Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ariannu Cynulliad sy’n helpu i greu Cymru well – Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2008/9

Comisiwn y Cynulliad

Crewyd y Comisiwn fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad a sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithredu'n effeithiol fel sefydliad democrataidd etholedig. Diben y Comisiwn yw sicrhau bod y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru.

Comisiynwyr y Cynulliad

Nodau Strategol y Comisiwn

Amlinellir Amcanion Strategol y Comisiwn isod. Mae'r weledigaeth yn gymorth i flaenoriaethu cynlluniau gwariant fel bod adnoddau'r Comisiwn yn cael eu defnyddio i gyrraedd ein nodau:

Hyrwyddo ac ehangu cyfranogiad pobl mewn datganoli

Rhaid i’r pedair blynedd nesaf ddangos bod y Cynulliad yn gweithio ar ran pawb ac annog mwy o bobl i gymryd rhan weithredol yn y broses ddemocrataidd. Byddwn yn pwysleisio effaith gadarnhaol y Cynulliad ar fywydau pobl Cymru. Bydd mwy o ddatganoli o ganlyniad i Ddeddf 2006 ac efallai y cynhelir refferendwm ar gyfer mwy o gymhwyster deddfwriaethol a byddwn yn barod i wynebu’r heriau hyn yn frwdfrydig.

Dangos undod, arweinyddiaeth ac ymateb yn hyderus i newid cyfansoddiadol

Bydd y Cynulliad yn dangos ei hyder a’i gymhwysedd wrth ddefnyddio’i bwerau newydd. Rydym yn unedig wrth sicrhau gwaith craffu a deddfu o’r radd flaenaf ac wrth gynorthwyo Aelodau yn eu gwaith fel cynrychiolwyr etholedig.

Dangos parch, cywirdeb a sgiliau llywodraethu da ym mhob agwedd ar ein gwaith

Dylem sicrhau bod popeth a wnawn yn dryloyw a sicrhau bod holl weithgareddau’r Cynulliad yn bodloni disgwyliadau’r rheini sy’n craffu arnynt a dylai hefyd adlewyrchu natur amrywiol Cymru a’i hieithoedd o ran sut y mae’n ymdrin â’r dinesydd ac yn ei gynnwys yn ei waith.

Gweithio’n gynaliadwy

Byddwn yn dangos arweinyddiaeth yn y modd y byddwn yn rheoli ein gwaith a’n hystad a’n nod yw darparu’r lefel uchaf bosibl o gynaliadwyedd yn y ddau.

Sicrhau bod y Cynulliad yn darparu’r gwasanaeth gorau ac y’i darperir yn y ffordd fwyaf effeithiol

Byddwn yn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir i Aelodau a phobl Cymru o lefel uwch gan ddangos ein bod yn defnyddio adnoddau mewn ffordd ddoeth ac effeithiol a hefyd dangos gwerth am arian. Mae sicrhau lefel uchel o wasanaeth i Aelodau ac unrhyw un sy’n ymwneud â’r Cynulliad yn sail i bopeth a wnawn.

Cyfarwyddiaethau y Comisiwn

Trosolwg ar y Gyllideb – y cyd-destun

Yr ydym yn gweithio mewn cyfnod o newid sylweddol wrth inni fynd i’r afael â heriau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r pwerau newydd a ddaw gyda hi i Gymru.

Yr ydym wedi cynllunio’n ofalus ar gyfer y llwyth gwaith newydd, ac wedi ail-strwythuro Gwasanaethau Seneddol y Cynulliad yn gynharach yn 2007 er mwyn darparu gwasanaethau mwy cydgysylltiedig, mwy llyfn a mwy effeithiol. Er bod cynnydd sylweddol (58%) yng ngweithgaredd busnes y Cynulliad wedi digwydd yn ystod Medi/ Hydref 2007 o gymharu â’r un cyfnod yn 2006, nid yw’n costau i’w gynnal wedi cynyddu ar yr un raddfa.

Y gyllideb ‘bloc Gymreig’ o Drysorlys ei Mawrhydi yw oddeutu £15 biliwn ar gyfer 2008/9.   Mae 0.3% ohoni yn rhwymedig i ddarparu’r cyfleusterau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n cynlluniau gwariant newydd ar gyfer 2008/9 yn ychwanegu £4.4m (neu 10.6%) at y gyllideb ar gyfer y Comisiwn. Mae hwn yn mynd law yn llaw â blaenoriaethau strategol y Comisiwn. Mae rhywfaint o’n gwariant yn berthynol i gynnydd o ran staffio sydd â chefnogaeth achos busnes cadarn. Bydd gennym oddeutu 360 o swyddi wedi’u hariannu erbyn Ebrill 2008, o gymharu â 337 yn Ebrill 2006.  

Mae effeithiolrwydd a gwerth am arian yn bwysig i ni. Gwnaethpwyd adolygiad llawn wrth baratoi cyllideb 2007/8, a dynodwyd £1.4m mewn costau effeithlonrwydd ac arbedion.  Mae’r Comisiwn wedi cytuno ar Werthoedd o ran Caffael sy’n cydbwyso nifer o ffactorau, megis cynaliadwyedd, gyda gwerth am arian.  

Man Cychwyn - Cyllideb 2007/08

Mae’n Cynigion am y Gyllideb yn nodi y bydd ein cyllideb yn cynyddu o £33.6m yn 2007/8 i £46.2m yn 2008/9, ond nid yw hyn yn cymharu tebyg wrth debyg, felly fe esboniwn yn y ddogfen y newidiadau pedwar cam rhwng y ddau ffigwr:

Man cychwyn – Cyllideb 2007/8 £33.6m

Cam 1

Addasiadau yn ystod y flwyddyn:

Disgwyliwn i’n cyllideb gael ei chynyddu yn ystod y flwyddyn bresennol, 2007/8, trwy Gynnig Cyllideb Atodol. Yr ydym yn wynebu ymrwymiadau newydd na ellid eu hamcangyfrif yn gywir ar amser gosod y gyllideb yn Hydref 2006.   Fe wnaethom rybuddio am yr elfennau ansicr hyn yn ein cynigion ar gyfer y gyllideb y llynedd, yn hytrach na cheisio cyllideb ar eu cyfer. Yr ydym bellach wedi’u mesur yn fwy cywir, ac maent wedi mynd trwy broses graffu gan y Pwyllgor Cyllid.

Hefyd, yr ydym yn cymryd allan tua £5m o gostau sydd wedi’u talu’n flaenorol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nid cost ‘newydd’ mo hwn – dim ond addasiad, sy’n symud y gost o un sefydliad i un arall, a chydnabod cyfrifoldeb cyfrifyddu newydd y Comisiwn. Mae’r costau’n ymwneud yn bennaf â chostau cyfrifyddu ar gyfer buddsoddiad a defnydd asedau sefydlog.

£8.2m

Cam 2

Costau Untro/costau eithriadol :

Yr ydym yn tynnu i ffwrdd gostau oedd yn gostau untro yn ystod 2007/8, ac na fyddant yn ail ddigwydd yn y blynyddoedd nesaf (£1.4m).  Nid ydym angen y gyllideb ar gyfer y rhain bellach.

-£1.4m

Cam 3

Chwyddiant:

Fe ychwanegwn chwyddiant cyflog a phrisiau.  Nid oes cysylltiad â cham dau – mae’r ffigurau’n debyg drwy gyd-ddigwyddiad yn unig.

£1.4m

Mae hyn yn rhoi cyllideb gymharol 2007/8 ar gyfer 2008/9: £41.8m

Cam 4

Cynlluniau gwario newydd:

Fe ychwanegwn gostau cynlluniau newydd, fel yr esbonnir yn y ddogfen.

£4.4m

Mae hyn yn rhoi cyllideb ar  gyfer 2008/9: £46.2m

Felly, mae cymharu’r £46.2m gyda’r £41.8m yn rhoi cynnydd yn y gyllideb o ychydig dros 10%.

Cyllideb 2008-2009

Beth mae Cynigion Cyllideb y Comisiwn, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 21 Tachwedd 2007 yn gynnwys? Mae’r canlynol yn amlinellu’r costau mwyaf:

Cefnogaeth ariannol i Aelodau’r Cynulliad – yn cynnwys cyflogau, lwfansau a staff i’r 60 Aelod Cynulliad etholedig..  

(tal) £6.7m

(lwfansau) £6.9m

Costau staff y Cynulliad

£12.7m

Costau cyfleusterau yn cynnwys darpariaeth adeiladau, goleuo a gwresogi..

£5.8m

Costau cyfrifyddu ar asedau sefydlog, i adlewyrchu gostyngiad gwerth, a buddiannau amcanol fel bo’r gofyn gan Drysorlys ei Mawrhydi.

£4.8m

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebub – cyfrifiaduron, system bleidleisio, darlledu ac ati.

£3.4m

Costau ‘eraill’ – megis gwaith ymgysylltu ag ysgolion, hybu gwaith y Cynulliad gyda’r cyhoedd, gwasanaethau cyfieithu, costau heddlu er mwyn darparu presenoldeb diogelwch; prynu deunydd ysgrifennu a chyflenwadau.

£5.9m

Yr ydym hefyd yn cael incwm bychan o rentu allan le yn ein swyddfeydd, ac wrth werthu nwyddau’r Cynulliad a nwyddau Cymreig o’n siopau ym Mae Caerdydd a Gogledd Cymru.

Cefnogaeth Ariannol i Aelodau’r Cynulliad

Mae cyfraddau cyflogau a lwfansau wedi’u hamlinellu yn Penderfyniadau'r Cynulliad, a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol.

Mae Cyflogau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad fel a ganlyn:

Aelod Cynulliad

Gosodwyd hwn ar 76.6% o gyflog Aelod Seneddol. Fe’i telir i bob Aelod Cynulliad. Mae’r cyflogau canlynol i ddeiliaid swyddi yn cael eu talu yn ychwanegol at gyflogau Aelod Cynulliad.

£46,496

Llywydd

Mae’r swm hwn yn cymharu â graddfa Senedd yr Alban a graddfa Cynulliad Gogledd Iwerddon.

£39,939

Dirprwy Lywydd          

Mae’r swm hwn yn cymharu â graddfa Senedd yr Alban.

£25,121

Prif Weinidog

Mae’r swm hwn yn cymharu â Gweinidog yng Nghabinet Llywodraeth y DU.

£76,996

Dirprwy Brif Weinidog, Gweinidogion a’r Cwnsler Cyffredinol

Mae’r swm hwn yn cymharu â Gweinidog Gwladol.

£39,939

Dirprwy Weinidog

Mae’r swm hwn yn cymharu â chyfradd Gweinidog Iau yn Senedd yr Alban.

£25,121

Cadeirydd Pwyllgor ble bo’n berthnasol (Dalier sylw – nid yw pob Cadeirydd Pwyllgor yn cael y cyflog hwn)

£5,819

Arweinydd y Blaid fwyaf, heb swyddogaeth weithredol

£39,939

Yn ychwanegol at gostau cyflogau mae costau pensiwn a chyfraniadau yswiriant gwladol.

Mae lwfansau yn talu am y mathau canlynol o wariant:

  • Teithio a chynhaliaeth (£0.5m);
  • Costau swyddfa – i dalu costau dodrefnu a chynnal swyddfa Aelodau yn yr ardal maent yn ei chynrychioli  (£1.8m);
  • Costau ychwanegol – ad-dalu i Aelodau dreuliau a gawsant oherwydd rheidrwydd i aros dros nos i ffwrdd o’u cartrefi at ddibenion gwneud eu dyletswyddau fel Aelodau (£0.4m);
  • Cyflogau staff Cymorth – gall pob Aelod gyflogi hyd at 3 staff cyfatebol llawn amser i gynorthwyo gyda gwaith gweinyddol, clercio, gwaith ysgrifenyddol neu i wneud gwaith ymchwil neu waith ar achosion.  Gall grwpiau pleidiau o 3 neu fwy o Aelodau hawlio lwfans i’w cynorthwyo i gyflawni eu gwaith yn y Cynulliad (£4.2m).


Bob blwyddyn byddwn yn cyhoeddi symiau a dalwyd fel lwfansau i Aelodau’r Cynulliad yn y flwyddyn flaenorol.

Beth nesaf ?

Cymeradwyodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ein cynigion ar gyfer y gyllideb, yn dilyn craffu ar ein Cyllideb Ddrafft ym mis Hydref.

Gosodwyd cyflwyniad o gynigion diwygiedig ar gyfer cyllideb y Comisiwn ar 21 Tachwedd 2007.  Mae’r ddogfen ddiwygiedig hon yn cymryd i ystyriaeth adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gynigion y gyllideb ddrafft.

Cafodd y cynigion diweddaraf hyn eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Tachwedd 2007 a byddant yn cael eu cynnwys yn y Cynnig Blynyddol am y Gyllideb sydd i’w osod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Unwaith bo’r Cynnig Blynyddol am y Gyllideb wedi’i gytuno, eto yn y Cyfarfod Llawn, bydd y Comisiwn wedi cael y gymeradwyaeth angenrheidiol ar gyfer ei gynlluniau gwariant ar gyfer 2008/9.

Ond, nid dyma ddiwedd y broses. Yr ydym yn cadw llygad ar ein harian trwy gydol y flwyddyn, gan gysylltu perfformiad cyllidol gyda darparu gwasanaethau, a byddwn yn gyson yn adolygu effeithiolrwydd ein gwaith yn ôl y nodau a’r amcanion a gytunwyd gennym.

Gobeithio y cewch bod ein cynigion y gyllideb yn llawn gwybodaeth, yn dryloyw ac yn bennaf oll, yn realistig.