Y Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn darparu’r gwasanaethau a ganlyn:

  • Cyngor ar Orchmynion a Mesurau;
  • Cyngor ar gymhwysedd deddfwriaethol;
  • Craffu ar Is-ddeddfwriaeth;          
  • Cyngor Corfforaethol

Cyngor ar Orchmynion a Mesurau

Mae’r tîm yn gyfrifol am gynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei Bwyllgorau a’r Llywydd ar gwmpas a chynnwys Gorchmynion drafft yn y Cyfrin Gyngor a Mesurau’r Cynulliad.              

Cyngor ar gymhwysedd deddfwriaethol

Mae’r tîm yn dehongli Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac yn sicrhau bod yr holl weithgareddau yr ymgymerir â hwy o fewn ei chymhwysedd.  Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor i’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yng Nghyfarfodydd Llawn y Cynulliad, ac o ran gwneud penderfyniadau am dderbynioldeb cynigion a chwestiynau gan Aelodau’r Cynulliad.                                               

Craffu ar Is-ddeddfwriaeth

Mae’r tîm yn rhoi cyngor cyfreithiol i’r Pwyllgor ar Graffu ar Is-ddeddfwriaeth.

Cyngor Corfforaethol

Mae’r tîm yn rhoi cyngor cyfreithiol i Gomisiwn y Cynulliad, y Prif Weithredwr a Chlerc, a’r Prif Swyddog Gweithredu ar amrywiol faterion sy’n deillio o gyfrifoldebau Comisiwn y Cynulliad dros eiddo, staff a gwasanaethau.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Amdanon Ni
  3. Y Comisiwn a gweinyddiaeth y Cynulliad
  4. Y Cyfarwyddiaethau
  5. Y Gwasanaethau Cyfreithiol

Partneriaid a Help