Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sut caiff y Cynulliad ei ethol

Ceir 60 Aelod Cynulliad (AC).  Cynhelir etholiadau bob pedair blynedd ac mae gan bob etholwr ddwy bleidlais.

Caiff y bleidlais gyntaf ei bwrw ar gyfer Aelod yr etholaeth leol. Mae 40 o’r 60 Aelod yn cynrychioli etholaethau, ac fe’u hetholir drwy system 'y cyntaf i’r felin’, sef yr un broses a ddefnyddir i ethol Aelodau Seneddol i Dŷ’r Cyffredin.

Pleidlais i ethol aelodau ar gyfer y rhanbarth etholaethol yw’r ail bleidlais. Caiff yr Aelodau Rhanbarthol eu hethol drwy’r System Aelodau Ychwanegol, ac mae’r etholwyr yn bwrw pleidlais dros blaid wleidyddol. Rhaid i bob plaid ddarparu rhestr o ymgeiswyr mewn trefn ar gyfer y seddi hyn o flaen llaw. Mae gan Gymru bum rhanbarth etholiadol, ac etholir pedwar Aelod o bob rhanbarth. Mae’r rhanbarthau yma yr un fath ag etholaethau Senedd Ewrop, a grëwyd yn 1994. Mae pob rhanbarth etholiadol yn cynnwys rhwng 7 a 9 etholaeth. Y 5 rhanbarth etholiadol hyn yw:
  • Gogledd Cymru;
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru;
  • Dwyrain De Cymru;
  • Gorllewin De Cymru;
  • Canol De Cymru.

Etholir pedwar Aelod Cynulliad rhanbarthol ar gyfer pob un o’r pum rhanbarth drwy’r System Aelod Ycwhanegol.

Y System Aelod Ychwanegol (SAY)

Mae’r system hon yn anelu at sicrhau bod cyfanswm nifer y seddi sydd gan bob plaid yn adlewyrchu cyfran y bleidlais a dderbyniwyd gan bob plaid. Mae’r system, sy’n defnyddio dull d’Hondt, yn gweithio fel hyn:

  • Caiff nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob plaid ar yr ail bapur pleidleisio eu cyfrif;
  • Caiff y cyfanswm ei rannu â nifer y seddi etholaethol a enillwyd gan y blaid honno o dan y drefn CiF plws un.
  • Caiff y cyfrifiad yma ei ailadrodd ar gyfer yr ail i'r pedwerydd aelod ychwanegol, ym mhob achos gan rannu pleidlais rhestr y blaid â nifer y seddi etholaethol a enillwyd gan ychwanegu un, ac unrhyw seddi aelodau ychwanegol a ddyrannwyd mewn rowndiau blaenorol.

Defnyddio fformiwla d’Hondt i ethol Aelodau Cynulliad rhanbarthol

Yn yr enghraifft isod, mae pedair plaid yn cystadlu mewn rhanbarth gydag wyth etholaeth.

Plaid A Plaid B Plaid C Plaid CH
Nifer y pleidleisiau i bob Plaid

50,000

62,000

48,000

36,000

Nifer o seddau a ennillwyd drwy system Cyntaf i’r Felin (CiF)

3

3

2

0

Cyfanswm (CiF + 1):

4

4

3

1

Byddai’r sedd gyntaf yn cael ei dyrannu fel a ganlyn, gyda nifer y pleidleisiau ar gyfer pob plaid yn cael ei rannu gyda’r cyfanswm ar gyfer pob plaid:

Plaid A Plaid B Plaid C Plaid CH

Sedd ranbarthol cyntaf

50,000 ÷ 4 =

12,500

62,000 ÷ 4 =

15,500

48,000 ÷ 3 =

16,000

36,000 ÷ 1 =

36,000

Plaid CH, gyda chyfanswm o 36,000 pleidlais, fyddai’n cipio’r sedd gyntaf, gan ychwannegu un marc i’w cyfanswm. Byddai’r ail sedd yn cael ei dyrannu fel a ganlyn:

Plaid A

Plaid B

Plaid C

Plaid CH

Ail sedd ranbarthol

50,000 ÷ 4 =

12,500

62,000 ÷ 4 =

15,500

48,000 ÷ 3 =

16,000

36,000 ÷ 2 =

18,000

Plaid CH, gyda chyfanswm o 18,000 pleidlais, fyddai’n cipio’r ail sedd, gan ychwannegu marc arall i’w cyfanswm. Byddai’r trydydd sedd yn cael ei dyrannu fel a ganlyn:

Plaid A

Plaid B

Plaid C

Plaid CH

Trydydd sedd ranbarthol

50,000 ÷ 4 =

12,500

62,000 ÷ 4 =

15,500

48,000 ÷ 3 =

16,000

36,000 ÷ 3 =

13,000

Plaid C, gyda chyfanswm o 16,000 pleidlais, fyddai’n cipio’r trydydd sedd, gan ychwannegu marc i’w cyfanswm. Byddai’r pedwerydd sedd yn cael ei dyrannu fel a ganlyn:

Plaid A Plaid B Plaid C Plaid CH

Pedwerydd sedd ranbarthol

50,000 ÷ 4 =

12,500

62,000 ÷ 4 =

15,500

48,000 ÷ 4 =

12,000

36,000 ÷ 3 =

13,000

Plaid B, gyda chyfanswm o 15,500 pleidlais, fyddai’n cipio’r sedd olaf. Felly, y canlyniadau ar gyfer pob plaid yn y rhanbarth hon fyddai:

Plaid A Plaid B Plaid C Plaid CH
Seddau CiF

3

3

2

0

Seddau Rhanbarthol

0

1

1

2

Nifer o AC

3

4

3

2