This is a Flash Object
Ym mis Mai 2007, sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad, fel corfforaeth, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Y Comisiwn sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan y Cynulliad yr adeilad, y staff a’r gwasanaethau angenrheidiol at ddibenion y Cynulliad.
Aelodaeth
Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol mai aelodau Comisiwn y Cynulliad yw y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall a enwebir gan y prif bleidiau gwleidyddol.
Yn gyffredinol, rôl y Comisiwn yw pennu nodau ac amcanion strategol ac ystyried perfformiad, cytuno ar safonau a gwerthoedd, goruchwylio newid, hybu arloesedd a mentergarwch, a hynny er mwyn gwella ein gallu i ddarparu’r broses o reoli risg a rheoli perfformiad a chymryd rhan ynddi. Mae’r pum comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol am swyddogaethau’r Comisiwn.
Er mwyn cynorthwyo i gyflawni’r swyddogaethau hyn, cytunodd y comisiynwyr ar bortffolios trawsbynciol sy’n ymwneud â phob agwedd ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hyn wedi caniatáu i lawer iawn o waith ddigwydd y tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Comisiwn ac i berthynas waith gadarnhaol gael ei datblygu gyda’n staff. Ceir manylion portffolio pob comisiynydd isod:

Cadeirydd y Comisiwn ac y mae ganddo gyfrifoldeb arbennig am hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd, arweiniad ardderchog, datblygu pwerau deddfu’r Cynulliad yn y dyfodol a chysylltiadau allanol. Mae’r Llywydd wedi arwain yn strategol o ran datblygu ein pwerau deddfwriaethol a chysylltiadau â’r cyfryngau.
Lorraine Barrett (Llafur)
Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys cyfrifoldeb am gydraddoldeb; iaith; yr amgylchedd a bod yn niwtral o ran carbon; caffael cynaliadwy a rheoli’r ystad. Gwnaed Lorraine yn gynrychiolydd y Comisiwn ar brosiect y Lanfa sy’n ystyried dyfodol Adeilad y Pierhead fel canolfan gynadledda, canolfan i ymwelwyr a chanolfan arddangos; ac y mae wedi cymryd diddordeb mawr yn y gwaith o reoli’r ystad ynghyd â’r effaith a gawn ar yr amgylchedd.
.
.
.
.
Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar ansawdd craffu a’r broses ddeddfu; cyfathrebu allanol; technoleg gwybodaeth a chyfathrebu; addysg mewn dinasyddiaeth a chyfreithlondeb. O fewn ei swyddogaeth fel comisiynydd, mae Peter wedi mynd i’r afael â nifer o eitemau, yn cynnwys edrych ar ddatblygu e-ddeisebau a mynd i’r afael â rhai materion technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
.
.
.
.
Chris Franks (Plaid Cymru)
Comisiynydd y Cynulliad sy’n Gwella - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar wella gwasanaethau i Aelodau a dinasyddion; cynnwys rhanddeiliaid; cynllunio strategol a sicrhau gwerth am arian. Mae Chris Franks wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu ein harolwg boddhad Aelodau a gaiff ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn nesaf.
.
.
.
.
William Graham (Ceidwadwyr Cymreig)
Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar reoli asedau’r Cynulliad; pobl y Cynulliad (gan gynnwys staff, contractwyr, y gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo staff cymorth Aelodau’r Cynulliad); cyllid; cyflogau a lwfansau Aelodau; effeithlonrwydd a llywodraethu da. William Graham oedd cynrychiolydd y Comisiwn ar y panel adolygu cyntaf i edrych ar y tâl a’r gefnogaeth ariannol a roddir i Aelodau, ac ef hefyd yw Aelod y Comisiwn ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
.
.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn parhau i fod yn atebol i’r Cynulliad drwy ohebiaeth a thrwy gwestiynau llafar ac ysgrifenedig a gyflwynir gan Aelodau’r Cynulliad i’w hateb yn y Cyfarfod Llawn. Ymatebodd pob comisiynydd i gwestiynau llafar mewn Cyfarfod Llawn o’r Cynulliad yn eu tro yn ystod y flwyddyn. Mae’r Comisiwn yn atebol hefyd drwy waith craffu gan bwyllgorau’r Cynulliad megis y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Cyhoeddir papurau cyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad ar ein gwefan a gellir dod o hyd iddynt yma.
Uchelgais y Comisiwn yw y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n rhoi hyder i bobl Cymru. Er mwyn cyflawni’r nod hwn a pharatoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu, mae Comisiwn y Cynulliad wedi llunio dogfen strategaeth sy’n nodi ein gweledigaeth a’n targedau ar gyfer y trydydd Cynulliad:
Fe welwch fod y strategaeth yn nodi ein gwerthoedd a fydd yn dangos ein hymrwymiad cytûn i lwyddo drwy feithrin cysylltiadau cryf a thrwy arweinyddiaeth. Byddwn bob amser yn gweithredu er budd gorau’r Cynulliad gan ddarparu gwasanaethau o ansawdd, gan fod yn broffesiynol, yn arloesol a thrwy barchu eraill. Er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y strategaeth a’n fframwaith cynllunio gwasanaethau.