Busnes y Cynulliad
Mae Cyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad yn darparu cymorth seneddol arbenigol i Aelodau er mwyn sicrhau bod busnes yn cael ei gynnal yn effeithiol ac effeithlon. Yn benodol, mae’n darparu’r gwasanaethau a ganlyn:
Gwasanaeth y Siambr
Mae Gwasanaeth y Siambr yn sicrhau bod y cyfarfodydd llawn yn cael eu rheoli’n effeithiol ac mae’n darparu cyngor trefniadol i’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd ac Aelodau.
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Mae Gwasanaeth y Pwyllgorau yn rhoi cymorth ysgrifenyddol i bwyllgorau’r Cynulliad a chyngor trefniadol i gadeiryddion y pwyllgorau ac i Aelodau.
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth sy’n llywio’r broses ddeddfu ar ei hynt drwy’r Cynulliad. Mae’r Swyddfa’n darparu gwasanaeth clercio ar gyfer pwyllgorau a sefydlwyd i graffu ar Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, Mesurau’r Cynulliad ac is-ddeddfwriaeth ac ar gyfer camau dilynol a gynhelir mewn cyfarfod llawn. Mae’r Swyddfa Ddeddfwriaeth hefyd yn cynorthwyo’r broses o ddatblygu cynigion deddfwriaethol gan Aelodau unigol.
Y Swyddfa Gyflwyno
Mae’r Swyddfa Gyflwyno yn darparu cyngor ac yn dyfarnu ar dderbynioldeb cwestiynau a chynigion; cyhoeddi’r gofrestr o fuddiannau Aelodau; rhoi cyfarwyddyd ar gofrestru a datgan buddiannau; a chynorthwyo’r Comisiynydd Safonau.
Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn darparu gwybodaeth a chymorth ymchwil cyfrinachol a diduedd i Aelodau’r Cynulliad a’r pwyllgorau.
Cofnod y Trafodion
Mae tîm Cofnod y Trafodion yn cynhyrchu a chyhoeddi trawsgrifiadau dwyieithog o’r cyfarfod llawn a chyfarfodydd pwyllgor.
Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i sicrhau bod modd i’r Cynulliad weithio’n ddwyieithog.