom hefyd â chopïau wedi’u cyfieithu o’n dogfen ymgynghori i nifer o grwpiau lleiafrifoedd ethnig gan wahodd sylwadau. Mae awgrymiadau wedi’u hymgorffori yn y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Ar hyn o bryd, rydym yn pennu hyd a lled Cynllun Mentora’r Cynulliad ac Awdurdodau Lleol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan adeiladu ar ein profiad o gynnal Cynllun Cysgodi Ymgyrch y Bleidlais Ddu.

Monitro Adborth

Rydym yn monitro ceisiadau am fformatau hygyrch o wybodaeth, yn monitro gwybodaeth am archwiliadau hygyrchedd ac yn monitro gweithgareddau rhoi cyfarpar a chyfleusterau presennol a newydd ar brawf gyda’r defnyddwyr. Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad hefyd yn cael adborth oddi wrth ymwelwyr a staff ar bolisïau a gwasanaethau, gan gynnwys sylwadau oddi wrth ymwelwyr â’r Senedd.

Mae gennym hefyd system ffurfiol ar waith i ddelio â chwynion. Mae’r holl gwynion yn cael eu monitro ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella ein harferion gweithio lle bo’n briodol.

Tystiolaeth o Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb

Mae polisïau, strategaethau a gweithdrefnau’n cael eu hasesu o safbwynt effaith ar gydraddoldeb, a defnyddir tystiolaeth o’r broses hon i ddatblygu, dileu neu newid polisi neu strategaeth.

Adolygu ein Cynlluniau Blaenorol ar Gydraddoldeb o ran Rhywedd, Hil ac Anabledd

Mae camau perthnasol a pharhaus o’n cynlluniau blaenorol ar gydraddoldeb o ran rhywedd, hil ac anabledd wedi'u hadolygu a'u hymgorffori yn ein Cynllun Gweithredu.

Wrth adolygu’r cynlluniau blaenorol, gwnaethom nodi’r angen yn y dyfodol i ganolbwyntio ar ein camau a’n canlyniadau cydraddoldeb blaenoriaethol allweddol.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help