Camu Ymlaen Cymru Mentereion - Annette Monks
Mentoriaid - Lorraine Barratt AM
27 Tachwedd 2009 - Fforwm Llaneirwg - Lorraine Barrett / Alun Michael
Cefais wahoddiad gan Lorraine i fynychu’r cyfarfod uchod lle y cefais fy nghyflwyno i Alun Michael. Cafodd yntau fy manylion fel y gallai anfon rhagor o wybodaeth ataf ynghylch digwyddiadau a gynhaliwyd gan y Blaid Lafur yn yr ardal yn y dyfodol. Mwynheais gael dod i’r cyfarfod gan ei fod yn beth da i fedru darganfod pa sefydliadau sydd yn ein cymuned ac i wneud cysylltiadau newydd.
Roedd hefyd yn gyfle da i mi’n bersonol i ddiolch i’r Cynghorydd am yr arian a dderbyniwyd gan ffrind a minnau pan wnaethom sefydlu’r cylch chwarae mam a’i phlentyn cyntaf yn Llaneirwg. Bûm yn cynnal y cylch chwarae fel gwirfoddolwr am 18 mis ac o ganlyniad i’r arian a gawsom gan y cyngor llwyddwyd i brynu’r cyfarpar a’r teganau angenrheidiol ar ei gyfer.
25 Tachwedd 2009 - Cyfarfod pwyllgor a gweithdy Merched De Morgannwg
Gwahoddwyd fi i fynychu’r cyfarfod uchaf gan Ann Cox sy’n gyn-gynghorydd. Roedd y cyfarfod yn ddiddorol ac yn cyflwyno llawer o wybodaeth, ac un peth a ddaliodd fy sylw’n arbennig oedd eu bod yn ceisio ffurfio grwp ar gyfer merched i gyfarfod i drafod materion o ddiddordeb penodol iddynt hwy, a byddant yn talu ffi o £1 y mis i helpu i godi arian ar gyfer y prosiect. Cafwyd sgwrs hefyd am y posibilrwydd o gyd-goginio pryd o fwyd i’w rannu ar un noson yn achlysurol.
Fy awgrym oedd, pan fydd y merched yn cyfarfod, fod pawb yn dod â gwahanol ran o’r pryd gyda hwy hy un i goginio’r reis a rhywun arall i baratoi’r cyri, a’n bod yn ei werthu am tua £3 y plât ar y diwrnod. Gwnaethpwyd hyn yn aml yn BAWSO i godi arian ar gyfer merched nad oeddent yn cael arian cyhoeddus (na budd-daliadau)
25 Tachwedd 2009 Eglwys Gadeiriol Llandaf a Gwasanaethau ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Merched Trwy’r Byd
Bûm yn y gwasanaeth uchod yn fy rôl fel gweithiwr cefnogol â Chymorth i Ferched BAWSO, gan fod y mudiad wedi’i ffurfio er mwyn helpu merched o gefndir a chymunedau lleiafrifoedd ethnig i ddianc rhag camdriniaeth a thrais domestig.
14 Tachwedd 2009 - Fforwm Merched y Blaid Lafur a drefnwyd gan Julie Morgan ac a gynhaliwyd yng Nghasnewydd
Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
Rosemary Butler AC a oedd yn sôn am 10 mlynedd o ddatganoli
Y Farwnes Delyth Morgan a fu’n trafod safle merched yn y broses wleidyddol
Bûm wedyn mewn dau weithdy: Merched ym maes Gwleidyddiaeth / Cenedl, Hil a Dosbarth
Anerchiad Jane Hutt ar Ferched yn y Cynulliad
Bu’r Farwnes Anita Gale yn trafod Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad sy’n ferched.
Y Farwnes Denise Kingsmill oedd y siaradwr gwadd a bu’n sôn am y gyflogres a gwleidyddiaeth.
Dysgais lawer iawn yn y digwyddiad a gwelais mor galed y mae merched ym myd gwleidyddiaeth yn gweithio a sut y mae eu hymdrechion yn y maes wedi sicrhau’r sefyllfa a welwn heddiw.
09 Tachwedd 2009 - Cyfarfod â Lorraine a Becky Spiller, Gweithiwr Allgymorth yn y Cynulliad
Trefnwyd fod Becky yn dod i rai o’n cyfarfodydd gan fod arni angen enwau a gwybodaeth am grwpiau nad oedd yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ac rwyf wedi gwneud llawer o gysylltiadau â grwpiau o’r fath yn fy rôl fel gweithiwr cefnogol â Chymorth i Ferched a Chymdeithas Merched Duon yn Camu Ymlaen (BAWSO). Llwyddais i roi i Becky oddeutu 20 o enwau pobl a sefydliadau i gysylltu â hwy yn ardal Casnewydd ac oddeutu 40 o gysylltiadau o’r amser pan oeddwn yn aelod o Race Equality First.
2 Tachwedd 2009 - Hyfforddiant: Canfod eich Llais yn adeilad y Cynulliad, gydag Adam Rees
Roedd yr hyfforddiant yn dda. Cyfarfuom â staff o rai o’r amrywiol adrannau o fewn y Cynulliad a ‘roeddent yn esbonio’u swyddogaethau a’u cyfrifoldebau wrthyf, ac roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y gwaith allgymorth a wnaethpwyd a sut y maent yn rhoi gwybod i bobl gyffredin yn ein cymunedau am waith y Cynulliad. Cawsom wybodaeth a chyngor, nid yn unig am ganfod eich llais, ond hefyd sut i ddefnyddio eich llais i ddylanwadu yn eich cymuned, trafodwyd y broses o ddeisebu a lobïo a thrafodwyd y gwahaniaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mwynheais yr hyfforddiant yn fawr iawn a theimlwn fy mod wedi cael atebion i lawer o’m cwestiynau ac roedd y profiad yn werthfawr iawn i mi.
12.10.09 Cyfarfod cyntaf
Roeddwn yn fwy nerfus am y cyfarfod hwn na’r digwyddiadau eraill a fynychais hyd yma, gan fy mod yn poeni a fyddai’r staff yn fy ngweld fel tipyn o niwsans ac yn rhywun a oedd yn creu gwaith ychwanegol iddynt? Doedd dim sail i’m pryderon, gan i mi gael croeso cynnes a sicrwydd gan bawb y byddai’r cynllun o fudd i bawb, a chefais fy nghyflwyno i’r staff hynny a fyddai ar gael i mi pe bawn angen unrhyw gyngor neu wybodaeth: Barbara Windsor – Rheolwr Swyddfa/Uwch Weithiwr Achos
Richard Burgess – Swyddog y Wasg ac Ymchwil
Victoria Martin – Cymhorthydd Swyddfa/Trefnydd Dyddiadur a Digwyddiadau
Wedi sgwrs anffurfiol am ein diddordebau a’n hoffterau cyffredin, canfuwyd ein bod ill dwy yn: neiniau, yn llysieuwyr a’n bod yn hoffi crisialau. Buom wedyn yn trafod yn fwy ffurfiol ynghylch beth a ddisgwyliwn o’r cynllun a beth a ddisgwylid ohonof. Eglurwyd y rheolau sylfaenol imi ynghylch cyfrinachedd a pharch gan y byddwn yn treulio amser yn swyddfa Lorraine ac yn clywed gwybodaeth gyfrinachol sy’n berthnasol i’r materion y byddai hi’n ymdrin â hwy o ddydd i ddydd. Fe aeth Lorraine drwy’r dogfennau a anfonwyd gan Adam, ac fe arwyddais bapur ynglyn â chyfrinachedd.
Fy mhrif feysydd diddordeb yw, sut y mae holl adrannau gwahanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd, beth yw cyfrifoldebau pob adran a phwy sy’n gwneud beth ym mhob adran.
Roeddwn hefyd am wybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gofynnodd Lorraine i staff ei swyddfa i lunio pecyn o ysgrifbinnau, llyfrau nodiadau a thaflenni gwybodaeth i mi am rai o’r meysydd a soniwyd amdanynt yn ein sgyrsiau, ac am esboniad o’r gwahaniaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru i mi eu darllen yn hamddenol, gan fod nifer ohonynt.
Cafwyd cinio sydyn ar ôl y cyfarfod gan fod y ddwy ohonom ag apwyntiadau eraill yn ystod y dydd.
Trefnwyd rhagor o gyfarfodydd i mi fynd iddynt, ac roeddwn am fynychu Fforwm Ieuenctid Llaneirwg ond yn anffodus bu’n rhaid canslo oherwydd damwain car.
