This is a Flash Object
Hyd at 3 Mai 2007, roedd cyflog sylfaenol Aelodau’r Cynulliad yn cyfateb i 76.5% o’r lefel a bennwyd ar gyfer Aelodau Seneddol. I gydnabod y cyfrifoldebau ychwanegol a roddwyd iddynt gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac yn dilyn cyngor gan banel o bedwar aelod annibynnol ac un Comisiynydd, penderfynodd y Comisiwn Penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Aelodau’r Cynulliad a Swyddogion) (Cyflogau) 2008 y dylai cyflog sylfaenol Aelodau’r Cynulliad godi i 82% o’r lefel a bennwyd ar gyfer Aelodau Seneddol, ac y dylai hyn fod yn weithredol o 4 Mai 2007 ymlaen.
Felly, ar 1 Ebrill 2007, cyflog sylfaenol blynyddol Aelodau’r Cynulliad, ac eithrio cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr, oedd £46,804 ac fe gododd i £50,169 ar 4 Mai 2007 ac i £50,692 ar 1 Tachwedd 2007. Dewisodd naw Aelod beidio â derbyn eu cyflogau llawn.
Roedd gan yr Aelodau a ganlyn hawl i gyflogau blynyddol ychwanegol fel a ganlyn:
o 1 Ebrill 2007 |
o 1 Tachwedd 2007 |
|
| Y Prif Weinidog | £77,546 |
£78,355 |
| Y Llywydd, Arweinydd y blaid fwyaf nad yw yn y Cabinet; Gweinidogion Cymru | £40,225 |
£40,645 |
| Dirprwy Lywydd; Diprwy Weinidogion | £25,301 |
£25,566 |
| Cadeiryddion y Pwyllgorau Pwnc/Craffu;y Pwyllgor Cyllid ac Archwilio; Arweinwyr y gwrthbleidiau heblaw am yr wrthblaid fwyaf | £5,873 |
£5,934 |
Nid yw’r Comisiwn yn rhoi buddion mewn nwyddau.
Mae Aelodau’r Cynulliad yn aelodau o Gynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chaiff cyfrifon blynyddol eu cyhoeddi ar wahân ar gyfer y cynllun hwn.
Ni chafodd Comisiynwyr y Cynulliad dâl ychwanegol mewn perthynas â’u rôl fel Comisiynwyr yn ystod 2007-08.
Mae’r Comisiwn yn talu cyflogau a chostau cysylltiedig Gweinidogion Cymru a chaiff y rhain eu datgelu mewn nodyn yng Nghyfrifon Adnoddau Cyfunol Llywodraeth Cynulliad Cymru er bod y taliadau’n dod o Gronfa Gyfunol Cymru.
Penodwyd cynghorwyr annibynnol ar 5 Tachwedd 2007 am gyfnod o dair blynedd ac maent yn cael tâl cydnabyddiaeth amhensiynadwy o £5,000 y flwyddyn (£7,000 y flwyddyn i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol).
Gwneir y taliadau naill i’r cynghorwyr yn uniongyrchol neu drwy gyfrwng eu cyflogwyr, os dyna’u dymuniad.
Y Comisiwn sy’n penderfynu ar dâl y Prif Weithredwr. Y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Comisiwn, sy’n penderfynu ar dâl y tri chyfarwyddwr. Mae paragraff 3 Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sicrhau bod amodau a thelerau staff y Cynulliad yn debyg i amodau a thelerau staff Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn 2007-08, roedd tâl uwch reolwyr y Comisiwn yn cyfateb i dâl uwch weision sifil. Ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol, a sefydlwyd yn ystod 2007-2008 ynglyn â chynigion i greu graddfa gyflog unedig i’r holl staff gan gynnwys yr uwch reolwyr.
Penodir staff y Comisiwn, yn unol ag amodau a thelerau a bennir gan y Comisiwn, yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored ond maent hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer amgylchiadau lle ceir penodi heb ddilyn y drefn arferol. Mae’r egwyddorion hyn yn cyd-fynd â threfniadau’r gwasanaeth sifil. Nid yw staff yn aelodau o’r Gwasanaeth Sifil ond mae ganddynt hawl i fod yn aelodau o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS)
Oni nodir yn wahanol isod, mae staff y Cynulliad y mae’r adroddiad hwn yn berthnasol iddynt, yn cael eu penodi’n benagored nes y byddant yn cyrraedd oedran pensiwn o dan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Yna cânt wneud cais i barhau i weithio y tu hwnt i’r oedran honno. Os terfynir eu cyflogaeth yn gynnar am unrhyw reswm ac eithrio camymddygiad, bydd yr unigolyn yn cael iawndal, fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.
Mae’r adran a ganlyn yn rhoi manylion am dâl a phensiynau deiliaid swyddi ac uwch swyddogion. Cânt eu cyflwyno yn ôl bandiau cyflog a phensiwn. Gan fod rhai ffactorau’n anghywir yn y modd y cafodd y CETV ei gyfrifo’r llynedd (gan Swyddfa’r Cabinet) mae’n bosibl y bydd mân wahaniaethau rhwng y cyfnod CETV terfynol ar gyfer 2006/07 a dechrau’r cyfnod CETV ar gyfer 2007/08.
Enw a theitl |
Cyflog 2007/08 |
Cyflog 2006/07 |
Gwir gynnydd yn y pensiwn a’r cyfandaliad cysylltiedig yn 65 oed |
Cyfanswm y pensiwn cronedig yn 65 oed a’r cyfandaliad cysylltiedig ar 31/3/08 |
CETV ar 31/3/07 |
CETV ar 31/3/08 |
Gwir gynnydd mewn CETV |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
|
Deiliaid swyddi |
|||||||
Yr Arglwydd Elis Thomas AC – Llywydd |
90-95 |
85-90 |
2.5-5 |
30-35 |
469 |
585 |
67 |
John Marek – Dirprwy Lywydd (tan 2 Mai 2007) |
5-10 |
70-75 |
0-2.5 |
10-15 |
217 |
204 |
1 |
Rosemary Butler AC – Dirprwy Lywydd (o 9 Mai 2007 ymlaen) |
70-75 |
50-55 |
0-2.5 |
10-15 |
207 |
279 |
59 |
Enw a theitl |
Cyflog 2007/08 |
Cyflog 2006/07 |
Gwir gynnydd yn y pensiwn a’r cyfandaliad cysylltiedig yn 60oed |
Cyfanswm y pensiwn cronedig yn 60 oed a’r cyfandaliad cysylltiedig ar 31/3/08 |
CETV ar 31/3/07 |
CETV ar 31/3/08 |
Gwir gynnydd mewn CETV |
Uwch Reolwyr |
|||||||
Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (penodwyd 12 Chwefror 2007) |
120-125 |
10-15 (115-120 ar gyfer y flwyddyn lawn) |
7.5-10 ynghyd â chyfandaliad o 25-30 |
40-45 ynghyd â chyfandaliad o 125-130 |
558 |
812 |
166 |
Dianne Bevan – Prif Swyddog Gweithredu (o 4 Ebrill 2007 ymlaen) |
105-110 |
100-105 |
0-2.5 |
40-45 |
568 |
682 |
22 |
Adrian Crompton – Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (o 14 Mai 2007 ymlaen) |
80-85 |
55-60 |
2.5-5 ynghyd â chyfandaliad o 10-15 |
15-20 ynghyd â chyfandaliad o 55-60 |
195 |
299 |
68 |
Peter Jones – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (ymddeolodd ar 29 Hydref 2007) |
50-55 (80-85 ar gyfer y flwyddyn lawn) |
75-80 |
0-2.5 ynghyd â chyfandaliad o 5-10 |
35-40 ynghyd â chyfandaliad o 105-110 |
815 |
856 |
49 |
Keith Bush – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (penodwyd ar 8 Hydref 2007) |
50-55 (100-105 ar gyfer y flwyddyn lawn) |
Amh |
10-15 |
10-15 |
0 |
229 |
227 |
Y cyflogau yn y tabl uchod yw’r swm a enillwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ac maent yn cynnwys yr holl daliadau taladwy. Nid ydynt yn cynnwys Yswiriant Gwladol na chyfraniadau pensiwn. O fis Mai 2007 ymlaen talwyd costau cyflogau’r Llywydd a’r Is-lywydd yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru.
Gwerth cyfalafol buddiannau'r cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol ac a aseswyd gan actwari yw CETV. Y buddiannau a gaiff eu prisio yw buddiannau cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol a ddelir gan eu priod sy'n daladwy o'r cynllun. Taliad yw CETV a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i ddiogelu buddiannau pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd eisoes yn y cynllun blaenorol. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn nodi'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn ar ôl dod yn aelod llawn o'r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae'r broses datgelu yn berthnasol iddo. Mae ffigurau CETV yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiant pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall a drosglwyddwyd gan yr unigolyn i gynllun newydd; buddiant y mae’r cynllun wedi derbyn taliad trosglwyddo ar ei gyfer sy'n gymesur â'r rhwymedigaethau pensiwn ychwanegol a ysgwyddir. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddiant pensiwn ychwanegol a gronnodd aelod drwy brynu blynyddoedd ychwanegol o wasanaeth pensiwn yn y cynllun ar ei draul ei hun. Cyfrifir CETV o fewn y fframwaith a bennir gan y Sefydliad a'r Gyfadran Actiwarïaid ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl mewn buddion o ganlyniad i’r Dreth Lwfans Gydol Oes a all fod yn ddyledus pan hawlir buddion pensiwn.
Mae’r gwir gynnydd mewn CETV yn adlewyrchu’r cynnydd a ariennir, i bob pwrpas, gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig sy’n seiliedig ar chwyddiant, cyfraniadau sy’n cael eu talu gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar ddechrau a diwedd y cyfnod ariannol. Cafodd y ffactorau a ddefnyddir i gyfrifo’r CETV ar gyfer Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil eu diwygio ar 1 Ebrill 2005 yn dilyn cyngor gan Actiwari’r Cynllun.
Ni dalwyd unrhyw fuddion mewn nwyddau i’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr, y Llywydd, yr Is-lywydd na Chomisiynwyr y Cynulliad.
Darperir buddion pensiwn i staff y Cynulliad drwy drefniadau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk). Yn ystod 2007-08 roedd cyfraniadau’r cyflogwyr yn daladwy yn ôl un o bedair cyfradd yn yr ystod 17.1% i 25.5% o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog (nad ydynt wedi newid ers cyfraddau 2006-07). Bydd Actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob pedair blynedd yn dilyn proses brisio lawn. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i dalu cost y buddion a gronnwyd yn ystod 2007-08 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, yn hytrach na’r buddion a dalwyd yn ystod y cyfnod hwn i’r rheini sydd eisoes yn derbyn pensiwn.
O 1 Hydref 2002 ymlaen, rhaid i gyflogeion ymuno ag un o bedwar cynllun buddion ‘cynllun terfynol’ diffiniedig statudol (clasurol, premiwm, clasurol a mwy a nuvos). Ni chaiff y cynlluniau eu hariannu a chaiff costau'r buddiannau eu talu gan arian y bydd Senedd y DU yn pleidleisio arno bob blwyddyn. Caiff pensiynau sy'n daladwy o dan y cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy eu cynyddu'n flynyddol yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Manwerthu. Roedd y rheini a ymunodd o’r newydd rhwng 1 Hydref 2002 a 29 Gorffennaf 2007 cael dewis bod yn aelod o'r cynllun premiwm neu ymuno â threfniant cyfranddeiliaid 'prynu arian' o ansawdd da sy'n cynnwys cyfraniad sylweddol gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth). Gall y rheini a ymunodd ar 30 Gorffennaf 2007 neu wedyn ymuno â’r cynllun nuvos neu gallant ddewis cyfrif pensiwn partneriaeth.
Mae cyflogeion yn talu cyfraniadau ar gyfradd o 1.5% o enillion pensiynadwy ar gyfer y cynllun clasurol a 3.5% ar gyfer y cynllun premiwm, clasurol a mwy a nuvos. Mae buddiannau yn y cynllun clasurol yn crynhoi ar gyfradd o 1/80fed o gyflog pensiynadwy ar gyfer bob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy'n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn adeg ymddeol. Mae buddiannau'n crynhoi ar gyfradd o 1/60fed o gyflog pensiynadwy terfynol ar gyfer bob blwyddyn o wasanaeth yn y cynllun premiwm. Yn wahanol i'r cynllun clasurol, nid oes unrhyw gyfandaliad awtomatig ond gall aelodau roi rhan o'u pensiwn heibio i ddarparu cyfandaliad. Mae'r cynllun clasurol a mwy yn ei hanfod yn amrywiad o'r cynllun premiwm, ond caiff buddiannau mewn perthynas â gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 eu cyfrifo'n fras fel y cynllun clasurol. Cynllun cyfartaledd gyrfa yw Nuvos gyda buddion yn cronni ar gyfradd o 2.3 y cant o’r cyflog bob blwyddyn, a chaiff ei ailbrisio’n unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar ddiwedd bob blwyddyn.
Trefniant pensiwn cyfranddeiliaid yw cyfrif pensiwn partneriaeth. Mae'r cyflogwr yn talu cyfraniad sylfaenol o rhwng 7% a 15% (yn dibynnu ar oedran yr aelod) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai. Nid oes angen i'r cyflogai gyfrannu ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.8% pellach o gyflog pensiynadwy i gynnwys cost yswiriant buddiant risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).
Cewch ragor o fanylion am drefniadau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar y wefan www.civilservice-pensions.gov.uk
Mae Aelodau’r Cynulliad yn perthyn i Gynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynllun buddion diffiniedig yw hwn sy’n berthnasol i gyfanswm hawliau cyflog aelodau gan gynnwys y symiau a gaiff eu talu i ddeiliaid swyddi a Gweinidogion Cymru. Caiff y Cynllun ei weinyddu gan Ymddiriedolwyr, ac mae’n gwbl annibynnol ar Gomisiwn y Cynulliad. Mae cyfrifon y Cynllun i’w gweld ar www.cynulliadcymru.org
Prif fuddion y cynllun yw pensiwn o naill ai 1/50 neu 1/40 o gyflog terfynol yr aelod am bob blwyddyn o wasanaeth pan fydd yn ymddeol yn 65 oed. Mae’r pensiwn yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Manwerthu. Mae aelodau’n cyfrannu swm sy’n cyfateb i 6% o gyfanswm eu cyflog (gan gynnwys unrhyw elfennau ychwanegol y mae gan ddeiliaid swyddi a Gweinidogion Cymru hawl iddynt) i gael cyfradd groniadau o 1/50, neu 10% o gyfanswm eu cyflog i gael cyfradd groniadau o 1/40, gyda’r Comisiwn yn cyfrannu swm sy’n cyfateb i 23% o gyfanswm eu cyflog.
Claire Clancy |
Date: 10 Gorfennaf 2008 |