This is a Flash Object
Cwmpas y cyfrifoldeb
Fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb dros gynnal system gadarn o reolaeth fewnol sy’n galluogi Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ei bolisïau, ei nodau a’i amcanion gan hefyd ddiogelu’r arian a’r asedau cyhoeddus y mae gennyf gyfrifoldeb personol drostynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a roddwyd arnaf gan y Trysorlys. Mae’n ddyletswydd arnaf i, fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, i gyfuno’r cyfrifoldebau hyn â’m cyfrifoldeb i wasanaethu’r Comisiynwyr yr wyf yn atebol iddynt ac sy’n rhoi awdurdod i mi.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn gosod allan nodau, amcanion, polisïau a gwerthoedd y sefydliad ac, yn unol â darpariaethau paragraff 7 yn Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y mae wedi dirprwyo’i swyddogaethau, gan gynnwys ei gyfrifoldeb dros reoli staff, i mi fel Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, yn amodol ar rai eithriadau ac amodau penodol. Mae gwaith y Cynulliad a’r Comisiwn yn ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd a’r cyfryngau, ac mae iddo oblygiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol.
Yn ystod 2007-08, cefais i, fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, gyngor gan:
Diben y system rheolaeth fewnol
Cynllunnir y system rheolaeth fewnol i geisio cynnal lefel resymol o risg yn hytrach na cheisio dileu pob risg wrth geisio cyflawni polisïau, nodau ac amcanion; gan hynny, ni ellir rhoi sicrwydd absoliwt o effeithiolrwydd, dim ond sicrwydd rhesymol. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi’i seilio ar broses barhaus a gynlluniwyd i nodi a blaenoriaethu’r risgiau wrth geisio cyflawni’n polisïau, ein nodau a’n hamcanion, i bwyso a mesur pa mor debygol yw hi i’r risgiau hynny gael eu gwireddu, ac i’w rheoli’n effeithlon, yn effeithiol ac yn economaidd. Datblygwyd y system o reolaeth fewnol yn ystod y flwyddyn, ar ôl creu Comisiwn y Cynulliad ym mis Mai 2007. Roedd y system wedi’i sefydlu erbyn 31 Mawrth 2008 ac roedd yn parhau hyd at y dyddiad y cymeradwywyd yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol, ac mae’n cydymffurfio â chyfarwyddyd y Trysorlys.
Y gallu i ymdopi â risg
Mae’r Bwrdd Gweithredol yn arwain y gwaith o sefydlu cyfundrefn rheoli risg a buddion, yn unol ag arfer da, ar gyfer y sefydliad cyfan ac mae wedi gweithio drwy’r Penaethiaid Gwasanaeth i ysgogi newid diwylliannol sy’n gwireddu cyfleoedd drwy wella’r ffordd y caiff risgiau eu trin. Mae’r Polisi Rheoli Risg a Buddion yn garreg sylfaen allweddol yn system rheolaeth fewnol a threfniadau llywodraethu corfforaethol y Comisiwn. Bydd yn sicrhau bod:
Y fframwaith risg a rheoli
Mae gan y Comisiwn ddyletswydd statudol i ddarparu’r eiddo, y staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad i ymgymryd â’i gyfrifoldebau. Mae hyn yn cynnwys dwy agwedd wahanol ar risg:
Mae fframwaith risg y Comisiwn yn rhan o system rheolaeth fewnol lawer ehangach i gynnal system Llywodraethu Corfforaethol effeithiol. Cymeradwywyd y Fframwaith Llywodraethu gan Gomisiwn y Cynulliad yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Mehefin 2007, a chafodd ei ddatblygu a’i ehangu drwy’r sefydliad yn ystod y flwyddyn. Yn benodol, mae’r Comisiwn wedi:
Mae’r fframwaith risg yn cynnwys y sefydliad cyfan ac mae’n hybu’r arfer o gymryd risg sydd wedi’i reoli ac sydd wedi’i gynllunio i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd newydd. Mae’r archwaeth risg yn egluro sut rydym yn rheoli ac yn adrodd am risgiau, yn dilyn proses o gyfuno lefelau tebygolrwydd ac effeithiau risgiau gweddillol. Yn benodol:
Un Risg Corfforaethol pwysig a ddaeth i’r amlwg eleni oedd Diogelu Gwybodaeth. Comisiynwyd adolygiad o systemau diogelu gwybodaeth yn ystod yr hydref 2007 ac, o ganlyniad, mae nifer o fesurau wedi’u cymryd, fel amgryptio, cyhoeddi gwell canllawiau a chodi ymwybyddiaeth o ddiogelu gwybodaeth a’r perygl o golli enw da o ganlyniad i unrhyw wendidau. Mae gwaith yn dal ar y gweill i ddatblygu cofrestr o asedau gwybodaeth ac olrhain cyngor canolog i sicrhau bod ein harferion yn bodloni safonau diogelwch da, neu’n rhagori arnynt. Y Prif Swyddog Gweithredu yw Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth y Comisiwn.
Mae gwaith ar y gweill yn awr i sicrhau bod rheoli risg yn rhan annatod o’r gweithdrefnau a ddefnyddir i redeg y Comisiwn o ddydd i ddydd gan adeiladu ar y fframwaith y cytunwyd arno. Y Fforwm Rheoli Risg sy’n llywio’r gwaith hwn, gyda chymorth y Cyfarwyddwyr drwy drafodaethau bob mis â rheolwyr gwasanaeth, gan rannu arfer da a sicrhau bod y cofrestri risg yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
Aelodau’r Cynulliad
Mae’r Rheolau Sefydlog yn darparu i’r Comisiwn bennu cyflogau a lwfansau’r Aelodau. Mae’r rheolau wedi’u gosod allan yn y ‘Penderfyniadau’ sydd wedi’u cyhoeddi a’r nodiadau atodol. Seilir y Penderfyniadau ar Lwfansau ar yr egwyddor mai’r Aelodau sy’n bennaf gyfrifol am nodi, hawlio a thystio i’w treuliau eu hunain ac am sicrhau bod y symiau y maent yn eu hawlio wedi’u gwario’n unol â’r rheolau.
Yn ystod 2007-08 sefydlwyd Panel Adolygu, a oedd yn cynnwys un Comisiynydd a phedwar aelod annibynnol, i gynnal adolygiad o gyflogau a lwfansau Aelodau. Ystyriodd Comisiwn y Cynulliad adroddiad y Panel gan gyhoeddi Penderfyniad newydd ym mis Mawrth 2008, yn ymwneud yn bennaf â chyflogau Aelodau. O ganlyniad i’r gwaith hwn, caiff Panel Adolygu newydd ei sefydlu yn ystod 2008-09 i ymgymryd ag adolygiad manylach o’r cymorth sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad, a’r rheolau cysylltiedig.
Person annibynnol a benodir gan y Cynulliad yw Comisiynydd Safonau’r Cynulliad. Mae’r Comisiynydd yn rhoi cyngor a chymorth yng nghyswllt materion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad, ac mae’n ymchwilio’n annibynnol i gwynion am Aelodau’r Cynulliad yn torri unrhyw God, Protocol neu benderfyniad a wnaed gan y Cynulliad. Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i: greu cyfundrefn safonau gadarn yn y Cynulliad Cenedlaethol; gweithio gyda holl Aelodau’r Cynulliad ar faterion yn ymwneud â Safonau; a sicrhau bod y broses ‘Safonau’ yn agored ac yn dryloyw.
Adolygu effeithiolrwydd
Fel y Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb dros adolygu effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol. Mae fy adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol wedi’i seilio ar waith yr archwilwyr mewnol, y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw’r fframwaith rheolaeth fewnol, Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a sylwadau’r archwilwyr allanol yn eu llythyr ar reolaeth a’u hadroddiadau eraill.
Cefais gyngor ynghylch goblygiadau canlyniad fy adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol gan y Bwrdd Gweithredol a’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, ac mae cynllun ar y gweill i fynd i’r afael â gwendidau ac i sicrhau bod y system yn gwella’n barhaus.
Mae adroddiadau archwilio mewnol wedi rhoi sicrwydd yn erbyn y Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer y flwyddyn, gyda chynlluniau gweithredu cytunedig wedi’u llunio i fynd i’r afael â’r argymhellion a wneir. Ar sail yr archwiliadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, mae’r Farn Archwilio Mewnol yn cadarnhau bod y prosesau rheoli a llywodraethu risg yn ddigon effeithiol at ddibenion cyflawni amcanion y Comisiwn. Mae Strategaeth Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2007-08 yn adlewyrchu’r risgiau sy’n wynebu’r Comisiwn wrth gynhyrchu ei Gyfrifon ar gyfer 2007-08.
Roedd proses hunanadolygu’n ganolog i’m hadolygiad o effeithiolrwydd, ac fe’i cwblhawyd rhwng mis Tachwedd 2007 a mis Chwefror 2008, gan gwmpasu fframweithiau Llywodraethu Corfforaethol a Chynllunio Corfforaethol; trefniadau arweinyddiaeth a rheoli busnes; ymwybyddiaeth o’r amgylchedd rheoli a chyfranogiad ynddo.
Yn codi o’r uchod, paratôdd y Cyfarwyddwyr Ddatganiad Sicrwydd Dros Dro ar gyfer eu meysydd cyfrifoldeb eu hunain, ynghyd â Datganiad Sicrwydd terfynol ar ddiwedd y flwyddyn.
O ganlyniad i’r adolygiad, nodwyd y meysydd a ganlyn i’w cryfhau a’u gwella:
I grynhoi, rwy’n fodlon ein bod wedi ymdrin â’r gwendidau a amlygwyd drwy’r broses adolygu, neu’n bod wrthi’n ymdrin â nhw, a bod y system rheolaeth fewnol wedi datblygu’n effeithiol wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.
Claire Clancy |
Date: 10 Gorfennaf 2008 |