This is a Flash Object
Y Siambr yw calon busnes y Cynulliad a dyna gartref Cyfarfodydd Llawn y Cynulliad. Yno y cynhelir trafodaethau pwysig ar amryw helaeth o faterion, gan gynnwys cynigion o ran polisi a deddfwriaeth.
Mae Gwasanaeth y Siambr yn darparu cymorth ysgrifenyddol i’r Pwyllgor Busnes a busnes y Cyfarfod Llawn, ac y mae’n cynorthwyo’r Llywydd a’r Dirprwy pan fyddant yn cadeirio cyfarfodydd llawn y Cynulliad drwy roi cyngor gweithdrefnol a gweithredu technoleg y Siambr. Mae’r Swyddfa Gyflwyno’n rhoi arweiniad a chymorth i Aelodau’r Cynulliad ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau bod busnes y Cyfarfod Llawn yn cael ei gyflwyno, lle mae hynny’n ofynnol, yn unol â’r Rheolau Sefydlog.

Mae’r Pwyllgor Busnes yn rhoi cyngor ar sut i reoli busnes y Cynulliad ac ar arferion a gweithdrefn gyffredinol y Cynulliad. Y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd a bydd Arweinydd y Ty a rheolwr busnes o bob un o’r pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad yn mynychu’r cyfarfodydd.
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod yn breifat bob dydd Mawrth yn ystod y tymor i roi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac i benderfynu ar drefn busnes y Cynulliad a busnes heblaw busnes y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn. Cynhaliwyd 29 o gyfarfodydd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008. Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes hefyd gyfarfod ar y cyd â Chomisiwn y Cynulliad i ystyried materion yn ymwneud ag adnoddau a threfnu busnes y Cynulliad.
Mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am drefnu a chyhoeddi amserlenni ar gyfer ystyried Mesurau arfaethedig (ar wahân i unrhyw gam a gymerir yn y Cyfarfod Llawn) ac amserlenni i’r Pwyllgor Deddfwriaethol ystyried Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y trydydd Cynulliad ar 9 Mai 2007, yn dilyn etholiadau’r Cynulliad. Etholwyd y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn y cyfarfod hwn.
Cynhaliwyd 61 o Gyfarfodydd Llawn rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008.
Rhennir busnes yn y Cynulliad i dri chategori:
Ymysg yr enghreifftiau o fusnes heblaw busnes y Llywodraeth a ystyriwyd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008 yr oedd:
Ymysg yr enghreifftiau o fusnes y Cynulliad a ystyriwyd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008 yr oedd:
Cwestiynau’r Cynulliad yw un o’r dulliau allweddol i Aelodau’r Cynulliad gael gwybodaeth neu i bwyso am weithredu. Ceir dau fath o gwestiynau yn y Cynulliad sef cwestiynau llafar a chwestiynau ysgrifenedig.
Gall Aelodau ofyn cwestiynau llafar yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Cynhelir cyfnod cwestiynau’r Prif Weinidog bob dydd Mawrth, gyda chwestiynau eraill yn cael eu rhoi gerbron y Gweinidogion a’r Comisiwn ar ddydd Mercher.
Dewisir pymtheg cwestiwn ar hap ar gyfer pob sesiwn gwestiynau mewn cymysgiad awtomatig a gynhelir ar ran y Llywydd. Caiff yr Aelodau wedyn gyfle i ofyn cwestiynau ychwanegol heb rybudd.
Yn ystod cyfnod yr adroddiad cyflwynwyd cyfanswm o 3,515 o gwestiynau llafar. Ceir dadansoddiad sy’n dangos i bwy y gofynnwyd y cwestiynau isod:
| Nifer y cwestiynau llafar a gyflwynwyd | |
| Y Prif Weinidog | 834 |
| Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | 416 |
| Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth | 415 |
| Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau | 321 |
| Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai | 310 |
| Y Gweinidog dros Dreftadaeth | 296 |
| Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol | 290 |
| Y Gweinidog dros Faterion Gwledig | 265 |
| Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus | 258 |
| Y Cwnsler Cyffredinol | 97 |
| Comisiwn y Cynulliad | 13 |
Yn dilyn y cwestiynau llafar gall y Llywydd ganiatáu unrhyw gwestiynau brys, sydd heb rybudd ac o bwys cyhoeddus brys. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn gofynnwyd 9 cwestiwn brys.
Gellir cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ar unrhyw adeg, a chael ateb yn ysgrifenedig. Bydd unrhyw gwestiwn llafar nad yw’n cael ei ofyn o fewn yr amser penodedig hefyd yn cael ateb ysgrifenedig, sy’n ymddangos yn y Cofnod. Yn ystod y cyfnod hwn cyflwynwyd 1,541 o gwestiynau ysgrifenedig.