Sylwadau ar ddechrau’r cynllun
Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn tybio ein bod yn gwybod sut y mae llywodraeth yn gweithio ond, os meddyliwch am y peth mewn difrif, nid yw mor glir â hynny mewn gwirionedd i bobl nad ydynt ynghlwm wrth waith y llywodraeth yn uniongyrchol.
Roeddwn i mor falch o glywed y newyddion fy mod i wedi llwyddo i sicrhau lle ar gynllun mentora Camu Ymlaen Cymru gan fy mod yn gwybod y byddai’n gynllun da i fod yn rhan ohono ac yn gyfle gwych i gael gwybod am yr hyn sy’n digwydd yn y Cynulliad mewn gwirionedd a’r hyn y mae Aelodau’r Cynulliad yn ei wneud mewn gwirionedd.
Ar ôl cael fy newis i fod yn rhan o’r Cynllun, roeddwn yn teimlo’n llawn cyffro ac yn nerfus yr un pryd a hefyd yn teimlo braidd yn bryderus am yr hyn y byddai pobl yn ei ddisgwyl gen i.
Roeddwn am ddysgu rhagor am y modd y mae’r Cynulliad yn gweithio a sut y gallwn ddylanwadu ar y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am fywyd yng Nghymru. Roeddwn am wybod sut i wneud hynny ac am gael yr hyder i fedru gwneud hynny.
Roeddwn am gymryd rhan yn y cynllun mentora i gael gwell dealltwriaeth o weithdrefnau ac ethos y Cynulliad Cenedlaethol a’r cyfyngiadau arno ac i ddeall gwerthoedd a gweledigaeth cynrychiolwyr etholedig.
Drwy gynllun mentora a chysgodi Camu Ymlaen Cymru gobeithio y gallaf feithrin cysylltiadau yn y Cynulliad Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Cymunedau Roma, Sipsiwn a Theithwyr yw rhai o’r cymunedau sy’n ymwneud lleiaf â gwleidyddiaeth Cymru, fel pleidleiswyr, gwleidyddion a gweision sifil. Fel Sipsi Romani, hoffwn weld newidiadau i annog Roma, Sipsiwn a Theithwyr i ymwneud rhagor â’r cymunedau o’u hamgylch drwy gyfrwng grwpiau cymunedol, ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun mentora a chysgodi yn rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r pethau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol a’r cyfyngiadau sy’n wynebu’r rhai sy’n gyfrifol am bolisïau. Bydd hyn, yn ei dro, yn fy ngalluogi i gynrychioli fy nghymuned fy hun.
