Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Claire Clancy

Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Cychwynnodd Claire ar ei gwaith fel Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ym mis Chwefror 2007. Crëwyd y swydd i adlewyrchu pwerau ehangach y Cynulliad yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Ers mis Mai 2007, mae Claire wedi arwain sefydliad sy’n annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n gyfrifol am sicrhau bod gan y Cynulliad yr eiddo, y staff a’r gwasanaethau y mae arno eu hangen, a helpu i ddatblygu Cynulliad sy’n ennyn hyder ac sydd ag enw da yng Nghymru a thu hwnt am ddemocratiaeth gyraeddadwy ac effeithlon. Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog  Cyfrifyddu, mae’n gyfrifol am redeg y sefydliad gan bennu’r safonau ar gyfer llywodraethu, cynllunio a rheoli rhaglenni, systemau technoleg gwybodaeth ddibynadwy, tryloywder a didwylledd llwyr a rheolaeth ariannol gadarn.

Mae Claire wedi treulio sawl blwyddyn yn gweithio o fewn cyrff sector cyhoeddus â diwylliant cryf o safbwynt cyflawni, gyda ffocws clir ar ddarparu ar gyfer cwsmeriaid. Cyn iddi ymuno â’r Cynulliad, Claire oedd Prif Weithredwr Ty’r Cwmnïau a Chofrestrydd Cwmnïau, gyda throsiant o £70m a 1,200 o weithwyr. Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yn y Swyddfa Batentau. Ar ddiwedd y 1990au, treuliodd ddwy flynedd ar ynys St Helena lle'r oedd ei gwr, Mike, yn Brif Ysgrifennydd ac yna’n Lywodraethwr yno. Ymunodd Claire â’r gwasanaeth sifil ym 1977 ac mae wedi gweithio yn y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr, yr Adran Gyflogaeth a Swyddfa’r Llywodraeth ar gyfer De-orllewin Lloegr. Bu hefyd yn brif weithredwr Cyngor Hyfforddiant a Menter Powys. Mae ganddi radd mewn seicoleg o’r Brifysgol Agored ac mae’n byw gyda’i gwr mewn fferm ger y Fenni. Mae’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser hamdden gyda’i dau geffyl ac mae’n mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau 'dressage'.

Gwyliwch gyflwyniad fideo Claire Clancy ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol

Cysylltwch â Claire Clancy