Camu Ymlaen Cymru Mentereion - Diana Ellis
Mentoriaid, Cllr Lindsay Whittle

Tachwedd
Hoffwn ddiolch i’r tîm Camu Ymlaen am ganiatáu i mi fod yn rhan o’r cynllun hwn, oherwydd hebddo efallai na fyddwn wedi cael y ddisgyblaeth na’r symbyliad i fynd yn ôl ar y trywydd hwn, sef yr un yr wyf bob amser wedi dymuno ei ddilyn. Rwyf eisoes wedi cynyddu mewn hyder. Rwy’n teimlo’n hynod o gartrefol ar y cynllun ond rwyf hefyd yn canfod meysydd lle mae gennyf ddiffyg mewnwelediad. Ym mis Tachwedd rwy’n gobeithio cael cymaint o brofiad â phosibl o gysgodi Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol. Hefyd hoffwn helpu i drefnu digwyddiad a rhoi cynnig ar siarad cyhoeddus. Rwyf wedi cael rhywfaint o brofiad mewn Eglwys ond hoffwn gael mwy o brofiad mewn digwyddiadau gwleidyddol neu gymunedol.
Erbyn diwedd y cynllun hwn hoffwn fod wedi llwyddo i sefydlu grŵp cymunedol i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn ardal y Coed Duon. Yn y pen draw, hoffwn annog merched i gymryd mwy o ran mewn Gwleidyddiaeth a hefyd helpu i roi pŵer i bobl o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig gymryd rhan. Hoffwn sefydlu elusen i lenwi’r bylchau mawr sydd yn y ddarpariaeth o wasanaethau cymunedol i helpu pobl sy’n profi effaith camdriniaeth er mwyn eu helpu i godi ar eu traed drachefn a byw bywyd mwy normal ac iachach.
27 Hydref 2009 - Cyfarfod Dinasyddiaeth
Tŷ Penallta, Ystrad Mynach
Teimlaf nad oes unrhyw ffordd well o groesawu pobl i’r Gymuned Gymreig na’r digwyddiad hwn. Roedd dinasyddion yn falch iawn o addo a thyngu eu teyrngarwch, ac yn falch iawn o dderbyn eu tystysgrif. Bu modd i mi eu hannog hefyd i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, gan fod angen mawr iddynt gynrychioli grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn eu cymuned. Teimlais yn falch iawn o allu bod yn bresennol i’w hannog i GYMRYD RHAN.
26 Hydref 2009 - Cyfarfod Cabinet Anffurfiol
Tŷ Penallta, Ystrad Mynach
Roedd hwn yn gyfarfod diddorol iawn gyda fy Mentor. Cefais fy nghyflwyno, fy nghroesawu a chymerais ran yn y cyfarfod. Teimlais yn falch iawn ohonof fy hun. Rwy’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen, gallaf gymryd rhan mewn cyfarfod grŵp heb gael unrhyw hyfforddiant ffurfiol, dilyn yr agenda, a mwynhau fy hun yn fawr. Rhoddwyd hwb mawr i fy hyder yn bendant.
26 Hydref 2009 - Cyfarfod Grŵp
Tŷ Penallta, Ystrad Mynach
Cyfarfod diddorol iawn. Teimlais yn falch iawn o fy Nghyngor. Mae aelodau’r grŵp i gyd yn gweithio’n galed i roi blaenoriaeth i’r materion mwyaf pwysig er lles aelodau eu hetholaeth. Teimlais yn ddi-nod iawn yng nghanol y cyfan. Mae’r grŵp yn fy llanw â pharchedig ofn. A allaf i wneud yr hyn yr wyf newydd eu gweld hwy yn ei wneud ??? Byddwn i’n dweud y GALLWN.
20 Hydref 2009 - Dangos ffilm A Way of Life - Mis Hanes Pobl Dduon
Adeilad Julian Hodge
Dangosiad byw iawn o ffilm sydd wedi ei lleoli yng Nghymru ac sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Mae tro yng nghynffon y stori sy’n amlygu materion o hiliaeth a rhagdybiaethau o bobl ifanc, mamau sengl ifanc, bwlch dosbarth a’r cysyniad o’r 'Teulu’ . Rwy’n parhau i fod yn ansicr ynghylch pa effaith a gafodd y ffilm arnaf, ond byddaf yn bendant yn troi yn ôl at y ffilm fel man cyfeirio.
16 Hydref 2009- Bore - Cyfarfod Cynghori Personol gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) ynglŷn â fi yn sefydlu elusen.
Trefnais y cyfarfod hwn ar ôl cael fy ysbrydoli gan Camu Ymlaen a phrofiadau. Rwyf am helpu fy nghymuned i lenwi’r bylchau yn y gwasanaeth i helpu pobl sy’n profi effaith camdriniaeth ac sydd am gael cymorth i fynd yn ôl i fyw bywyd mwy normal ac iachach. Mae’r cyfarfod cyntaf hwn wedi fy rhoi ar y trywydd iawn.
16 Hydref 2009 -Prynhawn - Cyfarfod Cartref
Cefais fy nghyffwrdd gan sefyllfa mam anabl fy ffrind. Roedd yn cael problemau gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Therapi Galwedigaethol o ran gosod lifft grisiau, rheiliau diogelwch a chawod i’r anabl. Roedd Eileen, sy’n pleidleisio i’r Blaid Lafur, yn ofidus am y ffordd y cafodd ei mam ei thrin felly cysylltais â’r Cynghorydd Alan Higgs i gynorthwyo. Fe fu o gymorth ac mae bellach yn cael y cymorth sydd ei angen arni. Rwy’n teimlo fod gennyf y pŵer i helpu unrhyw un sydd ag angen cymorth, ac rwy’n dymuno gwneud mwy.
9 Hydref 2009 - Cyfarfod cyntaf gyda fy Mentor
Tŷ Penallta, Ystrad Mynach
Fy nghyfarfod cyntaf gyda fy Mentor, y Cynghorydd Lindsay Whittle. Mae wedi torri’r garw, a buom yn siarad amdanaf i, pwy ydw i, pam fod gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a’r hyn y gall ei gynnig i mi fel Mentor. Fe wnaethom gyfnewid manylion a rhoddwyd ei ddyddiadur i mi ynghyd â gwybodaeth am sut i drefnu profiadau. Cefais fy nghyflwyno i aelodau’r cabinet a staff y Cyngor a gwnaed i mi deimlo’n gartrefol. Gadewais y cyfarfod yn teimlo fy mod wedi cael croeso mawr ac roeddwn yn ysu am fynd ymlaen.
7
Hydref 2009 - Lansio Camu Ymlaen Cymru
Y Senedd, Bae Caerdydd
Roedd yn noson gyffrous iawn, gyda llawer o gyfleoedd i ddod i adnabod Cydlynwyr, Mentoriaid, a fy ngrŵp mentora. Daeth ysbrydoliaeth gan Liz Musa a chwalodd yr hud a oedd ynghlwm â’r broses fentora. Gadewais gyda theimlad o berthyn, a’r ysbrydoliaeth i gyrraedd fy mhotensial llawn ac i weithio tuag at fy nod bersonol o ddatblygu 'Awyrgylch o Dwf'
