Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2007-2008

This is a Flash Object


Tystysgrif ac Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Ardystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2008 o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r rhain yn cynnwys Datganiad Cyflenwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Datganiad  Costau Gweithredu a Datganiad Enillion a Cholledion Cydnabyddedig, y Fantolen, y Datganiad Llif Arian a’r Datganiad Costau Gweithredu yn ôl Nodau ac Amcanion a’r nodiadau cysylltiedig. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Rwyf hefyd wedi archwilio’r wybodaeth yn yr Adroddiad Taliadau y nodir ei bod wedi’i harchwilio yn yr adroddiad hwnnw.  

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu a’r Archwilydd

Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu’n gyfrifol am baratoi’r Adroddiad Blynyddol, sy’n cynnwys yr Adroddiad Taliadau a’r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a chyfarwyddyd Trysorlys Ei Mawrhydi a wnaed o dan y ddeddf honno, ac am sicrhau rheoleidd-dra’r trafodion ariannol.  Nodir y cyfrifoldebau yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu.   

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio’n unol â’r gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol, ac â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol ( y DU ac Iwerddon).

Byddaf yn datgan a wyf o’r farn bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg, ac a yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio wedi’u paratoi’n unol â chyfarwyddyd Trysorlys EM a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nodaf a yw’r wybodaeth sy’n cynnwys y Sylwadaeth Rheoli  a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, yn gyson, yn fy marn i,  â’r datganiadau ariannol. Nodaf hefyd a yw’r gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymhob ffordd berthnasol ac a yw’r trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Nodaf hefyd os nad yw Comisiwn y Cynulliad, yn fy marn i, wedi cadw cofnodion cyfrifyddu cywir, os nad wyf  wedi cael yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad neu os nad yw’r wybodaeth a nodwyd gan Drysorlys EM o ran taliadau a thrafodion eraill wedi’i datgelu.

Adolygaf a yw’r Datganiad am Reolaeth Fewnol yn dangos bod Comisiwn y Cynulliad yn cydymffurfio â chyfarwyddyd Trysorlys EM, ac os nad ydyw, byddaf yn nodi hynny. Nid yw’n ofynnol i mi ystyried a yw’r datganiad hwn yn cwmpasu’r holl risgiau a rheolaethau, nac i lunio barn ar effeithiolrwydd gweithdrefnau llywodraethu corfforaethol Comisiwn y Cynulliad na’i weithdrefnau risg a rheoli.

Darllenaf weddill y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol gan ystyried a yw’n gyson â’r datganiadau ariannol archwiliedig. Ystyriaf y goblygiadau i’m tystysgrif os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau amlwg neu anghysondebau perthnasol â’r datganiadau ariannol. Nid yw fy nghyfrifoldebau’n ymestyn i unrhyw wybodaeth arall.  

Cyfrifoldeb y Prif Swyddfa Cyfrifyddu yw cynnal gwefan y Comisiwn a sicrhau bod y wybodaeth sydd arni’n gywir; nid yw gwaith yr archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac, felly, nid yw’r archwilwyr yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a wneir i’r datganiadau ariannol wedi iddynt ymddangos am y tro cyntaf ar y wefan.

Sail y farn archwilio

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU ac Iwerddon) a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Mae fy archwiliad yn cynnwys ystyried, ar sail prawf,  dystiolaeth sy’n berthnasol i’r symiau, y datgeliadau a rheoleidd-dra’r trafodion ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio. Mae hefyd yn cynnwys asesiad o’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau arwyddocaol a wnaed gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol, ac  ai’r polisïau cyfrifyddu hynny yw’r rhai mwyaf priodol i amgylchiadau Comisiwn y Cynulliad, ac a ydynt wedi’u cymhwyso’n gyson a’u datgelu’n ddigonol.

Cynlluniais a chynhaliais fy archwiliad er mwyn cael yr holl wybodaeth a’r esboniadau a oedd yn angenrheidiol, yn fy marn i, er mwyn rhoi tystiolaeth ddigonol i mi allu rhoi sicrwydd rhesymol nad oes camddatganiad perthnasol yn y datganiadau cyfrifyddu a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio, boed hynny drwy dwyll neu wall, a bod y gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymhob ffordd berthnasol a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli. Wrth lunio fy marn rwyf hefyd wedi ystyried a yw’r wybodaeth yn y datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio, yn gyffredinol, wedi’u cyflwyno’n ddigonol.

Barn

Yn fy marn i:

  • mae’r datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r gyfarwyddiaeth a wnaed o dan y Ddeddf honno gan Drysorlys EM, o sefyllfa Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 31 Mawrth 2008, a’r gofyniad arian parod net, yr alldro adnoddau net, y costau gweithredu net, y costau gweithredu a gymhwyswyd i’r amcanion, yr enillion a’r colledion cydnabyddedig a’r llifau arian parod am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
  • mae’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwydd Trysorlys EM a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ac
  • mae’r wybodaeth sy’n cynnwys y Sylwadaeth Rheoli, yn gyson â’r datganiadau ariannol.

Barn ar Reoleidd-dra  

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’r trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.    

Adroddiad

Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.   

Jeremy Colman
Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ
Dyddiad: 15/07/08

Brig