Y Comisiwn
Comisiwn y Cynulliad yw’r enw a roddir ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer y Cynulliad. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod o’r gwahanol bleidiau gwleidyddol, ac mae gan bob un bortffolio gwaith gwahanol. Cefnogir y Comisiwn gan staff yr Uned Gorfforaethol.
Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2008-09
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2008-09. Trafodwyd Cynigion y Gyllideb gan y Cynulliad yng Nghyfarfod Llawn 28 Tachwedd 2007.
Rôl y Comisiwn
Crewyd y Comisiwn fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad. Mae'r adran hon yn nodi rôl y Comisiwn.
Mwy>>
Aelodaeth
Mae Comisiwn y Cynulliad yn cael ei gadeirio gan y Llywydd, ac yn cynnwys pedwar Aelod o’r gwahanol bleidiau. Mae'r adran hon yn cynnwys manylion am y Comisiynwyr a'u dyletswyddau.
Mwy>>
Agendâu, Papurau a Chofnodion
Mae agendâu, papurau a chofnodion holl gyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad i’w cael yma.
Mwy>>
Polisïau
Cymeradwywyd nifer o ddogfennau gan y Comisiwn Cysgodol gyda’r bwriad y dylent gael eu gweithredu cyn gynted â phosibl ar ôl sefydlu’r Comisiwn yn dilyn etholiad mis Mai. Gellir gweld rhestr o'r polisiau yma yn yr adran hon.
Mwy>>
Y Prif Weithredwr
Pennaeth staff y Comisiwn yw Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad – Claire Clancy.
Mwy>>
Y Cyfarwyddiaethau
Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys tair cyfarwyddiaeth a gefnogir gan Uned Gorfforaethol ac mae pob un yn atebol i’r Prif Weithredwr. Mae'r rhan hon yn nodi cyfrifoldebau pob cyfarwyddiaeth.
Mwy>>