Y Prif Swyddog Gweithredol
Mae gan gyfarwyddiaeth y Prif Swyddog Gweithredol gyfrifoldeb am:
- Adnoddau Dynol;
- Cyllid;
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu;
- Rheoli Ystadau a Chyfleusterau;
- Diogelwch;
- Cynllunio Corfforaethol;
- Rheoli Newid a Rhaglenni
- Cyfathrebu Allanol.
Adnoddau Dynol
Mae cyfrifoldebau’r tîm Adnoddau Dynol yn cynnwys darparu amrywiaeth o wasanaethau Adnoddau Dynol, fel hyfforddiant a datblygiad, recriwtio mewnol ac allanol, rheoli perfformiad, Iechyd a Diogelwch ac iechyd galwedigaethol.
Gwasanaethau Cyllid
Tîm y Gwasanaethau Cyllid sy’n pennu’r safon o ran rheolaeth ac ymwybyddiaeth ariannol yn y sefydliad. Mae’n prosesu taliadau (gan gynnwys y gyflogres) i Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth a staff y Cynulliad; yn cynorthwyo’r Comisiwn â’r gwaith o reoli’i adnoddau ariannol a chadw cyfrifon; yn ceisio talu anfonebau gan gyflenwyr yn gyflym; ac yn rhoi cyngor ar gaffael a datblygu cynaliadwy. Mae Timau Cymorth Busnes yr Aelodau’n cydgysylltu’r gwasanaethau i Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys gweinyddu’r gyflogres, cyllidebu a thalu lwfansau’r Aelodau a rhoi cymorth adnoddau dynol a phensiynau i’r Aelodau a’u staff.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Mae’r tîm TGCh yn gyfrifol am reoli’r gwasanaethau TGCh a darlledu a ddarperir i Gomisiwn y Cynulliad. Mae’r tîm yn sicrhau y caiff gwasanaethau TGCh eu darparu i Aelodau, eu staff cymorth a swyddogion, a bod cyfleusterau darlledu ar gael o fewn Comisiwn y Cynulliad.
Rheoli Ystadau a Chyfleusterau
Mae’r tîm yn gyfrifol am reoli ystad Comisiwn y Cynulliad a rheoli cyfres o gontractau gyda darparwyr gwasanaeth allanol. Mae’r tîm yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau hanfodol ar gyfer adeilad y Cynulliad ac Adeilad y Lanfa i alluogi a chynorthwyo Aelodau’r Cynulliad a swyddogion i wneud eu gwaith yn effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdrefnau brys, adeiladau ac iechyd a diogelwch.
Diogelwch
Mae’r adran Ddiogelwch yn gyfrifol am ddelio â phob agwedd ar ddiogelwch adeiladau a diogelwch cyffredinol yn adeiladau Comisiwn y Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Cynllunio Corfforaethol
Cyfrifoldeb y tîm Cynllunio Corfforaethol yw amlinellu a monitro blaenoriaethau ac amcanion Comisiwn y Cynulliad, yn cynnwys paratoi Cynllun Corfforaethol Staff Comisiwn y Cynulliad a Chynlluniau Blynyddol, Rheoli Risg a Pharhad Busnes.
Rheoli Newid a Rhaglenni
Swyddogaeth y tîm Rheoli Newid a Rhaglenni yw darparu fframwaith i helpu i reoli, cyflawni a gweithredu newidiadau o fewn y sefydliad. Mae’r tîm yn sicrhau bod technegau Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau da a dogfennaeth yn cael eu defnyddio i ymdrin â darnau o waith o fewn amser penodol.
Cyfathrebu Allanol
Mae’r tîm Cyfathrebu Allanol yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwerau a gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ei swyddogaethau yn cynnwys cyflwyno strategaeth gyfathrebu, cysylltu â’r Wasg a’r cyfryngau darlledu ar ran y Llywydd, Comisiwn y Cynulliad a Chadeiryddion Pwyllgorau, yn ogystal ag ar ran y Prif Weithredwr a Chlerc.