This is a Flash Object
Sylwadaeth Rheoli
Datganiad am Gyfrifoldebau’r Comisiwn a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu
Datganiad Llif Arian - Datganiad Costau Gweithredu yn ôl Nodau ac Amcanion
Paratowyd y cyfrifon yn unol â Chyfarwyddyd y Trysorlys a gyhoeddwyd o dan Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Sefydlwyd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) ym mis Mai 2007 o dan Adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006). Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd, a phedwar Aelod arall o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) a etholwyd gan y Cynulliad. Clerc y Cynulliad (a benodwyd o dan Adran 26 o Ddeddf 2006) yw Prif Weithredwr y Comisiwn a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu. Cyfeirir at y Prif Weithredwr a’r staff eraill a benodir o dan baragraff 3 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2006 fel “staff y Comisiwn”. Mae’r Comisiwn yn annibynnol ar Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru (Gweinidogion Cymru).
Mae’r Cynulliad yn bod i drafod materion sydd o bwys i Gymru. Mae’n dal Gweinidogion Cymru i gyfrif, yn pasio deddfwriaeth (Mesurau Cynulliad) ac yn awdurdodi’r defnydd o’i adnoddau. Mae’n atebol i bobl Cymru.
Mae gan y Comisiwn ddyletswydd i ddarparu’r eiddo, y staff a’r gwasanaethau y mae eu hangen ar y Cynulliad at y diben hwn,. Gall y Cynulliad hefyd roi cyfarwyddyd cyffredinol neu benodol at ddibenion, neu yng nghyswllt swyddogaethau’r Comisiwn.
Mae’r Comisiwn yn darparu’r seilwaith (gan gynnwys y Senedd a Ty Hywel, swyddfeydd y Cynulliad) a’r cyflogau a’r lwfansau sy’n galluogi Aelodau i ymgymryd â’u dyletswyddau yn y Cynulliad ac yn eu swyddfeydd lleol. Mae’n darparu cyfleusterau a staff i ganiatáu i’r Cynulliad a’i bwyllgorau gyfarfod, ac mae’n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r broses ddemocrataidd a’u hannog i gymryd rhan ynddi.
Cewch ragor o wybodaeth am waith y Comisiwn yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir ar y cyd â’r cyfrifon hyn ar www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org
Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Elis Thomas AC, Y Llywydd 9 Mai 2007
William Graham AC 6 Mehefin 2007
Lorraine Barrett AC 6 Mehefin 2007
Peter Black AC 6 Mehefin 2007
Elin Jones AC 6 Mehefin 2007 (tan 18 Medi 2007)
Christopher Franks AC 18 Medi 2007
Mae’r Comisiwn wedi cytuno ar drefniadau portffolio sy’n golygu bod gan y gwahanol Gomisiynwyr gyfrifoldeb dros faterion penodol, fel a ganlyn:
Yr Arglwydd Elis Thomas AC – Cadeirydd y Comisiwn - gyda chyfrifoldeb arbennig dros annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, arweinyddiaeth ragorol, datblygu pwerau deddfu’r Cynulliad yn y dyfodol a chysylltiadau allanol.
Lorraine Barret AC – Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy – mae’r portffolio’n hwn yn cynnwys cyfrifoldeb dros iaith; yr amgylchedd a niwtraliaeth carbon; caffael cynaliadwy a rheoli’r ystâd.
Peter Black AC – Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd – mae’r portffolio hwn yn cynnwys ystyried safon y broses craffu a deddfu; cyfathrebu allanol; TGCh ac addysg dinasyddiaeth.
Christopher Franks AC (Elin Jones AC tan 18 Medi 2007) - mae’r portffolio hwn yn cynnwys gwella gwasanaethau i Aelodau a dinasyddion; cynnwys rhanddeiliaid; cynllunio strategol ac ystyried gwerth am arian.
William Graham AC – Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad – mae’r portffolio hwn yn cynnwys rheoli asedau’r Cynulliad; pobl y Cynulliad (gan gynnwys staff, contractwyr, gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad); cyllideb y Comisiwn; cyflogau a lwfansau’r Aelodau; effeithlonrwydd a llywodraethu da.
Mae Cofrestr o Fuddiannau Ariannol a Buddiannau eraill yr Aelodau wedi’i chyhoeddi ar wefan y Cynulliad.
Dyma’r uwch reolwyr a gyflogwyd gan y Comisiwn, ac a ffurfiodd Fwrdd Gweithredol Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad er pan sefydlwyd y Comisiwn hyd at y dyddiad y llofnodwyd y Cyfrifon:
Claire Clancy |
Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad |
Dianne Bevan |
Prif Swyddog Gweithredu |
Adrian Crompton |
Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad ( o 14 Mai 2007 ymlaen) |
Peter Jones |
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (tan 29 Hydref 2007) |
Keith Bush |
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (o 8 Hydref 2007 ymlaen) |
Mae’r Adroddiad Taliadau yn y cyfrifon hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyflogau a hawliau pensiwn yr unigolion a enwir.
Caiff yr uwch reolwyr eu penodi i’w swyddi’n barhaol.
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd y Comisiwn yn cyflogi 303.6 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn ac roedd 8.8 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn ar secondiad o sefydliadau eraill.
Penododd y Comisiwn y pedwar cynghorydd annibynnol a ganlyn, pob un am gyfnod o 3 blynedd, o 5 Tachwedd 2007 ymlaen.
Mair Barnes
Tim Knighton
Richard Calvert
Yr Athro Robert Pickard
Cewch ragor o wybodaeth am gefndir am y cynghorwyr annibynnol yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir ar y cyd â’r cyfrifon hyn ar: www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org
Prif weithgareddau’r Comisiwn a’i staff yn ystod y flwyddyn oedd hybu gwaith y Cynulliad ar ôl etholiadau mis Mai 2007 wrth iddo ymgymryd â’r cyfrifoldebau newydd a roddwyd iddo gan Ddeddf 2006. Diben y Comisiwn yw gwneud y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru. At y diben hwn, sefydlwyd pum nod strategol a gwerthoedd gweithio cytunedig, sef:
Hyrwyddo ac ehangu cyfranogiad pobl mewn datganoli
Dangos undod, arweinyddiaeth ac ymateb yn hyderus i newid cyfansoddiadol.
Dangos parch, cywirdeb a sgiliau llywodraethu da ym mhob agwedd ar ein gwaith
Gweithio’n gynaliadwy.
Sicrhau bod y Cynulliad yn cael y gwasanaeth gorau ac y caiff ei ddarparu yn y modd mwyaf effeithiol.
Cewch ragor o fanylion am nodau, gwerthoedd a phrif weithgareddau’r Comisiwn yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir ar y cyd â’r cyfrifon hyn ar www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org
£41.1 miliwn oedd yr alldro adnoddau net ar gyfer 2007-08, a gwariwyd £12.0 miliwn ohono ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys lwfansau ar gyfer staff ac adeiladau yn eu hetholaethau/hardaloedd i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau. £10.5 miliwn oedd cost cyflogi staff Comisiwn y Cynulliad a chostau cysylltiedig, a gwariwyd tua £18.8 miliwn ar adeiladau, TGCh a chostau eraill yn ymwneud â rhedeg y Comisiwn; cafwyd £0.2 miliwn o incwm ar ffurf rhent a drwy werthu nwyddau yn Siop y Cynulliad. Roedd yr alldro adnoddau net £0.7 miliwn (1.6%) yn is na’r gyllideb adnoddau net a gymeradwywyd, sef £41.8 miliwn, a gellir priodoli hyn yn bennaf i gostau dibrisio asedau is na’r disgwyl. Mae rhagor o wybodaeth am yr alldro adnoddau yn Nodyn 2 sy’n cyd-fynd â’r cyfrifon hyn.
Ar 31 Mawrth 2008, cyfanswm asedau net y Comisiwn oedd £67.3 miliwn.
Mae’r cyfrifon hyn hefyd yn datgelu gwariant o £0.594 miliwn yng nghyswllt costau cyflogau’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Comisiwn y Cynulliad sy’n talu’r cyflogau hyn ond cânt eu talu’n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru. Gan hynny, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr alldro adnoddau net.
Mae nodau strategol y Comisiwn ar gyfer Trydydd Tymor y Cynulliad yn ganolog i benderfyniadau ynglyn ag adnoddau, y gwasanaethau a ddarperir a safon y gwasanaethau hynny. Rydym yn dechrau rhoi’r rhain ar brawf yn fwy cyson drwy gynnal arolygon eang o ymwybyddiaeth y cyhoedd ac asesiadau o fodlonrwydd sydd wedi’u teilwro a’u hanelu’n benodol at Aelodau’r Cynulliad. Mae gan y Comisiwn gynlluniau i’w alluogi i ymdopi â’r pwerau deddfu newydd drwy gynyddu adnoddau allweddol, ac mae’n canolbwyntio ar annog rhagor o bobl i gymryd rhan yn y broses ddatganoli. Ymhlith y datblygiadau allweddol cynnar y mae gwella’r defnydd o adeilad y Pierhead a datblygu ein cyfleusterau TGCh i sicrhau ein bod ar flaen y gad yn y byd technolegol ac yn meithrin gallu ym maes democratiaeth ddigidol. Mae effaith gwaith y Comisiwn ar yr amgylchedd yn ganolog i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. Mae’r Comisiwn yn sylweddoli bod pobl yn pryderu am y ffordd y caiff gwleidyddion eu cynorthwyo’n ariannol ac yn sylweddoli hefyd nad yw dulliau a gynlluniwyd ar gyfer sefydliadau eraill o reidrwydd yn addas ar gyfer anghenion Aelodau’r Cynulliad ac, oherwydd hynny, bydd yn sefydlu panel annibynnol yn ystod 2008-09 i “gyflwyno adroddiad i Gomisiwn y Cynulliad am y dull gorau o roi cymorth i Aelodau’r Cynulliad sy’n addas ar gyfer Cymru, gan greu sylfaen ar gyfer llywodraethu da a gwasanaeth cyhoeddus effeithiol i Gymru yn y dyfodol.”
Mae’r Comisiwn wedi sefydlu Fframwaith Rheoli Risgiau a Buddion i godi ymwybyddiaeth o risg, i reoli risgiau’n briodol ac i fanteisio ar gyfleoedd i wella. Cewch ragor o wybodaeth yn y Datganiad am Reolaeth Fewnol yn y cyfrifon hyn.
Mae gan y Comisiwn nifer o ddyletswyddau, fel cyfle cyfartal, iechyd a diogelwch, hyrwyddo datblygu cynaliadwy etc. Cewch ragor o wybodaeth am y modd y mae’r Comisiwn yn cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir ar y cyd â’r cyfrifon hyn ar www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org
Mae’r modd y caiff rhwymedigaeth pensiwn eu trin a manylion y cynlluniau pensiwn perthnasol wedi’u gosod allan yn y Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu yn y cyfrifon hyn.
Nod y Comisiwn yw cydymffurfio â Chod Arferion Talu Gwell Llywodraeth y DU. Y targed yw talu yn unol â’r telerau talu y cytunwyd arnynt neu cyn pen 30 diwrnod ar ôl derbyn anfonebau, nad oes anghydfod yn eu cylch, am nwyddau neu wasanaethau. Ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn, talwyd 78% o anfonebau’n brydlon, ond fis Mawrth 2008, cododd y ganran i 97%.
Ni fu unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol rhwng diwedd y cyfnod ariannol a’r dyddiad y cwblhawyd y cyfrifon hyn.
Cafodd y cyfrifon eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn unol ag Adran 137 o Ddeddf 2006. £49,250 yw’r gost y cytunwyd arni ar gyfer archwilio cyfrifon 2007-08. .
Fel y Prif Swyddog Archwilio, rwyf wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r archwiliad ac i sicrhau bod yr archwilwyr hefyd yn ymwybodol o’r wybodaeth hon.
Mae’r Comisiwn wedi sefydlu Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i gynorthwyo’r Comisiwn a’r Swyddog Cyfrifyddu â’r gwaith o fonitro ac adolygu llywodraethu corfforaethol, rheoli risg a systemau rheoli. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys tri chynghorydd annibynnol (ac mae un ohonynt yn cadeirio’r Pwyllgor) ac un o Gomisiynwyr y Cynulliad. Yr aelodau hyd at 31 Mawrth 2008 oedd William Graham AC a Richard Calvert (y Cadeirydd), a benodwyd ar 5 Tachwedd 2007, Tim Knighton a’r Athro Robert Pickard.
Sefydlwyd Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Ionawr 2008. Sefydlwyd y Pwyllgor er mwyn cynorthwyo Comisiwn y Cynulliad a’r Prif Weithredwr i sicrhau ein bod, fel sefydliad, yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus a’u cynorthwyo’n benodol â’u cyfrifoldebau dros bolisïau a systemau gwerthuso a thaliadau . Aelodau’r Pwyllgor yw Tony Morgan, Cadeirydd Archwilio yn Geldards ac uwch bartner yn PricewaterhouseCoopers sydd wedi ymddeol, yr Athro Robert Pickard, a Tim Knighton, dau o’n Cynghorwyr Annibynnol. Hyd yma, mae wedi argymell fframwaith tâl newydd i Gomisiwn y Cynulliad yng nghyswllt y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr gan fod eu cyflogau gynt yn seiliedig ar fframwaith tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil.