Mae’r tudalennau hyn yn nodi ein Cynlluniau Cydraddoldeb a pholisïau eraill yr ystyriwn yn ddogfennau dynamig, sy’n destun gwelliant ac adolygiad parhaus. Croesawn farn a sylwadau gan unigolion a sefydliadau cynrychioliadol.
Yn dilyn y newidiadau a wnaed gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yr ydym ar hyn o bryd yn adolygu ein Cynlluniau Cydraddoldeb Hiliol ac Anabledd a’n Cynlluniau Gweithredu ac rydym yn y broses o gwblhau ein Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol a’n Cynllun Gweithredu. Pan fyddant ar gael caiff y Cynlluniau a’r Cynlluniau Gweithredu eu cyhoeddi yma yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithio tuag at gael Cynllun Cydraddoldeb a Chynllun Gweithredu Sengl i’w gyhoeddi yn 2008. Bydd rhagor o newyddion am y prosiect hwn ar gael ar y tudalennau hyn yn y man.