Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gwybodaeth i Aelodau – Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad – rhif 54

Mae Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad wedi cael gwahoddiad i anfon un cynrychiolydd i fynychu Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad (rhif 54) yn Kuala Lumpur, Malaysia.  Mae’r Gangen wedi cael gwahoddiad hefyd i wneud cais i anfon Aelodau ychwanegol fel sylwedyddion.

Cynhelir y gynhadledd rhwng 5 a 10 Awst 2008 a cheir y manylion ar-lein yn: http://www.cpahq.org

Mae pob Aelod Cynulliad, fel Aelodau o Gangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, yn gymwys i wneud cais.  

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais, gwerthfawrogir pe baech yn ystyried y ddau gwestiwn canlynol:

  • Pa fudd personol a phroffesiynol yr hoffech ei gael o fod yn bresennol?
  • ·Beth fyddai eich cyfraniad chi i’r gynhadledd yn eich barn chi?

Dylech anfon eich atebion o ddim mwy na 300 gair i Bwyllgor Gwaith y Gangen, d/o Ysgrifenyddiaeth y Gangen erbyn 5.00pm ddydd Gwener 18 Ebrill.

Mannau Cyfeirio:

Ceir adroddiad o’r gynhadledd a gynhaliwyd yn 2007 yn:  http://www.assemblywales.org/abthome/abt-nafw/abt-assembly-international/abt-international-cpa.htm

Mae’r Aelodau canlynol wedi bod yn y Gynhadledd yn y gorffennol ac efallai y gallant roi syniad i chi o’r hyn y bydd disgwyl i chi ei wneud:

Mohammad Asghar

Rosemary Butler

Alun Cairns

Jeff Cuthbert

John Griffiths

Elin Jones.

Yr Ysgrifenyddiaeth

Cangen CPA Cymru