This is a Flash Object
Gwasanaeth y Pwyllgorau yw’r ysgrifenyddiaeth sy’n gwasanaethu pwyllgorau craffu’r Cynulliad Cenedlaethol. Ceir naw o’r prif bwyllgorau craffu yn ogystal ag un is-bwyllgor. Mae patrwm aelodaeth y pwyllgorau’n adlewyrchu cyfran y gynrychiolaeth wleidyddol sydd gan y prif bleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r pwyllgorau’n bodoli er mwyn edrych ar y materion perthnasol a’r materion diweddaraf sy’n gysylltiedig â’u cylch gorchwyl, ac os yw hynny’n briodol, i graffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad.
Mick Bates AC (Cadeirydd), Lorraine Barrett AC, Alun Davies AC, Lesley Griffiths AC, Alun Ffred Jones AC, Elin Jones AC – tan 20 Medi 2007, Darren Millar AC, Karen Sinclair AC, Brynle Williams AC, Leanne Wood AC – ers 20 Medi 2007
Y tîm clercio: Clerc – Virginia Hawkins, Dirprwy Glerc – Joanne Clinton , Cymorth Tîm – Annette Stafford
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, ynni, materion gwledig, amaethyddiaeth, yr amgylchedd a chynllunio. Yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor, sefydlwyd is-bwyllgor ar wahân i ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu gwledig. Mae manylion gwaith yr is-bwyllgor i’w gweld ar wahân yn yr adroddiad hwn.
Blaenoriaeth gyntaf y Pwyllgor Cynaliadwyedd yw edrych ar sut y mae Cymru’n perfformio wrth leihau ei hallyriadau carbon yng nghyd-destun targedau cenedlaethol a rhyngwladol. I sicrhau bod modd craffu’n fanwl ac yn eglur ar bwnc mor eang, cafodd yr ymchwiliad ei rannu’n chwe rhan gwahanol: lleoliadau preswyl; trafnidiaeth; diwydiant a chyrff cyhoeddus; cynhyrchu ynni; rheoli’r defnydd o dir; a chynllunio.
Hyd yma, mae’r pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiadau ar leihau allyriadau carbon preswyl ac allyriadau carbon trafnidiaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth ar lafar a gyflwynwyd gan amrywiaeth eang o sefydliadau.
Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, bu’r pwyllgor ar ymweliad â ‘dinas solar’ Freiburg yn yr Almaen a Linz yn Awstria, er mwyn gweld arferion da mewn dinasoedd a rhanbarthau sydd ag allyriadau carbon isel iawn.
Cynhaliodd y pwyllgor hefyd sesiynau tystiolaeth ar ddeisebau, deddfwriaeth a’r materion perthnasol diweddaraf, a chraffwyd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad. Trafodwyd deiseb yn galw am barthau clustogi mwy rhwng pyllau glo brig a chartrefi, a deiseb yn galw am waharddiad ar fagiau plastig.
Edrychodd y pwyllgor ar effaith Mesurau’r Deyrnas Unedig ar Gymru yng nghyd-destun ei gylch gorchwyl, er enghraifft y Mesur Newid yn yr Hinsawdd a Mesur Cynllunio’r Deyrnas Unedig.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 18 achlysur yn y cyfnod dan sylw.

Aelodau’r pwyllgor: Alun Davies AC (Cadeirydd), Mick Bates AC, Alun Ffred Jones AC, , Brynle Williams AC
Y tîm clercio: Clerc – Claire Morris, Dirprwy Glerc – Joanne Clinton, Cymorth Tîm – Annette Stafford
Sefydlwyd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig fel is-bwyllgor i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd ar 5 Gorffennaf 2007. Mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyd-destun meysydd cyfrifoldeb y Llywodraeth sy’n cael effaith ar ddatblygu gwledig.
Blaenoriaeth gyntaf y pwyllgor oedd cynnal ymchwiliad i TB mewn gwartheg yng Nghymru, yn sgil cyhoeddi adroddiad terfynol y Grwp Gwyddonol Annibynnol ar TB mewn Gwartheg. Dechreuodd y pwyllgor ar ei waith drwy glywed tystiolaeth yn Sioe Frenhinol Cymru – y tro cyntaf i un o bwyllgorau’r Cynulliad wneud hynny. Bu Aelodau’r pwyllgor hefyd ar ymweliad â Belffast i gyfarfod ag aelodau Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Cynulliad Gogledd Iwerddon a swyddogion yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y pwyllgor ym mis Ionawr a chafwyd dadl arno yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Chwefror 2008.
Ym mis Tachwedd, bu’r pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog dros Faterion Gwledig yng nghyd-destun yr elfennau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru a oedd yn ymwneud â datblygu gwledig.
Bu’r pwyllgor hefyd yn craffu ar waith y Gweinidog dros Faterion Gwledig yng nghyd-destun y modd yr ymatebodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i glwy’r traed a’r genau. Cyhoeddwyd casgliadau’r pwyllgor mewn adroddiad ym mis Ionawr a chafwyd dadl ar hyn ar y cyd â’r Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Chwefror 2008. Yr oedd y Pwyllgor Cyllid wedi cynnal ymchwiliad ar yr un pryd i effaith ariannol y clwy ar Gymru.
Ym mis Ionawr, dechreuodd y pwyllgor gasglu tystiolaeth ar gyfer ei drydydd ymchwiliad i dlodi ac amddifadedd yn y Gymru wledig.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 11 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Aelodau’r pwyllgor: Gareth Jones AC (Cadeirydd), Janet Ryder AC, Jeff Cuthbert AC, Huw Lewis AC, Sandy Mewies AC, Christine Chapman AC, David Melding AC, Alun Cairns AC, Kirsty Williams AC
Y tîm clercio: Clerc – Kathryn Jenkins, Dirprwy Glerc – Dan Collier, Cymorth Tîm – Mike Lewis
Mae cylch gwaith y Pwyllgor yn cynnwys datblygu economaidd ac adfywio, menter gymdeithasol, trafnidiaeth a dysgu gydol oes.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 22 achlysur rhwng mis Gorffennaf 2007 a mis Mawrth 2008, gan gynnwys cyfarfod ar 4 Medi 2007 yn ystod toriad yr haf yng Nghanolfan Gymunedol Carno, er mwyn clywed tystiolaeth ynghylch deiseb i ailagor yr orsaf reilffordd leol. Cyflwynodd y gymuned leol y ddeiseb a bu’r pwyllgor hefyd yn craffu ar waith rhanddeiliaid allweddol. Gosododd y pwyllgor ei adroddiad ar 27 Medi 2007. Yn ystod tymor yr hydref, bu’r pwyllgor yn craffu cyn deddfu ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru), a chyhoeddwyd adroddiad ar gynllunio rheilffyrdd y dyfodol. Gosodwyd y ddau adroddiad ar 27 Tachwedd 2007, a chynhaliwyd dadl ar yr adroddiad ar y rheilffyrdd yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Ionawr 2008. Er mwyn rhoi sylw i bryderon ynghylch gweithredu argymhellion y pwyllgor blaenorol ar ariannu ysgolion, cynhaliwyd ymchwiliad dilynol gan y pwyllgor, ac y mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Mai. Ers mis Tachwedd 2007, bu’r pwyllgor yn casglu tystiolaeth ac yn pennu cwmpas ymchwiliad pwysig i effaith economaidd addysg uwch. Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn haf 2008.
Fel rhan o ymrwymiad y pwyllgor i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, etholwyd grwp ‘rapporteur’ i drafod y driniaeth a’r cymorth sydd ar gael i bobl â dyslecsia. Dechreuodd y grwp weithio yn ystod toriad yr haf a bu ar sawl ymweliad yn y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America. At hynny, rhoddwyd cyfres o gyflwyniadau i’r grwp gan sefydliadau dyslecsia; cynhaliwyd cynhadledd fideo gyda rhieni a phlant yng ngogledd Cymru; a chynhaliwyd bore coffi gyda theuluoedd sy’n byw yn ne Cymru. Gosododd y grwp ei adroddiad dros dro ar 12 Rhagfyr 2007. Disgwylir ei adroddiad terfynol erbyn diwedd y gwanwyn.
Aelodau’r pwyllgor: Janice Gregory AC(Cadeirydd), Peter Black AC, Paul Davies AC, Nerys Evans AC, Lesley Griffiths AC, Mark Isherwood AC, Dai Lloyd AC, Lynne Neagle AC, Joyce Watson AC
Y tîm clercio: Clerc – Chris Reading, Dirprwy Glerc – Sarah Bartlett, Cymorth Tîm – Annette Millett
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor yn cynnwys:
Cyn toriad yr haf yn 2007, bu’r pwyllgor yn trafod gwahanol ddewisiadau ar gyfer ymchwiliad craffu, a dewisodd edrych ar ariannu sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru. Dechreuodd y pwyllgor gasglu tystiolaeth ym mis Hydref 2007 gan amryw o sefydliadau gan gynnwys Gweinidogion Cymru, cyrff ac asiantaethau mantell, llywodraeth leol, a sefydliadau’n cynrychioli menywod, plant a phobl ifanc, pobl hyn, grwpiau ethnig, grwpiau crefyddol amrywiol, a phobl hoyw, lesbaidd a deurywiol. Daeth dros 50 o gyflwyniadau ysgrifenedig i law, a daeth yr ymchwiliad i ben ym mis Ebrill 2008.
Bu’r pwyllgor hefyd yn craffu ar waith portffolio’r Gweinidogion a’r Dirprwy Weinidogion perthnasol, ac yn benodol ar eu cynlluniau gwariant yng nghyllideb ddrafft y Cynulliad. Hefyd, bu rhai Aelodau ar ymweliad â Thy Brynawel, sef canolfan adsefydlu ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol, yn Llanharan ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 13 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Aelodau’r pwyllgor: Alun Cairns AC (Cadeirydd), Mohammad Asghar AC, Angela Burns AC, Alun Davies AC, Alun Ffred Jones AC, Ann Jones AC, Lynne Neagle AC, Jenny Randerson AC, Joyce Watson AC
Y tîm clercio: Clerc – John Grimes, Dirprwy Glerc – Abigail Phillips, Cymorth Tîm – Karl Gomila
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor yn ei alluogi i graffu ar wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus o Gronfa Gyfunol Cymru. Mae’r pwyllgor hefyd yn craffu ar benderfyniadau ariannol ar gyfer Mesurau Cynulliad arfaethedig, sef gwaith a wnaed gan y pwyllgor am y tro cyntaf yn 2008 wrth ystyried goblygiadau ariannol y Mesur ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007.
Ym mis Tachwedd 2007, bu’r pwyllgor yn craffu ar gynigion Cynulliad Cymru ar gyfer y gyllideb ddrafft am y tro cyntaf. Cynhaliwyd dau gyfarfod wedi’u trefnu ynghyd â thri chyfarfod arall yn ystod y cyfnod craffu o bedair wythnos er mwyn trafod y cynigion ar gyfer y gyllideb yn llawn ac yn agored. Derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru nifer o argymhellion y pwyllgor.
Ym mis Hydref 2007, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid alwad am dystiolaeth fel sail i’w ymchwiliad i bartneriaethau cyhoeddus-preifat. Mae’r amrywiaeth eang o ymatebion ysgrifenedig a gafwyd, ynghyd â thystiolaeth gan dystion i’r pwyllgor, wedi cyfrannu at y drafodaeth fywiog sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn dod â’r ymchwiliad i ben drwy gyhoeddi ei adroddiad yn haf 2008.
Mae’r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi trafod ac wedi cyhoeddi adroddiadau ar ddwy gyllideb atodol, gan nodi asedau ariannol a oedd heb eu datgan ac ar gael i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 14 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Aelodau’r pwyllgor: David Melding AC (Cadeirydd), Lorraine Barrett AC, Eleanor Burnham AC, Chris Franks AC, Janice Gregory AC, Lesley Griffiths AC, Irene James AC, Bethan Jenkins AC (ers mis Mawrth 2008), Helen Mary Jones AC(tan fis Mawrth 2008), Huw Lewis AC,, Darren Millar AC
Y tîm clercio: Clerc – John Grimes, Dirprwy Glerc – Abigail Phillips, Cymorth Tîm – Karl Gomila
Sefydlwyd y Pwyllgor Archwilio er mwyn gweithio’n agos gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd economaidd, effeithlon ac effeithiol. Mae’r Rheolau Sefydlog yn nodi bod yn rhaid cael 10 Aelod ar y Pwyllgor Archwilio, sy’n golygu mai hwn yw un o bwyllgorau mwyaf y trydydd Cynulliad.
Ym mis Tachwedd 2007, cyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad, ‘Diogelu Arian Cyhoeddus ym Mhrosiectau LG, Casnewydd’. Cyflwynodd yr adroddiad bump o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a derbyniwyd pob un ohonynt yn llawn.
Ym mis Ionawr 2008, cyhoeddodd y Pwyllgor Archwilio ei adroddiad, ‘Adolygiad o’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Newydd yng Nghymru’. Cyflwynodd y pwyllgor wyth o argymhellion. Derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru chwech ohonynt yn llawn, a dau ohonynt yn rhannol. Croesawodd y pwyllgor ymrwymiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i barhau i fonitro’r cynnydd a wnaed gan y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru wrth reoli’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol newydd ac wrth roi’r argymhellion ar waith.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi casglu tystiolaeth ac wedi cyhoeddi adroddiadau fel a ganlyn: ‘Mynd i’r afael ag achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y system gyfan’; ‘Adroddiad ar Gyfrifon Adnoddau Cyfunol 2006-07 Cynulliad Cenedlaethol Cymru’; ‘Lleihau Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd mewn Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru’, a ‘Cyngor Celfyddydau Cymru – Cefnogi Prosiectau Cyfalaf Mawr’.
Cyfarfu’r pwyllgor ar chwe achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Aelodau’r pwyllgor: Jonathan Morgan AC (Cadeirydd), Jenny Randerson AC, Nick Ramsay AC, Val Lloyd AC, Lorraine Barrett AC, Ann Jones AC, Irene James AC, Helen Mary Jones AC, Dai Lloyd AC
Y tîm clercio: Clerc – Steve George, Dirprwy Glerc – Catherine Lewis, Cymorth Tîm – Joel Steed (tan fis Ionawr 2008), Carla Brookes (ers mis Ionawr 2008)
Gwaith y Pwyllgor yw edrych ar wariant, gweinyddiaeth a pholisïau Llywodraeth y Cynulliad a chyrff cyhoeddus cysylltiedig ym meysydd iechyd, llywodraeth leol a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.
Yr oedd ymchwiliad cyntaf y pwyllgor yn ymwneud â chynllunio gweithlu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Cynhaliwyd deg sesiwn rhwng mis Medi 2007 a mis Ionawr 2008 i glywed tystiolaeth ar lafar gan 48 o unigolion a oedd yn cynrychioli 19 o sefydliadau. Daeth 17 o gyflwyniadau ysgrifenedig i law’r pwyllgor hefyd. Cyflwynodd y pwyllgor adroddiad eang i’r Cynulliad ar 13 Mawrth 2008, ac ynddo 28 o argymhellion.
Dechreuodd ail ymchwiliad y pwyllgor, sef ymchwiliad i ganiatâd tybiedig i roi organau, ym mis Ionawr 2008. Fel rhan o’r broses o gasglu tystiolaeth, mae’r pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad yn y Senedd, lle mae cyfle i ymwelwyr gael gwybodaeth gefndir a llenwi holiadur byr i roi barn ar y pwnc. Bu’r gwasanaeth gwybodaeth i’r cyhoedd yn y Cynulliad hefyd yn defnyddio ymchwiliad y pwyllgor wrth weithio gydag ysgolion. Yr oedd y gwaith hwn yn cynnwys trafodaethau gyda grwpiau ysgol a llenwi holiadur, a bydd y canlyniadau hyn hefyd yn rhan o dystiolaeth yr ymchwiliad. Mae’r pwyllgor wedi lansio arolwg a fforwm ar-lein ar y pwnc, a bydd yn cynnal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus.
Cyflwynwyd tystiolaeth ar lafar i’r pwyllgor gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Cyflwynwyd tystiolaeth ar lafar hefyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhan o’r ymchwiliad i gynllunio gweithlu.
Cynhaliodd y pwyllgor sesiynau craffu helaeth gyda’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyfarfu’r pwyllgor ar 17 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Aelodau’r pwyllgor: Helen Mary Jones AC (Cadeirydd), Christine Chapman AC, Lynne Neagle AC, Eleanor Burnham AC, Angela Burns AC
Y tîm clercio: Clerc – Tom Jackson, Dirprwy Glerc – Claire Griffiths, Cymorth Tîm – Linda Heard
Cylch gorchwyl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yw ystyried materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru a chyhoeddi adroddiad arnynt; archwilio gwariant, gwaith gweinyddol a pholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff cyhoeddus eraill sy’n gysylltiedig â’r maes; ac ystyried adroddiadau Comisiynydd Plant Cymru.
Sefydlwyd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar 16 Hydref 2007 a dechreuwyd yn syth ar y gwaith o ddatblygu cysylltiadau gyda swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, gan graffu ar adroddiad blynyddol y comisiynydd ym mis Chwefror 2008.
Ar 6 Mawrth 2008, cyflwynodd y pwyllgor ei adroddiad ar gomisiynu gwasanaethau eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc. Wrth gynnal yr ymchwiliad hwn, clywodd y pwyllgor dystiolaeth uniongyrchol gan bobl ifanc yn y cyfarfodydd, a thrwy ymweliadau ‘rapporteur’ gan yr Aelodau a fu’n cyfarfod grwpiau o bobl ifanc. Yr oedd nifer o’r bobl ifanc hyn yn bresennol wrth lansio’r adroddiad. Mae fersiwn hawdd i’w ddarllen o’r adroddiad wedi’i lunio ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cyfarfu’r pwyllgor ar saith achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Aelodau’r pwyllgor: Ann Jones AC (Cadeirydd), Bethan Jenkins AC, Helen Mary Jones AC (tan 13 Mawrth), Chris Franks AC (ers 13 Mawrth), Joyce Watson AC, Christine Chapman AC, Lynne Neagle AC (tan 13 Mawrth), Huw Lewis AC, (ers 13 Mawrth), Eleanor Burnham AC, Angela Burns AC, Mark Isherwood AC
Y tîm clercio: Clerc – Tom Jackson, Dirprwy Glerc – Claire Griffiths, Cymorth Tîm – Linda Heard
Cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yw ystyried cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, cyfle cyfartal i bawb, a chyfrifoldebau Comisiwn y Cynulliad yn y maes. Bydd hefyd yn cyflwyno adroddiadau ar hyn.
Ym mis Rhagfyr 2007, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ei adroddiad ar hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio, a derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y mwyafrif o’r argymhellion.
Ym mis Ionawr 2008, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan grwp o bobl ifanc anabl, a oedd wedi cydweithio â’r pwyllgor yn y gorffennol ar ymchwiliad i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl. Clywodd y pwyllgor gan y bobl ifanc am yr hyn a oedd wedi newid a heb newid ers cyhoeddi’r adroddiad. Cyflwynwyd sylwadau’r bobl ifanc i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Wrth gynnal ei ymchwiliad i faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol, bu’r pwyllgor ar ymweliad â chanolfan eiriolaeth a gwybodaeth yn Wrecsam. Mae’r pwyllgor hefyd wedi casglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o dystion, gan gynnwys y Gweinidog-Gwnsler Mr Krzysztof Trepczynski o Adran Economeg Llysgenhadaeth Gwlad Pwyl yn Llundain.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 11 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Aelodau’r pwyllgor: Sandy Mewies AC (Cadeirydd), Nicholas Bourne AC, Christine Chapman AC, Jeff Cuthbert AC, Nerys Evans AC, Mike German AC, William Graham AC, Gareth Jones AC, Val Lloyd AC
Y tîm clercio: Clerc – Chris Reading, Dirprwy Glerc – Sarah Bartlett, Cymorth Tîm – Annette Millett
Gall y pwyllgor ystyried unrhyw faterion sy’n berthnasol i swyddogaethau Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol neu’r Cynulliad mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd neu faterion allanol, a chyflwyno adroddiadau ar hynny.
Cyn toriad yr haf yn 2007, bu’r pwyllgor yn trafod nifer o bosibiliadau ar gyfer ymchwiliad craffu, gan ddewis edrych ar y berthynas rhwng Banc Buddsoddi Ewrop a Chymru. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Fanc Buddsoddi Ewrop, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, cymdeithas tai preifat a gafodd gyllid gan Fanc Buddsoddi Ewrop, a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog dros Gyllid a Datblygu Economaidd.
Yn ogystal â chynnal yr ymchwiliad, cynhaliodd y pwyllgor sesiynau briffio rheolaidd gyda Phrif Weinidog Cymru, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog dros Faterion Ewropeaidd ac Allanol.
Bu’r pwyllgor yn trafod blaenoriaethau Slofenia ar gyfer llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, a hynny gyda llysgennad Slofenia i’r Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd sesiynau briffio gyda phennaeth cynrychiolaeth y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru; trafodwyd raglen waith flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd; a chyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor gan gangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
Cyfarfu’r pwyllgor ar chwe achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Aelodau’r pwyllgor: Val Lloyd AC(Cadeirydd), Bethan Jenkins AC, Mike German AC, Andrew R.T. Davies AC
Y tîm clercio: Clerc – Stefan Sanchez, Dirprwy Glerc – Alun Davidson, Cymorth Tîm – Tom Williams
Cylch gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried deisebau a gyflwynir gan y cyhoedd a chyrff cyhoeddus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys craffu ar bolisïau a gweinyddiaeth berthnasol Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad). Mae hwn yn bwyllgor newydd a gafodd ei sefydlu yn y trydydd Cynulliad.
Daw deisebau i law ar amrywiaeth eang o bynciau a hynny o bob cwr o Gymru, ac y mae’r broses yn galluogi’r cyhoedd i fod yn rhan o’r broses wleidyddol a deddfwriaethol. Bu nifer o ddeisebwyr yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ar ôl cyflwyno’u deisebau, ac y mae hyn yn hwb i nod Comisiwn y Cynulliad o hyrwyddo datganoli a chynyddu’r nifer o bobl sy’n cyfrannu at y broses.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:
Y ddeiseb i ailagor gorsaf reilffordd Carno – cyfeiriwyd hyn at y Pwyllgor Menter a Dysgu a fu ar ymweliad â’r safle. Clywodd y pwyllgor hwnnw dystiolaeth gan randdeiliaid allweddol a gosodwyd adroddiad gerbron y Cynulliad, a oedd yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ymatebodd y Llywodraeth yn gadarnhaol gan awgrymu sut y gallai’r orsaf fodloni’r meini prawf technegol er mwyn bod yn rhan o’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a oedd ar y gweill.
Bu’r pwyllgor yn trafod deiseb yn erbyn gollwng carthion i afon Nant Cylla a chlywyd tystiolaeth gan y deisebwyr a chan Asiantaeth yr Amgylchedd, a oedd yn gyfrifol am roi’r drwydded. Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer gollwng carthion yn annigonol a chyflwynwyd argymhelliad i’r Gweinidog, a ymatebodd yn bositif drwy gadarnhau y byddai’r canllawiau’n cael eu diweddaru. Tynnwyd y cais i ollwng carthion yn ôl.
Ar 30 Mawrth 2008, yr oedd 61 o ddeisebau wedi dod i law’r pwyllgor yn y trydydd Cynulliad.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 11 achlysur yn y cyfnod dan sylw.