Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cysylltiadau Ewropeaidd a Rhyngwladol
Diwrnod y Gymanwlad, 2007

Myfyrwyr Rhyngwladol - diwrnod Cymanwlad y Cynulliad, 2007

Mae datblygu rhaglen gynhyrchiol o gysylltiadau Ewropeaidd a Rhyngwladol yn bwysig i'r Cynulliad

Mae cyfreithiau a pholisi a wneir ar lefel Ewropeaidd yn ffactor flaenllaw yng ngwaith y Cynulliad. Mae’n bwysig felly bod y Cynulliad yn ymgysylltu â sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel er mwyn iddo allu monitro a dylanwadu ar gyfreithiau arfaethedig ble y mae'r cyfle i wneud hynny. Mae'r Cynulliad yn un o 74 senedd neu gynulliad yn Ewrop sydd gan bwerau deddfu. Gall ddysgu dulliau gwahannol, a gwell, o weithredu gan sefydliadau cyfatebol ledled Ewrop, a gall gynnig ei brofiadau ei hun i helpu eraill ddysgu yn yr un modd.  

Mae gan y Cynulliad swyddogaeth hefyd i hyrwyddo democratiaeth seneddol yn rhyngwladol. Mae ei ymrwymiad i eglurder, hygyrchedd a chynaliadwyedd yn esiampl i eraill. Gall Aelodau’r Cynulliad a staff ychwanegu eu profiadau o Gymru i gynlluniau rhyngwladol er mwyn hybu a datblygu arferion seneddol gorau.

Mae gan  y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd swyddogaeth bwysig fel llysgenhadon yn cynrychioli’r Cynulliad yn Ewrop ac yn rhyngwladol. Maent yn gweithio gyda chefnogaeth drawsbleidiol i ddatblygu rhaglen gysylltiadau allanol y Cynulliad.

Mae gan y Cynulliad gysylltiadau agos gyda  Senedd y Deyrnas Gyfunol yn San Steffan, gyda Senedd yr Alban a chyda Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Yn Ewrop, mae’r Cynulliad yn cadw cysylltiadau agos gyda’r Senedd Ewropeaidd a sefydliadau eraill yr UE. Caiff y Cynulliad ei gynrychioli yn nirprwyaethau’r DG o Bwyllgor y Rhanbarthau, ac yng Nghyngres yr Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop.

Mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad yn ystyried cysylltiadau Cymru o fewn Ewrop ac yn rhyngwladol.

Mae’r Cynulliad yn aelod gweithgar o’r tair cymdeithas rhyngseneddol: y Corff Rhyngseneddol Prydeinig - Wyddelig. sy’n dwyn ynghyd seneddwyr o ynysoedd Prydain ac Iwerddon benbaladr; Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop; a  Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad.

Mae’r Tîm Ewropeaidd a Rhyngwladol yn trefnu cysylltiadau rhyngseneddol ac ymweliadau swyddogol â’r Cynulliad ac ohono.  Gyda’r Tîm y dylid cysylltu er mwyn trefnu ymweliad swyddogol.

Swyddfa Brwsel

Mae gan y Cynulliad Swyddfa Brwsel sy’n cynorthwyo yn ei gysylltiadau gyda’r UE. Manylion cyswllt y swyddfa yw:

Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa,
Swyddfa UE Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Wales House (6ed Llawr)
Rond Point Schuman, 11
B-1040 Brussels
Gwlad Belg | Belgium

ebost: Gregg.Jones@wales.gsi.gov.uk
Ffôn:  +32 (0)2 226 6692
Ffacs +32 (0)2 226 6694