Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyllideb ar gyfer 2009-10

Gosodwyd Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2009-10 ar 15 Hydref 2008. Cafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad ar 22 Hydref 2008.

Ym mis Mai 2007, sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Y Comisiwn sy’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau’n cael eu darparu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i ddiben yw bod yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru.

Caiff y gyllideb ei defnyddio i dalu costau rhedeg  Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n cynnwys tâl a lwfansau Aelodau’r Cynulliad a Deiliaid Swyddi; cyflogau staff y Cynulliad – timau clercio’r pwyllgorau, ymchwilwyr, staff sy’n cynorthwyo â’r prosesau deddfwriaethol, staff y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi seneddol, cynghorwyr cyfreithiol, gwasanaethau ymwelwyr a staff allgymorth a staff sy’n rhoi cymorth gweithredol fel diogelwch, llety, Adnoddau Dynol, cyllid a TGCh; a chostau nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau a ddefnyddir i redeg y Cynulliad o ddydd i ddydd.

Mae’r Comisiynwyr yn ymwybodol o’r sefyllfa economaidd bresennol a’r pwysau sydd ar y sector cyhoeddus a phobl Cymru oherwydd hynny. Mewn ymateb i hyn, mae’r Comisiwn wedi llwyddo i gyfyngu’r cynnydd arfaethedig yn ei gyllideb ar gyfer 2009-10 i 3.4%, gan bennu cyllideb adnoddau o £47.751m. Bydd hyn yn gryn her o ystyried lefel bresennol chwyddiant prisiau, ac mae hefyd yn is na’r cynnydd o 4.8% yn y cyllid yr amcangyfrifir a gaiff Cymru ar gyfer y flwyddyn. Credai’r Comisiynwyr, fodd bynnag, y dylent geisio cyfyngu ar wariant lle’r oedd hynny’n bosibl ar hyn o bryd a chynllunio ar gyfer cyfnod o wariant cyson ond gofalus dros y tair blynedd nesaf. Gan hynny, maent wedi lleihau neu ddileu rhai elfennau o gynigion gwreiddiol y gyllideb er mwyn cyflawni hyn. Mae’r gyllideb ddrafft derfynol yn sicrhau digon o adnoddau i gyflawni eu hamcanion allweddol, gan hefyd sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd.   

Rydym wedi paratoi canllawiau ar gyfer Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2009-10.

Dogfennau perthnasol: canllawiau ar gyfer Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2008-09.

23 Hydref 2008