Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2007-2008
Datganiad am Gyfrifoldebau'r Comisiwn a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu
Mae’r Prif Weithredwr a’r Clerc wedi paratoi datganiad o gyfrifon yn unol â chyfarwyddyd y Trysorlys gan lynu wrth yr egwyddorion cyfrifyddu a’r gofynion datgelu sydd wedi’u gosod allan yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Paratowyd y Cyfrifon Adnoddau ar sail cyfrifyddu croniadau ac maent yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn, yr alldro adnoddau net, yr adnoddau a ddyrannwyd i gyflawni amcanion, y datganiad costau gweithredu, enillion a cholledion cydnabyddedig a llifau arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’r Prif Weithredwr a’r Clerc wedi:
- Cydymffurfio â chyfarwyddyd y Trysorlys mewn perthynas â chyfrifon;
- Cydymffurfio â’r gofynion perthnasol o ran cyfrifyddu a datgelu gwybodaeth, ac wedi glynu’n gyson wrth yr egwyddorion cyfrifyddu priodol;
- Dod i benderfyniadau ac amcangyfrifon rhesymol a gofalus;
- Nodi a yw safonau cyfrifyddu priodol wedi’u dilyn, yn amodol ar unrhyw eithriadau a gaiff eu datgelu a’u hegluro yn y cyfrifon;
- Paratoi’r cyfrifon ar ffurf proses barhaus.
O dan Adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad yw Prif Swyddog Cyfrifyddu’r Comisiwn. Mae cyfrifoldebau perthnasol y Prif Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys y cyfrifoldeb dros gywirdeb a chysondeb yng nghyllid y Comisiwn a dros gadw cofnod priodol, wedi’u gosod allan mewn memorandwm a gyhoeddwyd gan y Trysorlys.
Claire Clancy Chief Executive and Clerk to the Assembly |
Date: 10 July 2008 |