Cyfathrebu
Y tîm Cyfathrebu sy'n gyfrifol am arwain gwaith cyfathrebu mewnol ac allanol y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’n gyfrifol am y canlynol:
darparu fframwaith strategol ar gyfer gwaith cyfathrebu y Cynulliad;
cefnogi swyddogaethau cyhoeddus y Llywydd, y Dirprwy Lywydd a’r Comisiynwyr;
cysylltiadau â’r wasg a’r cyfryngau darlledu ac ar-lein;
gweithredu strategaeth e-ddemocratiaeth y Cynulliad;
rheoli cyhoeddiadau corfforaethol a deunydd marchnata;
gweithredu gwasanaethau allgymorth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol;
gweithredu rhaglen digwyddiadau corfforaethol y Cynulliad;
gweithrediad gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad;
cydlynu ymatebion i geisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
a cyfathrebu mewnol.
