Mae Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) yn gymuned ryngwladol o seneddau a deddfwrfeydd y Gymanwlad sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyfoethogi ymrwymiad y Gymanwlad i lywodraethu democrataidd o’r radd flaenaf.
Mae holl Aelodau’r Cynulliad yn aelodau o Gangen Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
Mae’r Gangen yn cymryd rhan mewn cynadleddau a seminarau Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Mae wedi datblygu cysylltiadau arbennig o agos gyda Senedd Teyrnas Lesotho.
Mae rheolaeth materion y Gangen wedi’i roi yng ngofal Pwyllgor Gweithredol. Mae Rheolau’r Gangen yn nodi fod y Pwyllgor Gweithredol yn cynnwys Llywydd ac Is Lywydd (ex-officio), a 4 Aelod a gaiff eu hethol yn flynyddol gan Aelodau’r gangen. Mae holl Aelodau’r Cynulliad yn Aelodau o’r Gangen fel mater o drefn.