Sut caiff y Cynulliad ei ethol
Ceir 60 Aelod Cynulliad (AC). Cynhelir etholiadau bob pedair blynedd ac mae gan bob etholwr ddwy bleidlais.
Caiff y bleidlais gyntaf ei bwrw ar gyfer Aelod yr etholaeth leol. Mae 40 o’r 60 Aelod yn cynrychioli etholaethau, ac fe’u hetholir drwy system 'y cyntaf i’r felin’, sef yr un broses a ddefnyddir i ethol Aelodau Seneddol i Dŷ’r Cyffredin.
Pleidlais i ethol aelodau ar gyfer y rhanbarth etholaethol yw’r ail bleidlais. Caiff yr Aelodau Rhanbarthol eu hethol drwy’r System Aelodau Ychwanegol, ac mae’r etholwyr yn bwrw pleidlais dros blaid wleidyddol. Rhaid i bob plaid ddarparu rhestr o ymgeiswyr mewn trefn ar gyfer y seddi hyn o flaen llaw. Mae gan Gymru bum rhanbarth etholiadol, ac etholir pedwar Aelod o bob rhanbarth. Mae’r rhanbarthau yma yr un fath ag etholaethau Senedd Ewrop, a grëwyd yn 1994. Mae pob rhanbarth etholiadol yn cynnwys rhwng 7 a 9 etholaeth. Y 5 rhanbarth etholiadol hyn yw:
- Gogledd Cymru;
- Canolbarth a Gorllewin Cymru;
- Dwyrain De Cymru;
- Gorllewin De Cymru;
- Canol De Cymru.
- Caiff nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob plaid ar yr ail bapur pleidleisio eu cyfrif;
- Caiff y cyfanswm ei rannu â nifer y seddi etholaethol a enillwyd gan y blaid honno o dan y drefn CiF plws un.
- Caiff y cyfrifiad yma ei ailadrodd ar gyfer yr ail i'r pedwerydd aelod ychwanegol, ym mhob achos gan rannu pleidlais rhestr y blaid â nifer y seddi etholaethol a enillwyd gan ychwanegu un, ac unrhyw seddi aelodau ychwanegol a ddyrannwyd mewn rowndiau blaenorol.
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | |
|---|---|---|---|---|
| Nifer y pleidleisiau i bob Plaid | 50,000 | 62,000 | 48,000 | 36,000 |
| Nifer o seddau a ennillwyd drwy system Cyntaf i’r Felin (CiF) | 3 | 3 | 2 | 0 |
| Cyfanswm (CiF + 1): | 4 | 4 | 3 | 1 |
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | |
|---|---|---|---|---|
| Sedd ranbarthol cyntaf | 50,000 ÷ 4 = 12,500 | 62,000 ÷ 4 =15,500 | 48,000 ÷ 3 =16,000 | 36,000 ÷ 1 =36,000 |
Plaid A |
Plaid B |
Plaid C |
Plaid CH |
|
|---|---|---|---|---|
| Ail sedd ranbarthol | 50,000 ÷ 4 =12,500 | 62,000 ÷ 4 =15,500 | 48,000 ÷ 3 =16,000 | 36,000 ÷ 2 =18,000 |
Plaid A |
Plaid B |
Plaid C |
Plaid CH |
|
|---|---|---|---|---|
| Trydydd sedd ranbarthol | 50,000 ÷ 4 =12,500 | 62,000 ÷ 4 =15,500 | 48,000 ÷ 3 =16,000 | 36,000 ÷ 3 =12,000 |
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | |
|---|---|---|---|---|
| Pedwerydd sedd ranbarthol | 50,000 ÷ 4 =12,500 | 62,000 ÷ 4 =15,500 | 48,000 ÷ 4 =12,000 | 36,000 ÷ 3 =12,000 |
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | |
|---|---|---|---|---|
| Seddau CiF | 3 | 3 | 2 | 0 |
| Seddau Rhanbarthol | 0 | 1 | 1 | 2 |
| Nifer o AC | 3 | 4 | 3 | 2 |
