Paratowyd a chymeradwywyd y cynllun cyhoeddi enghreifftiol hwn gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir ei fabwysiadu heb ei addasu gan unrhyw awdurdod lleol heb gymeradwyaeth bellach a bydd yn ddilys hyd nes y clywir yn wahanol.
Mae’r cynllun cyhoeddi hwn yn rhwymo Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad”) i ofalu bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’i weithgareddau busnes arferol. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn perthyn i’r dosbarthiadau o wybodaeth a grybwyllir isod, lle bo’r wybodaeth hon yn cael ei chadw gan y Cynulliad. Rhoddir cymorth pellach o ran y diffiniadau o’r dosbarthiadau hyn yn nogfen ddiffinio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae’r cynllun yn rhwymo’r Cynulliad:
Gwybodaeth drefniadol, lleoliadau a chytundebau, rheolaeth gyfansoddiadol a chyfreithiol.
Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant amcanol a go iawn, tendro, caffael a chytundebau.
Gwybodaeth am strategaethau a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygon ac adolygiadau.
Cynigion polisi a phenderfyniadau. Prosesau’n ymwneud â gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol, ymgynghoriadau.
Protocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau.
Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestrau a fynnir gan y gyfraith a rhestrau eraill yn ymwneud â swyddogaethau’r Cynulliad.
Cyngor a chanllawiau, llyfrynnau a thaflenni, gweithrediadau a datganiadau i’r wasg. Disgrifiad o’r gwasanaethau a gynigir.
Ni fydd y dosbarthiadau gwybodaeth yn gyffredinol yn cynnwys:
Bydd y Cynulliad yn nodi’n glir i’r cyhoedd pa wybodaeth a gynhwysir yn y cynllun hwn a sut y gellir ei chael.
Pan fo o fewn gallu’r Cynulliad, darperir y wybodaeth ar wefan. Pan fo’n anymarferol i drefnu bod gwybodaeth ar gael ar wefan neu pan na fo unigolyn yn dymuno cyrraedd y wybodaeth ar y wefan, bydd y Cynulliad yn nodi sut y gellir cael gwybodaeth drwy ddull arall ac yn ei darparu drwy’r dull hwnnw.
Mewn amgylchiadau eithriadol mae’n bosibl na fydd modd cael gwybodaeth ond drwy ei gweld yn bersonol. Pan nodir y dull hwn, darperir manylion cysylltu. Trefnir apwyntment i weld y wybodaeth o fewn cyfnod rhesymol.
Darperir gwybodaeth yn yr iaith y cedwir hi ynddi neu mewn unrhyw iaith arall y mae’n gyfreithiol ofynnol ei chael. Pan fo gofyn i’r Cynulliad gyfieithu gwybodaeth yn ôl y gyfraith, bydd yn gwneud hynny.
Ufuddheir i rwymedigaethau dan ddeddfau anabledd neu wahaniaethu ac unrhyw ddeddfau eraill i ddarparu gwybodaeth ar ffurfiau ac mewn fformatau eraill pan ddarperir gwybodaeth yn unol â’r cynllun hwn.
Pwrpas y cynllun hwn yw peri bod cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl ar gael yn hawdd i’r cyhoedd gyda chyn lleied o anghyfleustra a chost ag sy’n bosibl. Bydd y taliadau a godir gan y Cynulliad am ddeunydd a gyhoeddir fel mater o drefn yn cael eu cyfiawnhau a byddant yn dryloyw ac mor isel ag sy’n bosibl.
Darperir deunydd a gyhoeddir ac a gyrhaeddir ar wefan yn ddi-dâl.
Gellir codi tâl am wybodaeth sydd yn atebol i system daliadau a bennir gan y Senedd.
Gellir codi tâl am alldaliadau go iawn a gyfyd fel:
Gellir codi taliadau hefyd am wybodaeth a ddarperir dan y cynllun hwn lle awdurdodir hwy yn gyfreithiol, lle gellir eu cyfiawnhau dan bob amgylchiadau, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol yr hawl i gael mynediad i wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, a lle maent yn unol â rhestr neu restrau cyhoeddedig o ffioedd sydd ar gael yn hawdd i’r cyhoedd.
Os codir tâl, rhoddir cadarnhad o’r taliad dyledus cyn darparu’r wybodaeth. Gellir gofyn am y tâl cyn darparu’r wybodaeth.
Gellir gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth a gedwir gan y Cynulliad ac sydd heb ei chyhoeddi dan y cynllun hwn, ac ystyrir ei darparu yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.