Y Comisiwn
Comisiwn y Cynulliad yw’r enw a roddir ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer y Cynulliad. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod o’r gwahanol bleidiau gwleidyddol, ac mae gan bob un bortffolio gwaith gwahanol. Cefnogir y Comisiwn gan staff yr Uned Gorfforaethol.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi canlyniadau un o’r arolygon barn mwyaf eang erioed i gael ei gynnal yng Nghymru i ganfod barn pobl am ddatganoli a’u dealltwriaeth o sut mae’r Cynulliad yn gweithio. Manylion llawn
Cyllideb y Comisiwn
Gosodwyd y gyllideb ar gyfer 2009-10 o flaen y Cynulliad ar ddydd Mercher, 15 Hydref 2008. Manylion Llawn
Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2007-2008
Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 bwerau arwyddocaol newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Creodd hefyd Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi’r Cynulliad. Hwn yw adroddiad blynyddol cyntaf Comisiwn y Cynulliad, sy’n egluro ein dyletswyddau rhhwng etholiadau’r Cynulliad ym Mai 2007 hyd at 31 Mawrth 2008.
Mwy>>
Rôl y Comisiwn
Crewyd y Comisiwn fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad. Mae'r adran hon yn nodi rôl y Comisiwn.
Mwy>>
Aelodaeth
Mae Comisiwn y Cynulliad yn cael ei gadeirio gan y Llywydd, ac yn cynnwys pedwar Aelod o’r gwahanol bleidiau. Mae'r adran hon yn cynnwys manylion am y Comisiynwyr a'u dyletswyddau.
Mwy>>
Agendâu, Papurau a Chofnodion
Mae agendâu, papurau a chofnodion holl gyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad i’w cael yma.
Mwy>>
Polisïau
Cymeradwywyd nifer o ddogfennau gan y Comisiwn Cysgodol gyda’r bwriad y dylent gael eu gweithredu cyn gynted â phosibl ar ôl sefydlu’r Comisiwn yn dilyn etholiad mis Mai. Gellir gweld rhestr o'r polisiau yma yn yr adran hon.
Mwy>>
Y Prif Weithredwr
Pennaeth staff y Comisiwn yw Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad – Claire Clancy.
Mwy>>
Y Cyfarwyddiaethau
Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys tair cyfarwyddiaeth a gefnogir gan Uned Gorfforaethol ac mae pob un yn atebol i’r Prif Weithredwr. Mae'r rhan hon yn nodi cyfrifoldebau pob cyfarwyddiaeth.
Mwy>>