3. Meithrin Cysylltiadau ag Eraill
This is a Flash Object

Cafwyd cyfres o ddigwyddiadau i nodi agor y trydydd Cynulliad ddydd Llun a dydd Mawrth, 4 a 5 Mehefin 2007, yn cychwyn gyda gwasanaeth dathlu yng Nghadeirlan Fetropolitan Dewi Sant yng nghanol dinas Caerdydd.
Dathlwyd agor y trydydd Cynulliad yn ffurfiol ddydd Mawrth, 5 Mehefin 2007 yn y Senedd ym mhresenoldeb Ei Mawrhydi Y Frenhines, Eu Huchelderau Brenhinol Dug Caeredin, Tywysog Cymru a Duges Cernyw. Cyn dyfodiad y teulu brenhinol cafwyd gorymdaith o Aelodau’r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru a’i Gabinet a chynrychiolwyr o’r farnwriaeth yn y Senedd.
Ymhlith y gwahoddedigion yr oedd cynrychiolwyr o lywodraeth leol yng Nghymru; siaradwyr o seneddau cysylltiedig yn y Deyrnas Unedig, y Gymanwlad a seneddau rhanbarthol Ewropeaidd; diplomyddion; a chynrychiolwyr o blith pobl hyn ac ieuenctid o bob awdurdod unedol yng Nghymru. Cafwyd cefnogaeth filwrol yn y seremoni i nodi dyfodiad y teulu brenhinol y tu allan i’r Senedd gan Seindorf y Llynges Brenhinol a HMS Exeter, yna cafwyd seremoni fer yn y Siambr, pan fu Ei Mawrhydi Y Frenhines yn annerch y gynulleidfa ac yn llofnodi memrwn coffa i nodi ei hymweliad. Cyflwynodd Seindorf Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Ysgolion Caerdydd a Bro Morgannwg yr anthem genedlaethol ‘Mae Hen Wlad fy Nhadau’ wrth i’r teulu brenhinol ymadael. Yn dilyn hynny, ymunodd Aelodau’r Cynulliad a gwahoddedigion â’r teulu brenhinol am ginio ym mhrif neuadd yr Amgueddfa Genedlaethol.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi parhau â’i raglen weithredol o gysylltiadau allanol i sicrhau ein bod yn dysgu oddi wrth neu’n dylanwadu ar sefydliadau neu ddeddfwrfeydd eraill, yn datblygu cysylltiadau ac yn gwella safle Cymru ar lwyfan y byd. Wrth i’n cyfansoddiad ddatblygu, yr ydym yn sylweddoli pwysigrwydd y cysylltiadau hyn ac yr ydym wedi parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngseneddol yn Ewrop a’r Gymanwlad.
Yn ystod y flwyddyn, bu’n bleser cael croesawu a darparu rhaglenni yn y Cynulliad ar gyfer dirprwyaethau seneddol o Brif Senedd Ranbarthol Brwsel, Cynulliad Taleithiol Kwa Zulu, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Cyngor Deddfwriaethol Saint Helena, Senedd De’r Affrig, Senedd Sri Lanka a Senedd Gorllewin Awstralia. Hefyd, croesawyd cynrychiolwyr o ddirprwyaethau’r Undeb Rhyngseneddol o seneddau brenhinol Algeria, Brasil a Chiwba.
Fel rhan o’i hymweliad tri diwrnod â Chymru ar ddiwedd Ionawr, rhoddodd Margot Wallström, y Comisiynydd Ewropeaidd dros Gyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngsefydliadol anerchiad i bwyllgor arbennig o’r Cynulliad cyfan yn Siambr y Senedd cyn cymryd rhan mewn trafodaeth ag Aelodau’r Cynulliad. Dyma’r tro cyntaf i bwyllgor o’r Cynulliad cyfan gael ei gynnull.
Yn Hydref 2007 bu’r Dirprwy Lywydd, Rosemary Butler AC, yn cynrychioli’r Cynulliad Cenedlaethol yn negfed Cynhadledd Llywyddion Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop (CALRE) yn ninas Berlin.
Yr ydym yn parhau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd y Corff Rhyngseneddol Prydeinig-Gwyddelig (BIIBP) sy’n dwyn ynghyd aelodau o seneddau ynysoedd Prydain gyfan i drafod a chyflwyno adroddiadau ar faterion sydd o ddiddordeb iddynt oll. Arweiniodd y Dirprwy Lywydd ddirprwyaethau a fynychodd 35ain cynhadledd lawn y corff yn Chipping Norton rhwng 25 a 27 Tachwedd.
Aelodau Llawn:
Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd
Alun Cairns AC
Michael German AC
Dai Lloyd AC
Joyce Watson AC
Aelodau Cyswllt:
Alun Davies AC
Bethan Jenkins AC
Darren Millar AC
Jenny Randerson AC

Mae Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) yn cysylltu’r Cynulliad Cenedlaethol mewn cymdeithas o ddeddfwrfeydd trwy’r Gymanwlad sydd wedi ymrwymo i hybu democratiaeth ar draws y byd. Mae holl Aelodau’r Cynulliad yn aelodau o gangen Cymru o’r gymdeithas ond yr oedd Pwyllgor Gweithredol y Gangen yn cynnwys:
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd – Llywydd
Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd – Is-lywydd
Alun Cairns AC – Cadeirydd y Gangen (tan 4 Rhagfyr 2007)
Janet Ryder AC (ers 24 Hydref 2007) a Chadeirydd y Gangen (ers 4 Rhagfyr 2007)
John Griffiths AC (tan 24 Hydref 2007)
Jeff Cuthbert AC (ers 24 Hydref 2007)
Elin Jones AC (tan 24 Hydref 2007)
Michael German AC
Ysgrifennydd y Gangen: Claire Clancy
Ysgrifenyddiaeth y Gangen: Peter Kellam
Yn ystod y flwyddyn mynychodd dirprwyaethau o’r gangen 38ain cynhadledd Ynysoedd Prydain a Rhanbarth Môr y Canoldir yng Ngogledd Iwerddon a 53fed Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad yn New Delhi, India. Bu Aelodau unigol hefyd mewn seminarau Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ar weithdrefnau seneddol yng Nghaeredin ac ar newid yn yr hinsawdd yn San Steffan.
Parhaodd y gangen â’r rhaglen gynaliadwy o atgyfnerthu cefnogaeth seneddol i Senedd Teyrnas Lesotho. Ym mis Hydref 2007 ymwelodd cynrychiolwyr â Lesotho i gyflwyno rhaglen hyfforddi ddeuddydd ar gyfer cadeiryddion a chlercod pwyllgorau portffolio’r Cynulliad Cenedlaethol a ffurfiwyd yn ddiweddar. Ym mis Mawrth 2008 darparwyd cefnogaeth bellach i weithrediad pwyllgorau craffu seneddol yn Lesotho pan roddodd y gangen wythnos o raglen yng Nghymru i ddau aelod a chlerc Pwyllgor y Senedd ar HIV/AIDS.
Dathlwyd Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd ddydd Mawrth, 10 Mawrth gyda gweithgaredd ar gyfer ysgolion trwy Gymru ar thema ‘Yr Amgylchedd, Ein Dyfodol’. Yr oedd rhaglen y dydd yn cynnwys dadl Cyfarfod Llawn gan yr Aelodau ar gysylltiadau Cymru gyda’r Gymanwlad.

Darparodd y Gwasanaeth Addysg raglen o ymweliadau strwythuredig â’n lleoliadau a gwasanaeth allgymorth yn ystod y flwyddyn. Nod yr ymweliadau yw ehangu dealltwriaeth pobl ifanc am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a hybu ymgysylltiad a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd gan bobl ifanc o bob oedran. Darparodd ein tîm allgymorth gyflwyniadau a gweithgareddau mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru a bu ein tîm addysg a’n harbenigwyr technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn paratoi’r camau terfynol ac yn profi’r systemau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a’r system bleidleisio ar gyfer ein hystafelloedd addysg newydd cyffrous, Siambr Hywel, sef canolfan ddysgu rhyngweithiol fodern sy’n cynnwys siambr bwrpasol lle gellir cynnal trafodaeth ar gyfer ymwelwyr ifanc. Dyma’r cyntaf o’i math yn Ewrop, a lansiwyd ym mis Ebrill 2008. Wedi’i seilio ar y siambr ddadlau flaenorol, mae’n esiampl berffaith o sut y gall y Cynulliad ymgysylltu’n rhagweithiol gyda phobl ifanc gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.
Yn ystod y flwyddyn darparodd y gwasanaeth addysg gyflwyniadau a gweithdai i 597 o ysgolion a cholegau, tua traean o’r holl sefydliadau o’r fath yng Nghymru, gan gyrraedd cynulleidfa o 16,692 o ddisgyblion. Cawsom 350 o ymweliadau addysgol â’r Senedd a oedd wedi’u trefnu ymlaen llaw a chafodd 247 o ysgolion a cholegau o ranbarthau Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru nifer o gyflwyniadau drwy ein rhaglen allgymorth.

Canolbwyntiodd ein tîm Marchnata a Digwyddiadau ar gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y Cynulliad Cenedlaethol, ein pwerau newydd ac ar hyrwyddo cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Bu ein presenoldeb yn y digwyddiadau cenedlaethol canlynol yng Nghymru:
yn fodd o ddenu llawer o ddiddordeb wrth i ni hyrwyddo’r newidiadau a gyflwynwyd yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau yn y digwyddiadau hynny i hybu’r thema a dealltwriaeth pobl ohoni a oedd yn cynnwys gweithdy cerddorol, gweithdy cyfieithu, mynediad i’n gwefan newydd, a ‘Hawl i Holi’ sef sesiwn banel a oedd yn annog ymwelwyr i holi Aelodau’r Cynulliad am faterion o bwys.

Mae’r Tîm Cyswllt ag Ymwelwyr yn chwarae rhan fawr o ran cyflawni nod y Cynulliad o hyrwyddo cyfranogiad mewn datganoli a’i ehangu, trwy gyfleu pwerau a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’n hymwelwyr. Rhoddwyd cymorth i Aelodau’r Cynulliad o ran darparu teithiau addysgiadol o amgylch y Cynulliad ar gyfer eu hetholwyr ac annog gwell dealltwriaeth a chyfranogiad yn nemocratiaeth Cymru a’i berthnasedd i’n dinasyddion.Yn ystod cyfnod yr adroddiad croesawyd cyfanswm o 183,003 o bobl i’r Senedd gennym. Roedd y cyfanswm hwn yn cynnwys 544 o grwpiau a oedd wedi trefnu taith grwp ymlaen llaw ac a oedd yn cynnwys 10,181 o bobl gydag 8,533 o ymwelwyr ychwanegol yn cael taith neu gyflwyniad ad hoc. Croesawyd 55,453 o ymwelwyr i adeilad y Pierhead a darparwyd pasys ymwelwyr ar gyfer 31,810 o bobl i Dy Hywel.

Lansiwyd gwefan newydd sbon www.cynulliadcymru.org ym mis Mai 2007 i gydfynd â chychwyn y trydydd Cynulliad. Mae’r safle, a gynlluniwyd i annog cysylltiad rhwng pobl Cymru, rhanddeiliaid a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy hwyluso’r cyswllt a’r cyfathrebu democrataidd rhwng pleidleiswyr a’u cynrychiolwyr etholedig, hefyd yn cyflwyno gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y ffordd fwyaf hygyrch, amserol ac effeithlon. Ymysg rhai o’r nodweddion cwbl ddwyieithog y mae;

Datblygwyd adran e-ddeisebau newydd hefyd yn ystod y flwyddyn, sy’n caniatáu i bobl gyflwyno deisebau ac arwyddo deisebau agored.
Yr oeddem wrth ein bodd pan enillodd ein gwefan fedal yng Ngwobrau Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) 2007.
Cynlluniwyd a datblygwyd gwasanaeth gweddarlledu newydd, www.senedd.tv, yn ystod y flwyddyn a chafodd ei lansio fel safle prawf ar gyfer defnyddwyr mewnol ac allanol. Gan edrych ymlaen, bydd yn cynnig dewis o dair lefel ffrydio i ddefnyddwyr, yn dibynnu ar eu cysylltiad rhyngrwyd, ac am y tro cyntaf bydd trafodion sain-yn-unig ar gael ar gyfer pob cyfarfod byw a chyfarfod archif. Bydd gan gyfarfodydd archif ddolenni sy’n arwain gwylwyr yn uniongyrchol at gychwyn pob eitem agenda ym mhob cyfarfod, ac y mae bar llithro ac amserydd hefyd i arwain gwylwyr at union bwynt mewn cyfarfod. Gall defnyddwyr chwilio mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor trwy ddefnyddio allweddair, dyddiad y cyfarfod, Aelod Cynulliad a’r eitem a drafodwyd.