Cyfarwyddiaethau

Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys tair cyfarwyddiaeth a gefnogir gan Uned Gorfforaethol ac mae pob un yn atebol i’r Prif Weithredwr. Mae'r rhan hon yn nodi cyfrifoldebau pob cyfarwyddiaeth.

Cyfarwyddiaeth Busnes

Mae Cyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad yn darparu cymorth seneddol arbenigol i Aelodau er mwyn sicrhau bod busnes yn cael ei gynnal yn effeithiol ac effeithlon. Mae’r gyfarwyddiaeth yn cynnwys Gwasanaeth y Pwyllgorau; Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth; Y Gwasanaeth Ymchwil; a’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Seneddol. Busnes y Cynulliad
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn darparu’r gwasanaethau canlynol: Cyngor ar Filiau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol; Cyngor ar gwmpas pwerau'r Cynulliad; Craffu ar Is-ddeddfwriaeth; Cyngor cyffredinol ar faterion cyfreithiol; a Cyngor Corfforaethol. Y Gwasanaethau Cyfreithiol
P S G - Ystad y Cynulliad

Mae gan gyfarwyddiaeth y Prif Swyddog Gweithredu gyfrifoldeb am: Adnoddau Dynol; Cyllid; Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu; Rheoli Ystadau a Chyfleusterau; Diogelwch; Cynllunio Corfforaethol; Rheoli Newid a Rhaglenni. Prif Swyddog Gweithredol
|

Y Bwrdd Rheoli

|

Mae’r Bwrdd Rheoli yn cynnwys Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y tri Chyfarwyddwr ac wyth pennaeth y gwahanol feysydd cyfrifoldeb yn y Cynulliad. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob mis a’r Prif Weithredwr sy’n cadeirio’r cyfarfodydd. Y Gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau sy’n rhoi cymorth ysgrifenyddol i’r Bwrdd.  

Y Bwrdd Rheoli

|

Y Gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau

|
Mae’r Gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau  yn darparu ysgrifenyddiaeth a chymorth i’r Llywyddion, Comisiwn y Cynulliad, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr, y Comisiynydd Safonau, y Bwrdd Taliadau a Chymorth Busnes i’r Aelodau ac mae’n darparu gwasanaeth cyswllt i’r Aelodau a’u staff ac yn cydgysylltu cyfleoedd iddynt ddatblygu’n broffesiynol.  Y Gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau
|

Cyfathrebu

|

Y tîm Cyfathrebu sy'n gyfrifol am arwain gwaith cyfathrebu mewnol ac allanol y Cynulliad Cenedlaethol.

Cyfathrebu

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Amdanon Ni
  3. Y Comisiwn a gweinyddiaeth y Cynulliad
  4. Y Cyfarwyddiaethau

Partneriaid a Help