Enghreifftiau o brofiadau’r rhai a oedd yn rhan o’r cynllun
Cyfarfod lansio cynllun Camu Ymlaen Cymru yn y Senedd: roedd yn noson hynod gyffrous, gyda llawer o gyfleoedd i ddod i adnabod y cydgysylltydd, y mentor a’m grwp mentora i. Cawsom ein hysbrydoli gan gyn fentorai, sef Liz Musa, a lwyddodd i leddfu unrhyw ansicrwydd am y broses. Gadewais y cyfarfod gydag ymdeimlad o berthyn ac roeddwn wedi cael fy ysbrydoli i gyrraedd fy mhotensial llawn.
Roeddwn i wedi anobeithio o ran cael gyrfa ym myd gwleidyddiaeth oherwydd roeddwn yn teimlo y byddai fy nghyfeiriadedd rhywiol yn cyfrif yn fy erbyn. Fodd bynnag, wrth eistedd yn un o ystafelloedd mawr y Cyngor, a oedd yn llawn o bobl o bob cefndir, sylweddolais y gallwn gyflawni unrhyw beth cyn belled â’m bod yn barod i ymdrechu.
Fe’m gwahoddwyd gan fy mentor i wyl Diwali yn y Senedd, Bae Caerdydd. Roedd hwn yn gyfle gwych i mi gymryd rhan mewn gwyl a oedd yn cael ei dathlu gan ddiwylliant a chrefydd gwahanol. Cefais gyfle i gyfarfod â nifer o wahanol bobl o’r gymuned Hinwaidd ac roeddynt i gyd yn groesawgar ac yn gyfeillgar iawn tuag ataf. Gwelais ddawnsfeydd Hinwaidd a chlywais ganeuon a gweddïau Hindwaidd ac roedd y seremoni’n brofiad cynnes, cyfeillgar a hapus a oedd yn croesawu pobl o bob ffydd.
Cefais wahoddiad i wrando ar sgwrs gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sergeant AC, am ei yrfa wleidyddol. Roedd y sgwrs yn ddiddorol iawn ac er iddo ganolbwyntio ar swyddi cyhoeddus, tynnodd sylw hefyd at ffyrdd eraill y gall unigolion gyfrannu oddi allan i’r sector cyhoeddus. Caiff pobl gyhoeddus eu cynorthwyo gan dimau o weithwyr dienw a phobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a dyma lle rwy’n fy ngweld fy hun yn y dyfodol. Ar ôl gwrando ar y siaradwyr, dechreuais feddwl am y ffyrdd y gall unigolion wneud gwahaniaeth a’r cyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom i geisio cyfrannu er lles cymdeithas.
Gorchwyl gyntaf y dydd yw cynhadledd i’r wasg! Cyffrous iawn! Ar ôl gwneud ei ddatganiad, bu fy mentor yn y Cynulliad, ac AC arall, yn ateb cwestiynau gan y newyddiadurwyr. Mae’r awyrgylch yn rhyfedd - holi dwys un munud a chwerthin y munud nesaf ond mae popeth i’w weld yn mynd yn dda ac wrth i’r newyddiadurwyr hel eu pac rwy’n meddwl tybed sut y bydd gwahanol newyddiadurwyr yn dehongli’r datganiadau. Yna rwy’n mynd i wylio’r Cyfarfod Llawn. Bydd pob AC yn cymryd ei dro i ofyn cwestiwn a baratowyd ymlaen llaw ac maent yn ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion o brydau bwyd iach mewn ysgolion i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’n sesiwn fywiog ac, fel y gynhadledd i’r wasg yn gynharach, mae cyfnodau o wrthdaro a chyfnodau o hiwmor.
Roeddwn yn falch bod fy mentor yn dangos cymaint o ddiddordeb yn fy ngwaith gyda Chwmni Diwylliant a Chelfyddyd y Romani. Mae’n gefnogol iawn ac rwy’n falch ei bod wedi cytuno i noddi’r digwyddiad i lansio Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y Senedd ar 27 Mai. Diben y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth y rhai sy’n gwneud polisïau o Fis Hanes Sipsi, Roma a Theithwyr a chwalu’r darlun ystrydebol ohonynt.
Roedd cynhadledd plaid cyn yr etholiad yn gyfle i weld y gwleidyddion wrth eu gwaith oddi allan i’r Senedd. Nid wyf yn siwr a fyddwn wedi bod â diddordeb yn y digwyddiad hwn chwe mis yn ôl. Rwy’n amau a fyddwn wedi deall llawer o’r hyn a oedd yn mynd ymlaen, ond ar ôl trafod cymaint â’r mentor, roeddwn yn deall beth oedd yn digwydd. Rwy’n meddwl bod y digwyddiad hwn wedi dangos pa mor bell rwyf wedi dod a chymaint rwyf wedi’i ddysgu.
Profiad newydd arall a gefais drwy gymryd rhan yng nghynllun Camu Ymlaen Cymru oedd ffilmio cyfweliad â Rosaleen Moriarty-Simmonds. Mae Rosie wedi cyhoeddi ei hunangofiant yn ddiweddar, yn adrodd ei hanes yn cael ei magu yng Nghaerdydd a chanddi anabledd thalidomid, a’r hyn y mae wedi’i gyflawni fel ymgyrchydd dros bobl anabl. Roedd Rosie yn berson anhygoel o gryf ac yn annwyl dros ben. Gobeithio y bydd mentoreion eraill yn gwylio’r cyfweliad ac yn cael eu hysbrydoli a’u hannog i barhau i frwydro dros hawliau pobl .
Cyfarfod Llawn yn y Senedd. Roedd yn gyffrous gweld y pleidiau’n trafod sut y dylid gwario’r gyllideb yn ogystal â gweld Aelodau’r Cynulliad yn dadlau dros faterion y maent yn teimlo’n gryf yn eu cylch. Cefais gyfle i gyfarfod â’r mentor cyn y Cyfarfod Llawn a hanner ffordd drwodd i ofyn cwestiynau ac i holi am yr hyn a oedd yn mynd ymlaen.
Fe’m cyflwynwyd gan fy mentor i Aelodau eraill y Cynulliad ac eglurodd gynllun Camu Ymlaen Cymru. Teimlais mor falch oeddwn a chymaint o fraint oedd cael fy newis i fod yn rhan o’r cynllun. Cyn i mi fynd i’r digwyddiad, roeddwn yn wirioneddol nerfus ac yn poeni am deimlo’n chwithig mewn lle dieithr. Llwyddodd fy mentor i dawelu fy ofnau ac i wneud i mi deimlo’n gartrefol. Rhoddodd y profiad hyder i mi. Roedd yn brofiad arbennig a heb raglen Camu Ymlaen Cymru, ni fyddai wedi digwydd. Roeddwn yn poeni gymaint cynt ond doedd dim angen i mi deimlo felly o gwbl gan fod pawb mor garedig. Rwy’n awr yn teimlo’n llawer mwy hyderus ac yn ei chael yn hawdd cyfarfod â phobl sydd yn llygad y cyhoedd.
Cyfarfod â’m mentor am y tro cyntaf a mynd i gyfarfod Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor Sir. Cyn hynny, nid oeddwn yn teimlo’n hyderus iawn, ac roeddwn yn poeni na fyddwn yn deall gweithdrefnau’r cyfarfod. Roeddwn yn poeni y byddwn yn dweud rhywbeth cwbl dwp. Daeth fy mentor i’m cyfarfod yn y dderbynfa a daeth gyda mi i Siambr y Cyngor gan eistedd gyda mi ac roedd hynny’n beth da gan ei fod yn gallu egluro’r hyn a oedd yn mynd ymlaen drwy gydol y cyfarfod ac roeddwn yn gallu gofyn cwestiynau iddo wrth fynd ymlaen. Rhoddodd hyn ychydig mwy o hyder i mi ynglyn â bod mewn lle dieithr. Dysgais lawer o’r profiad - am hynt ceisiadau cynllunio cyn iddynt gael eu hystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor, am gyfansoddiad pwyllgorau’r Cyngor ac am ethol cadeirydd, am gofnodi’r penderfyniadau a sut i gael gwybodaeth am ddyddiadau’r pwyllgorau a’r hyn y byddant yn ei drafod. Nid oeddwn wedi bod mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio o’r blaen felly roedd gwylio’r hyn a oedd yn mynd ymlaen yn addysg ynddo’i hun, ond roedd yn gymorth mawr cael fy mentor gerllaw i egluro’r hyn a oedd digwydd. Mwynheais y profiad yn fawr iawn, llawer mwy nag oeddwn wedi’i ddisgwyl , ac rwy’n credu’n awr bod gennyf yr hyder i fynd i gyfarfodydd pwyllgor eraill sydd ar agor i’r cyhoedd os oes gennyf ddiddordeb yn y pwnc dan sylw. Yna cawsom gyfarfod byr i drafod y cynllun ac i’r mentor fy holi am y modd roeddwn yn gobeithio elwa o’r cynllun; cefais gyfle i ofyn ychydig o gwestiynau iddo am ei hanes a’i brofiad fel Cynghorydd, a buom yn trafod hyn i gyd yng nghwmni Cynghorydd arall… roeddwn yn falch fy mod yn teimlo’n ddigon hyderus i sgwrsio â grwp o bobl nad oeddwn wedi treulio llawer o amser yn eu cwmni, ac i dreulio’r diwrnod mewn sefyllfa ac amgylchiadau anghyfarwydd. Gwnaeth y diwrnod les i’m hunanhyder , oherwydd y rhesymau a nodais eisoes, a theimlais fy mod yng nghwmni pobl a oedd yn barod i wrando ar yr hyn roedd gennyf i’w ddweud.
Ar ôl dadl y Cyngor, gadewais y cyfarfod yn teimlo bod fy nealltwriaeth wleidyddol yn cynyddu’n aruthrol. Ar y ffordd adref, sylweddolais fod fy marn am wleidyddion wedi bod yn gul ac yn rhagfarnllyd; roedd y diwrnod wedi dechrau newid fy marn.
Cyfarfod Craffu ar Addysg. Roedd hwn yn gyfle i Gynghorwyr holi swyddogion am nifer o adroddiadau a oedd wedi’u cyhoeddi. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau y byddai’n well gan y swyddogion beidio â’u hateb, gofynnwyd iddynt egluro’u hatebion, gan drafod datganiadau ac anghytuno â gweithdrefnau. Roedd yn enghraifft wych o’r modd y mae gwleidyddiaeth i fod i weithio; swyddogion etholedig yn galw swyddogion cyflogedig i gyfrif. Gadewais gan deimlo y dylai pobl Sir Gaerfyrddin deimlo’n fodlon â’u pwyllgorau craffu.
Roeddwn wedi ymchwilio i fater a oedd yn mynd i gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ac wedi ysgrifennu erthygl amdano. Cafodd fy nghrynodeb ei ddefnyddio i helpu fy mentor yn y Cynulliad i baratoi ei ymateb i’r mater pe bai’n penderfynu siarad yn y Cyfarfod Llawn ar y dydd Mawrth canlynol. Dysgais am weithdrefnau’r Cyfarfod Llawn a’r hyn a oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni wrth i’r Aelodau baratoi ar gyfer y Cyfarfod Llawn.
Y Gynhadledd Cyfnewid Dysgu Genedlaethol. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn gofidio braidd cyn mynd i’r gynhadledd hon. Roeddwn i’n poeni na fyddwn yn deall yr hyn a oedd yn mynd ymlaen ond roeddwn am glywed a gweld pa raglenni mae gwahanol gynghorau ledled Cymru yn eu defnyddio i gynorthwyo pobl sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol ac nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol. Roedd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau rhagflas a oedd yn canolbwyntio ar enghreifftiau o arfer da ymhlith awdurdodau lleol Cymru sy’n mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol ac yn cydweithio â grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio i geisio’u cynorthwyo. Cefais gyfle i gyfarfod â phobl sydd ynghlwm wrth ddatblygu rhai o’r rhaglenni a’u rhoi ar waith. Yn ystod amser paned ac amser cinio cefais gyfle i ofyn cwestiynau ac i ddeall sut y mae rhai o’r rhaglenni’n cael eu rhoi ar waith. Roedd y profiad yn llawer gwell na’r disgwyl. Roedd cyflwynwyr y gwahanol raglenni’n gyfeillgar iawn ac roedd yn hawdd siarad â nhw. Roeddwn yn gallu gofyn cwestiynau heb deimlo fy mod yn gofyn cwestiynau gwirion ac iddynt atebion amlwg.
Ar ôl y cyfarfod, sylweddolais fod cynghorau Cymru yn mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol ac amddifadedd mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n amlwg nad yw gwahanol gynghorau’n ceisio defnyddio’r un dulliau i helpu grwpiau sydd wedi’u ‘hymyleiddio’, ac mae hynny’n beth da. Mae cynghorau wedi nodi gwahanol broblemau yn eu cymunedau ac maent yn ceisio’u datrys yn eu meysydd gwasanaeth.
Bu’n fraint cael y cyfle i wylio cynhadledd plaid ac i weld sut y maent yn cael eu trefnu – ond yn bwysicach na hynny, i weld beth yw safbwynt y blaid a’r hyn y mae’n credu ynddo. Rwy’n credu y dylai pawb gael y profiad hwn – er mwyn iddynt ddeall maniffestos y pleidiau ac i gael gwybodaeth am faterion sy’n bwysig i’w cymunedau ac i’r gwleidyddion sy’n eu cynrychioli. Drwy fynd i’r gynhadledd, rwy’n awr yn deall cyfansoddiad y blaid a’r hyn y mae’n ei gynrychioli. Byddwn wrth fy modd yn cael yr un cyfle i fynd i gynadleddau’r tair plaid arall er mwyn deall eu polisïau/maniffestos gan y byddai hynny’n fy helpu i benderfynu pa blaid rwyf am ymuno â hi/ei chefnogi. Fodd bynnag, mae’n rhaid bod yn aelod o rai o’r pleidiau eraill am flwyddyn cyn cael gwahoddiad i hyd yn oed wylio’u cynhadledd. Rwy’n teimlo bod hyn braidd yn elitaidd. Sut all rhywun ymuno â phlaid heb ei gwylio a deall yr hyn y mae’n ei gynrychioli?
Cyfarfod anffurfiol o’r Cabinet. Roedd hyn yn gyfarfod diddorol iawn gyda’r mentor. Cefais fy nghyflwyno a’m croesawu a chymerais ran yn y cyfarfod. Teimlais yn falch iawn ohonof fy hun, rwy’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen, gallaf gymryd rhan mewn cyfarfod grwp heb gael unrhyw fath o hyfforddiant ffurfiol, dilyn yr agenda, a mwynhau fy hun yn fawr. Rhoddodd y profiad hwb pendant i’m hyder.
