Busnes y Cynulliad
Mae Cyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad yn darparu cymorth seneddol arbenigol i Aelodau er mwyn sicrhau bod busnes yn cael ei gynnal yn effeithiol ac effeithlon. Mae’r gyfarwyddiaeth yn cynnwys Gwasanaeth y Pwyllgorau; Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth; Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau; a’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Seneddol.
Busnes y Cynulliad >>
Y Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn darparu’r gwasanaethau a ganlyn: Cyngor ar Orchmynion a Mesurau; Cyngor ar gymhwysedd deddfwriaethol; Craffu ar Is-ddeddfwriaeth a Cyngor Corfforaethol.
Y Gwasanaethau Cyfreithiol >>
Prif Swyddog Gweithredol
Mae gan gyfarwyddiaeth y Prif Swyddog Gweithredu gyfrifoldeb am: Adnoddau Dynol; Cyllid; Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu; Rheoli Ystadau a Chyfleusterau; Diogelwch; Cynllunio Corfforaethol; Rheoli Newid a Rhaglenni a Chyfathrebu Allanol.
Prif Swyddog Gweithredol >>
Y Bwrdd Rheoli
Mae’r Bwrdd Rheoli yn cynnwys Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y tri Chyfarwyddwr ac wyth pennaeth y gwahanol feysydd cyfrifoldeb yn y Cynulliad. Bydd y bwrdd yn cyfarfod bob mis a’r Prif Weithredwr sy’n cadeirio’r cyfarfodydd. Yr Uned Gorfforaethol sy’n rhoi cymorth ysgrifenyddol i’r bwrdd.
Y Bwrdd Rheoli >>
Yr Uned Gorfforaethol
Mae’r Uned Gorfforaethol yn darparu gwasanaethau Ysgrifenyddiaeth i Gomisiwn y Cynulliad a’r Bwrdd Gweithredol ; cefnogaeth i’r Llywydd a’r Prif Weithredwr; ac yn gyfrifol am Reoli Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth a Chyfathrebu Mewnol.
Uned Gorfforaethol >>