This is a Flash Object
Mae ein hystad yn cynnwys y Senedd, Ty Hywel ac Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd a Swyddfa Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Ym Mae Caerdydd mae adeilad arwyddocaol y Senedd ar lan y dwr, ac y mae’n darparu cyfleusterau allweddol i gynnal busnes y Cynulliad yn y siambr drafod, yr ystafelloedd pwyllgora a’r orielau cyhoeddus. Cynlluniwyd y Senedd i adlewyrchu gwerthoedd craidd y Cynulliad sef gonestrwydd a thryloywder ac y mae ar agor i’r cyhoedd saith niwrnod yr wythnos. Mae rhagor o wybodaeth am y Senedd ar gael yma.
Mae’r Senedd hefyd yn cynnwys oriel ac ardal fawr ar gyfer derbyniadau cyhoeddus lle cynhaliwyd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd hefyd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r awyrgylch agored yn addas ar gyfer digwyddiadau o’r fath ac y mae’n galluogi’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid i gysylltu ag Aelodau’r Cynulliad. Ymysg rhai o’r cerrig milltir allweddol a oedd yn deilwng o ddathliad yr oedd croesawu ein 500,000 fed ymwelydd â’r Senedd a digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd ers refferendwm y datganoli a oedd yn gwahodd ymwelwyr i roi eu sylwadau ar gamera am y newidiadau yng Nghymru ers datganoli. Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd i ddod â gorymdaith Dydd Gwyl Dewi i’r Senedd ac i Fae Caerdydd am y tro cyntaf erioed gyda thros 3,000 o bobl yn cymryd rhan yn yr orymdaith. Ymwelodd bron i 2,000 o’r rhain â’r Senedd ac Adeilad y Pierhead a chymryd rhan yn ein dathliadau Dydd Gwyl Dewi ni ein hunain yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd yn cynnwys perfformiadau cerddorol a dawns yn ogystal â gweithgareddau ar gyfer plant a’u teuluoedd.

Ty Hywel yw pencadlys swyddfeydd y Cynulliad gerllaw’r Senedd. Yn yr adeilad hwn y mae swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad a’u staff a staff Comisiwn y Cynulliad. Mae mannau cyfarfod a chynadledda ychwanegol yn yr adeilad hefyd a ddefnyddir i gynnal busnes y Cynulliad. Yn ystod y flwyddyn, addaswyd y siambr drafod dros dro yn Nhy Hywel, a ddefnyddiwyd nes yr agorwyd y Senedd, i ddarparu siambr drafod ar gyfer ysgolion ac ieuenctid a chyfleuster ystafell ddosbarth a ddefnyddir gan y tîm addysg fel rhan o wasanaeth addysg y Cynulliad.
Adeilad o oes Fictoria, sydd wedi’i restru fel adeilad Gradd 1, yw Adeilad y Pierhead a saif mewn safle amlwg ar lan y dwr ym Mae Caerdydd. Defnyddiwyd Adeilad y Pierhead gan y Cynulliad fel ei ganolfan addysg ac arddangos. Adolygwyd y defnydd o’r adeilad yn ystod y flwyddyn yn dilyn adleoli’r cyfleuster addysg i Dy Hywel. Cyflwynwyd cynigion i Gomisiwn y Cynulliad i addasu Adeilad y Pierhead er mwyn cadw ei hygyrchedd i’r cyhoedd, ond ar yr un pryd yn dathlu ei statws treftadaeth gyda chynllun dehongli priodol, a darparu cyfleusterau mwy hyblyg ar gyfer arddangosfeydd, digwyddiadau a chynadleddau er mwyn ateb anghenion y Cynulliad. Derbyniwyd y cynigion hyn a chaiff y prosiect ei roi ar waith yn ystod 2008-09.
Mae Swyddfa Gogledd Cymru ym Mharc y Tywysog, Bae Colwyn yn darparu canolfan ymwelwyr, arddangosfa a siop, ystafell gynadledda a swyddfeydd ar gyfer staff Cysylltiadau Allanol sy’n gweithio o Ogledd Cymru. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn fan hyblyg a gafodd ei addasu’n flaenorol ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor a digwyddiadau addysgiadol. Staff sy’n gweithio yn swyddfa Gogledd Cymru sy’n gweithredu’r switsfwrdd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llinell wybodaeth ac archebu’r Cynulliad. Gwnaed cyfanswm o 37,738 o geisiadau am wybodaeth yn ystod y flwyddyn. Mae system o weithio wrth sawl gweithfan ar gyfer y tîm addysg ac allgymorth. Cytunwyd i adolygu ac ailgyflunio’r cyfleusterau sydd ar gael yn Swyddfa Gogledd Cymru a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ystod 2008-09.
Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i fewnosod cynaliadwyedd yn y ffordd yr ydym yn cynnal ein busnes. Mae’r Cynulliad yn ceisio bod yn batrwm o sefydliad yn nhermau cynaliadwyedd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae cael cefnogaeth ar y lefel uchaf yn allweddol i gyflawni’r amcan hwn ac mae datganiad amgylcheddol y Comisiwn yn dangos cymeradwyaeth bendant y Prif Weithredwr a’r comisiynydd sydd â chyfrifoldeb am gynaliadwyedd.
Mae’r datganiad amgylcheddol yn sefyll ar frig cyfres o gynlluniau busnes sy’n ceisio trawsnewid ein hamcanion strategol yn rhaglen o weithredoedd ymarferol sydd wedi’u cynllunio i gyflawni’r canlyniadau amgylcheddol dymunol ar lefel weithredol. Mae’r cynlluniau busnes hyn yn cynnwys y Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy, Cynllun Gweithredu Lefel 5 y Ddraig Werdd, y Cynllun Gweithredu Caffael Cynaliadwy a Chynlluniau Gwasanaethau unigol. Caiff gweithwyr unigol hefyd eu hannog i gynnwys amcanion cynaliadwyedd yn eu cynlluniau datblygu personol.
Yn ychwanegol at y strwythurau ffurfiol hyn, mae’r ‘Tîm Gwyrdd’ yn gweithredu fel ‘Cydwybod Werdd’ y Cynulliad sy’n darparu, fel ffynhonnell arloesedd amgylcheddol, ffrind beirniadol sy’n herio’r status quo a chronfa o wirfoddolwyr sy’n ymgymryd â phrosiectau sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd.
Er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni ein hystad, yr oeddem yn falch iawn o weithio gyda chynllunwyr systemau amgylcheddol gwreiddiol y Senedd sef BDSP i gwblhau eu rhagfynegiad ynni diwygiedig ar gyfer y Senedd. Yr oedd yr adroddiad hwn yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol ar ein cyfer i fonitro ein defnydd presennol o ynni ac i osod targedau ar gyfer lleihau ein defnydd o ynni. O ganlyniad i’r adroddiad yr ydym wedi adolygu’r gosodiadau a’r rheolyddion golau er mwyn lleihau ein defnydd o drydan. Byddwn yn ystyried dichonolrwydd rhoi’r strategaethau lleihau ynni eraill ar waith mewn perthynas ag offer yr ystafell gyfrifiaduron yn ystod 2008-09.
Ym mis Rhagfyr 2007 comisiynwyd yr Ymddiriedolaeth Garbon i gynnal adolygiad o berfformiad ynni’r ystad ym Mae Caerdydd ac i gynhyrchu argymhellion manwl i leihau ein defnydd o ynni. Cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth Garbon ei chanfyddiadau a’i hargymhellion ym mis Mawrth 2007 a chaiff ei hargymhellion eu rhoi ar waith yn 2008-09.
Yr ydym wedi parhau i leihau maint y gwastraff yr ydym yn ei anfon i’r safleoedd tirlenwi a chynyddu maint y gwastraff yr ydym yn ei gasglu ar gyfer ailgylchu fel a ganlyn:
| Ebrill 2007 – Mawrth 2008 | |
| Math o wastraff | Cilogramau |
| Gwastraff cyffredinol (i’r safle tirlenwi) | 52936 |
| Papur | 54250 |
| Caniau alwminiwm | 155 |
| Plastig | 565 |
| Cwpanau plastig | 10280 |
| Cardfwrdd | 7100 |
| Gwastraff cyfrinachol | 10905 |
| Gwydr (o fis Hydref 2007) | 1256 |
| Canran o gyfanswm y gwastraff a ailgylchwyd | 61.49% |
| Nifer | |
| Cetris arlliw | 470 |
| Tiwbiau fflworolau | 1000 |