Uned Gorfforaethol
Mae’r Uned Gorfforaethol yn darparu’r gwasanaethau a ganlyn:
- Ysgrifenyddiaeth Comisiwn y Cynulliad;
- Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol;
- Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Rheoli
- Cymorth i’r Llywydd;
- Cymorth i’r Prif Weithredwr;
- Rheoli Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth;
- Cyfathrebu Mewnol;
- Cydgysylltu polisïau strategol corfforaethol.
Ysgrifenyddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Mae’r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad, yn comisiynu papurau ac yn paratoi a chyhoeddi Cofnodion. Mae gan Gomisiynwyr unigol gyfrifoldebau portffolio ar gyfer meysydd penodol o waith Staff Comisiwn y Cynulliad, ac mae’r Ysgrifenyddiaeth yn eu cefnogi yn y rôl hon drwy drefnu cyfarfodydd ac ymweliadau yn ôl yr angen.
Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
Mae’r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd, yn comisiynu papurau ac yn paratoi a chyhoeddi Cofnodion.
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Rheoli
Mae’r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd, yn comisiynu papurau ac yn paratoi Cofnodion.
Cymorth i’r Llywydd
Mae hyn yn cynnwys rheoli dyddiadur y Llywydd, cysylltu â’r swyddfa etholaethol, delio â phob gohebiaeth, comisiynu atebion drafft gan aelodau eraill o Wasanaethau’r Cynulliad, comisiynu nodiadau ar gyfer areithiau, drafftio areithiau, a chysylltu ag Ysgrifenyddiaeth Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ôl yr angen.
Cymorth i’r Prif Weithredwr
Mae’r rôl yn cynnwys rheoli dyddiadur y Prif Weithredwr a chydgysylltu gohebiaeth y Prif Weithredwr.
Rheoli Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r tîm yn gyfrifol am Reoli Cofnodion Gwasanaethau’r Cynulliad. Mae hefyd yn gyfrifol am ystyried ac ymateb i unrhyw geisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu ddeddfwriaeth debyg.
Cyfathrebu Mewnol
Mae’r tîm yn cydgysylltu gwasanaethau cyfathrebu mewnol i Staff Comisiwn y Cynulliad ac yn gweithio’n agos gyda’r tîm Cyfathrebu Allanol i sicrhau bod negeseuon yn gyson, bod arddull mewnol yn gyson a bod adnoddau fel llyfrgelloedd lluniau yn cael eu rhannu.
Cydgysylltu polisïau strategol corfforaethol
Mae’r tîm yn gyfrifol am gydgysylltu’r broses o ddatblygu a diweddaru amrywiaeth o bolisïau corfforaethol, yn cynnwys Iechyd a Diogelwch, Rhyddid Gwybodaeth, Cyfle Cyfartal a’r Polisi Iaith Gymraeg.