1. Adroddiad Blynyddol - Cyflwyniad
This is a Flash Object

Fideo: Fersiwn Band Eang | Fideo: Fersiwn Deialu
Mae hwn, sef ein hadroddiad blynyddol cyntaf fel Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn nodi sut yr ydym wedi gwneud ein dyletswyddau rhwng 9 Mai 2007 – y diwrnod y daeth Deddf Llywodraeth Cymru i rym a rhoi i ni ein pwerau newydd – a 31 Mawrth 2008.
Rhwng 1999 a 2007, roeddem yn rhan o gorff corfforaethol mwy a oedd yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd yr adroddiad blynyddol hwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithgareddau a’n datblygiadau fel corff seneddol annibynnol ac yn disgrifio rhai o’n huchafbwyntiau yn ogystal â’n gwaith o ddydd i ddydd.
Bu’n flwyddyn gyffrous a phwysig i ni ac rydym wedi adeiladu’r sylfeini ar gyfer y pedair blynedd hyd at 2011 fel y gallwn gyflawni’n huchelgais o wneud y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru. Lansiwyd ein strategaeth ar ddiwedd yr haf diwethaf ac mae ein pum nod strategol wrth wraidd popeth a wnawn. Mae adrannau eraill yr adroddiad hwn yn disgrifio’r hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud i gyflawni hynny. Credaf ei bod yn allweddol ein bod wedi gallu cynnwys ein pwerau newydd a gweithio’n gyflym a chydag angerdd i ddatblygu ein rhaglen ddeddfwriaethol.
Fel sefydliad newydd, cefais fy nghalonogi gan ein cynnydd yn ystod y flwyddyn. Gwelodd ymrwymiad cadarnhaol Aelodau’r Cynulliad a’r staff: gyflwyno saith Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig a dau Fesur Cynulliad arfaethedig; cynhyrchu 3,500 darn o waith ysgrifenedig ar gyfer Aelodau’r Cynulliad gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau; 244 cyfarfod pwyllgor neu gyfarfod deddfwriaethol ffurfiol yn ogystal â 61 Cyfarfod Llawn o’r Cynulliad; cyrhaeddodd ein rhaglen addysgol gyfanswm o 16,692 o ddisgyblion o bob rhan o Gymru a chroesawyd ein 500,000fed ymwelydd i’r Senedd yn ystod y flwyddyn.

Yma a thramor, mae sefydliadau seneddol a dirprwyaethau rhyngwladol eraill yn parhau i fod â diddordeb yn ein gwaith a chroesawyd ymweliadau gan 81 o ddirprwyaethau yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal â dysgu gennym, mae cysylltiadau o’r fath yn ein hyrwyddo fel sefydliad ac yn helpu i sicrhau y gallwn gymryd ein lle ar y llwyfan rhyngwladol.
Fodd bynnag, chi, pobl Cymru, yw canolbwynt ein hymdrechion fel Cynulliad. Ym mhopeth a wnawn o ran datblygu ein pwerau, gobeithiwn y byddwch yn cysylltu â ni fel y gallwn, gyda’n gilydd, greu Cymru well. Mae’r daith wedi cychwyn ac mae eich rhan chi’n hanfodol er mwyn sicrhau bod y momentwm yn cael ei gynnal.

Fideo: Fersiwn Band Eang | Fideo: Fersiwn Deialu
Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau arwyddocaol newydd i ddeddfu, a chryfhaodd ei rôl graffu. Creodd hefyd Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi’r Cynulliad. Ein prif weithgaredd yn ystod y flwyddyn oedd cefnogi gwaith y Cynulliad yn dilyn etholiadau mis Mai 2007 a rhoi gweithdrefnau ar gyfer ei swyddogaethau newydd ar waith.
Mae gan ein sefydliad newydd ethos cryf o ran gwasanaeth ac rydym yn ceisio cyflymdra, ansawdd, arferion gorau a gwelliant ym mhopeth a wnawn. I gyflawni’r heriau hyn, rydym wedi ailstrwythuro er mwyn sicrhau bod gennym y gwasanaethau iawn yn y lle iawn a disgwyliwn allu adeiladu ar y sylfeini cryf newydd hyn yn y dyfodol.
Mae’r staff o fewn ein tair Cyfarwyddiaeth newydd; Gweithrediadau, Busnes y Cynulliad, a Chyfreithiol ynghyd ag Uned Gorfforaethol, wedi croesawu’r heriau a’r newidiadau diwylliannol a ddaeth yn sgil y pwerau a’r gweithdrefnau gwell a’r rhai hynny a gyflwynwyd gan Strategaeth Comisiwn y Cynulliad a ddisgrifir mewn mwy o fanylder yn Adran 2 yr adroddiad hwn. Rydym wedi recriwtio ac wedi datblygu staff medrus i swyddi allweddol ac rydym yn cyflwyno rhaglen arweinyddiaeth fel y gallwn ddarparu’r gwasanaeth gorau i Aelodau’r Cynulliad ac i chi. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio yma am eu cydweithrediad, eu hymroddiad a’u gwaith caled yn ystod ein blwyddyn gyntaf.
Byddwch yn darllen yn yr adroddiad hwn am sut yr adeiladwyd ein trefniadau rheoli a llywodraethu i helpu i gyflawni ein nodau a’n huchelgeisiau. Yn ystod y flwyddyn, datblygwyd fframweithiau rheoli risg a chynllunio gwasanaethau, tabl o ddangosyddion perfformiad allweddol a phenodwyd pedwar cynghorydd annibynnol i’n cynghori a’n herio yn ein gwaith. Fel prif sefydliad democrataidd Cymru, rydym yn benderfynol o wneud y defnydd gorau o gronfeydd cyhoeddus, gan reoli cyllideb o £41miliwn ac asedau net o £67miliwn.
Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn canolbwyntio ar adeiladu ar ein cyflawniadau hyd yma er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau. Byddwn yn chwilio am ragor o gyfleoedd i sicrhau eich bod yn gwybod am waith y Cynulliad ac i annog trafodaeth ynghylch ein pwerau a sut yr ydym yn eu defnyddio. Edrychwn ymlaen at yr heriau sydd o’n blaen a’r gobeithion a ddaw gyda hwy.