Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad

Pwyllgor Gweithredol Cangen Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adroddiad i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am y Cyfnod 1 Tachwedd 2006 – 31 Hydref 2007

CPA-1GM2007-2

Cefndir    


Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n unfrydol ar gynnig a arwyddwyd gan arweinwyr y pedair plaid i wneud cais am aelodaeth o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) ar 7 Gorffennaf 1999.  Cafodd Cymru ei chroesawu’n ffurfiol i’r CPA yng nghyfarfod y Gymanfa Gyffredinol yn Nhrinidad ar 19 Medi 1999.

Mae Pwyllgor Gweithredol y Gangen yn cyfarfod unwaith y tymor, ar y sail bod croeso i unrhyw Aelodau eraill o’r Gangen fod yn bresennol.  Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o’r Gangen gyfan pob hydref.    

Strwythur y Gangen

Holl Aelodau’r Cynulliad

Llywydd: Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Elis-Thomas AC PC

Is-lywydd: Rosemary Butler AC

Cadeirydd: Alun Cairns AC

Is-gadeiryddion:

Jeff Cuthbert AC

Mike German AC

Janet Ryder AC

Ysgrifennydd:

Claire Clancy

Adroddiad y Cadeirydd:

Mae’r Gangen wedi cadw’i safle fel Aelod gweithgar o’r CPA.  Mae wedi anfon cynrychiolwyr i gynadleddau a seminarau yn y DU a thramor.  Mae wedi adeiladu ar y cysylltiadau a sefydlwyd gyda Senedd Lesotho ac mae wedi datblygu mwy o brofiad o ran darparu rhaglenni atgyfnerthu seneddol.  Mae’r Gangen wedi croesawu amrywiaeth o ymwelwyr ar draws y Gymanwlad ar ymweliadau â’r Cynulliad.                  

Gwithgareddau a wneud yn ystod cyfnod yr Addoroddiad:

Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad - Y Caribî, 6-12 Ionawr 2007

Gyda chefnogaeth cynllun noddi’r Gangen, bu Nick Bourne AC yng Nghynhadledd Seneddol gyntaf y Gymanwlad yn Y Caribî, a hynny ar ynys Trinidad.  Cyflwynodd bapur ar  ‘Graffu a Rôl yr Wrthblaid’.

Diwrnod y Gymanwlad, 13 Mawrth 2007

Dathlwyd Diwrnod y Gymanwlad ddydd Mawrth 13 Mawrth yn y Cynulliad.  Cynhaliwyd seminar yn y Siambr Fach ar gyfer myfyrwyr o wledydd y Gymanwlad sy’n astudio yng Nghymru.  Cafwyd cynrychiolaeth o dros 20 o wledydd ar y diwrnod gyda myfyrwyr yn dod o brifysgolion Aberystwyth, Bangor a de Cymru i roi cyflwyniadau ar thema Diwrnod y Gymanwlad am 2007 sef ‘Parchu Gwahaniaeth: Hyrwyddo Dealltwriaeth’.   Ar wahoddiad Ysgrifenyddiaeth Pencadlys y CPA anfonodd y Gangen hefyd ddau o bobl ifanc o Gymru i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad yn Llundain.           

Cynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir, 14-17 Mai 200

7

Bu Rosemary Butler AC, Is-lywydd y Gangen yn cynrychioli’r Cynulliad yng Nghynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir a gynhaliwyd gan Gynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont.

Agoriad Brenhinol y Senedd, 4 Mehefin 2007

Estynnwyd gwahoddiadau i Lywyddion Canghennau Rhanbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir o’r CPA.  Cynrychiolwyd Canghennau Ynys Manaw, Gogledd Iwerddon a’r Alban  yn y seremoni.                                                

Ymweliad Mewnol â’r Seminar Seneddol, 19 Gorffennaf 2007

Croesawodd y Gangen ymweliad mewnol â’r Cynulliad gan ddirprwyaeth o tua 35 o seneddwyr a oedd yn ymweld â Seminar Seneddol a gynhaliwyd gan Gangen y DU o’r CPA ym Mhalas San Steffan.  Darparodd Cangen Cymru banel trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad i roi cyflwyniad i’r ddirprwyaeth am Gymru a gwleidyddiaeth Cymru a threfnwyd derbyniad amser cinio lle'r oedd y Llywydd a’r Prif Weinidog yn bresennol.           

 

53ain Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad, 21-30 September 2007

Arweiniodd y Dirprwy Lywydd ddirprwyaeth a oedd hefyd yn cynnwys Alun Cairns AC a Mohammad Asghar AC i fod yn bresennol yn 53ain Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad yn New Delhi rhwng 21-30 Medi.     

Atgyfnerthu Seneddol yn Lesotho, 29 Medi - 6 Hydref 2007

Darparodd Mike German AC, gyda chefnogaeth y Clerc Pwyllgor John Grimes, seminar hyfforddi deuddydd ar sgiliau pwyllgor ym Maseru ar gyfer Cadeiryddion a Chlercod pum pwyllgor portffolio newydd y Cynulliad Cenedlaethol.  Rhoddodd y seminar hefyd gyfle i adrodd yn ôl ar y cynnydd o ran y cysylltiadau addysg ac iechyd rhwng Cymru a Lesotho.  

Seminar Seneddol y Gymanwlad, Caeredin, 28 Hydref – 3 Tachwedd 2007

Bu’r Dirprwy Lywydd yn Seminar Seneddol y Gymanwlad a gynhaliwyd  gan Senedd yr Alban a bu’n cadeirio gweithdy ar ‘Fynediad at Wybodaeth’.

Amrywiol Ymwelwyr o’r Gymanwlad â’r Senedd

Trefnodd y Gangen fod Aelodau ar gael i helpu o ran darparu rhaglenni ar gyfer ymwelwyr o’r Gymanwlad â’r Cynulliad:

  • Uwch Gomisiynydd Lesotho, 30 Tachwedd 2006
  • Senedd Uganda, 5 Rhagfyr 2006
  • Llywodraeth Tanzania, 24 Ionawr 2007
  • Llefarydd Cynulliad St Helena, Mai 2007
  • Deddfwrfa Daleithiol Kwa Zulu Natal, Mai 2007
  • Senedd Gorllewin Awstralia, Mai 2007
  • Senedd Sri Lanka, Mehefin 2007
  • Deddfwrfa Daleithiol Nova Scotia, Gorffennaf 2007

Datblygiadau:

Newid Ysgrifennydd

Dechreuodd Claire Clancy fel Ysgrifennydd y Gangen ar ôl ei phenodi’n Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.              

Newid Is-lywydd y Gangen.  Cymerodd Rosemary Butler AC y rôl Ex Officio o fod yn Is-lywydd y Gangen ar ôl ei phenodi’n Ddirprwy Lywydd.              

Newid Is-gadeiryddion Pwyllgor Gweithredol y Gangen

Cymerodd Janet Ryder AC a Jeff Cuthbert AC gyfrifoldebau am y Pwyllgor Gweithredol gan  Elin Jones AC a John Griffiths AC yng nghyfarfod Pwyllgor Gweithredol y Gangen ar 24 Hydref.  Hwn oedd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Gweithredol y Gangen ar ôl penodi Elin a John i swyddi gweinidogaethol.

Cynrychiolaeth y Gangen ar Bwyllgor Gweithredol y CPA

Cymerodd y Gangen gyfrifoldeb am anfon cynrychiolydd o Ranbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir i Bwyllgor Gweithredol y CPA.  Enwebwyd Alun Cairns AC i ddarparu cynrychiolydd yn ei rôl fel Cadeirydd y Gangen.    

Rhagolwg:

Cynllun Noddi’r Gangen, cyfredol

Atgoffir Aelodau fod y cynllun hwn ar gael ac fe’u hanogir i edrych am gyfleoedd i wneud cais am gymorth ar gyfer ymweliadau astudio â Seneddau a Chynulliadau eraill y Gymanwlad.             

Seminar Newid yn yr Hinsawdd, 27-30 Tachwedd 2007

Bydd Darren Millar AC yn cynrychioli’r Gangen mewn seminar ar Newid yn yr Hinsawdd yn Senedd San Steffan a fydd yn cael ei gynnal gan Gangen y DU o’r CPA.

Cynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir. 12-15 Mai 2008

Bydd Cangen Gibraltar y  CPA yn croesawu 39ain Cynhadledd y BIMR

Diwrnod y Gymanwlad, 11 Mawrth 2008

Dethlir Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd.

Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad, Medi 2008

Cynhelir 54ain Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Malaysia ym mis Medi  2008.